Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol, a'i ddiben oedd diweddaru Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a chyfres o gronfeydd grant sydd ar gael fel rhan o'r rhaglen gyflawni ar gyfer Cynllun Buddsoddi Lleol Pen-y-bont ar Ogwr drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Dywedodd ei fod yn gefndir byr i'r rhaglen gyflenwi ar gyfer elfen Pen-y-bont ar Ogwr yn rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan amlinellu'n benodol nifer o gronfeydd grant a fydd ar gael. Tynnodd sylw'r Fforwm at nifer o oblygiadau, ymadawiad y DU â'r UE ar 31 Ionawr 2020, colli mynediad at raglenni cyllido, gan gynnwys Cronfeydd Buddsoddi Strwythurol Ewrop yn dilyn Brexit.

 

Hefyd, tynnodd sylw’r Fforwm at ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddisodli cyfleoedd cyllido Ewropeaidd coll dan ‘ffyniant bro’. Creu Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) oedd un o brif ganlyniadau'r addewid hwnnw gyda 2.6 biliwn wedi'u dyrannu ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 25 ledled y DU.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu camau datblygu cynllun buddsoddi Lleol Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer SPF (Atodiad 1 i'r adroddiad y cyfeirir ato)


Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod adran 2 yn dangos sut oedd yn cael ei greu i gyd-fynd â blaenoriaethau buddsoddi a themâu'r gronfa Ffyniant Gyffredin, ynghyd â strategaeth economaidd a chynlluniau buddsoddi'r Awdurdod.

 

Dywedodd mai prif themâu'r awdurdod oedd cymuned a lle, cefnogi busnesau a phobl leol, gyda sgiliau fel prif ganolbwynt y cynllun buddsoddi.

 

Cafodd y cynlluniau a gyflwynwyd i lywodraeth y DU eu gwneud yn rhanbarthol ar gyfer awdurdodau De-ddwyrain Cymru, gyda Rhondda Cynon Taf fel yr awdurdod arweiniol.

 

Amlygodd Adran 3 yr adroddiad sut y gellir darparu meysydd buddsoddi o fewn y cynllun mewn sawl ffordd ac maen nhw'n cynnwys darparu mewnol, comisiynu a chaffael gan ganolbwyntio ar ddyrannu cronfeydd grant.

Dywedodd fod yr adroddiad yn amlygu ffrydiau cronfa grantiau unigol a'r gwerthoedd a sefydlwyd neu sy'n cael eu sefydlu i gyflawni elfen Pen-y-bont ar Ogwr o'r gronfa ffyniant gyffredin. Cafodd y cynlluniau grant eu cyflwyno gerbron y Cabinet a’u cymeradwyo ym mis Mehefin eleni. Wedi'i nodi ym mhrif gorff yr adroddiad o dudalennau 58 hyd at 61 y Cynlluniau Grant mae Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, yr Arolwg Eiddo Gwag, y Gronfa Ddichonoldeb Cymunedol, y Grant Datblygu Busnes, y Grant Dichonoldeb Busnes ac yn olaf y Grant Cymorth Digwyddiadau Twristiaeth.

 

Mae'r manylion am Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd a grant yr Arolwg Eiddo Gwag ar wefan y Cyngor, gydag arweiniad ar ffurflenni cais. Roedd y grant datblygu busnes a'r grant dichonoldeb busnes hefyd ar y wefan ynghyd â'r dogfennau cyfarwyddyd.

 

Holodd aelod pryd fydd grantiau eraill ar gael a beth fyddai'r dyddiadau cau, gofynnodd hefyd am waith hyrwyddo a wnaed i addysgu'r cyhoedd am y cynlluniau.

 

Ymatebodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mehefin 2023 a'i fod yn cyd-fynd â nifer o eitemau ar y cyfryngau yn tynnu sylw at gynnwys adroddiad y Cabinet. Datblygwyd cyhoeddusrwydd ar y cyd â'r Fforwm Busnes hefyd. Dywedodd ei fod yn pryderu nad oedd yr aelodau yn ymwybodol o'r cynlluniau a rhoddodd sicrwydd y bydd y tîm yn gwneud mwy o waith hyrwyddo i gynyddu ymwybyddiaeth o'r fath. Dywedodd hefyd y byddai'n darparu fframwaith o ddyddiadau agor, cau a gwario erbyn ar gyfer y cynlluniau sy'n cael eu cynnig.

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw beth o fewn y rhaglen a oedd yn edrych ar faint o arian oedd ar gael drwy'r Awdurdod i'r Cynghorau Tref a Chymuned i hwyluso mannau agored, a'u paratoi, yn barod ar gyfer cerdded a theithio llesol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad roedden nhw'n cyfeirio ato yn ymdrin â grantiau a fydd ar gael. Fodd bynnag, yn y gronfa ffyniant gyffredin ehangach, roedd nifer o weithgareddau mewn perthynas â mannau gwyrdd, roedd rhai ohonynt ar fin gwella a’u gwneud yn hygyrch, yn ymwneud â llwybr Morgannwg Fawr hefyd.

 

Cyfeiriodd at gyflwyniad a gynhaliwyd gan y Rheolwr Ymateb i Newid Hinsawdd, at Glercod y Cyngor Tref a Chymuned, a fyddai wedi bod ar gael i bob Cynghorydd Cymuned, a oedd yn hysbysu’r holl gynghorau cymuned a thref am y gwaith sy'n cael ei wneud mewn meysydd penodol. Er nad oedd yn darparu cyllid grant penodol i'r cynghorau tref a chymuned eu hunain, dywedodd ei fod yn tynnu sylw at y gwaith roedd yr Awdurdod yn ei wneud.

 

Gofynnodd aelod a allai'r Awdurdod ysgrifennu'n benodol at gynghorau Tref a Chymuned gyda pha grantiau y gallant wneud cais amdanynt.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda'r Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol y gellir gwneud hyn.

 

Dywedodd aelod fod Cyngor Tref Porthcawl wedi derbyn e-bost ar y 25 Awst yn gofyn am syniadau am lle mae'r galw pennaf, fel y gwelwyd gan Gynllun Grant Cyfalaf y Cyngor Tref a Chymuned gan yr Awdurdod. Roedd manylion prosiectau posibl i'w dychwelyd erbyn 8 Medi ac mae Cyngor Tref Porthcawl wedi gorfod trefnu cyfarfod arbennig i drafod hyn. Holodd yr Aelod am y posibilrwydd y gallai’r Awdurdod roi mwy o rybudd ar gyfer prosiectau posibl ar gyfer cynghorau tref a chymuned, yn enwedig yn ystod y toriad.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod cynllun grantiau'r cyngor Cymuned fel arfer yn cael ei anfon allan yn llawer cynharach yn y flwyddyn a bod penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud ar gyllid 2023 gyda rhybudd priodol yn cael ei roi. Dywedodd ei fod yn teimlo bod yr e-bost y cyfeiriodd yr aelod ato yn ymwneud yn benodol ag adolygiad o'r meini prawf sy'n cael eu defnyddio i gymeradwyo cynlluniau grant cynghorau tref a chymuned. Dywedodd ei fod yn credu bod y neges e-bost wedi'i hanfon i gael syniad o gynlluniau sydd gan gynghorau tref a chymuned, er mwyn llywio'r broses adolygu ar gyfer y cynllun.

 

Cafwyd trafodaeth rhwng aelodau yngl?n â derbyn negeseuon e-bost gan gynghorau Tref a Chymuned a chafwyd cyngor ar wirio a oedd cyfeiriadau e-bost yn ddilys a hefyd ac a oedd negeseuon e-bost yn hidlo drwodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD: Argymhellwyd bod Fforwm y Cyngor Tref a Chymuned yn nodi'r adroddiad.

                          

 

 

Dogfennau ategol: