Cofnodion:
Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:
Mae’n debyg y cymer cau ffatri Zimmer Biomet hyd at ddwy flynedd i’w gwblhau, a bydd diswyddiadau’n digwydd drwy gydol y cyfnod hwn.
Roedd 69 y cant o'r diswyddiadau yn weithwyr o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Ar y cyd â phartneriaid, rydym wedi cyfarfod ag uwch reolwyr yn y ffatri i drafod sut y gallwn gyda’n gilydd gefnogi’r staff yr effeithir arnynt.
Cafwyd cyfarfod yn yr haf yng Nghanolfan Waith Pen-y-bont ar Ogwr lle’r oedd ein tîm Cyflogadwyedd a Datblygu Economaidd yn bresennol i drafod y cymorth y gall pob sefydliad ei ddarparu i Zimmer Biomet a’u staff.
Mae disgwyl i'r cyfnod ymgynghori swyddogol ddod i ben ym mis Hydref. Mae’r cwmni wedi datgan nad oes arnynt eisiau i Lywodraeth Cymru wneud dim ar hyn o bryd, heblaw am gynorthwyo i chwilio am gwmni newydd a allai fod â diddordeb mewn cymryd uned y ffatri ymlaen.
Bydd cyfarfod cyd-asiantaethol arall yn cael ei gynnal gyda'r cwmni yn ystod mis Tachwedd i drefnu cymorth addas ar gyfer y staff fydd yn colli eu swyddi y flwyddyn nesaf.
Ni fu’r ymdrechion i arbed Wilko yn llwyddiannus. Caeodd siop Maesteg ei drysau am y tro olaf ddoe, tra bydd siop Pen-y-bont ar Ogwr yn cau yfory.
Yn wreiddiol, y gobaith oedd y byddai'r ddwy siop leol wedi cael eu cynnwys ymhlith y safleoedd hynny sydd wedi cael eu prynu gan B&M a Pepco. Yn anffodus, nid yw hyn wedi cael ei wireddu.
O ganlyniad, mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn y ddwy siop i gynnig cymorth i weithwyr sy'n cael eu diswyddo.
Rydym yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor uniongyrchol i staff yr effeithir arnynt, a bydd yr holl bartneriaid yn cydweithio'n agos dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i gynnig cymorth pellach.
Rydym yn parhau i hysbysebu a hybu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle rhagorol i fusnesau fuddsoddi ynddo. Bydd diweddariadau pellach ar gael wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Mae Llywodraeth y DU i fuddsoddi pum can miliwn o bunnau i helpu Gwaith Dur Tata ym Mhort Talbot i symud tuag at ffyrdd glanach a gwyrddach o gynhyrchu dur.
O ystyried nifer uchel trigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant, mae pryderon ynghylch adroddiadau na chafodd undebau llafur eu cynnwys yn y trafodaethau ynghylch y fargen, a bod rhybuddion cynnar wedi bod y gallai’r buddsoddiad mewn technoleg newydd hefyd arwain at golli cymaint â 3,000 o swyddi.
Er bod hwn yn gam cadarnhaol tuag at ddatgarboneiddio, y gobaith yw y gellir cynnal trafodaethau brys fydd yn ceisio sicrhau dyfodol cynhyrchu dur cynaliadwy yn Ne Cymru tra hefyd yn diogelu swyddi.
Yn ogystal â thechnoleg ffwrnais arc trydan, gallai hyn, er enghraifft, ystyried defnyddio ffyrdd gwyrdd eraill o wneud dur.
Fel y dywedwyd wrth yr aelodau’n gynharach, mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau ar unwaith y prynhawn yma.
Ystyrid bod ei chau yn angenrheidiol er budd diogelwch y cyhoedd ar ôl i archwiliad arbenigol a gynhaliwyd y bore yma gadarnhau y gallai fod problem bosibl yn ymwneud â defnyddio Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) o fewn to’r adeilad.
Felly, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd camau buan i gau’r farchnad dan do er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal asesiadau ac arolygon manwl pellach, a chytuno ar y camau nesaf.
Cafodd masnachwyr wybod a rhydd y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y sefyllfa wrth iddi ddatblygu. Nid yw cau neuadd y farchnad yn effeithio ar Ganolfan Siopa'r Rhiw gerllaw, sy'n dal ar agor fel arfer.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn cynnal arolygiadau ar yr holl adeiladau a gynhelir gan y Cyngor yn unol â chyngor cenedlaethol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd y broses arolygu y flaenoriaeth i ysgolion lleol, lle na chanfuwyd unrhyw feysydd pryder. Mae'r awdurdod ar hyn o bryd yn y broses o wirio adeiladau a seilwaith eraill a chynhaliodd arolygiad gweledol o'r farchnad dan do yn gynharach y mis hwn fel rhan o'r broses hon.
Dangosodd hyn fod angen arolygiad manylach gan arbenigwyr oedd wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a chynhaliwyd hwnnw y bore yma. Mae'r penderfyniad i gau'r farchnad dan do yn seiliedig ar eu canfyddiadau.
Mae arolygon pellach yn cael eu trefnu ar hyn o bryd i ganfod maint y broblem RAAC a beth allai'r goblygiadau hirdymor fod. Gan mai ar brydles y mae neuadd y farchnad gan y Cyngor, mae'r awdurdod hefyd yn cysylltu â'r perchnogion preifat fel mater o frys.
Hyd yma, Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yw'r unig safle lle mae problem bosibl yn ymwneud â RAAC wedi cael ei chanfod.
Rydym yn cydnabod yr anghyfleustra a’r caledi posibl y bydd hyn yn ei achosi i fasnachwyr a’r effaith y bydd colli’r farchnad yn ei chael fel lle poblogaidd a phrysur lle mae pobl yn siopa, yn cyfarfod ac yn cymdeithasu.
Bydd diweddariadau pellach yn dilyn pan fyddant ar gael.
Mae rhagor o wybodaeth am RAAC ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, drwy glicio ar y ddolen.