Agenda item

Y Diweddaraf ar y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethol adroddiad, a oedd yn:

 

a)    Cyflwyno'r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc hwn.

b)    Cyflwyno rhestr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2.

c)    Cyflwyno rhestr o eitemau pellach posibl i'r Pwyllgor er mwyn cael sylwadau a blaenoriaethu.

d)    Gofynnodd i'r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried gan ddefnyddio'r ffurflen meini prawf a benderfynwyd ymlaen llaw.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A oedd y flaenraglen waith gyffredinol a oedd yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) ar gyfer y gyfres nesaf o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc yn Nhabl 1, yn ogystal â rhestr o bynciau yr ystyriwyd eu bod yn bwysig ar gyfer eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl 2.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu fod y Pwyllgor yn cael eu gofyn yn gyntaf i ystyried y pwnc nesaf a ddyrannwyd iddynt gan y COSC yn Nhabl 1, a phenderfynu pa fanylion pellach yr hoffent i'r adroddiad eu cynnwys, pa gwestiynau maent yn dymuno i swyddogion fynd i'r afael â hwy, ac a oes unrhyw Wahoddedigion pellach y maent yn dymuno iddynt fod yn bresennol ar gyfer y cyfarfod hwn, er mwyn cynorthwyo'r Aelodau yn eu hymchwiliad.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor hefyd flaenoriaethu hyd at chwe eitem o'r rhestr yn Nhabl 2 i'w cyflwyno i'r COSC ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol a dynodi i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc ar gyfer y gyfres nesaf o gyfarfodydd. Fel rhan o hyn, gofynnwyd i'r Aelodau ystyried yr adborth a'r ymatebion o'u cyfarfod Pwyllgor blaenorol a atodir yn Atodiad B i'r adroddiad, a phenderfynu a oeddent yn fodlon ar y canlyniad a beth i'w gynnig i'r COSC ar yr eitem.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad hefyd at rolau Aelodau Trosolwg a Chraffu o ran Rhianta Corfforaethol, ac a oedd unrhyw eitemau pellach roedd Aelodau am eu nodi ar gyfer y Flaenraglen Waith.

 

Ar ôl i'r Aelodau ystyried yr adroddiad, penderfynwyd:

 

 1.       Yn dilyn trafodaeth y Pwyllgor penderfynodd yr Aelodau ar y canlynol mewn perthynas â'r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu:

 

1.1          Yn dilyn yr ymatebion a gafwyd gan Swyddogion mewn perthynas â'r eitem ‘Arolygiad Gwasanaethau Plant Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)’ mae'r Aelodau wedi gofyn am gael adroddiad gwybodaeth mewn un o gyfarfodydd y dyfodol mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed isod:

 

          Mae'r Aelodau wedi gofyn am y diweddaraf ar gynnydd y cynllun ar adeg briodol, i alluogi'r Pwyllgor i fonitro a yw'r camau gweithredu wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr Arolygiaeth.

          Gan gyfeirio at y materion a godwyd yn adroddiad AGGCC ynghylch morâl staff, mae'r Pwyllgor yn argymell bod camau'n cael eu rhoi ar waith i fonitro staff a'u boddhad swydd drwy arolwg cyflogeion corfforaethol.

 

1.2      Mewn perthynas â'r adroddiad Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi'i drefnu ar gyfer 9 Hydref 2017, mae'r Aelodau wedi gofyn i ni wahodd cynrychiolaeth gan asiantaethau allanol perthnasol a hefyd Seicolegydd Addysg er mwyn sicrhau bod unrhyw argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn seiliedig ar amrywiaeth eang o safbwyntiau a chyflwyniadau.

 

Mae'r Pwyllgor wedi tynnu sylw at yr eitemau isod fel blaenoriaethau ar gyfer y gyfres gyntaf o gyfarfodydd i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol:

 

Ffyniant Economaidd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - mae'r Aelodau wedi gofyn i'r adroddiad roi manylion am sut rydym ni, fel Cyngor, yn mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau y byddwn yn cael budd o'r Fargen Ddinesig.  Mae'r Aelodau hefyd wedi gofyn i gynrychiolydd o Gyngor Sir Fynwy yn cael ei wahodd ar gyfer yr eitem, i roi mewnwelediad o ran sut y bydd y Fargen Ddinesig yn effeithio arnynt hwy, fel Cyngor sydd hefyd ar gyrion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Mae'r Aelodau wedi nodi'r eitem hon fel un i'w gweddarlledu.

 

Adfywio Canol y Dref – Yn sgil diddordeb y cyhoedd yn yr eitem, mae'r Aelodau wedi nodi'r eitem hon fel un i'w gweddarlledu.

 

Cytunwyd hefyd bod yr eitemau canlynol yn bwysig a bod angen eu blaenoriaethu ar gyfer yn ddiweddarach yn y Flaenraglen Waith:

 

(i)            Gwasanaethau Eirioli ar gyfer Plant ac Oedolion

 

Ailfodelu Preswyl – Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol 

Dogfennau ategol: