Agenda item

Alldro Rheolaeth y Trysorlys 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid a'i bwrpas oedd diweddaru aelodau ar sefyllfa Alldro gweithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022-2023, y dangosyddion ar gyfer yr un flwyddyn ac i dynnu sylw at gydymffurfiad â pholisïau ac arferion y Cyngor. 

 

Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:

 

  • Cymeradwywyd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022-2023 gan y Cyngor ar 23 Chwefror y llynedd.
  • Mae'r adroddiad yn amlinellu'r cyd -destun economaidd y cynhaliwyd gweithgaredd Rheoli'r Trysorlys ynddo y llynedd. Roedd y materion yn cynnwys:

 

§  Roedd y rhyfel yn yr Wcráin wedi cadw cyfraddau chwyddiant byd-eang yn uchel.

§  Nodweddwyd y cefndir economaidd ym mis Ionawr i Fawrth 2023 gan brisiau uchel ynni a nwyddau, chwyddiant uchel sydd wedi effeithio ar gyllidebau a gwariant teuluoedd. Cododd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr i 10.1% yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023.

§  Cynyddwyd cyfraddau llog nifer o weithiau yn ystod y flwyddyn i geisio ffrwyno chwyddiant. Dechreuodd y gyfradd banc y flwyddyn ar 0.75% a chynyddodd 8 gwaith yn ystod y flwyddyn i 4.25% ar 31 Mawrth 2023.

 

  • Dangosir crynodeb o weithgareddau Rheoli’r Trysorlys yn ystod y llynedd yn Atodiad A. Mae Tabl 1 yn yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa’r Cyngor o ran Dyled a Buddsoddiadau Allanol. I grynhoi:

 

§  Ni chymerwyd unrhyw ddyled hirdymor yn ystod y flwyddyn.

§  Nid aildrefnwyd dyled yn ystod y flwyddyn gan nad oedd unrhyw fudd ariannol i'r Cyngor o wneud hyn. Caiff hyn ei adolygu’n gyson yn ystod y flwyddyn gyfredol.

§  Cafwyd cynnydd bychan yn nifer y benthyciadau di-log Salix sydd gan y Cyngor.

§  Cyfanswm y benthyciadau allanol y mae'r Cyngor yn ei reoli oedd £99.93 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023.

§  Balans y buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn oedd £74.5 miliwn sy'n ostyngiad o £10 miliwn o'i gymharu â Mawrth 2022.

§  Mae'r incwm sy'n cael ei ennill drwy'r buddsoddiadau yn cynyddu wrth i'r gyfradd sylfaenol gynyddu.

§  Cynyddodd y gyfradd llog ar gyfartaledd o 0.43% yn 2021-2022 i 2.55% yn 2022-2023.

§  Wrth fuddsoddi arian y Cyngor, rhoddir sylw dyledus i sicrhau diogelwch a hylifedd y buddsoddiadau cyn edrych am y gyfradd enillion uchaf.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, gwnaeth yr aelodau sylwadau fel a ganlyn:

 

  • Y byddai'r adroddiad yn well gyda chrynodeb o'r uchafbwyntiau ac ychydig o graffiau. Credai y byddai hyn yn cynorthwyo trigolion i geisio deall dull y Cyngor o Reoli’r Trysorlys. Mewn ymateb, nododd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hwn yn faes technegol iawn a bod rhai pethau y mae'n rhaid adrodd amdanynt mewn ffyrdd penodol i gydymffurfio â'r gofynion yn y maes ond nid oedd unrhyw reswm pam na ellid paratoi crynodebau.

 

  • P'un a oedd cyfle i setlo dyled y Fenter Cyllid Preifat (PFI) sy'n gysylltiedig â'r ysgol uwchradd ym Maesteg o gronfeydd wrth gefn. Mewn ymateb, awgrymodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai'n rhaid iddi edrych ar fanylion y cytundeb penodol hwnnw i weld a yw hynny'n bosibilrwydd ai peidio a hefyd, o ystyried y ffordd y mae cyfraddau llog yn newid, p'un a oedd manteision neu beidio i ni o’i ad-dalu. Byddai'n cadarnhau a oedd hyn yn bosibl ai peidio.

 

  • Roedd yr hyfforddiant a gynigiwyd gan swyddogion i helpu’r aelodau i ddeall adroddiadau o'r math hwn yn hynod werthfawr. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd fod swyddogion yn neilltuo llawer iawn o amser ar gyfer hyfforddiant ond os oedd angen hyfforddiant pellach, gellid ei gynnal. Ychwanegodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai'n ddefnyddiol cynnig hyfforddiant gloywi yn flynyddol ar gyfer materion fel Rheoli’r Trysorlys gan nad yw aelodau'n derbyn yr adroddiadau yn aml iawn.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor

 

·       yn nodi gweithgareddau blynyddol y trysorlys ar gyfer 2022-23.

yn nodi gwir Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022-23 yn erbyn y rhai a gafodd eu cymeradwyo yn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022-23.

Dogfennau ategol: