Agenda item

Diweddariad ar Brosiect Cronfa Ffyniant Bro Pafiliwn y Grand, Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad a oedd yn:

 

  • Diweddaru'r Cabinet ar y cynnydd a wnaed a'r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â dylunio, caffael a rhaglen prosiect Pafiliwn y Grand Porthcawl;

 

  • Ceisio awdurdod i atal gofynion Rheolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor ac awdurdodi ein partneriaid gwasanaethau diwylliannol AWEN i gaffael gwasanaethau Penseiri Purcell trwy fframwaith PAGABO i barhau â gwasanaethau dylunio Cam 4 RIBA ar gyfer y prosiect.

 

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau rywfaint o gefndir ar gyfer y prosiect a'r cais ac amlygodd y cyfleusterau newydd a gynigiwyd yn y cynnig. Esboniodd fod telerau presennol y dyfarniad grant yn nodi y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2025. Mae’n hollbwysig bellach bod y prosiect yn mynd rhagddo’n gyflym, bod y cam dylunio manwl wedi’i gwblhau, caniatâd cynllunio wedi’i gymeradwyo, a bod tîm gwasanaethau proffesiynol a phrif gontractwr yn eu lle i alluogi’r gwaith ar yr adeilad ei hun i ddechrau yn y Gwanwyn 2024.

 

Rhoddodd gefndir i'r cais a'r cyfleusterau a gynigir yn y cynnig hwnnw.  Ar 20 Ionawr 2023, hysbyswyd y Cyngor bod y cais yn llwyddiannus ac y byddai'r Cyngor yn cael £18m tuag at Brosiect Pafiliwn y Grand. Er mwyn sicrhau nad yw’r prosiect yn achosi unrhyw oedi pellach a’i fod yn cael ei gyflawni yn unol â’r rhaglen gyfredol ac yn unol â thelerau ac amodau’r grant, mae’r adrannau isod yn nodi’r broses llywodraethu, ymgynghori a chaffael sydd wedi’i chynnal neu sy’n ofynnol i'w symud ymlaen. Roedd rhagor o wybodaeth am hyn wedi’i nodi yn adran 3 o’r adroddiad.

 

Fe wnaeth Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio groesawu’r adroddiad a dywedodd, fel yr Aelod Cabinet a lofnododd y Penderfyniad Dirprwyedig ar gyfer atal y CPR, ei fod yn deall brys y gwaith hwn i sicrhau ein bod yn awdurdodi ein partneriaid gwasanaethau diwylliannol AWEN i benodi penseiri Purcell Ltd, a ymgymerodd â’r dyluniadau gwreiddiol a gwaith Cam 3 RIBA, i gwblhau gwaith dylunio manwl RIBA 4 hyd at werth o £100,000.

 

Ychwanegodd fodd bynnag, fod y CPR's yn eu lle am reswm da, a'i bod yn bwysig myfyrio ar hyn gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn lliniaru risg i bwrs y cyhoedd. Yn dilyn y pwynt hwn, gofynnodd faint o risg y mae'r prosiect hwn yn ei wynebu os ydym yn cytuno i atal y CPR's. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau amlygu pwynt 3.8 o'r adroddiad a oedd yn amlinellu'r risgiau sy'n gysylltiedig ag atal y CPRs. Ychwanegodd y byddai angen i ni ymrwymo tua £650,000 ar hyn o bryd yn ariannol.

 

Amlygodd y Dirprwy Arweinydd fod gennym £2 filiwn wedi'i ddyrannu i'r prosiect hwn a gofynnodd am sicrwydd ein bod yn gallu defnyddio hwn o ystyried y pwysau presennol ar y gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, er mwyn derbyn y cyllid grant o £18 miliwn gan LUF, un o amodau'r grant oedd bod CBSP yn darparu £10%. Roedd yr arian hwn eisoes wedi'i glustnodi yn ein Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y prosiect hwn. Pe na byddem yn dangos ein bod yn gallu darparu’r arian hwn, byddai’r £18 miliwn wedi’i golli. Amlygodd hi, er mwyn peidio â defnyddio'r 10%, roeddem yn edrych i mewn i'r posibilrwydd y byddai darparwyr allanol yn talu'r swm hwnnw, a allai wedyn gael ei ryddhau ar gyfer prosiectau neu wasanaethau eraill pe byddai'n llwyddiannus. Cafwyd trafodaethau pellach ar yr eitem hon ac atebwyd cwestiynau gan Swyddogion.

 

 

PENDERFYNWYD: bod y Cabinet yn:

 

  • Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â dyluniad y prosiect.

 

  • Nodi y bydd llywodraethu priodol a chadarn yn cael ei roi ar waith i gefnogi'r prosiect hwn.

 

  • Nodi'r penderfyniad dirprwyedig (CMM-PRU-23-30) i atal CPRs y Cyngor mewn perthynas â chaniatáu i'n partneriaid gwasanaethau diwylliannol AWEN gaffael gwasanaethau Penseiri Purcell trwy fframwaith PAGABO i gychwyn cam dylunio Cam 4 RIBA ar gyfer Prosiect Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl.

 

  • Cytuno i atal CPR’s y Cyngor ymhellach er mwyn caniatáu i’n partner diwylliannol AWEN gaffael gweddill y gwaith dylunio ar gyfer Pafiliwn y Grand, Porthcawl gyda Phenseiri Purcell drwy’r Fframwaith PAGABO, er mwyn sicrhau bod y broses ddylunio’n cael ei chwblhau o fewn yr amserlenni a nodir gan y cytundeb ariannu LUF.

 

  • Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid a'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, AD a Pholisi Corfforaethol, i wneud unrhyw gytundebau gofynnol i amnewid penodiadau dylunio i hysbysu caffael y prif gontractwr gwaith.

 

  • Nodi bod y Cyfarwyddwr Cymunedau yn symud ymlaen gyda phenodi Ymgynghorydd Costau prosiect yn unol â CPR's y Cyngor.

 

  • Nodi y bydd adroddiad yn y dyfodol i'r Cabinet a'r Cyngor yn cael ei gyflwyno maes o law i nodi goblygiadau ariannol y prosiect, cyn caffael contractwr gwaith ar gyfer y contract adeiladu ar gyfer prosiect Pafiliwn y Grand.

 

Dogfennau ategol: