Agenda item

Adroddiad ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gan Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Reolwr Archwilio o Archwilio Cymru(AC).

 

Nododd nad oedd cydweithwyr archwilio perfformiad wedi gallu ymuno â'r cyfarfod. Roeddent wedi rhoi nodiadau iddi, a byddai'n ceisio ateb cwestiynau. Pe bai angen, efallai y byddai’n rhaid iddi gyfeirio'n ôl at gydweithwyr i roi atebion i gwestiynau penodol gan yr Aelodau.

 

Dywedodd mai diweddariad chwarterol o 30 Mehefin oedd yr adroddiad atodedig ac y câi diweddariad mis Medi ei gyhoeddi'n fuan.


O ran y gwaith archwilio ariannol, roedd archwiliad o ddatganiad cyfrifon y Cyngor yn mynd rhagddo a’r gobaith oedd y byddai wedi ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr.

 

O ran ffurflenni grant, mae'r rhain yn barhaus ac nid ydynt wedi cael eu cwblhau. Nodwyd gwallau, gan gynnwys Trethi Annomestig (NDR) a phensiwn athrawon. Roedd y gwaith hwnnw’n mynd yn ei flaen ac nid oedd wedi ei gwblhau, a byddai’r gwaith budd-dal tai yn dilyn. Nid oedd hi’n meddwl eu bod yn mynd i gwrdd â dyddiad cau arferol yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac mae AC yn gohebu â hwy’n ganolog i roi gwybod iddynt am hynny, felly ni ddylai fod unrhyw fath o oblygiadau o ran atal cymhorthdal.

 

Gyda golwg ar archwiliadau perfformiad, nododd, o ran gwaith rheoli’r rhaglen gyfalaf, eu bod wedi gwneud y gwaith hwn mewn un awdurdod lleol ond eu bod bellach wedi penderfynu peidio â gwneud hyn fel rhan o'u gwaith eleni. Byddent yn ei ohirio tan y flwyddyn nesaf neu'r flwyddyn wedyn.

 

O ran gwybodaeth perfformiad, roeddent wedi gorffen gwaith ar hyn ac wedi cyflwyno'r adroddiad terfynol i'r Cyngor yn ddiweddar. Ymgymerwyd â’r darn hwn o waith ym mhob awdurdod lleol, felly câi adroddiad cryno cenedlaethol ei gyhoeddi.

 

Gyda golwg ar y gwaith ar gyfer 2023-24, bwriad Archwilio Cymru oedd cynnal dau adolygiad thematig. Byddai’r rhain yn cynnwys pob awdurdod lleol, felly byddai’n bosibl meincnodi perfformiad. Roedd y gwaith hwn yn cael ei gwmpasu ac ni chadarnhawyd yr amserlenni. Roeddent hefyd yn cwmpasu darn lleol o waith.


Mewn perthynas â gwaith astudiaethau llywodraeth leol, cyhoeddwyd adroddiad ganddynt yn ddiweddar: ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru.

O ran y Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol, roeddynt wedi anfon llythyrau ar wahân at bob un ohonynt, a châi adroddiad cryno ei gyhoeddi ym mis Hydref.

 

Nododd yr aelodau a thynasant sylw at nifer o faterion mewn ymateb i’r adroddiad:

 

  • Amseroldeb ac argaeledd adroddiadau ac a fyddai modd eu darparu i aelodau wrth iddynt gael eu cyhoeddi fel na fyddai rhaid disgwyl iddynt gael eu cyflwyno yn y cyfarfod pwyllgor nesaf fyddai ar gael.
  • Yn benodol, o ystyried mater diogelwch adeiladau yn ymwneud â Marchnad y Rhiw, byddai adroddiad AC wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Tynnodd y Cadeirydd sylw pellach at hyn drwy ofyn a oedd y mater o Goncrit Awyredig Awtoclaf Atgyfnerthedig (RAAC) wedi cael ei godi yn yr adroddiad ar ddiogelwch adeiladau. Credai y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariad yng nghyfarfod mis Tachwedd ar sut y mae AC yn mynd i'r afael â'r mater hwn.
  • Mater twristiaeth yn y sir. Dywedodd cynrychiolydd AC y byddai'n cyfeirio hyn yn ôl at ei chydweithwyr am ddiweddariad.
  • Adolygiad llywodraethu Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru a phwysigrwydd i CBS Pen-y-bont ar Ogwr gadw golwg ar y ffordd y penodir Aelodau. 
  • Defnyddioldeb blogiau AC a'r ffaith eu bod wedi dod i ben yn ddiweddar.
  • O ran y gwaith ar reoli rhaglen gyfalaf, holodd aelod ynghylch y cwmpas gan awgrymu bod cyfle i ddylanwadu a fyddai modd edrych y tu hwnt i'r sector i gyfleustodau neu sectorau rheoledig eraill.

 

Gorffennodd y Cadeirydd yr eitem hon ar yr agenda drwy dynnu sylw at ddau fater:

 

  • Mynegodd ei bryder na fyddai'r farn archwilio ar gyfer y cyfrifon yn dod allan tan ddiwedd Ionawr.
  • Nododd y gwaith archwilio perfformiad gyda golwg ar yr adolygiad thematig o sefydlogrwydd ariannol yr awdurdod. Roedd yn meddwl tybed beth oedd safbwynt yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch nifer yr awdurdodau yn Lloegr oedd yn cael eu datgan yn fethdalwyr a’r arwydd bod nifer o Awdurdodau yng Nghymru yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Mewn ymateb, bu’r aelodau’n trafod y penderfyniadau anodd iawn y bydd angen eu gwneud i lunio cyllideb gytbwys eleni, y cynnydd yn y pwysau ar ofal cymdeithasol a’r cyfrifoldebau ychwanegol, yn enwedig yn Lloegr, y mae’r llywodraeth wedi eu gosod ar awdurdodau lleol, a’r risgiau sy'n gysylltiedig â setliadau cyflog cyfartal ar gyfer gwahaniaethu, fel yr un yn Birmingham. Gofynnodd aelod a fyddai'n bosibl derbyn, yn ysgrifenedig, ddadansoddiad o faint y risg y gallai CBS Pen-y-bont ar Ogwr fod yn ei chario mewn perthynas â'r math hwnnw o farn.

PENDERFYNWYD:

Nododd y Pwyllgor Adroddiad Archwilio Cymru ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Atodiad A.

Dogfennau ategol: