Cynnig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar Gau 115 o Swyddfeydd Post Y Goron a’r Risg o Golli 1,000 o Swyddi
Y Cynnig:
Mae’r Cyngor yn nodi:
Cyhoeddiad diweddar Swyddfa’r Post Cyf / Llywodraeth y DU i gau 115 o Swyddfeydd Post y Goron ledled y wlad, gan roi swyddi tua 1,000 o weithwyr yn y sector post mewn perygl.
Y rôl allweddol sydd gan Swyddfeydd Post y Goron mewn sawl cymuned, yn arbennig ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol difreintiedig, lle maent yn cynnig gwasanaethau hanfodol fel gwasanaethau postio, bancio, talu biliau, a mynediad i wasanaethau’r llywodraeth.
Yr effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol ac andwyol a gaiff y cau hwn, nid yn unig ar y gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi, ond hefyd ar y cymunedau sy’n dibynnu ar y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan Swyddfeydd Post y Goron, ac erydiad y gwasanaethau hynny mewn cymunedau sydd eisoes yn wynebu heriau.
Hanes hir Swyddfeydd Post y Goron fel rhan allweddol o’r seilwaith cenedlaethol, yn darparu gwasanaethau hygyrch o safon uchel i’r cyhoedd a chyflogi gweithwyr medrus.
Mae’r Cyngor yn credu:
Bod cau Swyddfeydd Post y Goron yn ymosodiad di-alw amdano ar wasanaethau cyhoeddus, swyddi, a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt.
Bod colli 1,000 o swyddi yn y sector post am gael effaith andwyol ar deuluoedd, cymunedau, a’r economi leol, gan gyfrannu at gynnydd mewn diweithdra ac annhegwch cymdeithasol mewn ardaloedd sydd eisoes yn ddifreintiedig.
Bod y llywodraeth a rheolwyr y post wedi methu â buddsoddi’n ddigonol yn rhwydwaith Swyddfa Post y Goron, ac nad ydynt wedi darparu cyfiawnhad digonol dros y bwriad o gau, sy’n ymddangos fel petai yn cael ei ysgogi gan gymhellion elw yn hytrach na lles y cyhoedd.
Bod y cau yn rhan o duedd ofidus, ehangach tuag at breifateiddio ac allanoli gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, sy’n tanseilio’r egwyddor o atebolrwydd cyhoeddus ac yn lleihau ansawdd, ac o bosib ystod, y gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd.
Penderfyniadau:
Mynegi gwrthwynebiad llym y Cyngor i’r bwriad o gau 115 o Swyddfeydd Post y Goron ac i alw’n ffurfiol ar Swyddfa’r Post Cyf / Llywodraeth y DU i atal y rhaglen gau ar unwaith.
Cefnogi’r gweithwyr y mae’r posibilrwydd o golli 1,000 o swyddi yn effeithio arnynt, gan gynnwys cynnig uno undebau llafur a sefydliadau lleol sy’n ymgyrchu i achub Swyddfeydd Post y Goron.
Gweithio gydag awdurdodau lleol, undebau, a grwpiau cymunedol eraill i godi ymwybyddiaeth o’r effaith negyddol a gaiff cau’r swyddfeydd hyn, ac ysgogi gwrthwynebiad cyhoeddus i’r cynigion.
Galw ar Lywodraeth y DU a [Swyddfa’r Post Cyf] i sicrhau yr ymgynghorir yn briodol ar unrhyw gynlluniau ar gyfer Swyddfeydd Post y Goron yn y dyfodol, a bod buddiannau’r gweithwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn cael ystyriaeth lawn.
Gwahodd cynrychiolwyr o [Swyddfa’r Post Cyf] i gyfarfod â’r Cyngor i drafod y cau, ac archwilio atebion amgen a fyddai'n sicrhau dyfodol rhwydwaith Swyddfa Post y Goron, yn diogelu swyddi, a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd.
Penderfyniadau Pellach:
Cyflwyno llythyr ffurfiol o wrthwynebiad i [Swyddfa’r Post Cyf] ac i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Marchnad, yn mynegi pryder y Cyngor dros y bwriad o gau ac yn eu hannog i ail-ystyried y penderfyniad.
Annog trigolion lleol i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a chefnogi ymgyrchoedd er ceisio atal Swyddfeydd Post y Goron rhag cau.
Cynnig cymorth i weithwyr Swyddfa Post y Goron Pen-y-bont ar Ogwr sy’n wynebu diweithdra, gan gynnwys darparu mynediad i hyfforddiant, cymorth cyflogaeth, a mentrau ail hyfforddi ar gyfer swydd.