Agenda item

Dargyfeiriad Arfaethedig Llwybr Troed rhif 4, Cymuned Coety Uchaf

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Hawliau Tramwy adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a geisiodd am awdurdodiad i wneud Gorchymyn yn unol ag adran 257 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar dir i gyfeiriad y gorllewin o Newlands Avenue, Ystâd Ddiwydiannol Bracla. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod gweithredu caniatadau cynllunio P/14/464/OUT, sef cais amlinellol am hyd at 220 o anheddau ar Dir i gyfeiriad y Dwyrain o’r A4061, Ffordd Ddosbarthu Ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr (BNDR), Coety a P/16/420/RES ar gyfer materion a gedwir yn ôl ar gyfer 220 o anheddau gyda mynediad cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr a pharcio (yn yr un lleoliad) yn gofyn am ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 4, Coety Uchaf. Amlinellodd i’r Is-bwyllgor gynlluniau sy’n dangos cwrtilau caniatâd y ddau ganiatâd cynllunio ac fe ddangosodd y rhan o’r llwybr troed y cynigiwyd ei dargyfeirio rhwng Pwyntiau A-B-C-D-E-F. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y llwybr ar hyn o bryd yn dechrau ym Mhwynt A (Cyfeirnod Grid SS 91358127) ac yn bwrw i gyfeiriad deheuol i safle Rehab-Invacare ym Mhwynt B (Cyfeirnod Grid SS 91408110) cyn troi i’r gorllewin am oddeutu 255 troedfedd i Bwynt C (Cyfeirnod Grid SS 91348107) ac yna i’r de am ryw 320 troedfedd i Bwynt D (Cyfeirnod Grid SS 91378098) ac yna i gyfeiriad cyffredinol ddwyreiniol am ryw 250 troedfedd i Bwynt E (Cyfeirnod Grid SS 91448101) ar ffin ddeheuol Safle Rehab-Invacare.  Parhaodd y llwybr mewn cyfeiriad cyffredinol ddeheuol ar draws y caeau i bwynt sydd ryw 209 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o gornel gogledd-ddwyreiniol gardd gefn Rhif 29 Dôl y Brochod, Bracla (Cyfeirnod Grid SS 91468094) ac yn parhau mewn cyfeiriad deheuol am ryw 52 metr i Bwynt F (Cyfeirnod Grid SS 91448083). Hyd bras y llwybr troed fydd yn cael ei ddargyfeirio fydd 549 metr gyda lled sydd rhwng 0.7 ac 1.8 metr. Datganodd fod gan y llwybr troed gymysgedd o arwynebau naturiol a tharmacadam. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod llwybr amgen arfaethedig Llwybr Troed 4, Coety Uchaf, yn rhedeg o Bwynt A (Cyfeirnod Grid SS 913581270) ar y cynllun ac yn bwrw i gyfeiriad gorllewin de-orllewinol am ryw 27 metr i Bwynt G (Cyfeirnod Grid SS 91328126), yna mae’n parhau mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol am ryw 26 metr i Bwynt H (Cyfeirnod Grid SS 91308127) cyn parhau mewn cyfeiriad cyffredinol gogledd gogledd-ddwyreiniol am 28 metr i Bwynt I (Cyfeirnod Grid SS 91308130), wedyn mae’r llwybr yn parhau mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol am 37 metr pellach i Bwynt J (Cyfeirnod Grid SS 91278131) cyn parhau mewn cyfeiriad de-orllewinol am ryw 12 metr i Bwynt K (Cyfeirnod Grid SS 91268130), wedyn mae’r llwybr yn bwrw ymlaen mewn cyfeiriad de de-ddwyreiniol cyffredinol am 319 metr pellach i Bwynt L (Cyfeirnod Grid SS 91348099) cyn parhau mewn cyfeiriad de-orllewinol am 20 metr i Bwynt M (Cyfeirnod Grid SS 91338098), ac felly mewn cyfeiriad de, de-ddwyreiniol cyffredinol am 25 metr i Bwynt N (Cyfeirnod Grid SS 91338096) wedyn mewn cyfeiriad de-orllewinol am 28 metr i Bwynt O (Cyfeirnod Grid SS 91328094), yna mae’n parhau mewn cyfeiriad de-ddwyreiniol am ryw 49 metr i Bwynt P (Cyfeirnod Grid SS 91358091), cyn parhau mewn cyfeiriad gorllewin gogledd-orllewinol ar hyd llwybr ystâd am 69 metr i Bwynt Q (Cyfeirnod Grid SS 91418093) cyn croesi ffordd ystâd mewn cyfeiriad deheuol am ryw 11 metr i Bwynt R (Cyfeirnod Grid SS 91428092) cyn parhau mewn cyfeiriad gorllewin gogledd-orllewinol, ar lwybr ystâd hefyd am ryw 29 metr i Bwynt S (Cyfeirnod Grid SS 91448093) cyn bwrw ymlaen yn y pen draw mewn cyfeiriad de-orllewinol am ryw 45 metr, lle mae’n ymuno â Llwybr Troed 4 Coety Uchaf ar Bwynt F (Cyfeirnod Grid SS 91468088).  Rhoddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy wybod i’r Is-bwyllgor mai hyd bras y llwybr yw 724 metr ac y byddai lled ac arwyneb y llwybr newydd o Bwyntiau A-G-H-I - 1.8 metr o led gydag arwyneb tarmacadam; Pwyntiau I-J - 2 metr o led gydag arwyneb tarmacadam; Pwyntiau J-K-L - 1.4 metr o led gydag arwyneb naturiol. Datganodd, yn dilyn trafodaeth gyda’r datblygwr y byddai Pwyntiau  L-M-N-O bellach yn 2 metr o led gydag arwyneb tarmacadam wrth i Bwyntiau O-P fod yn 3 metr o led gydag arwyneb tarmacadam. Byddai Pwyntiau P-Q-R-S-F yn 1.8 metr o led gydag arwyneb tarmacadam. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod dargyfeiriad y rhan hon o Lwybr Troed 4, Coety Uchaf wedi’i drafod gyda’r datblygwr yn 2014 yn wreiddiol, pan geisiwyd am ganiatâd cynllunio amlinellol (P/14/464/OUT) ond ni ellid bod wedi gweithredu arno hyd nes i’r cais materion a gedwir yn ôl gael ei roi yn 2016 (P/16/420/RES) fel y bo’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol.  Fodd bynnag, yn ystod proses cais cynllunio 2016, cafodd yr adran Hawliau Tramwy gais gan y datblygwr i ddargyfeirio’r rhan honno o Lwybr Troed 4, Coety Uchaf. Datganodd fod y cais gwreiddiol i ddargyfeirio a gyflwynwyd gan y datblygwr, fel y dangoswyd ar y cynllun, yn dargyfeirio defnyddwyr y llwybr troed i’r trac beicio sy’n rhedeg nesaf at Ffordd Ddosbarthu Ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr, sef Pwynt Z ar y cynllun. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy ganlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag aelodau’r Cyngor Bwrdeistref Sirol lleol, Cyngor Cymuned Coety Uchaf, Cymdeithas Geffylau Prydain, Cymdeithas Cerddwyr Pen-y-bont ar Ogwr, grwpiau defnyddwyr a chyrff cyfrannog eraill, Heddlu De Cymru a chyfleustodau cyhoeddus, a arweiniodd ar dderbyn tri sylw mewn perthynas â’r dargyfeiriad arfaethedig. Datganodd y Rheolwr Hawliau Tramwy wrth i’r ymgynghoriad cychwynnol gael ei gynnal, cafodd yr Adran Hawliau Tramwy wybodaeth a ddynododd fod Gorchymyn Gwahardd Cerddwyr ar waith ar gyfer Ffordd Ddosbarthu Ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys y trac beicio cyfagos, y byddai dargyfeiriad arfaethedig Llwybr Troed 4 yn ymuno â Phwynt Z y cynllun. Rhoddodd wybod i’r Is-bwyllgor y byddai hyn yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddefnyddwyr y llwybr troed ddefnyddio’r llwybr hwnnw ac yn hynny o beth, byddai’n creu llwybr pengaead.  Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r datblygwr i drafod y mater hwn, a arweiniodd at gynnig llwybr dargyfeirio newydd.

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy ganlyniad yr ail ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y llwybr newydd arfaethedig, a arweiniodd at dderbyn un sylw gan Gerddwyr Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig. Datganodd fod angen i’r datblygwr, fel rhan o’r datblygiad, ymestyn y llwybr beicio o gylchfan cyswllt Bracla i’r cylchfan ar gornel de-orllewinol datblygiad Parc Derwen  - cyffordd yr A4061 a Heol West Plas. Roedd angen i’r datblygwr hefyd ddirymu’r rhan honno o’r Gorchymyn Gwahardd Cerddwyr i alluogi’r llwybr newydd ei adeiladu i fod yn llwybr i gerddwyr/beicio ar y cyd. Ar ôl i hyn ddigwydd, mae’r datblygwr wedi cadarnhau y byddant yn mynd i mewn i Gytundeb Creu Llwybr Troed gyda’r Cyngor i gofrestru fel llwybr troed cyhoeddus y rhan honno o’r llwybr arfaethedig gwreiddiol fel a welir rhwng Pwyntiau X-Y-Z ar y map i sicrhau bod yna gyswllt o’r datblygiad newydd i’r trac beicio.

 

Rhoddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy wybod i’r Is-bwyllgor o blith y 220 eiddo arfaethedig i’w hadeiladu yn yr ardal ddatblygu, effeithir ar ryw 43 ohonynt gan safle presennol Llwybr Troed 4 Coety Uchaf, ac o’r 43 eiddo hyn, mae un wedi’i adeiladu’n rhannol i lefel y to ac mae’r seiliau wedi’u dechrau ar ambell eiddo eraill yr effeithir arnynt. Amlinellodd y rhesymau am brosesu’r Gorchymyn cyn gynted â phosibl, ac ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhagwelwyd y byddai’r cynnig dargyfeirio a ystyrir ar hyn o bryd yn cael ei gwblhau cyn i’r gwaith adeiladu ei hun gael ei gwblhau. Disgwylid i’r gorchymyn dargyfeirio gael ei gwblhau wrth i’r Dargyfeiriad Dros Dro o’r llwybr troed barhau ar waith. Er bod y Dargyfeiriad Dros Dro presennol yn dirwyn i ben ar 19 Medi, mae cais yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn iddo gael ei ymestyn am 6 mis arall. Cynghorodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y Cyngor newydd gael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cytuno y gallai’r Dargyfeiriad Dros Dro gael ei ymestyn ac y byddai bellach yn parhau mewn grym tan 19 Mawrth 2018. Rhoddodd wybod i’r Is-bwyllgor hefyd y byddai cwblhau’r dargyfeiriad yn brydlon yn datrys unrhyw broblemau y gallai darpar brynwyr eiddo yn y datblygiad eu cael wrth gaffael morgais petai’r llwybr troed cyhoeddus presennol heb ei ddargyfeirio cyn iddynt gael eu hadeiladu a’u prynu.

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy i’r Is-bwyllgor sylwadau’r Rheolwr Gr?p – Priffyrdd a Fflyd mewn perthynas â’r dargyfeiriad.

 

PENDERFYNWYD:        (1)       Rhoi awdurdodiad i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol,  Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i wneud y Gorchymyn angenrheidiol i geisio ail-leoli Llwybr Troed 4, Coety Uchaf, i’r llwybr a ddengys ar Atodiad B yr adroddiad, ac i gadarnhau’r Gorchymyn, ar yr amod na wneir sylwadau o fewn y cyfnod rhagnodedig, neu os tynnir sylwadau a wneir yn ôl.

 

(2)       Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, y        Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i symud ymlaen y Gorchymyn i Lywodraeth Cymru benderfynu arno, os na thynnir yn ôl unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir.

 

                                     (3)       Bod y Gorchymyn/Gorchmynion yn eithrio unrhyw ran  o’r dargyfeiriad, sy’n defnyddio priffyrdd y gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu cynnal a’u cadw, gan fod hawliau cyhoeddus eisoes yn bodoli drostynt.   

Dogfennau ategol: