Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Tîm, yr Is-adran Drwyddedu, adroddiad i benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Heddlu De Cymru i adolygu'r drwydded safle ar gyfer y safle a elwir yn Eden, 33 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr. Dosbarthwyd agenda a bwndel o bapurau cyn y cyfarfod. Heddlu De Cymru oedd yr awdurdod cyfrifol at ddibenion y cais. Zahid a Saima Rasul oedd yn meddu ar drwydded ar y cyd ar gyfer safle LP740 ac atodwyd copi yn atodiad B i'r papurau. Saima Rasul oedd y Goruchwylydd Safle Dynodedig.
Cadarnhaodd Rheolwr Tîm, yr Is-adran Drwyddedu, gyda'r ddwy ochr eu bod wedi derbyn yr wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y ddau barti. Cyflwynodd Heddlu De Cymru fwndel wedi'i rifo o Ddogfennaeth Ategol Ychwanegol 1 i Ddogfennaeth Ategol Ychwanegol 15. Cyflwynodd Mr Phipps, cynrychiolydd Deiliad y Drwydded Safle, luniau teledu cylch cyfyng, a chynllun yn dangos lleoliad y camerâu teledu cylch cyfyng. Gofynnodd a oedd y naill blaid neu'r llall yn bwriadu cyflwyno unrhyw ddeunydd ysgrifenedig ychwanegol yn y cyfarfod ac atebodd y ddau nad oedden nhw'n bwriadu gwneud hynny.
Eglurodd y Rheolwr Tîm bod y cais wedi cael hysbysiad cyhoeddus ac na chafwyd unrhyw sylwadau eraill. Amlinellwyd y camau y gallent eu cymryd yn yr adroddiad ynghyd ag adrannau perthnasol y Polisi Trwyddedu a Chanllawiau Statudol y Swyddfa Gartref.
Esboniodd y Swyddog Cyfreithiol fod yr Aelodau wedi darllen y papurau a gofyn i Swyddog Trwyddedu Heddlu De Cymru gyflwyno unrhyw bwyntiau amlwg yr oedd angen tynnu sylw atynt.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru fod sylwadau cychwynnol ar ffurf y cais i adolygu'r drwydded safle wedi'u cynnwys yn y bwndel. Roedd gwybodaeth ategol ar ffurf llythyr rhybuddio, e-byst a gwybodaeth NICE Investigate ar dudalennau 19 i 30. Yn ogystal â'r wybodaeth ategol wreiddiol ar dudalennau 19 i 30, roedd dogfennaeth ategol ychwanegol pellach ar ffurf datganiadau, e-byst a dogfennau eraill a anfonwyd ymlaen at yr is-adran drwyddedu ar ddydd Mercher 4 Hydref 2023. Eglurodd fod gan yr heddlu rwymedigaeth a dyletswydd i atal troseddu ac anhrefn ac i gadw heddwch y Brenin. Y brif flaenoriaeth ar gyfer Heddlu De Cymru oedd lleihau ac atal troseddu, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw cymunedau de Cymru’n ddiogel. Adeiladwyd holl ethos y Ddeddf Trwyddedu o gwmpas y pedwar amcan trwyddedu, atal troseddu ac anhrefn, amddiffyn plant rhag niwed, diogelwch y cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus. Roedd hyrwyddo'r amcanion trwyddedu hyn yn ystyriaeth bwysig bob amser. Er bod yr awdurdod lleol a thrwyddedu'r heddlu bob amser yn ffynhonnell cyngor a chymorth i ddeall yr holl ddeddfwriaeth, cyfrifoldeb gweithredwyr y busnes yn y pen draw oedd sicrhau bod camau yn cael eu rhoi ar waith i gydymffurfio â'r gyfraith ac i sicrhau bod amodau trwyddedu yn cael eu dilyn. Yn yr achos hwn, Deiliaid y Drwydded Safle, Mr Zahid Rasul a Mrs Saima Rasul oedd yn gyfrifol. Mrs Rasul oedd y Goruchwylydd Safle Dynodedig hefyd.
Roedd Heddlu De Cymru am adolygu'r Drwydded Safle ar gyfer Eden, 33 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd y toriadau parhaus i amodau’r teledu cylch cyfyng. Darllenodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru amodau teledu cylch cyfyng y drwydded safle i’r Aelodau, fel sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad dan "sail ar gyfer adolygiad".
Roedd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru yn gyfarwydd â gwybodaeth yn ymwneud yn benodol ag Eden, Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr a thri digwyddiad ar wahân. Darparwyd yr wybodaeth hon drwy wybodaeth gyhoeddus, adroddiadau cyhoeddus a thystiolaeth heddweision. Darllenodd y Swyddog Trwyddedu i’r panel fanylion pob digwyddiad, y diweddariadau i’r cofnod a'r ymdrechion i gael gafael ar y lluniau teledu cylch cyfyng, fel y nodir yn yr adroddiad.
O ran y digwyddiad cyntaf, roedd yr ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo ond cafodd oedi wrth gael gafael ar dystiolaeth hanfodol, fel lluniau teledu cylch cyfyng, effaith andwyol ar yr achos a'r rheini dan sylw. Roedd yr ail ddigwyddiad yn ymwneud ag ymosodiad rhywiol difrifol posib, gyda dyn ar fechnïaeth ar hyn o bryd wrth fod ymchwiliad i’r digwyddiad. Darparwyd lluniau teledu cylch cyfyng, o'r diwedd, ddydd Gwener 28 Gorffennaf 2023, rhyw 4 wythnos ar ôl y cais cyntaf ar 4 Gorffennaf 2023, fodd bynnag, roedd eu hansawdd yn wael. Gofynnwyd am luniau teledu cylch cyfyng gan Mr a Mrs Rasul sawl gwaith, cyn iddynt gael eu darparu yn y pen draw. Roedd y trydydd digwyddiad yn un o ddifrod troseddol a rhoddodd Mr Rasul wybod amdano.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru fod y methiant i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng yn doriad sylweddol a phryderus o'r Drwydded Safle. Roedd y methiant hwn wedi dangos diystyriad llwyr at atal a chanfod troseddu a'r System Cyfiawnder Troseddol yn ei chyfanrwydd. Effeithiodd hefyd ar yr amser a wastraffwyd gan swyddogion oedd yn ceisio cael gafael ar luniau teledu cylch cyfyng i ymchwilio i adroddiadau. Roedd gan hyn oblygiadau cost sylweddol ar bwrs y wlad ac nid oedd swyddogion yn gallu defnyddio eu hadnoddau gwerthfawr ar faterion eraill. Ar nodyn mwy difrifol, nid y toriadau hyn oedd yr achosion cyntaf o dorri rheolau gan ddeiliaid y drwydded.
Roedd Mr a Mrs Rasul wedi derbyn nifer o e-byst yn gofyn iddynt gydymffurfio ag amodau’r teledu cylch cyfyng ac roeddent hefyd wedi derbyn llythyr rhybudd gan yr Arolygydd PDC (Atodiad A1) a oedd wedi'i gynnwys yn y bwndel gwreiddiol, dyddiedig 16 Chwefror 2023 a'i ddosbarthu â llaw i Mr a Mrs Rasul ar 17 Chwefror 2023. Roedd yn ymddangos eu bod yn amharod i gynorthwyo Heddlu De Cymru gydag ymchwiliadau, gan gynnwys pan oeddent wedi adrodd am ddigwyddiadau a'u bod nhw eu hunain o bosib yn ddioddefwyr troseddau.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru fod gan y drwydded safle amod teledu cylch cyfyng mor gryf a chadarn eisoes felly roedd yn amhosibl ychwanegu unrhyw beth pellach a fyddai'n sicrhau bod Mr a Mrs Rasul yn darparu lluniau teledu cylch cyfyng. Elfen bryderus yr adolygiad hwn oedd bod y digwyddiadau o fethu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng, neu eu darparu mewn modd amserol, wedi digwydd ar ôl i Mr a Mrs Rasul dderbyn y llythyr rhybudd gan yr Arolygydd PDC. Derbyniwyd y llythyr rhybudd am ddigwyddiad tebyg, a oedd ymwneud â Mrs Rasul, o fethu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng. Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru fod y digwyddiad yn un o ddifrod troseddol a cham-drin hiliol. Roedd manylion y digwyddiad wedi’u cynnwys yn y ddogfennaeth ychwanegol a ddarparwyd (Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 9) ac mewn cyfres o e-byst (Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 10) (dyddiedig 13/01/2023) ac fe'u darllenwyd i'r panel. Dywedodd Mr Rasul fod ganddo deledu cylch cyfyng, a dywedodd y byddai'n rhyddhau’r lluniau ar Facebook ond methodd â darparu'r lluniau i Heddlu De Cymru, hyd yn oed ar ôl nifer o geisiadau, nes iddynt gael eu derbyn o'r diwedd gan Heddlu De Cymru ym mis Ebrill 2023.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru fod hon yn enghraifft arall o dorri amodau’r teledu cylch cyfyng lle’r oedd swyddogion wedi gofyn am luniau teledu cylch cyfyng yn barhaus, gwastraffu amser swyddogion ac ymddengys eu bod yn rhwystro ymchwiliadau. Cyfeiriodd at Ddogfennaeth Ategol Ychwanegol 13 a oedd yn manylu ar ddigwyddiadau pellach yn ymwneud â thorri amodau’r teledu cylch cyfyng. O'r manylion gellid gweld bod toriadau amlwg o ran peidio â darparu lluniau teledu cylch cyfyng, digwyddiad lle nad oedd teledu cylch cyfyng yn gwbl weithredol a digwyddiad lle dangoswyd lluniau i aelod o'r cyhoedd.
Cyfeiriodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru at un digwyddiad arall a gafodd ei gynnwys yn Nogfennaeth Ategol Ychwanegol 13, lle dangosodd y gallai diffyg cydweithredu wrth ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng olygu na fyddai’r cyflawnwr yn cael ei adnabod ac y byddai’r achos yn cael ei gau. Ychwanegodd bod gwall ar y dyddiadau ar y digwyddiad hwn ac mai 2022 oedd y flwyddyn, ac nid 2023. Darllenodd fanylion y digwyddiad i'r panel.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru y cafwyd adegau o gydymffurfio anghyson yn ystod cyfnodau byr. Arweiniodd ymddygiad y trwyddedai at ymchwiliad pellach o safbwynt adrannol, gan ei bod yn amlwg eu bod yn gallu nodi eu diffygion ond nad oeddent yn gallu parhau i gydymffurfio a chadw at yr amodau a nodwyd. Systemau teledu cylch cyfyng oedd yn ganolog i offer adnabod a ddefnyddiwyd gan y System Cyfiawnder Troseddol. Fe’u defnyddiwyd i ganfod troseddau ac adnabod troseddwyr, a hefyd i amddiffyn y rheini a gyhuddwyd ar gam a rhoi didueddrwydd eu hymchwiliad i'r heddlu. Mewn esboniad o'r broses o gael gafael ar luniau teledu cylch cyfyng, gwnaed ceisiadau am luniau teledu cylch cyfyng trwy NICE Investigate, a oedd yn ddolen a anfonwyd ar e-bost. Nid oedd yn ofynnol i eiddo brynu disgiau neu gofau bach USB, ond gallai eiddo ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng trwy eu lawrlwytho ar ddisg neu USB pe byddai’r perchennog yn dymuno.
Dywedodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru mai safbwynt yr adran oedd nad oedd esgus dros y methiant i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng. Roedd peidio â darparu lluniau teledu cylch cyfyng yn unol ag amod y drwydded yn niweidiol i ymchwiliadau o droseddau, ac roedd rhai ohonynt o natur hynod ddifrifol. Roedd hefyd yn chwarae rhan wrth ganiatáu i gyflawnwyr beidio â chael eu hadnabod. Roedd yn amlwg nad oedd gan Mr a Mrs Rasul lawer o ystyriaeth, os o gwbl, i ddiogelwch eu mynychwyr nac i ddal troseddwyr, nid oedd unrhyw ystyriaeth chwaith i'r cyfreithiau sy'n ymwneud â Deddf Trwyddedu 2003 nac amodau eu trwydded safle. Nid oedd gan Heddlu De Cymru unrhyw ddewis ond gofyn am ddirymu'r drwydded.
Gofynnodd aelod o'r panel a oedd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru o'r farn y byddai diffyg lluniau teledu cylch cyfyng yn effeithio ar ganlyniad yr achosion yr oeddent yn ymchwilio iddynt. Atebodd na allech ddadlau â rhywbeth a oedd i’w weld mewn lluniau teledu cylch cyfyng. Roedd yn adnabod unigolion ond hefyd yn diogelu'r rheini a gyhuddwyd ar gam. Ychwanegodd y Rhingyll Daniel Parry eu bod, fel heddweision, yn ymchwilwyr diduedd ac roedd y rôl roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn ei chwarae mewn didueddrwydd mor effeithiol. Ni allai bwysleisio hynny ddigon yn y gwrandawiad hwn.
Gofynnodd aelod o'r panel a oeddent yn teimlo bod llawer o amser ac adnoddau wedi'u gwastraffu yn yr amser a dreuliwyd yn mynd ar drywydd y lluniau teledu cylch cyfyng. Atebodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru, fel yn ei sylwadau, bod llawer iawn o amser swyddogion wedi’i wastraffu wrth geisio cael gafael ar y lluniau teledu cylch cyfyng yn barhaus. Nid oedd hyn yn ymwneud â swyddogion ar lawr gwlad yn unig, roedd yn cynnwys rhingylliaid ac arolygwyr ac fe gafodd effaith niweidiol enfawr ar bwrs y wlad.
Ychwanegodd y Rhingyll Myfanwy Beaumont ei fod yn effeithio ar ddioddefwyr troseddau, a hefyd unigolion a oedd ar fechnïaeth am droseddau y gallent fod wedi'u cyflawni neu nad oeddent wedi'u cyflawni. O ran peidio â chydymffurfio â'r amod teledu cylch cyfyng hwn, roedd effaith gronnol llawer ehangach ar fwy nag un neu ddau o bobl yn unig. Roedd rhai o'r troseddau hyn yn eithaf syml o ran eu natur. Ni ddylent fod yn cymryd misoedd, oherwydd na allai swyddogion gael gafael ar ddarnau syml iawn o dystiolaeth.
Ni chafwyd cwestiynau pellach. Gofynnodd Mr Matthew Phipps, y cyfreithwyr a oedd yn gweithredu ar ran Mr a Mrs Rasul, am egwyl o 2 funud.
Ailddechreuwyd y gwrandawiad am 13.30.
Cyflwynodd Mr Matthew Phipps, o gyfreithwyr TLT, ei hun a dywedodd ei fod yn gweithredu ar ran Mr a Mrs Rasul, a oedd yno gydag ef.
Esboniodd Mr Phipps fod Mr a Mrs Rasul wedi bod yn berchen ar yr eiddo ers 2015. Roedd yn lleoliad clwb nos adnabyddus ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd ganddynt fusnes cyfagos o'r enw Bar 35 yn union gerllaw’r eiddo. Roedd yn cyflogi 4 aelod o staff drws. Roedd Mr Rasul bron bob amser yn yr eiddo ac roedd Mrs Rasul yno yn rheolaidd hefyd. Roedden nhw'n cyflogi 3, 4, 5 neu chwe aelod o staff drws, yn dibynnu ar yr asesiad risg, a 2 droellwr. Yn bennaf, roedd yr eiddo’n agor i gwsmeriaid tua 10.00pm ar nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul G?yl y Banc, gan fasnachu yn unol â'r oriau gweithredu ar gyfer gweithgareddau trwyddedig. Yn gyffredinol, byddai cwsmeriaid yn cyrraedd ar ôl hanner nos ac o ran niferoedd gweithredu, roedd tua 150 o bobl yno ar nos Wener a hyd at tua 200 ar nos Sadwrn.
Cyfeiriodd Mr Phipps yr Aelodau at dudalen 3 yr agenda lle nododd nad oedd unrhyw sylwadau eraill wedi eu derbyn gan unrhyw awdurdodau cyfrifol, trigolion, cynghorwyr na'r awdurdod ei hunan. Cafodd yr achos ei grynhoi'n weddol ym mharagraff 3.3 fel methiant i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng yn unol â cheisiadau'r heddlu. Roedd nifer o weithiau pan nad oeddent wedi cyflawni mewn unrhyw ffordd i'r safon a ddisgwyliwyd. Roedd angen iddynt wella eu sefyllfa mewn perthynas â darparu lluniau teledu cylch cyfyng. Roedd yn bwysig dweud hynny o'r cychwyn cyntaf. Yn y mwyafrif o achosion, roedd methu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng yn fwy o fethiant i’w darparu cyn gynted ag y dylent fod wedi eu gwneud, nid methiant i'w darparu o gwbl. Cyfeiriodd Atodiad A yr adroddiad at 3 achos, yn bennaf, o broblem a phryder yr oedd yr heddlu wedi cymryd peth amser i'w disgrifio, un yn ymwneud â difrod troseddol, un yn ymwneud â phryder am ymddygiad rhai dynion Asiaidd yn yr eiddo ac un yn ymwneud ag ymosodiad rhywiol i ffwrdd o'r eiddo, ond awgrymodd ymchwiliadau fod yr unigolion wedi bod gyda'i gilydd yn yr eiddo.
Cyfeiriodd Mr Phipps at y digwyddiad ar 1 Gorffennaf, a nodwyd ar dudalen 10 yr adroddiad. Cymerwyd amser hir i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng, ond roedd hefyd yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod swyddogion wedi bod yn bresennol yn yr eiddo ar 21 Gorffennaf, wedi edrych ar luniau’r teledu cylch cyfyng ac wedi adrodd yn ôl mewn cysylltiad â hynny. Roedden nhw wedi bod yn bresennol yng nghwmni Mr Rasul ac wedi siarad ag ef. Roedd y methiant i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng yn anffodus, ond nid oedd y broses o ddarparu lluniau’r teledu cylch cyfyng yn syml. Yn y papurau, soniodd Mr a Mrs Rasul fod dolenni NICE wedi diflannu ac ar dudalen 30 yr adroddiad, roedd manylion am y dolenni NICE a ddarparwyd. Yn syml, roedd dolen yn para am ychydig ddyddiau’n unig ac roedd yn rhaid darparu’r lluniau yn ystod y cyfnod hwnnw. Derbyniodd yn llwyr y cyfeiriad at ymestyn y cyfnod hwnnw ar gais mewn cysylltiad ag un o'r digwyddiadau. Roedd yr eiddo ar gau ddydd Sul, dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, felly byddai ceisiadau, galwadau ffôn, presenoldeb ar lawer o'r dyddiau hynny yn cyflawni dim. Nid oedd ei gleientiaid yn rhwystrol neu'n dymuno bod yn lletchwith ynghylch darparu lluniau’r teledu cylch cyfyng.
Cyfeiriodd Mr Phipps at yr ail ddigwyddiad a oedd yn ymwneud â phryder am ddynion Asiaidd oedd yn bresennol. Codwyd hyn gyda'r Swyddogion Trwyddedu yng nghyfarfod Pubwatch ar 10 Mai. Gwnaethant egluro eu bod ganddynt rai pryderon am eu hymddygiad, nid gweithgarwch troseddol ond pryderon am eu hymddygiad. Dywedon nhw hefyd eu bod wedi edrych ar luniau’r teledu cylch cyfyng a doedd fawr ddim i'w adrodd am luniau’r teledu cylch cyfyng ond eu bod wedi mynegi eu pryderon iddyn nhw. Roedd cyfeiriad at ddolenni NICE yn dod i ben ac yn y blaen ond cafodd lluniau’r teledu cylch cyfyng eu lanlwytho, er yn ddiweddarach ystyriwyd eu bod yn annigonol.
Roedd y testun ar frig cymhwysiad yr heddlu yn destun mewnol i’r heddlu.
Roedd y mater hwn, cyn belled ag yr oeddent yn y cwestiwn, yn rhywbeth a godwyd ganddynt yn ddidwyll gyda'r swyddogion ac roedd yn iawn nad oeddent wedi cwblhau’r cais am luniau teledu cylch cyfyng, ond roeddent wedi edrych arnynt ac o’r farn nad oedd llawer i’w weld. Nid oeddent wedi cael ar ddeall bod hyn yn destun ymchwiliad i unrhyw drosedd, oherwydd eu bod wedi codi’r mater. Mae tudalen 13 yr adroddiad yn dangos bod y cais am luniau o bob camera rhwng 2.00am a 4.00am. Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynllun a'r ciplun o luniau’r teledu cylch cyfyng a ddarparwyd o fewn y papurau ychwanegol, gan roi ciplun o bob camera i bob pwrpas. Roedd atodiadau eraill a chynllun map o holl gamerâu’r teledu cylch cyfyng a lle roeddent wedi’u lleoli.
Cyfeiriodd Mr Phipps at y trydydd digwyddiad a nodwyd yn y cais, sef yr honiad o ddifrod troseddol. Nhw oedd dioddefwyr yr honiad hwnnw a darparwyd lluniau teledu cylch cyfyng, er iddo gymryd amser hir ac roeddent yn hwyr, ac er gwaethaf nifer o geisiadau. Ar yr achlysur hwn pan ddigwyddodd y digwyddiad, fe wnaethant alw'r heddlu. Gwnaethon nhw arestio'r unigolyn. Ni ddefnyddiodd y swyddogion eu cyrff, roeddent yn gwisgo camerâu eu hunain, ac roeddent o’r farn bod modd ei adnabod yn glir fel y troseddwr. Roedden nhw wedi deall ar y noson dan sylw ei fod wedi derbyn yr hyn yr oedd wedi'i wneud. Yn y cyfamser, ymwelodd swyddogion, cawsant sgwrs â nhw ac eglurodd fod y person wedi cael ei gadw’n gaeth ar y noson. Cawsant ar ddeall bod hynny'n ddigon. Yn gynharach cafwyd awgrym bod pryder am un o'r unigolion oedd yn dyst, a’i fod yn cael ei gyflogi ganddyn nhw yn ddiweddarach. Nid oedd yn gallu gweld beth oedd o'i le ar hynny. Roeddent yn amlwg yn cyflogi pobl o’r gymuned leol ac roedd pobl a oedd yn gyfarwydd â’r eiddo yn derbyn swyddi ganddynt. Nid oeddent am drafod na mynd ar drywydd hyn, a dylent fod wedi dweud wrth yr heddlu yn gynharach nad oeddent am fynd ar drywydd hyn. Fe'i cyfeiriwyd at yr eiddo ac yn y pen draw Mr a Mrs Rasul, ac ni ddylid eu defnyddio fel rhan o'r cais sy'n ceisio dirymu'r drwydded, yn enwedig pan ddarparwyd lluniau’r teledu cylch cyfyng, er eu bod yn hwyr.
Eglurodd Mr Phipps fod y cais ar dudalen 17 yr adroddiad yn cyfeirio at wrthod dau hysbysiad digwyddiad dros dro, un ar gyfer Rhagfyr 2021 ac un ar gyfer 28 Mawrth 2023. Nid oeddent yn credu bod hyn yn ymwneud â'r eiddo hwn ond, yn hytrach, â rhif 35, eu heiddo arall. Nid oedd yn gallu deall pam fod hynny wedi ei gynnwys yn y papurau. O ran y deunydd ychwanegol a gyflwynwyd y prynhawn blaenorol, cwestiynodd gyfreithlondeb y deunydd hwnnw ac i’r graddau y gallent ddibynnu ar y deunydd ychwanegol hwnnw, a oedd â gwallau teipio am y flwyddyn y digwyddodd y digwyddiad. O ran y llythyr rhybudd, roedden nhw'n cydnabod nad oedden nhw wedi ymdrin â’r mater yn iawn. Cafodd lluniau’r teledu cylch cyfyng a ddarparwyd mewn cysylltiad â hyn eu darparu cyn i’r llythyr gael ei lofnodi, er eu bod yn derbyn eu bod wedi'u darparu'n ddiweddarach eto. Nid oeddent wedi bod yn bresennol yn y cyfarfodydd Pubwatch am gyfnod ond ers mis Chwefror roeddent wedi bod yn bresennol. Roedd y llythyr rhybudd yn nodi rhai pryderon yn deg. Roeddent wedi methu â sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â rhestr Pubwatch Pen-y-bont ar Ogwr o bobl a oedd wedi’u gwahardd. Ers hynny, roedd ffotograffau wedi'u darparu a'u harddangos yn effeithiol wrth y drws fel y gallai staff fod yn ymwybodol o bwy oedd wedi’u gwahardd. Ymyrrodd GDPR a nawr darparwyd ap a deunyddiau. Roedd yn derbyn nad oedd y staff wedi bod yn dda wrth wneud hyn yn y gorffennol. Roedden nhw wedi gwella erbyn hyn ac roedden nhw mewn cyflwr da ers y llythyr rhybudd.
Cyfeiriodd Mr Phipps at amod y teledu cylch cyfyng ar dudalen 35 yr adroddiad sef ffocws sylw'r heddlu. Mae'r amod yn nodi bod angen iddyn nhw allu lawrlwytho recordiadau teledu cylch cyfyng mewn fformat y gellir ei recordio, naill ai i ddisg neu USB. Nid oedd unrhyw gyfeiriad at brotocol adrodd NICE. Os awgrymwyd bod yr amod yn cael ei dorri, yna dylai swyddogion/cyfreithwyr ailystyried yr amod hwnnw. Dylai hefyd fod ar gael ar alw cyfreithiol wrth ymchwilio i drosedd. Gofynnodd i'r panel fyfyrio ar hyn, yn enwedig mewn perthynas â'r ail ddigwyddiad lle'r oedd pryderon am ymddygiad y dynion Asiaidd ac a oeddent yn ymddwyn yn briodol. O ran yr amodau eraill a oedd yn rheoli'r amcanion trwyddedu, ar wahân i’r teledu cylch cyfyng, nid oedd dim yn y dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod unrhyw un o'r amodau hynny'n cael eu torri, eu tanseilio neu heb eu bodloni neu na chydymffurfiwyd â nhw.
Esboniodd Mr Phipps fod dau Swyddog Trwyddedu wedi archwilio'r eiddo ar 22 Mehefin. Gofynnon nhw i rai hysbysiadau gael eu disodli ac ar wahân i hynny dywedwyd nad oedd dim o'i le ar yr eiddo. O ran y cais am luniau teledu cylch cyfyng, cafodd y cais hwn ei wneud naw wythnos yn ôl ac ni chafwyd unrhyw awgrym bod methiant wedi bod i gydymffurfio â cheisiadau am luniau teledu cylch cyfyng yn y cyfnod ymyrryd hwnnw. Ni chafwyd unrhyw geisiadau am luniau teledu cylch cyfyng yn y cyfnod hwnnw o naw wythnos ac roedd hyn yn adlewyrchu sut roedd yr eiddo'n gweithredu. Ychwanegodd eu bod wedi cael ceisiadau am luniau teledu cylch cyfyng ar yr 22 o Ionawr, a gyflwynwyd ar 28 Ionawr, 31 Mawrth a gyflwynwyd ar 5 Ebrill, 23 Ebrill a gyflwynwyd ar 5 Mai, 30 Ebrill a gyflwynwyd ar 9 Mai, 18 Mehefin a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf, 15 Gorffennaf a gyflwynwyd ar yr un diwrnod, felly roeddent yn gallu cyflawni hyn. Roedd derbyn adolygiad yn gwneud iddyn nhw bwyso a mesur ac ystyried a oedden nhw'n gwneud popeth y dylen nhw fod yn ei wneud. Roedd yr eiddo yn haeddu cael adolygiad, ar ôl cael rhybuddion a methu. Ar ôl myfyrio ar eu gallu i gyflawni, roeddent wedi cyflwyno nifer o welliannau. Roedd y system teledu cylch cyfyng wedi cael ei gwasanaethu, ei hatgyweirio ac roedd y cynlluniau a oedd yn darparu'r delweddau a safle'r 19 camera yn dangos bod hon yn system gynhwysfawr. Derbyniodd aelodau'r tîm, Mr a Mrs Rasul, eu dau fab a'u merch, hyfforddiant. Un o'r problemau a wynebwyd ganddynt oedd pan roedd pobl i ffwrdd, yna ni chafodd sylw gan unrhyw un oherwydd nad oedd digon o bobl yn gallu cael mynediad at y system a darparu'r deunydd. Roedd sut i lanlwytho lluniau i'r system trwy’r ddolen hefyd wedi bod yn rhan o drafodaethau er nad oeddent wedi cael cyfle i roi hynny ar waith yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd allweddi ychwanegol wedi'u darparu i bawb fel y gallai unrhyw un ohonynt gael mynediad at yr eiddo ar unrhyw adeg. Roeddent yn credu ei bod yn system dda sy'n addas at y diben.
Dywedodd Mr Phipps, o ran y deunyddiau ychwanegol a ddarparwyd y prynhawn blaenorol gan yr heddlu, er eu bod yn gwbl gyfreithiol, ei bod yn eironig bod deunyddiau'n cael eu darparu naw wythnos ar ôl i'r cais adolygu gael ei wneud, y prynhawn cyn y gwrandawiad trwyddedu. Roedd yn ymddangos bod Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 15 yn crwydro i feysydd newydd nad oeddent wedi'u hymgorffori o fewn y cais ei hun. Roedd yn ymddangos fel rhestr o ddigwyddiadau a phroblemau yn yr eiddo trwy gydol 2023. Roedd hon yn ddogfen grynhoi a luniwyd gan yr heddlu heb unrhyw adroddiadau CAD neu NICE yn cael eu darparu. Saith o'r digwyddiadau hyn yn unig a oedd yn cyfeirio at Eden a darparodd y dyddiadau, 24 Medi, 9 Medi, 15 Gorffennaf, 29 Ebrill, 1 Ebrill, 26 Chwefror, 22 Ionawr. Nid oedd yn glir a oedd y rhain yn ymwneud ag Eden gan mai Eden oedd y man galw yn y rhan honno o'r dref wrth adrodd neu gofnodi mater. Holodd i ba raddau y gellid dibynnu ar y deunydd hwyr wrth wneud eu penderfyniad. Roedd nifer o ddigwyddiadau yn portreadu’r eiddo fel un oedd yn cael ei gynnal mewn modd cyfrifol, tryloyw sy'n hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau lle daethpwyd o hyd i gyffuriau wrth y drws. Roedd y person wedi cael ei gadw’n gaeth, galwyd yr heddlu, ymdriniwyd â'r unigolyn ar 24 Medi lle'r oedd yr heddlu yn rhan o’r digwyddiad ac roedden nhw hefyd yn rhan ohono. Roedd hynny'n dangos nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i'w guddio. Roeddent yn ymgysylltu â'r swyddogion yn unol â phrotocol da Pubwatch. Roedd y ddogfen hon yn portreadu'r eiddo mewn modd gwahanol iawn i'r un yr oeddent wedi'i glywed y bore hwnnw. Gofynnodd a oedd yn gasgliad teg bod yr eiddo’n cael ei gynnal mewn ffordd anobeithiol ac yn tanseilio'r amcanion trwyddedu. Roedd angen iddynt wella mewn maes penodol ond nid oeddent mewn sefyllfa y gellid ei disgrifio fel ‘diwedd y ffordd’ a oedd yn haeddu bod y drwydded yn cael ei dirymu a Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 15 oedd y dystiolaeth orau o hynny.
Ychwanegodd Mr Phipps bod cyfeiriad at rai o'r methiannau yn y papurau a ddarparwyd y prynhawn blaenorol. Roedd rhywfaint o hyn yn 2022, flwyddyn yn ôl. Roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn cael eu hanfon, eu lanlwytho, eu derbyn ac yn y blaen. Y pwynt arall i'w wneud am y cyfnod ers yr adolygiad oedd y byddai'r eiddo wedi cael ei fonitro'n ofalus, yn ystod y cyfnod ymgynghori a'r amser ers i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Nid oedd unrhyw dystiolaeth eu bod wedi parhau i fethu. Nid oedd unrhyw beth i awgrymu nad oedd yr eiddo mewn cyflwr da. Dywedodd y canllawiau cenedlaethol y dylid annog ac adolygu cydweithredu ar lefel leol wrth hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, ac na ddylid eu defnyddio i danseilio'r cydweithrediad hwn. Roedd defnyddio Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 15, fel modd o awgrymu nad oedd yr eiddo mewn cyflwr da, ar wahân i’r mater hwn, yn annheg. Nid oedd yn ymwybodol o unrhyw gyfeiriad at ddirymu cyn dechrau'r gwrandawiad y diwrnod hwnnw. Roedd dirymu yn golygu nad oedd unrhyw beth am weithrediad yr eiddo y gellid ei unioni. Roedd hynny'n cynnwys canlyniadau fel colli swyddi, colli lleoliad adloniant, cau'r busnes, ac ati. Nid oedd adolygiadau yn ymwneud â chosb, ac nid oeddent yn y llys yn cael eu herlyn. Byddai'n anodd gweld sut y gellid eu herlyn gan nad oedd yr amod wedi'i eirio mor gynnil ag y dylai fod. Roedden nhw'n cydnabod bod pwyntiau dilys wedi eu gwneud ond roedd yr hyn a wnaed cais amdano yn gosb am fethiannau blaenorol. Roeddent yn gyfrifol am ddod o hyd i ddatrysiad i helpu i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yn yr eiddo hwn a datrys mater y teledu cylch cyfyng oedd y pwynt amlwg. Gyda pharch, nid oedd trwyddedau’n cael eu dirymu am hynny. Roeddent yn cael eu dirymu am y methiannau mwyaf eithriadol, lle’r oedd canlyniad sylweddol iawn, nid am ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng yn hwyr neu’n gymedrol.
Gofynnodd aelod o'r panel a oedd yn briodol bod yn rhaid i'r heddlu aros bron hyd at wythnos am dystiolaeth, yn enwedig os oedd trosedd ddifrifol wedi'i chyflawni ar nos Sadwrn, oherwydd bod y safle ar gau ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Atebodd Mr Phipps nad oedd yn briodol a'i fod am roi esboniad pam mae’r eiddo ar gau.
Gofynnodd aelod o’r panel a oedden nhw wedi mynd i'r afael â'r oedi wrth ddarparu’r lluniau teledu cylch cyfyng i'r heddlu pan ofynnwyd amdano? Atebodd Mr Phipps ei fod yn eironig nad oedden nhw wedi cael cais am unrhyw luniau teledu cylch cyfyng yn ystod y naw wythnos diwethaf. Roedd angen iddynt fod yn barod, pe gofynnwyd am luniau teledu cylch cyfyng, y byddent yn gallu dangos eu bod yn gallu cyflawni i'r safon angenrheidiol. O ran yr hyfforddiant ychwanegol, gwasanaethu'r system, ail-leoli'r camera i sicrhau bod trefn ar yr eiddo cyfan, yr allweddi ychwanegol i gynorthwyo gyda chloi’r eiddo, yr hyfforddiant ar y cof bach USB, y ddeialog a'r drafodaeth a gawsant am lanlwytho NICE, nad oeddent wedi gallu ei wneud yn ymarferol oherwydd nad oeddent wedi cael cais.
Gofynnodd y Cadeirydd pam y cyflwynwyd rhywfaint o’r lluniau teledu cylch cyfyng yn syth ond roedd eraill yn cymryd wythnosau i’w cyflwyno a gofynnodd pam nad oedd yn arfer safonol? Atebodd Mr Phipps y dylai fod yn arfer safonol ond ambell waith nad oedd modd cyflawni hynny, oherwydd patrymau gwaith neu wyliau, maint y lluniau teledu cylch cyfyng y gofynnwyd amdanynt, boed yn 19 camera am ddwy awr neu’n glip i ddangos rhywun oedd yn bresennol neu nad oedd yn bresennol yn yr eiddo, y pwynt sylfaenol oedd bod yn rhaid iddyn nhw allu ei wneud yn gyson, dro ar ôl tro.
Ychwanegodd Mr Rasul fod hynny'n hollol gywir. Roedden nhw wedi ei wneud dro ar ôl tro ond y tro hwn, roeddent wedi methu. Roedden nhw wedi rhoi trefn ar bethau erbyn hyn. Yn anffodus, yn ystod y naw wythnos diwethaf, nid oeddent wedi cael cyfle i brofi hynny. Roedden nhw wedi bod yn yr eiddo ers 2015 a dim ond nawr roedden nhw wedi methu. Nid oeddent erioed wedi bod yn y sefyllfa honno ac ni fyddent yn methu eto.
Gwnaeth Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru rai sylwadau. Roedden nhw wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen ar ôl derbyn y llythyr rhybudd ym mis Chwefror 2023. Cydymffurfiodd Mr a Mrs Rasul hyd at fis Mai a nawr roedden nhw nôl yn yr un sefyllfa eto. Fel y nodwyd yn ei hadroddiad, roedd y toriadau hyn wedi bod yn digwydd yn barhaus. Roedd ei hadroddiad ond yn mynd yn ôl i fis Ionawr 2022, ond gallech weld yn gyson o fis Ionawr y llynedd, roedden nhw wedi cael yr un problemau. O ran y ddolen NICE, gosodwyd y dyddiad dod i ben gan swyddogion. Gallai bara wythnos neu ddwy gan y gallai'r swyddog fewnosod y dyddiad. Roedd swyddogion yn gwybod bod yr eiddo ar gau yn ystod yr wythnos a byddent yn ymestyn y ddolen olaf a anfonwyd yn aml. Roedd yn hawdd ei ymestyn a gellid ei wneud trwy alwad ffôn.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru y codwyd y mater a oedd yn ymwneud â’r g?yn yn erbyn y dynion Asiaidd yng nghyfarfod Pubwatch, ond gwnaed y gwyn gan aelod o'r cyhoedd. Nodwyd yr alwad a ddaeth i mewn ar y ffurflen gais. Cafodd ei drafod a chododd Mr a Mrs Rasul y mater hefyd. Gwnaed y g?yn gan ferched ifanc oedd yn bresennol yn y clwb. O ran yr wybodaeth yn ymwneud â'r hysbysiadau digwyddiad dros dro, roedd yr wybodaeth ar gyfer rhif 35 ond roedd pawb yn gwybod y cynhaliwyd 33 a 35 yn Eden. Fe'u cynhaliwyd fel un ac roedd modd cael mynediad yn ôl ac ymlaen trwy'r un ardal smygu i 35. Cofnodwyd yr holl ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn erbyn Eden. Os edrychwch chi ar yr adroddiad gan yr heddlu, roedd yn edrych fel na ddigwyddodd unrhyw beth yn 35 oherwydd ei fod yn cael ei adnabod fel Eden. Roedd gan rif 35 ardal smygu yn y cefn ond nid oedd modd cael mynediad iddo drwy rif 33 ond nododd digwyddiadau yn yr ardal smygu mai Eden ydoedd. Dyna oedd y rheswm dros gynnwys yr wybodaeth hysbysiad digwyddiad dros dro.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru, o ran amodau’r teledu cylch cyfyng, fod gan Mr Rasul drwydded o 2015. Nid oedd NICE Investigate yn bodoli 2015 ac, yn wreiddiol, dim ond drwy USB neu ddisg y gellid darparu lluniau teledu cylch cyfyng. Nid oedd yn ymarferol i'r awdurdod lleol newid pob trwydded ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddiweddaru eu hamod teledu cylch cyfyng i gynnwys dolenni NICE. Roedd dolenni NICE wedi bod ar waith ers dechrau'r llynedd fel y gwelir mewn digwyddiadau eraill. O ran dosbarthiad hwyr yr wybodaeth ychwanegol, yn anffodus, oherwydd rhesymau gweithredol a phrinder staff ar hyn o bryd, roeddent yn un swyddog trwyddedu yn brin ac roedd wedi bod yn amhosibl cael gafael ar yr wybodaeth honno’n gynt. Roedd cael gafael arni erbyn ddoe wedi bod yn frwydr. Yn amlwg roedd dyletswyddau dyddiol ganddynt i'w cwblhau, ar wahân i wneud yr adolygiad hwn. Roedd Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 15 yno i ddangos eu bod yn ddiduedd. Doedden nhw ddim yn cuddio unrhyw beth. Roedd y 36 digwyddiad hynny yn gysylltiedig ag Eden. Roedd hanner cant o ddigwyddiadau’n nodi cyfeiriad Eden ac roedd hi wedi eu gwirio'n unigol i sicrhau eu bod yn gysylltiedig, a oedd yn ychwanegu at yr oedi. Roedd pedwar ar ddeg ohonynt nad oedd ganddynt gysylltiad uniongyrchol ac nid oeddent wedi'u cynnwys. O'r 36, dim ond pedwar o'r digwyddiadau hynny ddigwyddodd cyn hanner nos. Os oedd Mr Rasul yn methu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng, yna roedd ganddyn nhw bryderon bod yr eiddo ar agor pan oedd yn prysuro a phryd roedd y digwyddiadau hyn yn digwydd. Roedd hyn wedi bod yn digwydd ers amser maith ac roedden nhw wedi ceisio gweithio gyda Mr a Mrs Rasul ar ffurf e-byst a rhybuddion. Byddent yn cydymffurfio am gyfnod yna byddent yn disgyn yn ôl i'r un hen drefn. Roedd yn ymddangos eu bod yn dewis a dethol pa luniau teledu cylch cyfyng y byddent yn eu hanfon ac na fyddent yn eu hanfon. Dyna oedd ei sylw fel Swyddog Trwyddedu.
Atebodd Mr Phipps fod y cyfaddefiad bod yr wybodaeth a oedd yn gynwysedig yn y papurau yn ymwneud ag eiddo trwyddedig gwahanol, gyda thrwydded safle ar wahân a deiliad trwydded safle ar wahân yn eithriadol. Roedd yn disgwyl i'r sylw am yr hysbysiad digwyddiad dros dro gynnwys ymddiheuriad, a’i fod yn anghywir. Awgrymodd fod y dystiolaeth wedi’i llygru ac y gallai nifer o'r digwyddiadau hyn fod wedi digwydd mewn eiddo trwyddedig gwahanol. Dylid gwneud penderfyniad am bob cais yn ôl ei rinweddau unigol. Roedd angen trin y dystiolaeth hwyr yn ofalus, oherwydd trwy gyfaddefiad y swyddog ei hun, nid oeddent wedi gwahaniaethu rhwng hyn ac eiddo trwyddedig arall nad oedd, cyn hynny, yn destun adolygiad trwyddedu.
O ran derbyn bod yr amodau hyn wedi bod ar waith ers tro ac nad oeddent yn cynnwys adroddiad NICE Investigate, nid oedd hynny'n golygu, trwy fethu â darparu NICE, eich bod yn torri hyn os nad oedd yr amodau wedi'u newid. Gellid gwahodd eiddo i wneud mân amrywiad a diwygio'r amod yn unol â'r meddylfryd presennol. Sefydlwyd y weithdrefn mân amrywiad at y diben hwn.
O ran amseru'r wybodaeth ychwanegol, roedd Mr Phipps yn parchu'r pwynt am adnoddau ond roedd Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 14 wedi'i dyddio 22 Medi, nid oedd Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 7 wedi'i dyddio, nid oedd Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 6 wedi'i dyddio ac nid oeddent mewn fformat datganiad. Nid oeddent wedi’u llofnodi ac roeddent yn ddogfennau Word gyda thestun. Cyfeiriwyd at ddatganiadau’r tystion, ond ni dderbyniodd hwy fel datganiadau tystion ac nid oedd y tystion yno. Derbyniodd fod Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 15 wedi'i llunio i ddangos niwtraliaeth a gwrthrychedd y swyddogion, ond nid oedd yn egluro pam y gwnaed cais am ddirymu. Roedd yn amlwg o'r ddogfen honno bod yr eiddo'n gweithio ar draws amrywiaeth o'r amcanion trwyddedu a'r problemau a wynebwyd yn economi'r nos mewn modd cwbl briodol, tryloyw a rhagweithiol. Roedd angen cerydd difrifol ar yr eiddo hwn, ac roedd yr adolygiad hwn wedi achosi iddynt fyfyrio. Roedd yr adolygiad ei hun, gwasanaeth y gwaith papur, wedi hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Nid diben y panel oedd cosbi, roeddent yn gyfrifol am ddod o hyd i'r ffordd orau o hyrwyddo'r amcan trwyddedu a dyna oedd yr ymagwedd briodol.
Eglurodd y Rhingyll Daniel Parry nad oedden nhw yno i adolygu diffygion. Daethon nhw i adolygu'r hyn roedden nhw'n ei gredu, o ran yr heddlu, oedd yn doriad difrifol i'r Ddeddf Trwyddedu. Fel gwasanaeth yr heddlu, roedd hwn yn gyfle i anfon neges glir na fyddai lefel y toriad yn cael ei oddef, i roi sicrwydd a diogelwch i'w cymunedau ac yn enwedig dioddefwyr trosedd mwyaf agored i niwed. Roedd yna hefyd gyflawnwyr honedig, felly roedd yn ymwneud â demograffig llawn y cyhoedd. O safbwynt yr heddlu, diystyrwyd y System Cyfiawnder Troseddol a'r Ddeddf Trwyddedu yn llwyr a'r dewis a dethol o’r modd y darparwyd lluniau teledu cylch cyfyng. Fel gwasanaeth heddlu, roedden nhw wedi ceisio ymgysylltu â'r unigolion ond roedden nhw wedi methu ag ymateb ar sawl achlysur. Pan edrychwyd arnynt at ei gilydd, gwnaeth swyddogion heddlu o bob rhan o'r gymuned leol, gan gynnwys swyddogion ymateb, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, swyddogion a ditectifs yr Adran Ymchwilio i Droseddu ac yna'r Tîm Trwyddedu yn ei gyfanrwydd, ddangos tueddiad yr unigolion dros dorri'r Ddeddf Drwyddedu.
Dywedodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru, fel yn y dystiolaeth a gyflwynwyd a oedd yn cynrychioli Heddlu De Cymru, y byddai’n esgeulus peidio â dod â'r adolygiad hwn gerbron y panel i ofyn am ddirymu'r drwydded safle ar gyfer Eden, 33 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr.
Credai Heddlu De Cymru bod gofyn am ddirymu'r drwydded safle ar gyfer Eden yn gymesur ac yn iawn, fodd bynnag, os nad oedd y panel yn teimlo ei bod yn briodol, gofynnodd Heddlu De Cymru i'r oriau masnachu gael eu lleihau i hanner nos. Fel y nodir yn Nogfennaeth Ategol Ychwanegol 15, roedd 32 o’r 36 o ddigwyddiadau perthnasol a oedd yn gysylltiedig ag Eden ers dechrau 2023, wedi digwydd ar ôl hanner nos.
Eglurodd Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru bod dyletswydd ar Ddeiliaid y Drwydded Safle, Mr a Mrs Rasul, i gynnal pedwar amcan y drwydded ac i gadw at amodau'r drwydded ar gyfer Eden. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth a ddarparwyd nad oedd Mr a Mrs Rasul yn cyflawni eu dyletswyddau fel deiliaid y drwydded. Nid y toriadau hyn oedd yr achosion cyntaf o dorri rheolau gan ddeiliaid y drwydded. Roedd Mr a Mrs Rasul wedi derbyn nifer o e-byst yn gofyn iddynt gydymffurfio ag amodau’r teledu cylch cyfyng ac roeddent hefyd wedi derbyn llythyr rhybudd, ond eto roeddent yn amharod i gynorthwyo Heddlu De Cymru gydag ymchwiliadau, gan gynnwys pan oeddent wedi adrodd am ddigwyddiadau lle roeddent eu hunain o bosib yn ddioddefwyr troseddau. Mewn cyfnod o lai na deufis (8 Mai i 1 Gorffennaf 2023), cafwyd tri achlysur gwahanol lle bu methiant sylweddol wrth ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng pan ofynnwyd amdanynt. Roedd gan y drwydded safle eisoes amod teledu cylch cyfyng mor gryf a chadarn felly roedd yn amhosibl ychwanegu unrhyw beth pellach a fyddai'n sicrhau bod Mr a Mrs Rasul yn darparu lluniau teledu cylch cyfyng. Roedd y methiant i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng yn doriad sylweddol a phryderus o'r Drwydded Safle. Roedd y methiant hwn wedi dangos diystyriad llwyr at atal a chanfod troseddu a'r System Cyfiawnder Troseddol yn ei chyfanrwydd. Nid yn unig hyn, ond roedd hefyd yn effeithio ar yr amser a wastraffwyd gan swyddogion oedd yn ceisio cael gafael ar luniau teledu cylch cyfyng i ymchwilio i adroddiadau. Roedd gan hyn oblygiadau cost sylweddol ar bwrs y wlad ac ymhellach, arweiniodd at swyddogion yn methu â defnyddio eu hadnoddau gwerthfawr ar faterion eraill. Fel y soniwyd yn flaenorol, roedd Heddlu De Cymru o'r farn ei bod yn iawn bod y drwydded safle ar gyfer Eden, 33 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei dirymu.
Atebodd Mr Phipps, o ran sylwadau'r swyddog cyntaf, nad ymchwiliad troseddol oedd hwn. O ran sylwadau Swyddog Trwyddedu Heddlu De Cymru, cyflwynwyd hyn oherwydd y methiant i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng mewn modd amserol. Derbyniodd y pwynt yn llwyr ei bod yn bryd adolygu'r drwydded safle hon ond nid oedd yr awgrym o ddirymu yn ollyngiad cymesur yn seiliedig ar y dystiolaeth o'u blaenau. Yn ei sylwadau cloi, cyfeiriodd at ddiystyrwch llwyr o'r amcanion trwyddedu. Nid oedd cyflwyniad afreolus ac anghyson o luniau'r teledu cylch cyfyng yn ddiystyrwch llwyr. Os edrychwyd ar bob un pwynt yn erbyn y trwyddedeion, roedd yn siomedig iawn ond nid oedd yn ddiystyrwch llwyr. Dangosodd Dogfennaeth Ategol Ychwanegol 15 eu bod wedi cadw unigolyn yn gaeth ac fe’i arestiwyd yn ddiweddar ac ni ellid dweud bod hynny'n ddiystyrwch llwyr.
Roedd Swyddog Trwyddedu Heddlu De Cymru wedi dweud pe na bai'r panel yn bwriadu cefnogi dirymu, y bydden nhw'n gofyn am leihau'r oriau i hanner nos, a oedd yn gais newydd. Os edrychon nhw ar broffil y digwyddiad, digwyddodd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau ar ôl hanner nos. Roedd hynny oherwydd bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn yr eiddo ar ôl hanner nos, gan ei fod yn glwb nos. Roedd gan dafarndai oriau hwy dan drwyddedu ac yn gyffredinol roedd gan lawer o dafarndai’n cau am hanner nos. Roedd yr eiddo'n brysur o hanner nos felly byddai gorffen am hanner nos yn golygu eu bod yn gweithredu rhwng 10 a hanner nos ar nos Wener a nos Sadwrn, 2 awr bob nos. Roedd realiti masnachol hynny yn gwbl anghynaliadwy, felly roedd yn cyfateb i ddirymu. Nid oedd y swyddogion wedi rhoi unrhyw dystiolaeth na dadansoddiad o unrhyw arwyddocâd, oni bai am yr amserlen grynhoi o ddigwyddiadau nad oeddent yn cyfeirio at yr eiddo. Roedd y swyddog wedi dweud wrthyn nhw y gallai’r dystiolaeth fod wedi’i llygru gan ddigwyddiadau mewn eiddo neu gyfeiriadau eraill at Eden oherwydd mai dyna'r ffordd y cyfeiriodd pobl ato yn y rhan honno o'r dref. Byddai cau am hanner nos yn ddiwedd arnynt ac nid oedd hynny'n ffordd deg o ymdrin â’r mater hwn. Roedd y 3 digwyddiad cyntaf ar Ddogfennaeth Ategol Ychwanegol 15 yn cyfeirio at staff Eden yn dal pobl â chyffuriau ac yn ffonio'r heddlu ar ôl 3am. Roeddent yn gwneud popeth a ofynnwyd ganddynt yng nghyfarfodydd Pubwatch ac i helpu i atal cyffuriau ac ni ddylai hynny fod y sail i leihau oriau’r eiddo hwn. Ni fwriedir i adolygiadau gael eu defnyddio i yrru’r awdurdodau cyfrifol a'r trwyddedeion ar wahân a dyna'n union y byddai hyn yn ei wneud. Yr awgrym oedd y dylid lleihau’r oriau yn seiliedig ar rywfaint o ddadansoddiad yn sylwadau cloi ar Ddogfennaeth Ategol Ychwanegol 15, a gyflwynwyd am 3pm brynhawn ddoe. Gofynnodd i'r panel fod yn ofalus iawn wrth ddibynnu ar y deunydd hwnnw i raddau helaeth.
Rhaid i’r Is-bwyllgor, wrth wneud penderfyniadau, hyrwyddo’r amcanion trwyddedu statudol ac, yn benodol, atal trosedd ac anhrefn a diogelwch y cyhoedd. Mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried Deddf Trwyddedu 2003, y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf a datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor.
Mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu bod deiliaid trwydded wedi torri amodau eu trwydded sy'n ymwneud â CCTV sydd wedi tanseilio atal trosedd ac anhrefn a diogelwch y cyhoedd.
Mae'r Is-bwyllgor wedi clywed bod Mr a Mrs Rasul wedi derbyn nad oedd eu hymddygiad yr hyn a ddisgwylir ganddynt fel deiliaid trwydded ond eu bod wedi rhoi sawl mater ar waith i unioni’r sefyllfa fel ailwampio'r camerâu a rhoi hyfforddiant ar waith i'r teulu ar lawrlwytho'r delweddau. Fodd bynnag, mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i sicrhau cydymffurfiaeth â'r amod trwyddedu a'r amcanion trwyddedu.
Mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu bod yn rhaid hyfforddi pob aelod o staff yn y fangre i lawrlwytho'r delweddau CCTV, fel pe bai’r Heddlu yn mynychu'r fangre a’u bod angen y ffilm, bod pob aelod o staff yn gallu eu darparu ar gais. Rhaid i ddeiliad trwydded y fangre lunio cofnod sy'n cynnwys enwau'r holl aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi a rhaid ei gyflwyno i Adran Drwyddedu'r Cyngor ac adran Drwyddedu'r Heddlu cyn i'r cyfnod o 14 diwrnod fynd heibio.
Mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu y byddant yn atal y Drwydded am gyfnod o 14 diwrnod i sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu hyfforddi ar lawrlwytho'r delweddau yn ystod y cyfnod hwnnw a bod cofnod yr hyfforddiant ac enwau’r staff sydd wedi'u hyfforddi yn cael eu cyflwyno i'r Heddlu ac Adran Drwyddedu'r Cyngor. Hefyd, yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i ddeiliaid y drwydded gyflwyno enwau pob aelod o staff sydd ag allweddi i'r fangre a rhoi'r rhestr honno i'r Heddlu ac Adran Drwyddedu'r Cyngor.
Mae'r Is-bwyllgor hefyd wedi penderfynu bod yr amod CCTV ar y Drwydded angen ei ddiwygio i sicrhau bod yr amcanion trwyddedu yn cael eu cyflawni, a bod yr amod yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn: -
Bydd CCTV yn cael ei ddarparu ar ffurf system recordio sy'n gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ac sy’n caniatáu adnabod wynebau. Bydd camerâu ar bob mynedfa ac allanfa yn y fangre, gan gynnwys allanfeydd tân a phob rhan, ac eithrio'r toiledau, y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt. Bydd yr offer yn cael ei gadw mewn cyflwr gweithredol da. Bydd y System yn recordio'n barhaus tra bod y fangre ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy a thrwy’r adeg pan fydd cwsmeriaid yn bresennol. Bydd recordiadau yn cael eu hamseru a'u cadw am gyfnod o 28 diwrnod a byddant yn cael eu rhoi i swyddog heddlu o fewn 72 awr o gael cais cyfreithlon. Bydd goruchwylydd dynodedig y fangre yn sicrhau bod rhaid i bob aelod o staff ar ddyletswydd, ar unrhyw adeg, fod wedi’i hyfforddi i ddefnyddio'r offer CCTV a gallu cynhyrchu recordiadau mewn fformat y gellir eu trosglwyddo naill ai i USB neu ddisg neu drwy system NICE a ddefnyddir gan Heddlu De Cymru, ar gais cyfreithlon gan swyddog heddlu neu swyddog Awdurdod Lleol. Bydd y fangre hefyd yn cadw cofnod sy'n cynnwys enwau'r aelodau staff sydd wedi cael eu hyfforddi i lawrlwytho'r system CCTV ynghyd â'r dyddiad y cafodd y staff eu hyfforddi. Rhaid i bob aelod o staff newydd gael ei hyfforddi o fewn 21 diwrnod i ddechrau gweithio yn y fangre. Bydd yr offer recordio yn cael ei gadw mewn amgylchedd diogel o dan reolaeth y goruchwylydd dynodedig neu unigolyn cyfrifol arall a enwir. Bydd log dyddiol gweithredol yn cael ei gadw i nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd unrhyw fethiannau gyda'r system bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd i gywiro methiannau o'r fath ac yn cael eu cofnodi. Os bydd methiant technegol yn yr offer CCTV bydd y goruchwylydd dynodedig yn rhoi gwybod i’r Heddlu am fethiannau o'r fath.
Dogfennau ategol: