Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Ei ddiben oedd:
Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Addysg
i’r Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiolch i’r
tîm a’u llongyfarch am yr holl waith caled i sicrhau
cyllid ar gyfer y prosiect hwn. Roedd y ffaith mai dyma'r unig un
yng Nghymru i sicrhau cyllid yn gamp ryfeddol.
Aeth ymlaen i bwysleisio bod hwn yn brosiect cydweithredol enfawr, gyda thimau'n gweithio ar draws y Cyngor, nid yn unig ym meysydd addysg a thrafnidiaeth, ond yn y gwasanaethau cymdeithasol a lles. Roedd hwn yn ddull cydweithredol un Cyngor gwirioneddol.
Credai, o ran monitro cynnydd, mai'r lle gorau fyddai Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet (CCCP).
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn cefnogi'r cynnig bod y prosiect yn adrodd i'r CCCP. Credai fod hwn yn brosiect peilot arloesol ac roedd yn gyffrous iawn yn ei gylch. Credai hefyd y byddai angen monitro'r canlyniadau'n ofalus, ond roedd yn sicr y byddent yn gadarnhaol ac mai un o gryfderau'r prosiect hwn oedd yr asesiad a'r gwerthusiad parhaus gan Brifysgol Caint.
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles y prosiect a gofynnodd sut y byddai’r canlyniadau’n cael eu cynnal unwaith y deuai’r cyllid i ben yn 2025. Ymatebodd Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai'r gobaith oedd y byddai'r prosiect yn gadael etifeddiaeth gadarnhaol iawn. Byddai pum aelod newydd o staff, a byddai ganddynt y math o sgiliau y byddai ar y sefydliad eu hangen bob amser. Roedd risg gydag unrhyw gyllid dros dro, ond teimlid mai risg isel iawn ydoedd oherwydd y byddai swyddi gwag bob amser ar gyfer pobl o'r math yr oeddent yn gobeithio eu recriwtio.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
yn cymeradwyo mewn egwyddor cychwyn y prosiect ym mis Medi 2023 yn amodol ar gael telerau ac amodau terfynol a amlinellir yn y CLG.
Dogfennau ategol: