Agenda item

Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023-24 a’r Fframwaith Perfformiad

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Weithredwr a Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus. Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

  • Cynigiai’r adroddiad Gynllun Cyflawni newydd un flwyddyn i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol.
  • Mae’r Cynllun Cyflawni’n mynd i’r afael â beirniadaeth a wnaed gan hunanasesiad 2022, adolygiad Archwilio Cymru o reoli perfformiad a chanfyddiadau archwilio mewnol o archwiliad Dangosyddion Perfformiad (DP).
  • Mae’r prif newidiadau yn cynnwys:

 

-          Bod y 7 amcan llesiant yn cael eu hadlewyrchu’n gynhwysfawr gan 44 nod, 101 o ymrwymiadau a 99 o Ddangosyddion Perfformiad (DP).

-          Cael nodau clir y cytunwyd arnynt i roi manylion o dan bob amcan llesiant a chynorthwyo’r Cyngor i fonitro cynnydd / perfformiad yn effeithiol.

-          Cael dangosyddion perfformiad sy’n mesur cynnydd y Cyngor ar ei nodau yn fwy effeithiol, sy’n canolbwyntio’n well ar ganlyniadau, a rhai y gellir eu meincnodi.

-          Rhoi ffocws cryfach ar fesur Ffyrdd Newydd y Cyngor o Weithio. 

 

  • Cynigir hefyd fframwaith perfformiad drafft newydd.
  • Mae'r adroddiad hefyd yn adlewyrchu newidiadau a ddaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 3 Gorffennaf 2023.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a diolchodd i'r tîm bychan oedd yn gyfrifol am ei ysgrifennu am eu gwaith. Pwysleisiodd fod gweithredu yn dasg fawr.

 

Tynnwyd sylw at nifer o faterion yn y drafodaeth a ddilynodd:

 

  • Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol am ddiweddariad ar gynnydd o ran rheoli perfformiad, mater a bwysleisiwyd gan Archwilio Cymru. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus drwy dynnu sylw at y llu o bethau yng nghynllun cyflawni'r cynllun corfforaethol sydd wedi cael eu datblygu i fynd i'r afael â pheth o'r feirniadaeth honno. Er enghraifft, nid oedd yr amcanion llesiant wedi cael eu mesur yn llawn gan yr ymrwymiadau presennol ond roedd llawer gwell sylw iddynt erbyn hyn. Mae'r nodau o dan bob amcan llesiant wedi cael eu hegluro ac mae'r ymrwymiadau hynny wedi cael eu datgysylltu oddi wrth y Dangosyddion Perfformiad. Roedd ffocws hefyd ar fesurau allbwn a chanlyniadau a phethau sy'n caniatáu cymhariaeth dros amser a’u cymharu ag eraill. Yn ogystal, roedd y fframwaith perfformiad newydd. Ychwanegodd fod ychydig o bethau wedi digwydd y tu allan i gynllun cyflawni'r cynllun corfforaethol. Mae CPA bellach yn ystyried gwybodaeth ychwanegol am staffio a chyllid yn y dangosfyrddau chwarterol. Roedd traciwr rheoleiddio hefyd sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob chwe mis. Roedd rhywfaint o hyfforddiant wedi cael ei gynllunio hefyd ar gyfer yr holl staff sy'n gysylltiedig â pherfformiad ar draws y sefydliad a sesiwn cynllun corfforaethol i'r holl staff ym mis Medi. At hynny, mae'r cynllun corfforaethol a rheoli perfformiad yn rhan o hyfforddiant sefydlu staff a rheolwyr.
  • Bu Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yn trafod a oedd pawb yn deall y cynllun hwn ar bob lefel o'r sefydliad ac a oedd cefnogaeth iddo. Mewn ymateb, tynnodd y Prif Weithredwr sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â staff. Caiff sesiynau briffio staff eu trefnu ym mis Medi, ond ceir cyfathrebu rheolaidd hefyd yngl?n â’r cynllun. Y dasg allweddol fyddai ei wneud yn berthnasol i waith pawb, er mwyn i bawb deimlo bod yr amcanion yn berthnasol iddynt, pa swydd bynnag y maent yn ei gwneud. Pwysleisiodd hefyd fod hwn yn ddarn o waith diwylliannol, yn rhan o sut yr ydym yn cyflawni perfformiad cryf ar draws yr awdurdod. Byddai elfen o friffio, hyfforddiant, cyfathrebu ac ymgysylltu parhaus.
  • Gan adeiladu ar hyn, pwysleisiodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd bwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn golygu rhywbeth i aelodau’r staff sy'n gweithio allan yn ein cymunedau.
  • Holodd y Dirprwy Arweinydd ynghylch dangosyddion perfformiad a pham yr oedd ar COSC eisiau i'r sefydliad symud ymlaen ychydig yn wahanol. Nododd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus eu bod wedi mynd dipyn o bellter i lawr y ffordd honno. Roedd yn newid mawr, yn un lle roedd diffyg eglurder ynghylch sut y gallai amcanion a chanlyniadau allweddol weithio i awdurdod lleol ag ystod mor eang o wasanaethau. Dywedodd y byddent yn rhoi mwy o ystyriaeth i hynny dros y flwyddyn i ddod. Nododd hefyd ei bod yn debygol nad oes ganddynt y gallu na’r arbenigedd angenrheidiol yn y tîm i wneud hynny. Bu ffocws ar argymhellion Archwilio Cymru ar wella ymrwymiadau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol i gydweddu’n well â’r amcanion llesiant a gwella ansawdd a chywirdeb data. Roedd ymrwymiad hefyd i wneud cymariaethau dros amser ag awdurdodau eraill ac ni ellid gwneud hynny gyda dull cwbl newydd.

 

PENDERFYNWYD:    Bod y Cabinet:

 

  • wedi ystyried a chytuno ar ddrafft cyntaf Cynllun Cyflawni’r Cynllun Corfforaethol 2023/24 yn Atodiad 1. 

wedi ystyried a chytuno ar y Fframwaith Perfformiad Corfforaethol wedi'i ddiweddaru yn Atodiad 2 a sut orau i ddefnyddio'r ddogfen ar draws y Cyngor.

Dogfennau ategol: