Agenda item

Cynllun Cynaliadwyedd 3 Blynedd i Wella’r Canlyniadau ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a’r pwrpas oedd i’r Cyngor gymeradwyo cynllun 3 blynedd (Atodiad 1 i’r adroddiad y cyfeirir ato) i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda’r goblygiadau ariannol fyddai’n codi o’r camau gweithredu yn y cynllun hwnnw sy’n cefnogi diogelu ac amddiffyn plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhywfaint o wybodaeth gefndir, lle roedd yn cadarnhau y byddai angen adnoddau ychwanegol i gefnogi'r uchod yn fwy cadarn, er mwyn medru cyflawni hyn yn llwyddiannus wrth wynebu'r nifer o heriau disgwyliedig o'n blaenau.

 

Esboniodd, er bod pob gwasanaeth wedi cael ei herio yn ystod ac ar ôl Covid, ei bod yn ymddangos bod y gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi profi'r gwaethaf o’r anghydbwysedd rhwng y galw a’r capasiti, yn enwedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae lefel y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol statudol i blant dros y 18 mis diwethaf, yn enwedig mewn Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) a gwasanaethau ardal seiliedig mewn canolfannau, wedi cynyddu’n sylweddol. Y penawdau yw:

 

        8,334 o gysylltiadau â gofal cymdeithasol plant yn 2022/23 o gymharu â 5,667 (cynnydd o 47.1% o gymharu â 2021/22)

        3,114 o asesiadau yn 2022/23 (cynnydd o 89.4% o gymharu â 2021/22)

        1,202 o blant â chynlluniau gofal a chymorth ar 31.03.23 (cynnydd o 9.3% o gymharu â 31.03.22)

        2,154 o gyfarfodydd strategaeth cychwynnol yn 2022/23 (cynnydd o 98.3% o gymharu â 2021/22)

        Cwblhawyd 1,557 o ymchwiliadau diogelu S47 yn 2022/23 (cynnydd o 80% o gymharu â 2021/22)

        270 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant ar 31.03.23 (cynnydd o 54% o gymharu â 31.03.22)

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod dadansoddiad annibynnol yn dangos bod y Cyngor wedi gweithio'n galed, ac yn llwyddiannus ar y cyfan, dros y flwyddyn ddiwethaf i ymdrin â'r cynnydd digynsail yn y galw. Mae wedi golygu cyllid tymor byr sylweddol i ymdrin ag argyfwng capasiti gwirioneddol. Mae’r ymateb hwn yn amlwg yn sefyllfa bresennol y gweithlu a grynhoir isod:

 

        Staff parhaol ym maes gofal cymdeithasol plant: 122.91 cyfwerth ag amser llawn;

        Mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithredu ar 29% yn uwch na'r sefydliad i gwrdd â'r holl ddyletswyddau statudol mewn modd amserol. Ariennir y staff ychwanegol hyn drwy gyfuniad o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a grantiau penodol, ond mae hefyd yn cyfrannu at sefyllfa gorwariant sylweddol;

        Mae 20% o swyddi gwag yn y gweithlu parhaol. Fel arfer mae tua 5% yn absennol o'r gwaith ar unrhyw adeg;

        Mae pob swydd wag (a mwy) wedi ei chynnwys er mwyn sicrhau diogelwch trefniadau diogelu ac amddiffyn plant;

        Felly, mae 38% o'r gweithlu gofal cymdeithasol plant presennol yn staff asiantaeth.

 

Yn dilyn cynnal y dadansoddiad a amlinellwyd yn yr adroddiad, ystyrid bod y systemau presennol sydd yn eu lle yn rhy gymhleth, ac mae cydweithwyr ar draws y system yn gweithio’n galed o ddydd i ddydd i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol, a bod y penderfyniadau a wneir yn gyson. Fodd bynnag, dangosai adolygiad y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) o ffeiliau achos penodol, a chyfweliadau â rheolwyr, eu bod yn ymwybodol iawn o'r anawsterau y mae'r system yn eu creu, yn enwedig o ran y ffrydiau gwaith y tynnwyd sylw atynt ym mharagraff 3.9 yr adroddiad.

 

Aeth Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ymlaen i ddweud, i deuluoedd neu weithwyr proffesiynol eraill, y gallai trefniadau eraill, mwy sylfaenol, fod yn ddryslyd. Ar y wefan ar hyn o bryd, mae nifer o wahanol rifau ffôn y gellid eu defnyddio yngl?n â gwasanaethau plant, a all greu dryswch posibl yn enwedig gyda’r gwahaniad rhwng cymorth cynnar a threfniadau cyswllt gofal cymdeithasol. Cyfwelodd IPC arweinwyr gweithredol y gwasanaethau dan sylw, ac adolygu detholiad bychan o ddeg ffeil achos enghreifftiol, a ddewiswyd fel enghreifftiau o arfer mwy a llai effeithiol. Mae'r IPC yn datgan ei bod yn amlwg iddynt, oddi wrth yr elfen hon o'r gwaith, fod cydweithwyr yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i gydlynu ymatebion i deuluoedd ac i wneud yn si?r bod bylchau yn y ddarpariaeth yn cael eu lleihau. Roedd yr IPC felly wedi nodi meysydd ar gyfer gwella ymarfer a systemau ymhellach. Roedd y rhain wedi eu cynnwys ym mharagraff 3.10 yr adroddiad.

 

Felly, yng ngoleuni'r heriau presennol a'r angen i adeiladu gwasanaeth integredig cynhwysfawr ac effeithiol, argymhellodd yr IPC y dylid datblygu gwasanaeth mwy integredig sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy'n tynnu ar arfer gorau o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi cyflawni gwelliant sylweddol. Tynnwyd sylw at y rhain yn yr adroddiad a'i wybodaeth ategol.

 

Yn olaf, tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sylw’r Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad a fyddai, er eu bod yn sylweddol, yn cyfrannu’n fawr at ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i blant a theuluoedd wrth symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ei bod yn fwy na pharod i gefnogi’r adroddiad a’i argymhellion a thynnodd sylw’r Cyngor at baragraff 8.16, oedd yn rhoi ymrwymiad ariannol i’r Cynllun 3 Blynedd.

 

Nododd Aelod yr ymrwymiad cyllid oedd ei angen i gryfhau'r gwasanaeth, gan gynnwys y Cyngor yn manteisio ar ei gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth tra câi dewisiadau ariannu mwy parhaol eu harchwilio. Gofynnodd pa lefel o gyllid mewn termau ariannol oedd ei angen i gynnal y gwasanaeth yn y tymor hwy.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai £1 filiwn yn cael ei rwymo i’r gyllideb sylfaenol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant ac y byddai hwn yn barhaus fel adnodd parhaol. Fodd bynnag, roedd angen balans cronfa o £2.5 miliwn i gefnogi cynigion yr adroddiad yn llawn, er y gellid defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gyflawni hyn yn y flwyddyn gyfredol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai gwarged o'r fath yn rhan o drafodaethau'r broses o bennu'r Gyllideb Refeniw, er mwyn sicrhau canlyniad addas.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr Awdurdod yn hyderus y bydd y Modiwl Gweithredu arfaethedig a ddefnyddir ar gyfer y Cynllun 3 Blynedd yn sicrhau'r cynaladwyedd oedd ei angen i gwrdd â'r galw a amcangyfrifid a hefyd a fyddai amcanion y Cynllun yn cael eu cyrraedd a'u mesur. Gofynnodd hefyd pa mor aml y byddai’r Cynllun yn cael ei adolygu a beth fyddai’r canlyniadau pe na châi cynigion y Cynllun eu cyflawni. Pwy fyddai'n atebol am hyn, ychwanegodd ymhellach.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai hi a swyddogion allweddol a gâi eu dwyn i gyfrif am gyflawni'r Cynllun, drwy gyrff megis Bwrdd Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol a fyddai'n cynnwys cynrychiolwyr gwleidyddol o blith aelodau'r Cabinet a’r Arweinwyr Grwpiau. Roedd yna hefyd gyfarfodydd Dangosfwrdd Perfformiad wythnosol lle câi cynnydd ei fonitro, yn ogystal â diweddariadau adroddiadau perfformiad chwarterol arferol y Gyfarwyddiaeth.

 

Roedd y camau gweithredu a gynigid yn y Cynllun wedi eu seilio ar dystiolaeth sylweddol oedd wedi dod i’r amlwg yn dilyn trafodaethau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr, oedd wedi eu cael eu hunain mewn sefyllfa debyg i CBS Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi gwneud gwelliannau yn y gwasanaeth wedi hynny drwy neilltuo adnoddau ychwanegol, a allai dargedu materion megis, er enghraifft, atal a ffyrdd o gynorthwyo gyda’r cynnydd yn yr angen.

 

Ychwanegodd mai hi oedd y Swyddog oedd yn gyfrifol am gwrdd ag amodau'r Cynllun fel Swyddog Statudol y gwasanaeth o dan ddeddfwriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac y byddai'r Cynllun hefyd yn cael ei fonitro gan Arolygiaeth Gofal Cymru, drwy eu harolygiadau, fyddai'n edrych ar faterion megis ansawdd gwasanaeth a lefelau perfformiad. Yn fewnol, câi'r Cynllun hefyd ei fonitro drwy'r broses Trosolwg a Chraffu a thrwy'r Bwrdd Perfformiad Corfforaethol (CPA).

 

I gael rhagor o fanylion am y ddadl a ddilynodd ar yr eitem bwysig hon, cliciwch yma.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cyngor:

        Yn cymeradwyo ‘Meddwl am y Teulu’, y cynllun cynaladwyedd 3 blynedd ar gyfer plant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

        Yn cymeradwyo trosglwyddiad cyllideb o £1 filiwn i'r gwasanaethau cymdeithasol yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor;

Yn nodi’r defnydd ychwanegol o gronfeydd wrth gefn o £2.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol i gefnogi’r gwasanaeth fel y manylwyd yn yr adroddiad.        

Dogfennau ategol: