"""Hysbysiad o Gynnig: Diogelu Meysydd Chwaraeon a Chaeau Chwarae (Rheoli C?n)
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
• Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn adolygu ei Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPOs) gyda golwg ar reoli c?n, er mwyn sicrhau bod mannau cyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel ac yn lân.
• Arweiniodd digwyddiad difrifol diweddar ym Mharc Pandy, yn ymwneud â chwaraewr Clwb Rygbi Tondu, at dderbyniad brys i'r ysbyty a thriniaeth feddygol ddwys oherwydd haint a achoswyd gan faw ci a adawyd ar faes chwaraeon wedi ei farcio.
• Mae problemau parhaus tebyg gyda ch?n yn baeddu meysydd chwaraeon a chaeau chwarae plant yn achosi peryglon sylweddol i iechyd, gan gynnwys heintiau bacterol difrifol a thocsocariasis, yn enwedig i blant a’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae’r Cyngor hwn yn credu:
• Er bod y mwyafrif helaeth o berchnogion c?n yn gyfrifol, mae gweithredoedd lleiafrif bach yn achosi risg annerbyniol i iechyd a diogelwch clybiau chwaraeon, pobl ifanc, a'r gymuned ehangach.
• Er mwyn amddiffyn cyfleusterau gemau a chwarae pwrpasol tra’n dal i gwrdd ag anghenion perchnogion anifeiliaid anwes lleol, mae angen ffiniau cliriach a llymach o ran cyfyngu ar g?n yn baeddu mewn mannau hamdden egnïol.
Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:
1. Diwygio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus arfaethedig er mwyn ei gwneud yn orfodol cadw c?n ar dennyn bob amser wrth fynd â hwy am dro ger caeau chwarae a meysydd chwaraeon, a'u gwahardd yn llym rhag baeddu o fewn unrhyw gae chwarae plant caeedig sy'n eiddo i'r cyngor a meysydd chwaraeon wedi eu marcio.
2. Lansio prosiect peilot ym Mharc Pandy i sefydlu man ""rhedeg rhydd"" wedi'i ddynodi'n glir ac wedi'i ffensio'n ddiogel lle gall perchnogion c?n cyfrifol ollwng eu c?n oddi ar dennyn yn ddiogel, gan gydbwyso anghenion clybiau chwaraeon a pherchnogion anifeiliaid anwes.
3. Adolygu llwyddiant cynllun peilot Parc Pandy ar ôl 12 mis i asesu a ddylid cyflwyno mannau penodol oddi ar dennyn mewn parciau eraill ar draws y fwrdeistref sirol ochr yn ochr â'r cyfyngiadau hyn sydd wedi eu targedu."
"Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod y rôl bwysig y mae Ymwelwyr Iechyd yn ei chwarae wrth gefnogi babanod, plant a theuluoedd, ac yn nodi'r anghydfod parhaus sy'n ymwneud ag Ymwelwyr Iechyd a gynrychiolir gan Uno’r Undeb.
Mae Ymweliadau Iechyd yn wasanaeth iechyd cyhoeddus ataliol hanfodol. Mae Ymwelwyr Iechyd yn chwarae rôl hanfodol mewn ymyrraeth gynnar, nodi anghenion iechyd a datblygiadol, cefnogi rhieni a theuluoedd, diogelu plant, a helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r Cyngor hwn yn pryderu am yr effaith bosibl y gallai'r anghydfod parhaus, ynghyd â phwysau ehangach ar y gweithlu, ei chael ar ddarparu gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae gwybodaeth a gafwyd drwy gais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos newid sylweddol yn y cyflwyniad cofnodedig o gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru. Ym mis Mawrth, Ebrill a Mai 2025, cwblhawyd 6,140 o gysylltiadau Plentyn Iach Cymru. Yn y tri mis cyfatebol o 2026, nifer y cysylltiadau a gofnodwyd fel rhai wedi'u cwblhau gan Ymwelwyr Iechyd Band 6 oedd 909, o'i gymharu â 23,592 o gysylltiadau a nodwyd i’w cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall ystod o ffactorau gyfrannu at y sefyllfa hon ac nid yw'n ceisio priodoli achosion heb y dystiolaeth lawn. Fodd bynnag, mae graddfa'r bwlch yn tynnu sylw at bwysigrwydd deall sut mae swyddogaethau Ymwelwyr Iechyd yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd, a sut mae unrhyw angen heb ei fodloni’n cael ei nodi a'i ddatrys.
Mae canlyniadau posibl llai o ddarpariaeth Ymwelwyr Iechyd yn sylweddol. Mae Ymwelwyr Iechyd yn rhan bwysig o'r system iechyd a gofal cymdeithasol ataliol ac yn cyfrannu at:
· adnabod anghenion iechyd a datblygiadol yn gynnar;
· diogelu ac amddiffyn plant;
· atal ac ymyrraeth gynnar;
· cymorth i rieni a theuluoedd;
· mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd; a
· gwaith partneriaeth effeithiol rhwng gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd, gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill sy'n cefnogi plant a theuluoedd.
Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod bod gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn parhau i wynebu pwysau sylweddol ar y gweithlu ac yn ariannol. Mae hefyd yn cydnabod yr heriau a all godi pan fydd materion capasiti yn effeithio ar allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a swyddogaethau statudol.
Pan brofodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr heriau gweithlu sylweddol o fewn Gwasanaethau Plant, rhoddwyd cymorth ac adnoddau ychwanegol ar waith i helpu i gynnal darpariaeth gwasanaethau a diogelu canlyniadau i blant a theuluoedd. Mae'r Cyngor hwn yn credu y dylai'r un egwyddor fod yn berthnasol pan fo pryderon yn codi ynghylch capasiti gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill.
Ni ddylai plant a theuluoedd gael eu heffeithio'n andwyol gan broblemau gweithlu heb eu datrys neu bwysau capasiti o fewn gwasanaethau rheng flaen allweddol.
Mae’r Cyngor hwn felly:
1. Yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan Ymwelwyr Iechyd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac yn cefnogi ymdrechion i sicrhau datrysiad teg a chynaliadwy i'r anghydfod parhaus.
2. Yn nodi'n bryderus y bwlch a adroddwyd rhwng cysylltiadau Rhaglen Plentyn Iach Cymru a nodwyd fel rhai sy'n ddyledus a'r rhai a gofnodwyd fel rhai wedi'u cwblhau gan Ymwelwyr Iechyd Band 6.
3. Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i roi sicrwydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ynghylch sut mae swyddogaethau Ymwelwyr Iechyd yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd ar draws y tair ardal awdurdod lleol.
4. Yn gofyn i'r Bwrdd Iechyd nodi sut mae plant a theuluoedd nad ydynt efallai wedi derbyn cysylltiadau Ymwelwyr Iechyd wedi'u trefnu yn cael eu nodi, eu hasesu a'u dilyn, a sut mae unrhyw angen heb ei fodloni sy'n deillio o hynny yn cael ei datrys.
5. Yn galw ar Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i barhau â'r ymdrechion i ddatrys yr anghydfod ac i sicrhau bod digon o gapasiti gweithlu ar gael i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd yn effeithiol.
6. Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd a phartneriaid perthnasol eraill i gefnogi datrysiad amserol i'r anghydfod a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd.
7. Yn annog ymgysylltu parhaus rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r tri awdurdod lleol i ddeall a mynd i'r afael ag unrhyw effaith ar ddiogelu, ymyrraeth gynnar, galw am ofal cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.
8. Yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn nodi pryderon y Cyngor ac yn ceisio ymateb i'r camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi a chynnal darpariaeth Ymweliadau Iechyd.
Mae'r Cyngor hwn yn credu bod Ymweliad Iechyd yn rhan sylfaenol o'r system iechyd cyhoeddus ataliol. Pan fo pryderon yn codi ynghylch capasiti a darparu gwasanaethau, mae'n hanfodol bod sefydliadau partner yn gweithio gyda'i gilydd i ddiogelu gwasanaethau, cefnogi'r gweithlu a sicrhau bod plant, teuluoedd a chymunedau'n derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. "
"Ailagor Llwybr Beicio Cwm Garw
Nodiadau’r Cyngor:
1. Mae Llwybr Beicio Cwm Garw yn llwybr teithio llesol o bwys, yn cysylltu Parc Gwledig Bryngarw â Pharc Calon, cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr sydd wedi ei lleoli wrth droed Mynydd Carn ym Mlaengarw.
2. Mae’r llwybr yn mynd drwy gymunedau Llangeinor, Llwst, Pontyrhyl, Pontycymer a Blaengarw, gan roi mynediad i drigolion ac ymwelwyr at amgylchedd naturiol y cwm, ei dreftadaeth, cyfleusterau hamdden ac atyniadau ymwelwyr.
3. Mae’r llwybr yn dilyn coridor y rheilffordd gynt a fu yn hanesyddol yn gwasanaethu maes glo Cwm Garw ac sydd, ers blynyddoedd lawer, yn caniatáu mynediad i’r cyhoedd i gerdded, beicio a gweithgareddau hamdden eraill.
4. Mae Parc Calon a’r Cwm Garw ehangach yn denu ymwelwyr o bob cwr o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt, gan gyfrannu at les cymunedol, twristiaeth gynaladwy, gweithgaredd economaidd lleol a chyfleoedd ar gyfer teithio llesol.
5. Mae’r rhan o’r llwybr rhwng Llangeinor a Phontycymer, sydd oddeutu 2.5 cilometr o hyd, yn dal ar gau gan Network Rail oherwydd pryderon ynghylch cyflwr pontydd, strwythurau a rhannau o’r llwybr sy’n gofyn am fuddsoddiad a gwaith adferol.
6. Mae’r ffaith fod y rhan hon yn dal ar gau wedi torri llwybr strategol allweddol o fewn y cwm, gan gyfyngu mynediad i’r trigolion, a lleihau’r cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a chael effaith ar economi’r ymwelwyr.
7. Dangosodd trafodaethau rhwng y rhanddeiliaid perthnasol nad oes modd i un corff ar ei ben ei hun gyflawni’r gwaith angenrheidiol, a bod angen datrysiad sy’n golygu ariannu a chyflawni ar y cyd.
Mae’r Cyngor felly yn penderfynu:
1. Galw’n ffurfiol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Ystâd y Goron a Network Rail i sefydlu partneriaeth ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod Llwybr Beicio Cwm Garw yn cael ei ailagor fel mater o flaenoriaeth.
2. Gofyn i Network Rail gyhoeddi asesiad manwl o’r gwaith angenrheidiol, gan gynnwys amcangyfrifon o’r costau, yr amserlenni a’r dewisiadau o ran cyflawni, er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal trafodaethau ystyrlon ynghylch ariannu a chynllunio’r prosiect.
3. Ceisio creu pecyn ariannu amlasiantaethol i gwrdd â chostau gwaith atgyweirio, adfer a chynnal y llwybr yn y dyfodol, gan gydnabod ei werth fel ased i deithio llesol, dwristiaeth ac i’r gymuned.
4. Cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dwristiaeth a Gogledd Cymru, Prif Weithredwr Network Rail a Phrif Weithredwr Ystâd y Goron, yn gofyn iddynt ymgysylltu’n uniongyrchol i sicrhau datrysiad tymor hir.
5. Gofyn i adroddiad am gynnydd gael ei gyflwyno’n ôl i’r Cyngor ymhen chwe mis yn amlinellu’r trafodaethau a gynhaliwyd, y cyfleoedd ariannu a ganfuwyd a’r ffordd y cynigir symud ymlaen tuag at ailagor y llwybr.
6. Cadarnhau eto ymrwymiad y Cyngor hwn i amddiffyn a chyfoethogi seilwaith teithio llesol, llwybrau mynediad i’r cyhoedd ac asedau twristiaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cred y Cyngor ymhellach y byddai ailagor Llwybr Beicio Cwm Garw yn arwain at fuddion sylweddol o ran iechyd cyhoeddus, trafnidiaeth gynaladwy, cysylltedd cymunedol, lles amgylcheddol a’r economi leol, ac felly y dylid ei drin fel blaenoriaeth strategol gan yr holl bartneriaid perthnasol."