Agenda item

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion

 

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

 

Mark Wilkinson - Rheolwr Grwp - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau

Glynis Evans – Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol

 

Robert Goodwin - Rheolwr Gr?p Gwasanaeth, Gwasanaethau Iechyd Meddwl – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r cyd-destun strategol a gweithredol y mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion yn cael eu darparu ynddo yn y Fwrdeistref Sirol a gofyn i'r Pwyllgor roi sylwadau ar gyfeiriad y gwasanaethau i’r dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Y llwybr atgyfeirio i’r Tîm Gofal Cymdeithasol ac Adfer, y cyfnod ymyrraeth nodweddiadol a’i bwysigrwydd fel tîm ymyrryd yn gynnar ac atal.

·         Y cynnydd nodedig yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer pobl ifanc ar y sbectrwm awtistig, y Cod Ymarfer ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru a chynllun hyfforddi’r Awdurdod.

·         Digwyddiadau hacathon lleol ac addasiadau i wella gwasanaethau a chyfathrebu ar gyfer pawb sydd â chyflyrau niwroamrywiol.

·         Cyd-arolygiad cadarnhaol ar y cyfan Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Gogledd a'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella ac arfer gorau. 

·         Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned:

-       Y mathau o gyrsiau therapiwtig a chwnsela sydd ar gael;

-       esblygiad y gwasanaeth;

-       proffil oedran a rhesymau pobl dros ddefnyddio'r gwasanaeth; a

-       cgasglu profiadau ac adborth defnyddwyr y gwasanaeth.

·         Y rhestrau aros presennol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a rôl ysgolion a cholegau mewn gwneud atgyfeiriadau.

·         Llwyddiant yr Encil Les, y potensial i ehangu'r gwasanaeth, a’r themâu sy'n effeithio ar ddefnyddwyr.

·         Digonolrwydd cyllid ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl statudol, buddsoddiad wedi'i dargedu mewn Gwasanaethau Atal a Lles i atal yr angen rhag cynyddu ymhellach i wasanaethau eilaidd, a phwysigrwydd llwythi achosion diogel a hydrin. 

·         Gwella cyfathrebu o amgylch Iechyd Meddwl a lleihau stigma.

·         Datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl Ranbarthol ac unrhyw newidiadau a ragwelir i'r Strategaeth Dros Dro yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol newydd.

·         Y gynulleidfa darged ar gyfer y Strategaeth Dros Dro, pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a'r camau a gymerwyd i hybu'r gwasanaethau sydd ar gael.

·         Ffynhonnell ac arwyddocâd y gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn y Strategaeth Interim a'r Codau Ymarfer Proffesiynol. 

·         Cyflwyno hyfforddiant a nodwyd a’i hygyrchedd, a sut mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:     Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau'r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhelliad canlynol:

 

  1. Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Aelodau’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr ac Ogwr i ofyn am wahoddiad i gyfarfodydd y ford gron a gynhelir ganddynt, sy’n cynnwys sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol ac sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a Llwybr Iechyd Meddwl Pen-y-bont ar Ogwr.

 

a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:

2.    Data’n ymwneud â’r cynnydd nodedig yn nifer y bobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth sy’n cael eu cyfeirio at y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a chopi o’r Cod Ymarfer presennol ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru.

 

3.    Bod gwybodaeth am y llwybr at eiriolaeth annibynnol i oedolion yn cael ei chylchredeg i bob Aelod er mwyn eu galluogi i gyfeirio etholwyr y mae arnynt angen eiriolaeth.

 

Gwasanaeth Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned (ARC)

 

4.     

a)    Gwybodaeth am y mathau o gyrsiau sydd ar gael gan ARC;

b)    Gwybodaeth am y ffordd y mae’r gwasanaeth wedi esblygu ac addasu yn y blynyddoedd diwethaf;

c)    Data yn dangos amrediad oedran yr unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth, y rhesymau pam ac ymyriadau’r gwasanaeth gyda hwy; ac 

Achosion enghreifftiol o waith sydd wedi cael ei wneud ar lefel unigolion a grwpiau yn y 12 mis diwethaf.  

Dogfennau ategol: