Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi gwybodaeth bellach i’r Cyngor ar oblygiadau cymhwyso premiwm y dreth gyngor i ail gartrefi o safbwynt cynllunio ac adfywio, fel y gofynnwyd yng nghyfarfod y Cyngor ar 8 Chwefror 2024, a gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen i gymhwyso’r premiwm o 1 Ebrill 2024.
Rhoddai’r adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir ac yn dilyn hynny, dywedodd fod y Cyngor o’r blaen wedi derbyn adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i osod premiwm treth gyngor ar gartrefi gwag ac ail gartrefi yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ac yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Y cynnig oedd gosod premiymau treth gyngor o 100% ar gartrefi gwag o 1 Ebrill 2023 ac ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2024, gyda’r ddau yn cynyddu i 200% ar ôl 2 flynedd.
Atgoffodd hi, fodd bynnag, fod yr Aelodau wedi gofyn i adroddiad pellach gael ei ddwyn yn ôl i'r Cyngor yn ystod y flwyddyn ar oblygiadau ehangach premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi, cyn penderfynu a ddylid parhau i gymhwyso'r premiwm hwn ai peidio (gweler Paragraffau 3.5 i 3.11 yr adroddiad am fanylion pellach).
Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor 81 o ail gartrefi y gellir codi tâl arnynt, a allai gynhyrchu £188,000 o incwm treth gyngor ychwanegol, ond roedd hyn yn amodol ar gymhwyso gostyngiadau ac eithriadau a chasglu’r dreth yn llwyddiannus.
Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr adroddiad diweddaraf hwn yn amlinellu rhai o oblygiadau gweithredu’r cynnig ar gyfer cynllunio ac adfywio a gofynnodd am benderfyniad gan y Cyngor ynghylch a ddylid parhau â’r penderfyniad a wnaed yn y Cyngor ym mis Chwefror 2023 i gymhwyso’r premiwm o Ebrill 2024.
Ailadroddodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio fod adroddiad cychwynnol wedi cael ei gyflwyno i'r Cyngor y llynedd ar y pwnc hwn ac ar dai gwag. Dymunai dynnu sylw at y ffaith fod argyfwng tai sylweddol yn dal i fod yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.
Gofynnodd Aelod pe bai aelod o’r cyhoedd yn prynu ail gartref oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer ac oedd yn anaddas i fyw ynddo, yna a fyddai’n rhaid iddo dalu Treth Gyngor ddwbl ar hwn, h.y. yn ogystal ag ar ei brif eiddo, am y cyfnod o amser a gymerai i wneud yr ail eiddo yn gyfanheddol. Gofynnodd a oedd unrhyw amddiffyniad ariannol neu gymorth ar gael i'r bobl hyn.
Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, fod nifer cynyddol o grantiau ar gael i uwchraddio eiddo fel yr uchod er mwyn eu hadfer i’w defnyddio fel cartrefi. Cadarnhaodd y byddai’n rhannu’r rhain â’r Aelodau, fel y gallent hwythau yn eu tro eu rhannu ag unrhyw etholwyr â diddordeb.
Nododd Aelod y cyfle i ennill refeniw ychwanegol yn ffurf taliadau’r Dreth Gyngor gan berchnogion ail gartrefi preifat. Gofynnodd, serch hynny, a allai'r Cyngor yn yr un modd gasglu refeniw ychwanegol oddi wrth berchnogion eiddo busnes gwag.
Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn yn dibynnu ar wybod pwy oedd perchnogion eiddo gwag ac a oedd modd eu holrhain. Ychwanegodd fod refeniw y Dreth Gyngor o eiddo preifat yn dod i mewn i'r Cyngor yn uniongyrchol, fodd bynnag, roedd yr Awdurdod yn casglu Trethi Busnes mewn perthynas ag eiddo masnachol ar ran Llywodraeth Cymru (LlC) ac yn talu hwn yn uniongyrchol iddynt. Yna byddai’r Cyngor yn derbyn taliad gan LlC oedd yn seiliedig ar boblogaeth oedolion BSP.
Nododd Aelod yr incwm ychwanegol a gadarnhawyd yn yr adroddiad o £188 mil a gofynnodd beth fyddai'r costau i'r Awdurdod o sicrhau bod hwn yn cael ei gasglu.
Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, na fyddai cost ychwanegol, gan y byddai hyn yn waith ychwanegol a fyddai’n cael ei amsugno gan adain y Dreth Gyngor, er y gallai fod costau ychwanegol yn ffurf diffyg talu, er enghraifft, drwy fynd ar drywydd taliad a phe bai angen, achos llys a gwysion, ac yn y blaen.
Gan fod rhai Aelodau wedi nodi nad oeddent yn cefnogi cynigion yr
adroddiad, cytunodd y Cyngor i gynnal pleidlais electronig ar yr
eitem hon, a chanlyniad hon oedd y canlynol:-
Dros Yn erbyn Atal pleidlais
28 4 4
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r premiymau 100% arfaethedig ar y dreth gyngor i’w gweithredu o 1 Ebrill 2023 ar gartrefi gwag hirdymor, ac o 1 Ebrill 2024 ar ail gartrefi, gyda’r ddau yn cynyddu i 200% ar ôl 2 flynedd.
Dogfennau ategol: