Cynigiwyd gan y Cynghorydd J Gebbie
Adfer Ymddiriedaeth y Cyhoedd Drwy Fecanwaith Galw'n Ôl i Gynghorwyr yng Nghymru
Mae'r Cyngor hwn yn nodi:
1. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth wedi ei hadeiladu ar atebolrwydd, tryloywder ac uniondeb.
2. Mae Llywodraeth Cymru, yn briodol, wedi ceisio cryfhau safonau moesegol mewn llywodraeth leol drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r Fframwaith Safonau Moesegol.
3. Er gwaethaf y diwygiadau hyn, mae cynghorwyr yng Nghymru yn parhau i fod wedi eu heithrio rhag unrhyw fecanwaith galw'n ôl statudol, hyd yn oed pan fo camymddygiad difrifol wedi niweidio hyder y cyhoedd y tu hwnt i adferiad.
4. Mae Aelodau Seneddol yn ddarostyngedig i Ddeddf Galw ASau yn Ôl 2015, sy’n galluogi etholwyr, mewn amgylchiadau rhagnodedig, i greu deiseb am isetholiad yn dilyn camymddygiad difrifol.
5. Nid oes diogelwch democrataidd cyfatebol yn bodoli ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, er bod cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar drigolion bob dydd, gan gynnwys y dreth gyngor, cynllunio, addysg, tai, gofal cymdeithasol, datblygu economaidd a diogelwch cymunedol.
6. Mae’r anghysondeb hwn yn creu diffyg democrataidd lle mae gan etholwyr fwy o bwerau i ddal Aelodau Seneddol i gyfrif nag sydd ganddynt i ddal y cynghorwyr sy’n eu cynrychioli’n lleol.
7. Nid yw cryfhau atebolrwydd democrataidd yn ymwneud â gwanhau llywodraeth leol—mae’n ymwneud â chryfhau hyder y cyhoedd yn y rhai sydd wedi cael eu hethol i wasanaethu.
Mae’r Cyngor hwn yn credu:
1. Dylai pob cynrychiolydd etholedig barhau i fod yn atebol i'r rhai a'i hetholodd drwy gydol ei gyfnod yn y swydd.
2. Mae swydd gyhoeddus wedi'i seilio ar ymddiriedaeth, a phan fo'r ymddiriedaeth honno wedi' ei thorri'n sylfaenol trwy gamymddygiad difrifol, dylai'r etholwyr gael y cyfle i benderfynu a yw'r unigolyn hwnnw'n parhau i'w cynrychioli.
3. Mae mwyafrif llethol y cynghorwyr yn gwasanaethu gyda gonestrwydd ac ymroddiad, a byddai mecanwaith galw'n ôl statudol yn gwella, yn hytrach na lleihau, hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.
4. Mewn amgylchiadau statudol, wedi eu diffinio'n glir, yn unig y dylai unrhyw broses galw'n ôl fod yn berthnasol, gyda mesurau diogelwch cadarn i atal ymgyrchoedd dibwys, blinderus neu â chymhelliant gwleidyddol.
Felly mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:
1. Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth sy'n sefydlu mecanwaith galw'n ôl statudol ar gyfer cynghorwyr yng Nghymru.
2. Gofyn i ddeddfwriaeth o'r fath ddarparu i ddeisebau galw'n ôl gael eu sbarduno mewn amgylchiadau sydd wedi eu diffinio’n glir yn unig, gan gynnwys euogfarnau troseddol difrifol neu sancsiynau sylweddol a osodwyd dan y Fframwaith Safonau Moesegol.
3. Ysgrifennu at y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Lywodraeth Leol, Llywydd y Senedd, holl Aelodau'r Senedd sy'n cynrychioli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gofyn am eu cefnogaeth i'r diwygiad democrataidd hwn.
4. Gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fabwysiadu cyflwyno mecanwaith galw'n ôl statudol ar gyfer cynghorwyr fel blaenoriaeth polisi cenedlaethol.
Mae’r Cyngor yn datgan ymhellach:
Nid yw democratiaeth yn dod i ben ar ddiwrnod y pleidleisio. Braint a ymddiriedir gan bobl leol yw swydd gyhoeddus, nid hawl a gedwir waeth beth fo'r ymddygiad. Pan fydd camymddygiad difrifol yn dinistrio hyder y cyhoedd, ni ddylai cynrychiolwyr etholedig allu cuddio y tu ôl i fandad pum mlynedd. Yn yr amgylchiadau eithriadol hynny, nid gyda gwleidyddion y dylai'r dyfarniad terfynol orffwys, ond gyda'r etholwyr. Felly mae'r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr un hawl ddemocrataidd i ddal eu cynrychiolwyr lleol i gyfrif ag sydd eisoes yn bodoli ar gyfer Aelodau Seneddol.