Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i)            Maer (neu berson sy’n llywyddu)

(ii)           Aelodau’r Cabinet

(iii)          Prif Weithedwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer fod y Nadolig wedi bod yn gyfnod prysur iawn iddo, ac y bu'n bleser ymweld â chynifer o wahanol ysgolion, grwpiau a sefydliadau a rhannu eu gweithgareddau ar gyfer yr ?yl.

 

Roedd hi bob amser yn galondid gweld faint o ysbryd cymunedol sydd i'w gael yn y Fwrdeistref Sirol, ac yr oedd wedi profi gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr, disgyblion a staff yn uniongyrchol.. Gyda hyn mewn golwg, atgoffodd yr Aelodau ynghylch enwebiadau Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer. Helpwch ni i wobrwyo pobl leol sydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau, waeth pa mor fawr neu fach yw eu cyfraniad. Ni fyddai ond yn cymryd ychydig funudau i lenwi ffurflen gais, y gellir ei lawrlwytho o'n gwefan neu wneud cais amdani o Swyddfa'r Maer. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Gwener 24 Ionawr, a bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth.

 

Cafodd y Maer y pleser o fynd i Wobrau Cyflawnwr Ifanc blynyddol Bridge FM.  Mae'r digwyddiad trawiadol yn gyfle i ddathlu pobl ifanc o bob rhan o'r fwrdeistref sirol ac yn cydnabod eu cyflawniadau ym myd busnes, hyfforddiant, addysg, y celfyddydau, cerddoriaeth a gwaith gwirfoddol.  Roedd hi'n noson wych ac yn bleser pur cael cwrdd â chynifer o bobl ifanc sydd yn ymroi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w hardal.

 

Cynhaliwyd y Gemau Olympage blynyddol ym mis Tachwedd lle lansiwyd y prosiect Super-Agers ar y cyd â chydweithwyr ar draws ardal y bwrdd iechyd, gan gynnwys cynghorau RhCT a Merthyr. Cafodd y Maer yr anrhydedd o agor y diwrnod a fu'n llawn hwyl, ac roedd am longyfarch y staff am drefnu digwyddiad cystal.

 

Diolchodd y Maer hefyd i bawb a gymerodd ran ym menter y rhodd-galendr adfent er budd Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Gwerthfawrogwyd pob rhodd yn fawr. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod angen cyfraniadau drwy'r flwyddyn ac anogodd bawb i barhau i roi cymorth wrth symud ymlaen i 2020. Dywedodd hefyd fod gan y Banc Bwyd 11 o Unedau Dosbarthu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bod tua 50,000 o eitemau bwyd wedi cael eu cyfrannu i'r Banc Bwyd ers ei sefydlu.

 

Estynnodd y Maer groeso i'r Cynghorydd J Williams a dymuno'n dda iddi ar ôl bod yn absennol o'r cyfarfodydd oherwydd salwch.

 

I gloi, gan mai dyma oedd cyfarfod olaf y Cyngor cyn y Flwyddyn Newydd, manteisiodd y Maer ar y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd iach i bawb a oedd yn bresennol.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y gall pobl yn aml ei chael hi'n anodd rheoli eu harian ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ar drothwy'r Nadolig.

 

Yn anffodus, gall hyn yn aml achosi iddynt fynd i ddyled.

 

Efallai y bydd yr aelodau am roi gwybod i'r hetholwyr fod gwasanaeth cymorth galw heibio ar gael i helpu pobl i reoli a goresgyn dyledion, ymdrin â'u hanawsterau ariannol, ymdrin â diweithdra a gwella eu safon byw.

 

Mae'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Ariannol ar gael yn bennaf i bobl sy'n byw yn hen ardaloedd darparu Cymunedau yn Gyntaf, a gall helpu i ymdrin ag ystod o faterion, o wneud cais am gredyd cynhwysol hyd at ddysgu sut i reoli cyllideb. 

 

Mae'r gwasanaeth ar gael drwy'r swyddfeydd canlynol ym Mhen-y-bont ar Ogwr: Cyngor ar Bopeth, T? Hartshorn ym Maesteg, Meddygfa Tyn-y-coed yn Sarn, Clwb Cymunedol Betws, Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a chanolfannau swydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Ceir rhagor o wybodaeth hefyd ar wefan Cyngor ar Bopeth.

 

Gofynnodd i'r Aelodau hefyd atgoffa eu cymunedau y bydd casgliadau gwastraff yn cael eu cynnal ar noswyl Nadolig, ond na chynhelir casgliadau ddydd Nadolig nac ar ddydd San Steffan. Bydd popeth yn cael ei godi ddeuddydd yn ddiweddarach na'r arfer yn ystod gweddill yr wythnos honno, gan gynnwys dydd Sul 29 Rhagfyr.

 

Gan fod llawer o wastraff yn cael ei gynhyrchu dros y Nadolig, caiff deiliaid tai hefyd roi bag ychwanegol o wastraff na ellir ei ailgylchu gyda'r casgliad cyntaf ar ôl y Nadolig.

 

Cesglir gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu fel arfer ar Nos Galan, ond ddim ar Ddydd Calan. Bydd casgliadau ddiwrnod yn hwyrach yr wythnos honno hyd at ddydd Sadwrn 4 Ionawr, gyda'r holl gasgliadau'n dychwelyd i'r diwrnodiau arferol ddydd Llun 6 Ionawr.

 

Gofynnodd i'r rhai a oedd yn bresennol annog deiliaid tai yn eu hardaloedd i ailgylchu cymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r awdurdod sydd yn perfformio orau ond un yng Nghymru o ran y modd yr ydym yn trin gwastraff, a'r prif eitemau na ellir eu hailgylchu dros yr ?yl fel arfer yw papur lapio, plastig du, deunydd lapio seloffen, deunydd lapio swigod a pholystyren.

 

Gellir ailgylchu'r mwyafrif helaeth o'r gwastraff sy'n weddill, gan gynnwys eitemau fel cardiau Nadolig, amlenni papur, deunydd pecynnu cardbord, gweddillion y twrci a hyd yn oed y tunffoil oddi ar addurniadau siocled y goeden Nadolig.

 

Ar ôl y Nadolig, bydd deiliaid tai sydd wedi prynu coeden Nadolig go iawn yn gallu ei hailgylchu drwy fynd â'r goeden i ganolfan ailgylchu gymunedol.

 

Gofynnodd i'r Aelodau hefyd atgoffa eu hetholwyr y gellir cyfrannu eitemau mewn cyflwr da nad oes mo'u hangen bellach i siop ailddefnyddio'r Cyngor yng Nghanolfan Maesteg.

 

Gorffennodd y Dirprwy Arweinydd drwy ddweud bod manylion llawn y trefniadau casglu gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod yr ?yl i'w cael ar wefan y Cyngor.

 

Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau y bydd menter fawr newydd yn ceisio trawsnewid rhai o fannau gwyrdd agored y fwrdeistref sirol dros y pedair blynedd nesaf.

 

Bydd y prosiect Cysylltiadau Gwyrdd a drefnir gan yr elusen Plantlife ac a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn canolbwyntio ar ardaloedd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Parc Gwledig Bryngarw a mwy.

 

Roedd y cynllun yn annog cymunedau i ymwneud yn fwy uniongyrchol â'u mannau gwyrdd lleol, drwy gynnig cyfleoedd i wirfoddoli, dysgu a mwynhau ynddynt.

 

Roedd yn ceisio creu budd parhaol drwy hyfforddi gwirfoddolwyr, addysgwyr a phartneriaid lleol, a'u helpu i feithrin sgiliau newydd o ran gweithgarwch adeiladu, cadwraeth a llesiant.

 

Roedd hon yn fenter ardderchog a oedd yn annog pobl i ddatblygu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned. Yr oedd yn hyrwyddo cynaliadwyedd a chynnydd mewn llesiant, ac yn ffodd wych o wneud ffrindiau newydd a mynd i'r afael ag unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

 

Dywedodd y gall Aelodau gefnogi twf y cynllun Cysylltiadau Gwyrdd drwy roi gwybod i bobl yn u gymuned leol fod mwy o wybodaeth ar gael yn uniongyrchol o wefan Plantlife.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau i'r holl staff, yn enwedig y rhai hynny yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau am eu cefnogaeth barhaus eleni, a dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

 

Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Wrth i'r Nadolig ddynesu'n gyflym, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y byddai Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â sefydliadau lleol fel Wallich, the Zone, Gwalia, Cynghorau lleol a mwy, i gefnogi pobl sy'n cysgu allan unwaith eto'r gaeaf hwn. 

 

Byddai'n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gan bobl ddigartref le cynnes a diogel i gysgu, ac y gallant fanteisio ar amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth.

 

Bob dydd, bydd The Wallich ar Park Street yn darparu brecwast poeth a diod rhwng 6:30am a 9:00am yn ogystal â sachau cysgu, dillad cynnes, nwyddau ymolchi ac eitemau eraill pwysig.

 

Rhwng 9.30am a hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener bydd canolfan galw heibio yn cynnig amgylchedd diogel sy'n cynnwys cyfleusterau ymolchi a mynediad at ffôn a chyfrifiadur.

 

Bydd y gwasanaeth galw heibio yn symud i'r Zone yn y prynhawniau rhwng 1.30pm a 4.30pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 9.00am a hanner ddydd ar ddyddiau Sadwrn.

 

Yn y nos bydd y cynllun llawr agored yn cynnig lle diogel, sych a chynnes i gysgu. Mae'r ddarpariaeth hon ar gael rhwng 8.00pm ac 8.00am yn The Elms ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, gydag oriau estynedig ar ?yl y Banc neu mewn tywydd difrifol.

 

Caiff yr arwynebedd llawr ei ddyrannu bob dydd, a gall pobl ymgeisio rhwng 3pm a 5pm drwy Ganolfan Gymorth Leol Gwalia sydd yng Nghanolfan Stryd Bracla.

 

Os bydd unrhyw un yn pryderu ynghylch rhywun sy'n cysgu allan, gall hysbysu'r awdurdod lleol drwy ddefnyddio ap Street Link sydd ar gael yn www.streetlink.org.uk.

 

Ceir manylion cyswllt y tîm Datrysiadau Tai ar wefan y Cyngor.

 

Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr yn meddwl am ffyrdd unigryw o godi arian er mwyn creu gardd synhwyraidd newydd, ac roedd yn sicr y byddai'r Aelodau am ddangos eu cefnogaeth.

 

 Gan fod ymchwil yn dangos bod treulio amser yn yr awyr agored ac yn symud o gwmpas yn gallu helpu i leihau tensiwn a gorbryder ymhlith pobl â dementia, mae'r ganolfan am ddatblygu gofod pwrpasol lle gallant fynd am dro'n rhwydd ac ymarfer corff.

 

Bydd yr ardd synhwyraidd hefyd o gymorth i bobl ag anableddau dysgu a chorfforol, ac yn rhoi cyfleuster iddynt sy'n cynnig cyfleoedd unigryw i ddefnyddio eu synhwyrau - cyffwrdd, teimlo ac arogli.

 

Bydd yr ardd synhwyraidd yn gwella safon y gofal a ddarperir eisoes yn y ganolfan adnoddau, a gobeithiaf y bydd yr aelodau'n helpu i annog eu hetholwyr i gefnogi'r ymdrechion hyn.

 

Mae banc ailgylchu cwbl newydd wedi cael ei osod gyferbyn â Lidl ym Mharc Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr lle gellir cyfrannu dillad, esgidiau a llieiniau/dillad gwely. Bydd y banc yn cael ei wagio'n wythnosol a'r nwydau a gyfrannwyd yn cael eu cyfnewid am arian parod ar sail pwysau.

 

Gall trigolion hefyd helpu i godi arian drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen i siopa ar-lein drwy ap o'r enw 'easy fundraising'.

 

Bydd y miloedd o siopau ar-lein sy'n cymryd rhan, fel Tesco, Asda, Amazon ac eBay, yn cyfrannu canran o bob pryniant at yr apêl.

 

Gellid cael hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys dolen i lawrlwytho'r ap, ar wefan y Cyngor.

 

Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Roedd gan yr Aelod Cabinet- Addysg ac Adfywio newyddion gwych i'w rhannu â'r Aelodau ynghylch tair o'n hysgolion lleol.

 

Yn dilyn adolygiadau diweddar, mae Estyn wedi cadarnhau bod Ysgol Gynradd Tynyrheol wedi gwneud gwelliannau sylweddol. Mae'r ysgol yn cael ei thynnu o fesurau arbennig, ac ni fydd unrhyw waith monitro pellach yn gysylltiedig â hynny.

 

Mae Ysgol Gyfun Cynffig hefyd wedi cael ei dileu o restr o ysgolion y mae angen cynnal adolygiad dilynol ohonynt ar ôl gweithredu argymhellion a wnaed yn flaenorol gan Estyn.

 

Barnwyd hefyd fod gan Ysgol Gynradd West Park safonau da, agweddau ardderchog at ddysgu a llesiant, addysgu a phrofiadau dysgu da, gofal, cymorth ac arweiniad ardderchog, a dysgu a rheolaeth dda yn gyffredinol.

 

Mae Estyn wedi gofyn i bob ysgol lunio astudiaeth achos ar ei gwaith yn gysylltiedig â chyfraniadau gan grwpiau o ddisgyblion. Bydd yr astudiaethau hyn yn cael eu defnyddio ar ei wefan.

 

Yr oedd yn sicr y byddai'r Aelodau am ymuno i longyfarch y penaethiaid, yr athrawon, y llywodraethwyr, y staff a'r disgyblion ym mhob un o'r tair ysgol am eu gwaith a'u hymroddiad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio y byddai Estyn yn cyhoeddi newyddion pellach y mis nesaf ynghylch sawl ysgol arall yn y Sir, ac mai newyddion da fyddai hynny.

 

I gloi, rhannodd bwt o newyddion ynghylch teithio â'r Aelodau. Ddydd Sul diwethaf, yr oedd wedi teithio'n egnïol o'i d? at Orsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr lle daliodd y gwasanaeth dydd Sul cyntaf ar yr amserlen i fyny i gwm Llynfi, ers toriadau trychinebus Beeching yn y 1960au. Ychwanegodd y byddai mwy o newyddion da ynghylch llinell cwm Llynfi yn 2020.

 

Y Prif Weithredwr

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n bleser o'r mwyaf cael hysbysu'r Aelodau fod Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau newydd wedi cael ei phenodi.

 

Yn dilyn proses ddethol drwyadl, roedd y panel cyfweld â Phwyllgor trawsbleidiol o Gynghorwyr wedi dewis Janine Nightingale fel yr ymgeisydd llwyddiannus.

 

Daw Janine yn wreiddiol o Faesteg. Mae hi'n gynllunydd cymwys, ac wedi gweithio yng Nghyngor Caerdydd ac ar lefel Prif Swyddog yn yr adran Drawsnewid a Thir ac Adeiladau.

 

Ar hyn o bryd, hi yw'r Pennaeth Prosiectau Cyfalaf yn yr Adran Datblygu Economaidd, lle mae hi'n gyfrifol am roi cyfeiriad strategol ac am arwain rhaglen gyfalaf £300 miliwn Caerdydd.

 

Mae ganddi fwy na 20 mlynedd o brofiad yn rheoli ar lefel uwch mewn llywodraeth leol, ac roedd gweledigaeth uchelgeisiol Janine ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; ei hangerdd amlwg a'i hagwedd gadarnhaol, a'i dealltwriaeth fanwl o'r ardal, wedi creu argraff arbennig ar y Panel.

 

Yr oedd yn gobeithio y byddai Janine yn gallu dechrau ei rôl newydd yn y Flwyddyn Newydd, erbyn 1 Mawrth 2020 gobeithio, a gwyddai ei bod yn edrych ymlaen at gael cyfarfod â'r Aelodau a'r Swyddogion, ac at chwarae rhan allweddol yn nyfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z