Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod gwybodaeth newydd wedi dod i law gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch cyflwyno'r rhaglen brechu coronafeirws.  Ar 17 Ionawr, roedd 21,857 o bobl wedi cael eu brechu ar draws rhanbarth Cwm Taf.  Ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn 3,693 o bobl, gyda 1,461 o frechiadau'n cael eu gweinyddu drwy feddygfeydd meddygon teulu, 1,715 drwy ganolfannau brechu, a 517 drwy gartrefi gofal lleol.  Er nad yw wedi'i gynnwys yn ffigurau ardal yr awdurdod lleol, mae canolfannau brechu ysbytai ar draws y rhanbarth wedi cyfrif am 11,377 o bobl eraill.  Mae'r cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd, ac mae'n cefnogi cyflwyno'r brechlyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu rhagor o wybodaeth sy'n nodi eu bod yn bwriadu brechu 22,834 o drigolion eraill ledled y rhanbarth yr wythnos hon, gyda 6,913 ohonynt yn drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Bydd hyn yn cynnwys 593 o frechiadau mewn cyfanswm o saith cartref gofal, gyda 3,980 dos yn cael eu darparu gan bractisau meddygon teulu a 2,340 yn cael eu darparu mewn canolfan frechu.  Mae brechiadau'n targedu'r aelodau mwyaf bregus ac agored i niwed o'r gymuned mewn cyfres o grwpiau blaenoriaeth sydd wedi'u pennu ledled y DU gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.  Fel blaenoriaeth ar unwaith, mae'r cyflwyno cychwynnol wedi'i gyfyngu i staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, a phobl mewn cymunedau lleol sydd dros 80 oed. 

 

Mae pob meddygfa leol wedi cofrestru i gymryd rhan yn y rhaglen frechu, ac mae pobl yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol pan mai eu tro hwy yw cael y brechiad.  Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelodau egluro hyn i breswylwyr, a'u hannog i beidio â chlymu adnoddau drwy holi amdano mewn fferyllfeydd a meddygfeydd meddygon teulu.  Mae'r system wedi'i chynllunio i atal 'neidio ciw', felly ni ddylai neb geisio mynd i ganolfan frechu heb gael apwyntiad i wneud hynny. Pan ddaw ein tro, byddwn yn cael ein cysylltu gyda manylion am ble a phryd i fynd.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod angen i breswylwyr hefyd fod yn effro i sgamwyr sydd wedi bod yn manteisio ar y sefyllfa i geisio twyllo pobl, yn enwedig yr henoed, i drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol, neu hyd yn oed i dalu am frechiad ffug.  Mae'r troseddwyr hyn yn curo ar ddrysau ac yn anfon negeseuon testun ac e-byst sy'n edrych yn broffesiynol, a gofynnodd i'r Aelodau atgoffa etholwyr na fydd y GIG byth yn gofyn am daliad gan fod y brechlyn yn rhad ac am ddim i'w dderbyn.  Ni fyddant ychwaith yn cyrraedd eich cartref yn ddirybudd, ac ni fyddant yn gofyn am eich manylion banc nac i chi brofi pwy ydych chi drwy anfon copïau o ddogfennau personol, megis pasbort.

 

Gan ei bod yn bosibl na fydd effeithiau'r brechlyn yn cael eu gweld yn genedlaethol am fisoedd lawer, mae'r cyngor ar gadw Cymru'n ddiogel yn aros yr un fath, i gadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill, golchi dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen.  Mae cyfleusterau profi symudol ar gael yn llawn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer unrhyw un sy'n profi symptomau coronafeirws, ac mae rhagor o fanylion am y rhain i'w gweld ar wefannau'r cyngor, Cwm Taf a Llywodraeth Cymru.

 

Roedd yn ymwybodol bod Aelodau wedi bod yn holi ynghylch cyflwyno'r brechiad ar draws y fwrdeistref sirol, a gobeithiai fod y ffigurau hyn wedi rhoi mwy o fewnwelediad i gynnydd y rhaglen.  Byddai'n dod â rhagor o fanylion wrth i'r sefyllfa barhau i ddatblygu.