Agenda item

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y:

Cynghorydd JP Blundell

 

Cynnig: Adolygiad o Fformiwla Gyllido Llywodraeth Leol

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

1.         Ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad diweddaraf y Senedd, gwnaed ymrwymiadau i adolygu a diwygio fformiwla gyllido llywodraeth leol, gan gynnwys y datganiadau:

 

“A byddwn yn adolygu ac yn diwygio fformiwla gyllido llywodraeth leol fel y bydd yn adlewyrchu’n deg yr hyn yw realiti gwasanaethu poblogaethau sy’n wledig i raddau helaeth.”

ac

“Adolygu’r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol fel ei bod yn adlewyrchu’n well gost wirioneddol darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru.”

 

2.         Y gallai unrhyw newidiadau i fformiwla gyllido llywodraeth leol gael goblygiadau sylweddol i awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

3.         Pwysigrwydd sicrhau y bydd diwygio’r fformiwla gyllido yn unrhyw ffordd yn adlewyrchu tegwch a thryloywder, ac na fydd yn gosod cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dan anfantais.

 

Felly mae'r Cyngor hwn yn penderfynu

 

1.         Ysgrifennu at Ysgrifennydd/Gweinidog y Cabinet dros Gyllid yn Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd/Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn gofyn am eglurder buan yngl?n â manylion yr ymrwymiadau a wnaed ynghylch diwygio fformiwla gyllido llywodraeth leol, eu cwmpas a'r bwriad i’w gweithredu.

2.         Gofyn am sicrwydd na fydd unrhyw ddiwygiadau arfaethedig yn cael effaith ariannol andwyol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

3.         Gofyn am ymgynghori’n llawn â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yngl?n ag unrhyw newidiadau arfaethedig i’r fformiwla gyllido cyn iddynt gael eu gweithredu.

 

 

Cynghorydd O Clatworthy

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

           Ein bod ni ledled Prydain yn gweld diwylliant cynyddol o fygwth, o gam-drin gwleidyddol a gelyniaeth tuag at bobl sy’n dal safbwyntiau gwahanol.

           Ni all democratiaeth weithredu'n iawn os yw pobl gyffredin yn cael eu tewi gan waeddiadau, eu bygwth neu eu dychryn am fynegi barn gyfreithlon.

           Bod trais gwleidyddol, bygwth ac aflonyddu yn erbyn cynghorwyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr, newyddiadurwyr neu aelodau o'r cyhoedd yn gwbl annerbyniol, waeth beth fo'u cysylltiadau gwleidyddol.

           Bod llawer o bobl weddus bellach yn cael eu digalonni rhag mynd i mewn i fywyd cyhoeddus oherwydd bod gwleidyddiaeth wedi mynd yn fwyfwy gwenwynig a gelyniaethus.

           Mae Prydain wedi ei i hadeiladu ar ryddid ymadrodd, dadl ddemocrataidd a'r hawl i anghytuno'n heddychlon.

            Mewn democratiaeth, mae dadl gref yn beth iach ond nid felly fygwth na thrais gwleidyddol.

           Ni ddylai neb wynebu bygythiadau, cam-drin nac ymdrechion i'w distewi yn syml oherwydd eu bod yn dal safbwyntiau gwleidyddol prif ffrwd.

           Mae’n ddyletswydd ar gynghorwyr i arwain drwy esiampl a chynnal dadl ddemocrataidd barchus, hyd yn oed pan fydd barn yn amrywio'n fawr, gan gynnwys dangos cwrteisi cyffredin tuag at ei gilydd.

 

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:

 

1. Condemnio pob math o drais gwleidyddol, bygwth, aflonyddu ac ymdrechion i roi  taw ar fynegiant democrataidd cyfreithlon.

2. Ailgadarnhau cefnogaeth y Cyngor hwn i ryddid ymadrodd, dadl agored a chyfranogi democrataidd.

3. Annog yr holl aelodau etholedig i hyrwyddo ymddygiad parchus ar-lein ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus hefyd.

4. Gweithio gyda Heddlu De Cymru lle bo angen i sicrhau bod achosion o fygwth neu ddychryn cynghorwyr, swyddogion neu aelodau o'r cyhoedd yn cael eu trin o ddifrif.

5. Hyrwyddo diwylliant lle mae trigolion yn teimlo'n hyderus i fynegi eu barn yn agored heb ofni cael eu cam-drin na’u bygwth.

6. Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch gelyniaeth gynyddol mewn bywyd cyhoeddus ac yn galw am gamau cryfach i amddiffyn cyfranogi democrataidd a rhyddid ymadrodd.

 

 

Cynghorydd R Penhale-Thomas

 

Ysbyty Cymunedol Maesteg

Mae’r Cyngor yn nodi’r canlynol:

        Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi nodi buddsoddiad o fwy na £30 miliwn i wella'r ddarpariaeth gofal iechyd ym Maesteg ac yng Nghwm Llynfi yn ehangach, ac mae'r Cyngor yn croesawu hyn mewn egwyddor.

 

        Roedd yr ymgysylltu cynnar ynghylch y buddsoddiad hwn yn adeiladol ac fe greodd obaith gwirioneddol yn lleol, ar sail y disgwyliad y byddai Ysbyty Cymunedol Maesteg yn cael ei ailddatblygu gyda gwelyau ysbyty nyrsio cymunedol i gleifion mewnol.

 

        Ers hynny, mae’r cynigion wedi newid yn sylfaenol, gyda'r Bwrdd Iechyd bellach yn symud i ffwrdd oddi wrth ailddatblygu'r ysbyty presennol o blaid safle newydd, heb ail ymgysylltu’n ystyrlon â’r trigolion.

 

        Yn awr, nid oes safbwynt clir na phendant ynghylch dyfodol gwelyau cleifion mewnol cymunedol, yn gwasanaethu Maesteg a Dyffryn Llynfi.

 

        Mae gwelyau camu i fyny a chamu i lawr cymunedol yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi ysbytai acíwt drwy atal derbyniadau y mae modd eu hosgoi, ei gwneud yn bosibl rhyddhau cleifion yn gynt, a darparu gofal yn nes at adref. Oherwydd hynny, mae i’r ansicrwydd ynghylch darpariaeth o'r fath oblygiadau ehangach o ran pwysau ar draws y system iechyd.

 

        Mae Llais, y corff statudol annibynnol sy’n eiriol dros gleifion, wedi cyhoeddi adborth hynod feirniadol yngl?n ag ymgysylltiad y Bwrdd Iechyd ynghylch Ysbyty Cymunedol Maesteg, gan nodi diffygion difrifol ac adlewyrchu rhwystredigaeth a diffyg ymddiriedaeth ymhlith llawer yn lleol.

 

        Gyda'i gilydd, mae hyn wedi arwain at erydu ‘r hyder yn y Bwrdd Iechyd yn barhaus i raddau helaeth, gydag ymddiriedaeth yn cael ei thanseilio gan y ffordd y mae cynigion wedi cael eu datblygu, eu newid a'u cyfleu i eraill.

 

Mae’r Cyngor gan hynny yn penderfynu:

1.    Croesawu'r ymrwymiad i fuddsoddiad sylweddol mewn gofal iechyd yng Nghwm Llynfi, tra’n mynegi ei siom a'i bryder ynghylch:

 

        Y penderfyniad i symud i ffwrdd oddi wrth ailddatblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg; a

        Y ffordd y mae'r newid cyfeiriad hwn wedi cael ei drin a heb gael ei gyfleu i eraill.

 

2.    Gwneud yn glir nad yw'r Cyngor yn ystyried dyfodol Ysbyty Cymunedol Maesteg yn fater sydd wedi ei gau, ac y bydd yn parhau i eiriol dros ganlyniadau fydd yn cwrdd orau ag anghenion cymuned Maesteg a Chwm Llynfi a Phen-y-bont ar Ogwr yn ehangach hefyd.

 

3.    Galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg i ddarparu eglurder clir a diamwys ynghylch:

 

        A fydd gwelyau ysbyty cleifion mewnol cymunedol yn cael eu darparu'n lleol a ble;

        Y model gofal arfaethedig a'r amserlenni dangosol ar gyfer darparu gofal critigol ac acíwt yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn ei chyfanrwydd.

 

4.    Galw ar y Bwrdd Iechyd i ailsefydlu ei berthynas â'r gymuned ar frys, gan gymryd canfyddiadau Llais i ystyriaeth, drwy:

 

        Ymgymryd ag ymgysylltu wyneb yn wyneb o'r newydd ym Maesteg ac yn ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr;

        Cynnwys uwch benderfynwyr yn uniongyrchol;

        Nodi'n glir pa benderfyniadau sy'n parhau i fod yn agored i ddylanwad y cyhoedd ac asiantaethau ehangach.

 

5.    Cytuno, mewn egwyddor, y bydd y Cyngor yn edrych ar ei rôl mewn perthynas â dyfodol safle Ysbyty Cymunedol Maesteg, os na fydd ei angen mwyach i ddibenion gofal iechyd, gyda'r nod o sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio'n dda gan y gymuned ac na fydd yn cael ei adael yn wag nac yn cael ei esgeuluso yn unol â'r cyfamod ar y safle a bod gwaith dichonoldeb priodol yn cael ei gynnal i ddeall heriau a chyfyngiadau’r safle.