Agenda item

Monitro Cyllideb 2023-24 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1

Cofnodion:

Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi diweddariad i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor fel ar 30 Mehefin 2023 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau dros £100,000 sydd angen cymeradwyaeth gan y Cabinet yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o'r sefyllfa bresennol. Mae'r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

  • Y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023-24 yw £342.334 miliwn. Y sefyllfa gyffredinol a ragwelir ar 30 Mehefin 2023 yw gorwariant net o £9.727 miliwn.
  • Mae'r gorwariant a ragwelir yn bennaf oherwydd pwysau parhaus o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ar y gyllideb Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
  • Roedd y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2023-24 yn cynnwys cynigion lleihau cyllideb gwerth cyfanswm o £2.608 miliwn. Y sefyllfa bresennol yw diffyg rhagamcanol ar y targed arbedion o £200,000, neu 7.67% o darged y gostyngiad cyffredinol.
  • Cynhaliwyd adolygiad trylwyr o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn ystod chwarter 1 o 2023-24 sydd wedi nodi £3.067 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu datod i gyfrannu at risgiau sy'n dod i'r amlwg i'r Cyngor cyfan yn ystod 2023-24. Roedd £733,000 pellach o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gael eu defnyddio ar gyfer cynlluniau tebyg.
  • Mae’n rhy gynnar yn y flwyddyn ariannol i roi syniad realistig o’r incwm rhagamcanol o’r dreth gyngor ar gyfer eleni ac a yw’r Cyngor yn debygol o weld gostyngiad yn ei incwm o’r dreth gyngor ai peidio gan fod mwy o bobl wedi profi caledi ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw presennol, neu a fydd yr incwm ychwanegol y dylid ei gasglu drwy gyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag yn effeithio. Bydd hyn yn amlwg yn cael ei fonitro'n fanwl iawn drwy gydol gweddill y flwyddyn hon.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol i'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad. Nododd fod yna orwariant sylweddol y byddai'n rhaid mynd i'r afael ag ef ac y byddai angen gwneud asesiad fforensig o'r pwysau a'r effaith lawn ar yr awdurdod.

 

Nododd ei fod wedi bod mewn cyfarfod rhwydwaith aelodau cabinet cyllid ac er na roddodd fawr o gysur, ei fod ychydig yn galonogol bod y pwysau hyn i'w cael ledled Cymru. Nododd ei gefnogaeth i'r trosglwyddiadau a'r argymhelliad.

 

Cafwyd trafodaeth yn dilyn, wedi’i hysgogi gan gyfres o gwestiynau gan Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Llesiant, ynghylch taliadau uniongyrchol, p’un a oedd teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd â phecynnau dyblyg (h.y. taliadau uniongyrchol a phecynnau gofal cartref) ac os felly, pam, a oedd y Cyngor yn hawlio taliadau uniongyrchol yn ôl os nad oeddent wedi cael eu defnyddio, a’i bod yn ymddangos bod gorwariant mewn rhai meysydd staffio a thanwariant mewn eraill.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn adennill taliadau uniongyrchol nas defnyddiwyd. Nododd hefyd fod tanwariant yn codi oherwydd swyddi gwag er enghraifft, a gorwariant oherwydd pethau fel costau asiantaeth. Fel y cyfryw, ffigur net yw’r ffigur ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft. Mae rhywfaint o danwariant mewn rhai timau ar staffio, tra gall timau eraill fod yn gorwario am amrywiol resymau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yn hytrach na chael pecynnau dyblyg, fod rhai preswylwyr, yn dibynnu ar eu hanghenion, yn derbyn pecynnau gofal cymysg.

 

Mynegodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd ei bryder ynghylch yr effaith negyddol y gallai'r sefyllfa bresennol ei chael ar gyfarwyddiaethau eraill megis Cymunedau. Apeliodd ar bob un swyddog o'r top i'r gwaelod, ond yn bendant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, i feddwl ddwywaith bob tro y maent yn gwario arian.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd y byddai’n rhaid i holl aelodau’r Cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd wrth symud ymlaen yngl?n â ble rydym yn gwario ein cyllid.

 

Gofynnodd i’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid a oedd ganddi unrhyw syniadau ynghylch sut yr oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud yng Nghymru o ran y gorwariant ar wasanaethau cymdeithasol, ac a oedd y gorwariant yn y gwasanaethau cymdeithasol oedolion a/ynteu plant.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod pob awdurdod yn adrodd am bwysau a bod pryder ledled Cymru ynghylch gwariant gwasanaethau cymdeithasol, yn y gwasanaethau i blant ac i oedolion.

 

Cydnabu'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd, fod gorwariant mewn rhai achosion o gwmpas 5%, ond bod rhai awdurdodau yn rhagweld hyd at 20% o orwariant. Mae pob un yn dangos cynnydd canrannol yn eu cyllideb eleni.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at bum problem:

 

  • y Gyllideb Cymorth i Ddysgwyr a'r heriau yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i'r awdurdod oherwydd cynnydd yn y galw a diffyg lle yn Heronsbridge ac Ysgol Bryn Castell. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn ymwybodol iawn fod cynnydd wedi bod mewn lleoliadau y tu allan i'r awdurdod ond fe wnaeth hi'n glir hefyd fod yr ysgol yn lle Heronsbridge wedi'i chomisiynu ac y bydd ynddi o gwmpas 40 o leoedd ychwanegol a 4 gwely preswyl ychwanegol.
  • Y gorwariant a ragwelir yn y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Rheoleiddiol sy’n rhannol oherwydd gwasanaethau uwch gwnsler. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod y gorwariant yn uniongyrchol gysylltiedig ag achosion gofal plant a gymerwyd drwy broses y llys. Mae'r ffioedd ar gyfer pob cais bellach yn fwy na £2000. Mae'r achosion yn dod yn fwy cymhleth, sy'n golygu bod angen i'r awdurdod gyfarwyddo uwch gwnsler i fod yn bresennol, weithiau gyda gwrandawiadau llys hir iawn. At hynny, mae'r ffioedd ar gyfer arbenigwyr yn cynyddu a chan mai cais awdurdod lleol ydyw, mae'r llys yn teimlo y dylai unrhyw ddiffyg rhwng y ffioedd cymorth cyfreithiol a ganiateir, a chost wirioneddol yr arbenigwr gael ei dalu gan yr awdurdod lleol.
  • Mewn rhai meysydd o wariant gwasanaethau cymdeithasol, fel gofal cartref iechyd meddwl er enghraifft, ceir cyfraniadau gan ein partneriaid, megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gofynnodd a ellid cadarnhau ein bod yn gwneud y mwyaf o gyfraniad ein partneriaid. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, o ran gwasanaethau iechyd meddwl, fod trefniant sefydledig ar gyfer unigolion sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol a bod y costau’n cael eu rhannu 50/50. Mewn meysydd eraill, gall gwaith gyda'r bwrdd iechyd fod ychydig yn fwy dadleuol. Er enghraifft, mae gofal iechyd parhaus wedi bod yn faes polisi cyhoeddus sydd wedi bod yn destun dadl ers blynyddoedd lawer ac mae’r gweithlu ar y rheng flaen yn ceisio sicrhau y cedwir at y ddeddfwriaeth a’r canllawiau ynghylch gofal iechyd parhaus i oedolion a phlant, ond mae’n her.
  • Credai y gallai fod angen ystyried ac archwilio mater y ffioedd a'r taliadau a osodir ar unigolion. Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hwn yn faes rheoledig iawn o ran polisi cyhoeddus a bod Llywodraeth Cymru yn gosod capiau o ran y swm y gellir ei godi ar unigolion.
  • Nododd y tanwariant ar ofal preswyl iechyd meddwl a nododd ei bod yn hollbwysig bod tanwariant yn cael ei gynyddu. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y gallai roi'r sicrwydd hwnnw. Nododd hefyd y bu llwyddiant mawr yn yr awdurdod hwn o ran cynorthwyo pobl i fyw mor annibynnol â phosibl.
  • Nododd y gorwariant ar ofal preswyl annibynnol i blant a bod yr awdurdod lleol wedi buddsoddi mewn darpariaeth newydd ym Mrynmenyn. Gofynnodd am ddiweddariad ar y datblygiad hwnnw a chadarnhad bod yr awdurdod lleol yn ystyried dewisiadau eraill i gynyddu’r gefnogaeth breswyl yr ydym yn ei darparu yn y sir. Cafwyd diweddariad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar ddatblygiad Brynmenyn, gan nodi bod yr adeilad yn agos iawn at gael ei drosglwyddo gan y contractwyr. Mae rheolwr wedi cael ei recriwtio ac mae staff eraill wrthi'n cael eu recriwtio.


Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd mai'r lleoliad gorau i blant oedd mewn uned deuluol. Ei phle oedd, os oeddech yn gwybod am unrhyw un oedd eisiau maethu neu oedd yn ystyried hynny, cyfeiriwch hwy at y wefan lle mae gwybodaeth ar gael.

 

Gorffennodd yr Arweinydd yr eitem hon ar yr agenda drwy nodi bod angen bod hyd yn oed yn fwy gofalus yn awr ynghylch y ffordd y defnyddir adnoddau ariannol ac felly byddai Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cael ei gynnull fyddai’n edrych yn benodol ar y pwysau a’r heriau ariannol o fewn y gwasanaethau cymdeithasol ac yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol i’r gwasanaeth hwnnw yn ei daith barhaus o ailfodelu a rheoli o fewn y cyfyngiadau ariannol y mae’r awdurdod lleol yn eu hwynebu.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

·         yn nodi’r sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2023-24; ac

Yn cymeradwyo’r trosglwyddiadau dros £100,000 fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.1.7.

Dogfennau ategol: