Agenda item

Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn. Adolygiad Porth Prosiect HyBont

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad a’i bwrpas oedd galluogi'r Pwyllgor i graffu ar benderfyniad y Cabinet a wnaed ar 19 Medi 2023 mewn perthynas â'r adroddiad ar Adolygiad Porth Prosiect HyBont.

 

Dywedodd hi:

-        Yn unol ag Adran 7.23 o Gyfansoddiad y Cyngor, sy’n datgan bod angen 3 Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, a Chadeirydd Craffu, er mwyn i benderfyniad gael ei alw i mewn, derbyniwyd Hysbysiad Galw i Mewn gan 4 Aelod a Chadeirydd, yn gofyn am i’r penderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Cabinet ar 19 Medi 2023 gael ei Alw i Mewn.

 

-        Rôl y Pwyllgorau Craffu wrth alw penderfyniad i mewn oedd:

·       Rhoi prawf ar rinweddau’r penderfyniad;

·       Ystyried y broses a ddilynwyd i lunio'r penderfyniad;

·       Gwneud argymhellion (i gefnogi’r penderfyniad, newid agweddau ar y penderfyniad, neu wahodd y person neu’r corff a wnaeth y penderfyniad i ailystyried);

·       Awgrymu camau pellach cyn i benderfyniad gael ei wneud (ond peidio â cheisio cymryd y camau hynny yn lle’r person neu’r corff a wnaeth y penderfyniad);

·       Ffurfio barn mewn cyfnod cymharol fyr, er mwyn peidio â pheryglu cyflymder ac effeithlonrwydd y broses benderfynu.

 

-        Roedd argymhelliad yr adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried penderfyniad y Cabinet ar 19 Medi 2023, a gafodd ei Alw i Mewn, ynghylch Adolygiad Porth Prosiect HyBont a phenderfynu a oedd yn dymuno, naill ai:

 

a)     cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi yn

           ysgrifenedig natur ei bryderon;

ynteu

b)     penderfynu peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet.

 

Eglurodd y Cadeirydd pwy oedd Aelodau’r Pwyllgor a’r Aelodau nad oeddent ar y Pwyllgor oedd wedi cefnogi Galw’r Penderfyniad i Mewn.

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad am y rhesymau dros Alw i Mewn.

 

Dywedodd yr Aelodau fod y prif resymau dros Alw i Mewn yn cynnwys:

 

-        Diffyg chwilfrydedd proffesiynol, herio neu gwestiynu’r rhagdybiaethau a wnaed yn yr adroddiad.

-        Dewisiadau gwahanol heb gael eu hystyried yn yr adroddiad nac yn ystyriaethau'r Cabinet.

-        Y wybodaeth ariannol ddim yn ddigonol i fedru gwneud penderfyniad gwybodus p’un a oedd y prosiect yn dal i gynrychioli elw da ar fuddsoddiad.

-        Ni roddwyd sylw i faterion y tir.

-        Ni thrafodwyd sut y gellid adennill yr arian oedd wedi cael ei wario hyd yma nac a oedd modd edrych am gyllid arall.

-        Mae'r penderfyniad yn gwrth-ddweud Strategaeth Garbon Sero Net 2030 y Cyngor gan fod materion ariannol wedi cael eu hystyried yn bwysicach na lleihau allyriadau carbon i wrthsefyll argyfwng yr hinsawdd.

-        Roedd angen craffu ymhellach ar y penderfyniad

 

Gwahoddodd y Cadeirydd unrhyw Aelodau eraill oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad ac yna gwahoddodd unrhyw Aelodau eraill o'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau neu roi sylwadau.

 

Roedd y trafodaethau manwl rhwng Aelodau, Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn cynnwys:

-        Y diffyg cyllideb i ariannu’r diwydrwydd technegol dyladwy angenrheidiol hyd at ei gwblhau i weld a oedd y prosiect arfaethedig yn effeithiol, a oedd dichon ei gyflawni ac a fyddai’n cynhyrchu’r buddion arfaethedig.

-        Methu â rhannu costau’r diwydrwydd cyfreithiol dyladwy oherwydd mai ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn benodol yr oedd y cyngor a’i fod yn gyfreithiol freintiedig.

-        Cydbwysedd risg a gwobr ac a roddwyd ystyriaeth ddyledus i geisio deall y posibilrwydd o elw cyn tynnu'n ôl.

-        Costau posibl hydrogen ar gyfer fflyd yn y dyfodol, pwysau chwyddiant, a allai fod manteision ariannol posibl i'r prosiect ac a oedd dewis i estyn allan i awdurdodau lleol eraill.

-        Unrhyw oblygiadau i dynnu'n ôl o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a wnaed rhwng y Cyngor a phartneriaid. 

-        Eglurder nad oedd penderfyniad wedi ei wneud eto yngl?n â’r tir. 

-        I ba raddau yr ystyriwyd y gostyngiad carbon posibl a manteision posibl y rhwydwaith Gwres a chynhyrchu hydrogen yn y dyfodol.

-        Roedd y Cyngor wedi lleihau ei garbon o 40 mil tunnell (38%) o leiaf ac roedd 70% o ôl troed carbon y Cyngor yn dod o gaffael.

-        Yr amser a dreuliodd swyddogion ar y prosiect hyd yma ac effaith tynnu’n ôl ar allu Pen-y-bont ar Ogwr i barhau â phrosiectau eraill.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd eisiau gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly, gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a gadawsant y cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, wedi ystyried a oeddent yn fodlon ar yr atebion, a oeddent yn dymuno:

 

a)     Cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi’r rhesymau a’r rhesymeg dros y cais;

neu

b)     Penderfynu peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet.

 

 

PENDERFYNWYD: Yn dilyn archwilio'r penderfyniad, a chan ystyried yr uchod, penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet i'w ailystyried.

Dogfennau ategol: