Agenda item

Diweddariad ar Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf 2023-24

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad hwn. Ei ddiben oedd:

 

  • cydymffurfio â gofyniad ‘Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol’ (rhifyn 2021) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i adrodd am berfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion sy’n edrych i’r dyfodol, fesul chwarter.
  • rhoi diweddariad ar sefyllfa’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023-24 fel ar 30 Mehefin 2023 (Atodiad A).
  • Gofyn am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023-24 i 2032-33 (Atodiad B).
  • nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24 (Atodiad C).

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol dempled newydd yr adroddiad a nododd, er ei fod yn croesawu grantiau Llywodraeth Cymru, ei fod yn dyfalu ynghylch goblygiadau refeniw gwirioneddol mentrau fel prydau ysgol am ddim. Soniodd hefyd am y gwariant ar gerbydau fflyd ac a oedd yn gwbl angenrheidiol eu newid yn awr.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid drwy nodi y byddai goblygiadau refeniw yn ffurf costau rhedeg ar gyfer y cerbydau fflyd newydd, ond roedd yn tybio bod y rhan fwyaf o'r fflyd fyddai'n cael ei brynu yn cymryd lle'r hen gerbydau ac y byddai costau rhedeg yn gostwng mewn gwirionedd. Nododd ymhellach y byddai effaith ar y cyfrif refeniw oherwydd bod hynny'n cael ei ariannu drwy fenthyca ac felly bod angen i wasanaethau wneud yn si?r cyn iddynt brynu'r fflyd honno y byddent yn gallu fforddio i ad-dalu'r benthyciadau y byddai rhaid eu cymryd allan er mwyn eu hariannu nhw. Ychwanegodd y byddai'n werth gwneud rhai o'r canlyniadau hynny'n fwy amlwg mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw at ddau fater:

 

  • Grantiau cyfleusterau i’r anabl, ac yn benodol y dyfarniad o £0.1 miliwn gan Gronfa Tai â Gofal Cwm Taf Morgannwg, fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu offer ac addasiadau i gartrefi presennol nad ydynt yn cael eu cefnogi gan grantiau addasiadau eraill gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ychwanegu at gost Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.(DFG) dros yr uchafswm statudol o £36,000. Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r strategaeth dros nifer o flynyddoedd oedd bod grantiau cyfleusterau i'r anabl yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain ac y gall hynny leihau'r angen am ofal parhaus.
  • caffael y cerbydau, peiriannau ac offer presennol a ddefnyddiwyd i ddarparu'r gwasanaeth gwastraff presennol gyda Kier Services Limited. Yn benodol, a fyddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwarantau ar unrhyw offer neu gerbydau a pha mor hen oeddent. Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y canfuwyd mai gwerth gweddilliol y cerbydau a'r cit oedd £460,000 a bod hyn yn werth da o'i gymharu â'u prynu o'r newydd a fyddai wedi costio £1.5 miliwn. Nododd y byddent yn cymryd meddiant o unrhyw warantau gwneuthurwyr oedd yn weddill. Dywedodd, serch hynny, fod rhai o'r cerbydau wedi cael eu defnyddio ers saith mlynedd ac mai dim ond deng mlynedd oedd eu disgwyliad oes.

 

Gofynnodd  Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles am ragor o wybodaeth am yr Ysgolion Bro, prosiect a gefnogwyd â grant o £2.398 miliwn gan Lywodraeth Cymru a’i nod oedd targedu cynlluniau cyfalaf bychain a chanolig i addasu ysgolion yn ddiogel a’u hagor yn effeithiol y tu allan i’r oriau traddodiadol.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gallai roi'r rhestr gyflawn o 22 o brosiectau i'r Aelodau. Nododd y byddai'r prosiectau nid yn unig yn caniatáu mynediad y tu allan i oriau ysgol ond hefyd yn gwella'r ysgolion. Y mathau o bethau yr oeddent yn buddsoddi ynddynt oedd pethau fel llifoleuadau, ystafelloedd newid, llwybrau, ffensys ac yn y blaen.

 

Gwnaeth yr Arweinydd yn glir ei fod yn croesawu’n fawr y buddsoddiad o £2.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ein hysgolion a’n cymunedau.

 

Atgoffodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd bawb ei bod yn rheidrwydd gwneud yn si?r bod unrhyw gerbydau a brynir yn cael eu defnyddio ac nad ydynt yn eistedd yn segur y tu allan i ganolfannau dydd neu ddepos. Os mai felly yr oedd hi, nid oedd eu hangen. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau na allai gytuno mwy a bod hynny'n rhywbeth oedd yn rhan allweddol o adolygiad y fflyd. Dywedodd eu bod yn dechrau gyda'r cerbydau milltiredd uchaf ac yn edrych ar ble maent yn cael eu defnyddio a hefyd a oedd modd rhannu cerbydau rhwng gwasanaethau. Peth pwysig arall oedd newid cerbydau am rai newydd dim ond pan fyddent wedi cyrraedd diwedd eu hoes ddefnyddiol. Roedd angen sicrhau mai dim ond y nifer cywir o fflyd oedd ar gael a'i bod yn addas i'r diben ac yn cael ei defnyddio'n effeithiol. Dywedodd y byddai'n falch o ddod ag adolygiad y fflyd i'r Cabinet fel y gellid cael trafodaeth wybodus yn ei gylch.

 

Gwnaeth yr Arweinydd yn glir y byddai'n falch i weld adolygiad y fflyd yn dod yn ôl i'r Cabinet.

 

Tynnodd Aelod y Cabinet dros Addysg sylw at ddau ddarn sylweddol o fuddsoddiad yn yr adroddiad:

 

  • Cinio Ysgol Am Ddim, yn enwedig yr estyniad i'r gegin yn Ysgol Gynradd Trelales, a phrynu podiau cegin yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, Ysgol Gynradd Newton ac Ysgol Babanod Bryntirion.
  • Gofal Plant Dechrau'n Deg. I gefnogi’r gwaith o ddarparu Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £0.185 miliwn i greu darpariaethau Dechrau’n Deg yng Nghwm Ogwr a Phont-y-cymer, a bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i newid pwrpas ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Gynradd Cwm Ogwr a Meithrinfa Pontycymer.

 

Gorffennodd yr Arweinydd yr eitem hon ar yr agenda drwy dynnu sylw at y cynnig i roi hwb i'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi diweddariad Chwarter 1 Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2023-24 hyd at 30 Mehefin 2023 (Atodiad A).
  • yn cytuno bod y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig  (Atodiad B) i gael ei chyflwyno i’r Cyngor am ei gymeradwyaeth.

yn nodi'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24 (Atodiad C).

Dogfennau ategol: