Cofnodion:
Cyflwynodd Swyddog y Polisi Trwyddedu yr adroddiad, a diben hwn oedd penderfynu ar gais a dderbyniwyd oddi wrth Amber Taverns Ltd am drwydded safle newydd yn 11-13 Stryd Caroline, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1DN.
Dywedodd fod y cais i'w weld yn Atodiad A i'r adroddiad.
Gellid gweld y cynllun oedd gyda’r cais sy’n manylu ar y safle trwyddedig yn Atodiad B.
Disgrifiodd yr ymgeisydd y safle fel:
“Tafarn Canol y Dref gyda gwasanaeth bar”.
Roedd y cais yn amlinellu:
Gwerthu Alcohol (i'w yfed ar y safle ac oddi arno) ac Adloniant Rheoledig yn ffurf Ffilmiau (dan do), Cerddoriaeth Fyw (Dan Do), Cerddoriaeth wedi'i Recordio (Dan Do), Perfformiad Dawns (Dan Do) ac unrhyw beth o Ddisgrifiad Tebyg ( Dan do):
Dydd Llun i ddydd Iau: 9 y bore tan hanner nos
Dydd Gwener a dydd Sadwrn: 9 y bore tan 1 o’r gloch y bore
Dydd Sul: 9 y bore tan 1 o’r gloch y bore
Amseroedd Anarferol
O ddiwedd yr oriau a ganiateir ar Nos Galan hyd ddechrau’r oriau a ganiateir ar Ddydd Calan.
Awr ychwanegol: Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Y Dydd Iau cyn Dydd Gwener y Groglith, Dydd Gwener, Dydd Sadwrn a Dydd Sul bob penwythnos G?yl y Banc, Dydd San Padrig a Dydd G?yl Ddewi.
Darparu Lluniaeth Hwyr y Nos (dan do ac yn yr awyr agored):
Dydd Llun i ddydd Iau: 11p.m. tan hanner nos
Dydd Gwener a dydd Sadwrn: 11p.m. tan 1 o’r gloch y bore
Dydd Sul: 11p.m. tan hanner nos
Amseroedd Anarferol
O ddiwedd yr oriau a ganiateir ar Nos Galan hyd ddechrau’r oriau a ganiateir ar Ddydd Calan.
Awr ychwanegol: Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Y Dydd Iau cyn Dydd Gwener y Groglith, Dydd Gwener, Dydd Sadwrn a Dydd Sul bob penwythnos G?yl y Banc, Dydd San Padrig a Dydd G?yl Ddewi.
Roedd yr oriau agor y gofynnwyd amdanynt hanner awr yn hwyrach na'r amseroedd gweithgaredd trwyddedadwy y gofynnwyd amdanynt i greu amser gorffen yfed o 30 munud, gyda'r un amseroedd anarferol y gofynnwyd amdanynt.
Mae'r amodau ychwanegol a gynigiwyd gan yr ymgeisydd ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu i'w gweld yn Adran 18 y cais.
Derbyniwyd chwe chynrychiolaeth yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, un gan Heddlu De Cymru a 5 gan bobl eraill. Roedd copïau o fanylion y cynrychioliadau hyn i’w gweld yn Atodiadau C a D (yr adroddiad).
Cyfeiriwyd at gerddoriaeth yn ystod y dydd yn rhai o'r cynrychioliadau a dylid nodi bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio wedi eu dadreoleiddio'n rhannol.
Cynigiwyd hefyd nad oes angen awdurdodiad (trwydded) i gynnal cerddoriaeth fyw mewn ‘gweithle’ rhwng 8a.m. ac 11p.m. o flaen cynulleidfa o ddim mwy na 500 o bobl.
Awgrymwyd hefyd nad oes angen awdurdodiad ychwaith i gynnal cerddoriaeth wedi'i recordio mewn safle trwyddedig sydd wedi ei awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar y safle, rhwng 8a.m. a 11p.m. gerbron cynulleidfa o ddim mwy na 500 o bobl.
Dylid ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth ar yr adegau hyn o dan ddeddfwriaeth iechyd yr amgylchedd ar wahân sy'n ymwneud â niwsans s?n.
Cyfeiriwyd hefyd at roi caniatâd i osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd; er nad oedd hyn yn ystyriaeth i'r Is-bwyllgor. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd gael caniatâd gan yr adran berthnasol o'r Cyngor fydd yn cynnwys proses ymgeisio ar wahân.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ers cyhoeddi'r adroddiad roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol i gefnogi ei gais oedd wedi cael ei hanfon i Is-bwyllgor Deddf Drwyddedu 2003 cyn y cyfarfod hwn. Roedd y wybodaeth ychwanegol hon yn cynnwys:
Fideo o ddelweddau cynt ac wedyn o adeiladau eraill y mae Amber Taverns wedi eu cymryd drosodd
Dogfen bolisi ar Gyffuriau
Cofnod Hyfforddi Peiriannau Hapchwarae
Dogfennau Asesu Risg
Polisi Gwasgaru
Ar ôl cysylltu â'r ymgeisydd, tynnodd yr Heddlu eu sylwadau ar y cais yn ôl. Cytunodd yr ymgeisydd i ddiwygio ei gais i osod amodau y cytunwyd arnynt gyda'r Heddlu. Roedd yr amodau y cytunwyd arnynt ychydig yn wahanol i'r rhai oedd wedi eu cynnwys yng nghynrychiolaeth wreiddiol yr Heddlu (yn dilyn cyngor cyfreithiol). Anfonwyd union eiriad yr amodau hyn eto i Is-bwyllgor Deddf Drwyddedu 2003 ond yn gryno roeddent yn ymwneud â:
Gwerthu alcohol yn dechrau am 10a.m. ac eithrio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol lle byddai'n dychwelyd i 9a.m. Bod deiliad trwydded bersonol ar gael yn ystod gweithgareddau o’r fath.
O leiaf 2 oruchwylydd drws i gael eu cyflogi yn y safle ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul cyn G?yl y Banc a phob amser anarferol o 9p.m. tan amser cau.
Yn ôl disgresiwn Heddlu De Cymru (gyda 7 diwrnod o rybudd) ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, caiff pob diod ei thywallt i gynwysyddion polycarbonad di-wydr neu blastig. Yr eithriad yw pan fydd pobl yn eistedd yn bwyta pryd bwyd sylweddol, te neu goffi.
Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor benderfynu ar y cais gan roi sylw i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor, y Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref o dan Adran 182 o Ddeddf Drwyddedu 2003, y cais, y cyflwyniadau a’r sylwadau oedd ger eu bron.
Dywedodd Rheolwr Cydymffurfiaeth Amber Taverns mai cwmni gwlyb oedd Amber Taverns oedd yn berchen ar fwy na 160 o safleoedd ledled y wlad gan gynnwys De Cymru.
Dywedodd fod ganddynt fusnesau yn cael eu rhedeg yn yr Alban, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Chanolbarth Lloegr. Dywedodd Rheolwr Cydymffurfiaeth fod y sefydliad wedi bod yn prynu eiddo manwerthu segur yn ddiweddar, er enghraifft Burton’s ar Stryd Caroline oedd yn wag, ac wedi bod yn adnewyddu'r rhain i'w troi'n dafarndai. Soniodd fod rhai o'r safleoedd yr oeddent wedi eu cymryd drosodd wedi bod yn wag ers saith neu wyth mlynedd. Yn achos hen siop Burton’s, roedd hi’n deall mai ers 2022 yn unig yr oedd hon wedi bod yn wag.
Dywedodd Rheolwr Cydymffurfiaeth Amber Taverns eu bod wedi prynu 10 eiddo yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ac mai eu bwriad oedd gwario dros £175,000 ar ddatblygu hen siop Burton’s.
Dywedodd fod gan y cwmni raglen hyfforddi helaeth, yn cynnwys llawlyfr hyfforddi ond hefyd darpariaeth hyfforddiant ar-lein. Dywedodd fod hyfforddiant ar-lein yn cael ei ailosod yn aml, o leiaf bob chwe mis, lle roedd her 25 yn y cwestiwn. Pan ddisgwylid digwyddiad chwaraeon mawr, roedd yr hyfforddiant wedi'i gynllunio i gael ei ailosod eto fel bod y staff yn ymwybodol o werthiannau dan oed a pheidio â gwasanaethu pobl oedd wedi yfed gormod o alcohol.
Soniodd eu bod yn gweithredu ar sail cael rheolwr ardal sy’n gyfrifol am uchafswm o 12 tafarn fel arfer, y mae ef/hi yn gofalu amdanynt, gyda’r potensial i dyfu i 15 neu 16 tafarn. Dywedodd fod hyn yn cael ei wneud i sicrhau bod y rheolwr ardal yn gallu bod yn gwbl ymarferol wrth reoli unrhyw un o safleoedd trwyddedig Amber Taverns. Dywedodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth yr hoffent fuddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’u bod yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o redeg eu busnes yng nghanol y dref.
Gofynnodd aelod a oedd y cwmni'n cefnogi'r bragdai lleol.
Ymatebodd Rheolwr Ardal Amber Taverns fod gan y cwmni gyfrif cenedlaethol gyda Heineken. Dywedodd nad oedd mwyafrif eu cyflenwad yn dod o fragdai lleol. Dywedodd, o safbwynt cwrw casgen, eu bod yn ymdrechu i gefnogi bragwyr lleol o ran cael mathau bragu casgen lleol i mewn i gynifer o adeiladau ag y gallent. Dywedodd nad oedd hyn bob amser yn bosibl o ystyried cyfrifon a phrisiau, gan fod y cwmni'n adolygu cyflenwyr o safbwynt ymyl elw a phroffidioldeb. Sicrhaodd yr aelodau eu bod bob amser yn gwneud eu gorau glas i gael cyflenwadau o fragdai lleol lle roedd hynny'n briodol.
Gofynnodd aelod mewn perthynas â'r sylwadau a wnaed ynghylch agosrwydd y safle trwyddedig arfaethedig at Siop Fferyllydd Boots. Dywedodd, gan ei bod yn debygol bod yna bolisïau a hyfforddiant, y gallai'r Awdurdod fod yn gyfarwydd â hwy neu ddim, ar gael i'r cyhoedd, o ran gweithredu safleoedd trwyddedig, gofynnodd i gynrychiolwyr Amber Taverns egluro eu hyfforddiant ynghylch hynny a sut i osgoi'r risg honno.
Ymatebodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth gan ddweud bod pob tref yn hollol wahanol, ac felly bod hyfforddiant yn cael ei dargedu’n briodol yn hyn o beth. Dywedodd fod gweithwyr, cyn agor unrhyw eiddo, yn derbyn hyfforddiant helaeth ar y bar a'r tiliau. Cynhelid hyfforddiant ar Her 25, peidio â gwasanaethu cwsmeriaid meddw, a throsedd ac anhrefn. Dywedodd ei bod yn ofynnol i staff hefyd gwblhau hyfforddiant ar-lein cyn agor a rhedeg y busnes.
Dywedodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth hefyd y byddai'r gweithredwr wedyn yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw staff newydd a gyflogid yn dilyn hyfforddiant ac yn cwblhau o leiaf 45 tudalen gyntaf y llawlyfr hyfforddi, gan gwblhau’r adrannau o dan Her 25 yn arbennig a pheidio â gwasanaethu cleientiaid meddw, cyn iddynt ddechrau gweithio y tu ôl i'r bar.
Holodd aelod faint o staff yr oeddent yn rhagweld y byddent yn eu cyflogi ar sail amser llawn neu ran amser.
Atebodd y Rheolwr Ardal drwy ddweud mai dim ond un person y byddai'r cwmni'n ei gyflogi'n uniongyrchol fel Gweithredwr pob tafarn, oedd yn cael ei ddosbarthu fel unigolyn hunangyflogedig. Yna, byddai’r Gweithredwr yn cyflogi’r aelodau o staff ar gyfer y sefydliad, yn seiliedig ar ei faint a’i anghenion busnes, ac yn y blaen.
I bob pwrpas, byddai Amber Taverns yn cyflogi un person o safbwynt cenedlaethol. Dywedodd y byddai'n rhagweld y byddai'r Gweithredwr yn cyflogi 10 i 15 aelod o staff. Felly, o ran creu swyddi yn yr ardal leol y rhagdybiaeth fyddai tua 10 i 15 o weithwyr.
Holodd aelod a oedd cyfyngiad ar oedran gweithiwr a gâi ei recriwtio, sef 18-21 oed.
Atebodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth nad oedd y cwmni’n gwahaniaethu ar sail oedran. Roedd eu gweithredwr ifanc cyntaf yn 21 oed tra roedd eu gweithredwr hynaf ar hyn o bryd yn 73 oed. Dywedodd eu bod yn cyflogi gweithredwr â phrofiad sydd yn ei dro yn cyflogi staff o wahanol oed. Dywedodd eu bod yn hoffi'r ffaith fod canolfan waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan y byddent yn troi at y ganolfan waith i argymell staff addas.
Gofynnodd aelod, er eglurder, a oedd dim bwriad i weini bwyd yn y lleoliad.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth na fyddent yn gweini bwyd. Fodd bynnag, eu bwriad oedd gweini lluniaeth hwyr y nos yn ffurf te a choffi.
Holodd y Cadeirydd a oedd y cwmni'n bwriadu ymuno â chynllun gyda Heddlu De Cymru a deiliaid trwydded eraill a adwaenir o bosibl fel cynllun gwarchod tafarndai lleol ac atebodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth ei fod yn mynnu bod eu sefydliad yn ymuno â chynllun o'r fath.
Diolchodd Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a gyflwynwyd. Dywedodd fod y Cyngor Tref yn benderfynol o wrthwynebu caniatáu’r drwydded ar y sail fod y busnes arfaethedig yn anghydnaws ag ethos Stryd Caroline, a ystyrir fel yr ail o brif strydoedd siopa manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd fod y gwrthwynebiad yn deillio o’r pwyntiau a ganlyn:
Mae'r Cyngor Tref o'r farn nad yw cyflwyno busnes tafarn wlyb yn unig yn gydnaws â'r dyheadau ar gyfer cadw ethos a chyfanrwydd prif stryd siopa.
Er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn flaenorol yn y cyfarfod am seddi allanol, credir y byddai 32 sedd yn ormodol ac na fyddai modd eu goruchwylio'n ddigonol.
Teimlir ei bod yn hysbys bod safle o’r fath yn dueddol o ddenu elfen fwy annymunol a swnllyd o bosibl, gydag ysmygwyr yn ymgynnull ar y palmant allanol gan arwain at adael llanast o weddillion sigaréts a sbwriel fyddai’n amharu ar amgylchedd dymunol i gerddwyr ac ymwelwyr siopa. Dywedodd nad oedd dim yn y cais i ddangos pa mor aml y gellid glanhau ardal allanol o'r fath.
Ychwanegodd y Cynghorydd Tref fod yna oblygiad i'r holl siopau sydd yn y cyffiniau ar hyn o bryd gan eu bod eisoes yn dioddef lefelau sylweddol o ddwyn o siopau a theimlai y gallai'r sefydliad newydd fod yn fan cadw golwg i ddrwgweithredwyr posibl.
I gloi, dywedodd y Cynghorydd Tref fod y Cyngor Tref yn annog yr awdurdod trwyddedu i ystyried yn ddifrifol oblygiadau hirdymor y math hwn o fusnes ac a yw'n gwneud unrhyw beth o gwbl i wella'r strydlun a'r amgylchedd siopa yng nghanol y dref.
Am y rhesymau a nodir uchod, sydd wedi cael eu hystyried yn ofalus iawn, mae'r Cyngor Tref yn haeru y dylid gwrthod y cais yn ei ffurf bresennol.
Atebodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth mewn perthynas â'r rhan allanol, bod yna ddull helaeth o reoli'r rhan hon. Dywedodd mai yn ei gamau cynllunio yr oedd hyn gan y byddai trwydded palmant coffi yn gais hollol wahanol a bod ysmygu yn weithgaredd trwyddedadwy. Mewn gwirionedd, gallai pobl ysmygu yn unrhyw le ar Stryd Caroline. Dywedodd fod gan y cwmni system deledu cylch cyfyng digidol o'r radd flaenaf a fyddai'n cwmpasu tu mewn a thu allan yr adeilad, gan gynnwys y toiledau ac eithrio'r ciwbiclau. Byddai gan y sefydliad restr wirio iechyd a diogelwch wythnosol, oedd yn cynnwys gwirio'r larwm tân a'r goleuadau argyfwng.
Dywedodd y byddai gwiriadau'r system TCC yn cael eu cynnal yn ddyddiol ac yr adroddid amdanynt bob wythnos. Dywedodd Rheolwr Cydymffurfiaeth fod y teledu cylch cyfyng yn rhedeg am o leiaf 31 diwrnod ac nad oedd modd ymyrryd ag ef.
Wrth gloi, cyfeiriodd y Rheolwr Ardal at bwynt blaenorol a wnaed gan y Rheolwr Cydymffurfiaeth ynghylch maint yr ardaloedd sy'n cael eu rhedeg gan reolwyr ardal a dywedodd fod yr ardaloedd yn eithaf bychan o gymharu â nifer o'u cystadleuwyr, sy'n caniatáu iddynt gael cymryd rhan yn y gwaith o reoli pob safle o ddydd i ddydd. Rhannodd y gallai gerdded i mewn i lawer o dafarndai yn ei ardal a’i fod yn adnabod y cwsmeriaid lleol a fynychai eu safle’n ddigon da fel y gallai gael sgwrs ddiffuant â hwy, oherwydd eu bod hwythau hefyd yn ei adnabod ef gan ei fod yn ymweld yno’n aml.
Dywedodd eu bod yn hoffi cyflogi pobl leol i redeg tafarndai lleol, oedd wedyn yn rhoi cipolwg i'r cwmni ar ardaloedd lleol a’i fod yn gymorth iddynt gymryd rhan ymhellach yn y gymuned leol.
Gofynnwyd i'r gwrthwynebwyr am sylwadau i gloi a dywedwyd nad oedd dim.
Penderfynwyd nad oedd ar y panel o gynghorwyr angen cyngor pellach gan y Swyddog Polisi Trwyddedu na'r Swyddog Cyfreithiol.
Ailgynullodd y Panel i wneud eu penderfyniad ac ar ôl hynny roedd yr holl bartïon i gael gwybod am y penderfyniad terfynol gan yr aelodau.
PENDERFYNWYD: Cytunodd yr Is-bwyllgor i benderfynu ar y cais gyda golwg ar Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor, y Canllawiau a gyhoeddwyd gan y
Swyddfa Gartref dan Adran 182 o Ddeddf Drwyddedu 2003, y cais, y cyflwyniadau a’r cynrychioliadau ger eu bron.
IS-BWYLLGOR (B) DEDDF DRWYDDEDU 2003
CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD AR GYFER 11-13 STRYD CAROLINE, PEN-Y-BONT AR OGWR CF31 1DN
Hysbysiad o Benderfyniad
Ar y 25ain o Fedi cynhaliodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu (LSC) wrandawiad i benderfynu ar gais am drwydded safle newydd ar gyfer 11-13 Stryd Caroline, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1DN. Yn bresennol yn y gwrandawiad roedd Swyddogion, yr Ymgeisydd a gwrthwynebydd, sef y Cynghorydd David Unwin o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Y Deunydd gerbron yr Is-bwyllgor
Roedd gan yr Is-bwyllgor adroddiad ger ei fron gan y Swyddog Trwyddedu, ynghyd â gwrthwynebiadau a dderbyniwyd oddi wrth Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Rachel Bell, Rheolwr y Ganolfan, Eileen Schofield, Cadeirydd BMTA, y Cynghorydd Freya Bletsoe, Dave Easterbrook - Busnes Pen-y-bont yn erbyn Troseddu. Mynegodd yr Heddlu wrthwynebiadau hefyd ond wedi hynny daethant i gytundeb gyda'r Ymgeisydd ar amodau ychwanegol i'w gosod ar y drwydded ac o ganlyniad tynnwyd y gwrthwynebiadau yn ôl.
Wrth gyflwyno'r adroddiad eglurodd y Swyddog Trwyddedu fanylion y cais am y Drwydded newydd.
Eglurodd yr Ymgeiswyr i'r Is-bwyllgor y byddai'r Rheolwr Ardal yn goruchwylio'r gwaith o redeg y safle ac yn penodi gweithredwr oedd yn hunangyflogedig ac y byddai'r gweithredwr hwnnw wedyn yn cyflogi gweddill y staff oedd eu hangen ar gyfer y safle. Eglurwyd y byddai 10/15 aelod newydd o staff yn cael eu cyflogi. Eglurwyd hefyd y byddent yn gweithredu polisi her 25 ac yn ymuno â gwarchod tafarndai. Hysbysodd yr Ymgeiswyr yr Is-bwyllgor y byddai'r holl staff yn derbyn hyfforddiant helaeth ar y bar a'r tiliau, gwarchod tafarndai a pholisi her 25.
Gwnaeth y Cynghorydd Unwin sylwadau fod y sefydliad arfaethedig yn anghydnaws ag ethos Stryd Caroline. Eglurodd nad oedd, fel tafarn wlyb yn unig, yn cyd-fynd â stryd siopa, yn ogystal byddai ysmygwyr yn ymgynnull y tu allan i'r eiddo ac roedd yn bryderus ynghylch amlder glanhau y tu allan i'r eiddo. Esboniodd hefyd ei fod yn bryderus am broblem dwyn o siopa yng nghanol y dref ac y gallai'r eiddo fod yn fan cadw golwg i ddrwgweithredwyr. Anogodd yr Is-bwyllgor i ystyried y goblygiadau hirdymor yn ddifrifol a gwrthod y cais.
Penderfyniad
Wrth wneud penderfyniadau, rhaid i'r Is-bwyllgor hyrwyddo'r amcanion trwyddedu statudol ac yn arbennig, atal trosedd ac anhrefn a diogelwch y cyhoedd. Mae'r LSC wedi ystyried yr holl sylwadau perthnasol a wnaed gan yr Ymgeisydd a'r Gwrthwynebwyr. Mae'r LSC hefyd wedi cymryd i ystyriaeth bod yr Heddlu, ar ôl trafod gyda'r Ymgeisydd a chytuno ar amodau newydd ar y drwydded, bellach wedi cael eu bodloni.
Ni chymerodd yr LSC i ystyriaeth nifer o faterion a godwyd gan y gwrthwynebwyr am nad oeddent yn sylwadau perthnasol o dan y Ddeddf Drwyddedu, nodwyd bod yr holl wrthwynebwyr yn anhapus bod y cais arfaethedig am drwydded safle gwlyb ac roedd arnynt eisiau i'r ymgeiswyr ystyried gweini bwyd. Fodd bynnag mater i'r ymgeiswyr oedd p'un a oeddent am weini bwyd yn yr eiddo neu beidio ac nid oedd gan yr LSC rym i orfodi amod o'r fath.
Yn ogystal, cododd y gwrthwynebwyr hefyd y mater o ddwyn o siopau sy'n broblem gyffredin yng nghanol y dref, a chredent y byddai'r eiddo hwn yn ychwanegu at y broblem. Canfu'r LSC nad oedd tystiolaeth y byddai caniatáu trwydded ar gyfer yr eiddo hwn yn cynyddu'r broblem bresennol o ddwyn o siopau yng nghanol y dref mewn unrhyw fodd.
Nododd yr LSC hefyd fod yr holl wrthwynebwyr wedi codi’r pwynt bod yr eiddo wedi'i leoli gyferbyn â Siop Fferyllydd Boots. Dywedent y gallai hyn arwain at gwsmeriaid yn osgoi’r fferyllydd a'r troseddau posibl a allai ddilyn o hynny. Canfu'r LSC nad oedd tystiolaeth i gefnogi'r ddamcaniaeth hon a bod llawer o safleoedd trwyddedig wedi cael eu lleoli gyferbyn ac wrth ymyl siopau fferyllwyr ac nad oedd dim yn y Ddeddf Drwyddedu i atal hyn. Nodwyd hefyd nad oedd gwrthwynebiad wedi dod oddi wrth Boots yn Stryd Caroline na'u Prif Swyddfa.
Wrth ystyried yr holl wrthwynebiadau a'r sylwadau gan yr Heddlu, mae'r LSC wedi penderfynu na fyddai caniatáu trwydded yn tanseilio'r amcanion Trwyddedu, yn amodol ar yr amodau ychwanegol y cytunwyd arnynt gan yr Heddlu.
Mae'r LSC wedi penderfynu caniatáu'r Drwydded yn amodol ar yr amrywiadau a gytunwyd gyda'r Heddlu fel a ganlyn:-
“Cyffredinol
Bydd gwerthu alcohol yn dechrau am 10:00 o'r gloch.
Os bydd unrhyw ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol cydnabyddedig yn cael ei ddarlledu ar y teledu, megis Cwpan Rygbi’r Byd, Cwpan y Byd FIFA, Teithiau Llewod Prydain ac Iwerddon, ac yn y blaen sydd y tu allan i’r oriau a ganiateir ar hyn o bryd ar y Drwydded Safle, caniateir dechrau gwerthu alcohol un awr cyn yr amser gwerthu alcohol presennol. Dylid hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu a Heddlu De Cymru yn electronig am fanylion y digwyddiad o leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw.
Nid yw Digwyddiadau Bocsio ar y Teledu yn dod o dan yr amod hon.
Bydd o leiaf un deiliad trwydded bersonol ar gael tra bydd alcohol yn cael ei gyflenwi neu ei werthu yn ystod gweithgareddau o'r fath.
Trosedd ac Anhrefn
Mae 2 Oruchwyliwr Drws o leiaf i gael eu cyflogi yn yr eiddo ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul cyn G?yl y Banc a phob diwrnod o dan yr Amrywiadau Tymhorol o 21:00 tan amser cau.
Yn ôl disgresiwn Heddlu De Cymru, lle rhoddir 7 diwrnod o rybudd, ar ddiwrnodau a ystyrir yn ddigwyddiadau chwaraeon mawr, megis Gemau Rygbi Rhyngwladol y 6 Gwlad, Gemau Rhyngwladol yr Hydref, Cwpan Rygbi'r Byd, Rygbi'r Llewod Prydeinig, Cwpan Pêl-droed y Byd, Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd, caiff pob diod ei thywallt i gynwysyddion di-wydr neu blastig / polycarbonad. Yr eithriad yw pan fydd pobl yn eistedd yn bwyta pryd bwyd sylweddol, te neu goffi.
Dogfennau ategol: