Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn amlinellu adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23, sy'n ofyniad statudol.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn edrych yn ôl dros 2022/23, gan amlygu’r prif gyflawniadau a heriau tra hefyd yn amlinellu blaenoriaethau allweddol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer 2023/24.

 

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, adroddir ar berfformiad yn erbyn chwe safon ansawdd gan dynnu sylw at gamau gweithredu allweddol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn (gweler paragraff 3.4 yr adroddiad); sut mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi perfformio yn erbyn y safonau hyn yn ystod y cyfnod hwn a'r camau allweddol ar gyfer 2023/24 i'n galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau.

 

Roedd y dadansoddiad a ddeilliodd o’r Adroddiad Blynyddol yn tynnu ar gynnydd yn erbyn Cynllun Busnes y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, data perfformiad ar gyfer pob maes gwasanaeth ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant, barn Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel y corff rheoliadol ac  arolygol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac adborth gan bobl sydd wedi cael profiad o’r gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a’u gofalwyr.

 

Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2023/24 roedd cyflwyniad yr adroddiad blynyddol gan y Cyfarwyddwr yn nodi’r meysydd thematig allweddol ar gyfer gwella yn ystod 2023/24, er enghraifft:

 

        Clywed a gweithredu ar lais plant a theuluoedd, oedolion a gofalwyr;

        Sicrhau gweithlu sefydlog, yn cael ei gefnogi’n dda, yn llawn cymhelliant ac yn barhaol;

        Gwella ymarfer;

        Cynyddu effaith ein gwasanaethau a'n hymyriadau i’r eithaf;

        Sicrhau ymateb mwy effeithiol i blant a theuluoedd, oedolion a gofalwyr, ag anghenion cymhleth;

        Gweithio'n ddiwnïad gyda phartneriaid; a

        Rhoi systemau cudd-wybodaeth a gwybodaeth gwell yn eu lle

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod ymgysylltu ac ymgynghori yn agwedd allweddol ar yr adroddiad a’r ffordd yr ydym yn ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, yn ogystal â throsolwg ar yr adborth sydd wedi ei gynnwys ynddo.

 

Tynnodd yr adroddiad hefyd sylw at y ffordd yr oedd adborth yn cysylltu â rhai o'r camau allweddol.

 

Roedd crynodeb o weithgarwch rheoleiddio allweddol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac roedd hwn yn canolbwyntio ar arolygiadau gwasanaethau a reoleiddir; Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Gofal Cymdeithasol Plant ym mis Mai 2022 (a rannwyd ymhellach gyda’r adran Trosolwg a Chraffu) a Gwiriad Gwelliant Gofal Cymdeithasol Plant Tachwedd 2023. Roedd y crynodeb ymhellach yn cynnwys canfyddiadau allweddol a sut y byddwn yn ymateb i sefyllfaoedd penodol sy'n codi yn ystod y flwyddyn.

 

Mae'r Gyfarwyddiaeth hefyd yn y broses o adnewyddu'r cynllun strategol ar gyfer plant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y cynllun wedi ei adnewyddu yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun cynaladwyedd, yn amlinellu gwasanaeth, gweithlu a strategaeth ariannol ar y ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sydd mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ystyrir y cynllun gan y Cabinet yn hydref 2023, meddai Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae'r gwasanaeth yn parhau i weithio'n effeithiol gydag asiantaethau partner a sefydliadau trydydd sector, oedd yn allweddol o ran cynorthwyo'r gwasanaeth fel cyrff cefnogi.

 

Yn olaf, tynnai’r adroddiad sylw at ein hadnoddau ariannol gan nodi'r heriau a'r pwysau allweddol y mae'r Gyfarwyddiaeth a'r Cyngor yn eu hwynebu er mwyn darparu gwasanaethau statudol, fel y mae gofyn iddynt ei wneud.

 

Rhannodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gyflwyniad PowerPoint gyda’r Cyngor, er mwyn tynnu sylw at rai o ganfyddiadau allweddol Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan nodi’n arbennig y meysydd lle roedd y Gyfarwyddiaeth wedi gweithio’n dda, gan gynnwys meysydd allweddol o welliant, yn ogystal ag amlinellu meysydd lle gellid gwneud rhywfaint o gynnydd pellach.

 

Canmolai’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yr adroddiad a'r cyflwyniad ategol, gan gynnwys y ffilm fideo ynddo, oedd hefyd yn cynnwys ymarferiad ymgyrch Recriwtio.

 

Diolchodd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'i Phenaethiaid Gwasanaeth/Uwch dîm rheoli am eu gwaith rhagorol a'u hymrwymiad i'r hyn oedd yn wasanaeth hollbwysig. Ategodd yr Arweinydd hyn, yn ogystal ag ychwanegu pwysigrwydd ein partneriaid oedd yn rhoi eu cefnogaeth i lwyddiant y gwasanaeth.

 

Nododd Aelod oddi wrth yr adroddiad fod y staff parhaol ym maes Gofal Cymdeithasol Plant yn 122.91 FTE ac eisoes yn gweithio ar 29% yn uwch na’r lefel er mwyn cwrdd â’i ofynion statudol. Gyda hyn mewn golwg, gofynnodd sut yr oedd perfformiad yn cael ei fonitro i fesur effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gweithlu.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod Gwasanaethau Plant yn un o’r meysydd gwasanaeth cyhoeddus oedd yn cael ei fonitro fwyaf o fewn unrhyw faes llywodraeth leol, gan fod yna lawer o feysydd, yn lleol ac yn genedlaethol, lle câi perfformiad ei fonitro’n fanwl iawn.

 

Yn fewnol, câi dangosyddion perfformiad eu monitro drwy Fframwaith Perfformiad Corfforaethol y Cyngor. Roedd peth o'r data o ran perfformiad wedi ei adlewyrchu yn yr adroddiad a'r cyflwyniad cysylltiedig meddai.

 

Rhoddwyd pwyslais arbennig ar wneud penderfyniadau yn fuan, ymweliadau â phlant, gwahanol gamau'r prosesau amddiffyn plant, ac roedd pob un ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch cyffredinol gweithlu'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd gan bob Gweithiwr Cymdeithasol lwyth achosion ac roedd maint a chymhlethdod pob un o'r rhain yn cael eu monitro'n fanwl, er enghraifft, drwy gyfarfodydd y Tîm Rheoli, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli a'u prosesu'n effeithiol.

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod adolygiadau perfformiad chwarterol hefyd yn eu lle i edrych yn fanwl ar y ffordd yr oedd llwythi achosion yn dod yn eu blaenau.

 

Gan fod Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn faes sy’n cael ei reoleiddio mor ddwys, roedd monitro allanol a rhannu gwybodaeth hefyd yn cael ei gynnal gydag arolygiaethau.

 

Daeth â’i sylwadau i ben drwy gadarnhau i'r Cyngor fod y Bwrdd Gwella Annibynnol hefyd wedi canmol CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar ei berfformiad yn cynhyrchu data meintiol er bod rhywfaint o gynnydd pellach i'w wneud o hyd ar ddata ansoddol.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2022-23 Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ategol: