Agenda item

Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol

Invitees

 

Cllr Phil White, Cabinet Member – Social Services and Early Help

Susan Cooper, Corporate Director Social Services and Wellbeing
Lindsay Harvey, Interim Corporate Director - Education and Family Support
Nicola Echanis, Head of Education and Early Help
Laura Kinsey, Head of Children’s Social Care
Mark Lewis, Group Manager Integrated Working and Family Support
Natalie Silcox, Group Manager Childrens Regulated Services

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar y pwnc uchod, a roddodd y diweddaraf i'r Aelodau ar sut mae'r timau Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol i Blant yn cydweithio yn yr Awdurdod i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac i rannu ag Aelodau'r dadansoddiad o'r boblogaeth plant sy'n derbyn gofal sy'n llywio'r dull a gymerir.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i'r cyfarfod, ac yn dilyn cyflwyniad byr ar yr adroddiad gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, rhoddwyd Cyflwyniad PowerPoint ar y cyd gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant a'r Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, sef y diweddaraf ar Gymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol i Blant.

 

Yn ystod ac ar ôl y Cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Gwahoddedigion, fel a ganlyn:

 

Gofynnodd Aelod pa asiantaethau a oedd yn rhan wrth gynorthwyo Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Cymdeithasol, a pha lefel o gydymffurfio a geir o safbwynt anstatudol, nad oedd yn cael ei reoleiddio.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, fod Cymorth Cynnar yn ddull seiliedig ar gydsynio yn hytrach na math statudol o fodel. Cadarnhaodd y gallai'r tîm sy'n cynorthwyo teuluoedd yn y maes gwaith hwn gynnwys nifer o asiantaethau gwahanol ac y gallai'r rhain fod yn fewnol, h.y. o'r Cyfarwyddiaethau Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac Addysg a Chymorth i Deuluoedd, neu ddarparwyr allanol gan gynnwys elfen o wasanaethau a gomisiynir. Roedd yr holl gategorïau gwahanol a meysydd cymorth hyn, fel arfer yn tarddu o gyfarfodydd a gynhaliwyd yn cynnwys cyrff a'r partneriaid gwahanol amrywiol, ac yn deillio o hyn sefydlwyd Cynlluniau Cymorth unigol a'u rhoi ar waith, ac roedd pob un o'r rhain yn amrywio, yn dibynnu ar fath a lefel y cymorth a oedd yn ofynnol ar gyfer pob person ifanc. Cafodd y categori hwn o gymorth ei gydnabod fel y ‘Cymorth Tîm o Amgylch y Teulu.’

 

Nododd Aelod y dull cadarnhaol iawn sy'n cael ei gymryd gan y ‘Tîm o Amgylch y Teulu’ a'r Asesiad Un Model. Gofynnodd beth oedd yr ysgogwyr allweddol wrth wybod pryd oedd cymorth cynnar yn ofynnol ar gyfer unigolyn. Roedd yn ymwybodol o'r ffaith bod plant yn newid wrth iddynt ddatblygu a mynd yn h?n, a'u bod yn aml yn dechrau newid o amgylch 10-11 oed pan allent fynd yn fwy heriol yn sgil dechrau wynebu pethau gwahanol yn eu bywydau. Roedd hefyd yn ymwybodol bod plant wedyn yn profi cyfres wahanol o heriau o hyn, yn ystod oedolaeth gynnar. Gofynnodd pa ddull a gymerwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol wrth nodi'r problemau y gall pobl ifanc a'u teuluoedd fod yn eu profi, a phryd roedd angen iddynt ymyrryd mewn ymgais i ddatrys y rhain.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd, fod gwaith yr Uned Cymorth Cynnar yn cynnwys cynnal Asesiadau Teulu er mwyn atal neu ymyrryd mewn problemau plant a theuluoedd sy'n codi. Byddai pob achos yn destun atgyfeiriad priodol lle roedd plant a/neu deuluoedd yn cael eu cyfeirio i'r math priodol o gymorth a oedd yn ofynnol iddynt, gyda hyn yn seiliedig ar y math o broblemau roeddent yn eu profi. Roedd un pwynt cyswllt (system drws blaen) yma yn y Swyddfeydd Dinesig, esboniodd. Gallai'r math o gymorth sy'n ofynnol ar gyfer y plentyn a/neu'r teulu, fod yn gymorth unigol neu amlasiantaeth, ychwanegodd. Nododd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd cyn gynted ag yr oedd categori priodol o gymorth yn cael ei sefydlu, roedd Cynllun Cymorth yn cael ei roi yn le ar gyfer y plentyn a/neu'r teulu Os oedd y problemau'n rhai teuluol, yna gellid rhoi Rhaglenni Rhianta ar waith, er enghraifft. Ychwanegodd y gallai ymyriadau posibl eraill gael eu hystyried hefyd.

 

Nododd aelod fod y llwybr cymorth cychwynnol yn cael ei benderfynu yn y Swyddfeydd Dinesig, ond gofynnodd ar ba gam o'r gweithrediadau roedd Cynllun Ymadael yn cael ei sefydlu fel arfer.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod adolygiadau o'r Cynllun Cymorth yn eu lle fel arfer ar ôl 1, 3 a 6 mis. Roedd canlyniad pob achos unigol yn cael ei benderfynu gan Ymarferydd yn y pen draw.

 

Gofynnodd Aelod pa mor hir a gymerodd o ddyddiad yr adolygiad cyntaf hyd nes bod plentyn/teulu yn cael cymorth.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn dibynnu ar ganlyniadau'r Asesiad Sgrinio. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i'r Asesiad hwn gael ei gynnal o fewn cyfnod o 7 diwrnod gwaith, er bod Asesiad JAFF yn cymryd mwy o amser (hyd at 15 diwrnod gwaith) ac erbyn yr amser hynny yr oedd angen cytuno ar Gynllun Cymorth addas yn seiliedig ar lefel cymorth gofynnol y plentyn neu'r teulu a rhoi'r cynllun hwnnw ar waith. Cadarnhaodd hefyd y gwneir asesiadau fel rhan o'r broses, mewn perthynas â'r plentyn a'i deulu yn yr ystyr ehangach.

 

Gofynnodd y Cadeirydd pa gamau a gymerir os ystyrir bod plentyn mewn perygl sydd ar fin digwydd, ac yn sgil hyn, roedd cynlluniau ataliol ac ymyrryd brys yn ofynnol er mwyn sicrhau eu diogelwch.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod camau gweithredu brys yn cael eu cymryd mewn achosion fel hyn, yn unol â'r gofynion deddfwriaethol priodol, yn dibynnu ar y sefyllfa a wynebir. Roedd yn rhaid barnu pob achos yn unigol. Byddai atgyfeiriadau diogelu yn dilyn proses wahanol a chael eu cyflwyno i'r tîm Asesu Diogelu.

 

Gofynnodd Aelod sut roedd yr Awdurdod yn mesur ei lwyddiant a'i hyfedredd o ran ei berfformiad yn y cymorth roedd yn ei gynnig a'i ddarparu mewn perthynas â Chymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y byddai'r Cynllun Busnes yn amlinellu manylion am y rhaglenni gwahanol a ddarperir gan yr Awdurdod mewn perthynas â'r uchod, ac y byddai modd mesur gwaith parhaus drwy ddangosyddion perfformiad a fyddai'n monitro nodau ac amcanion amrywiol hyn. Ychwanegodd y byddai pob prosiect sy'n cynnwys y Cynllun Busnes hefyd yn cael ei reoli, a byddai'n egluro canlyniadau dymunol pob un o'r prosiectau a gynhwysir ynddynt.

 

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn atodol, sef a oedd Swyddogion yn fodlon ar y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â mentrau Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol.

 

Atebodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant eu bod yn fodlon ar y cyfan, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i leihau o ganlyniad i anawsterau adeiladau'n gysylltiedig â MASH, nad oedd yn galluogi'r prosiect i fynd yn fyw hyd yma.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y problemau hyn yn sgil materion mewnol, h.y. yn yr Awdurdod, ac atebodd nad oeddent, a bod y problemau yn rhai o natur amlasiantaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Polisi Recriwtio Marchnata Maethu a sut yr oedd hyn yn mynd rhagddo.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu safbwynt rhagweithiol iawn o ran recriwtio Gofalwyr Maeth, yn enwedig o ran penodi Gofalwyr yr oedd ganddynt arbenigedd, er enghraifft wrth ofalu am blant heriol sy'n byw mewn lleoliadau am gyfnod hwy yn sgil eu cyflwr. Er bod her o ran recriwtio a chadw Gofalwyr Maeth, roedd hyn hyd yn oed yn fwy anodd mewn perthynas â'r Gofalwyr hynny a oedd yn barod i gynorthwyo plant heriol yn ogystal â Gofalwyr Trosiannol sy'n cefnogi pobl ifanc wrth iddynt fynd yn h?n a symud o Ofal Plant i Ofal Oedolion. Felly roedd recriwtio yn y ddau faes hwn wedi'i dargedu'n benodol. Canolbwyntiwyd ar leoliadau mam a baban hefyd, ychwanegodd. 

 

Gofynnodd Aelod pa arbenigedd oedd ei angen er mwyn cynnal rôl Gofalwr Trosiannol Arbenigol yn llwyddiannus.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a hyd nes bod y gwaith wedi'i gwblhau, byddai therapydd yn gweithio'n fewnol gyda Gofalwyr Maeth i ddarparu unrhyw gymorth gofynnol mwy arbenigol.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'r therapi hefyd yn cynnwys profi emosiynol seicometrig, gan nad oedd hyn wedi'i restru fel rhywbeth angenrheidiol yn yr adroddiad.

 

Ailadroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod Modiwl priodol yn cael ei ddatblygu, ac y byddai hyn yn rhan o adroddiad pellach i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd. Byddai rhan o'r Modiwl yn cynnwys cyfateb plant i aelwydydd o ran gofynion cymorth gofalu o dan drefniant pro-fforma cyfatebol, er mwyn ceisio sicrhau bod cyfle da o ganlyniadau llwyddiannus ar gyfer y plentyn dan sylw a oedd wedi'i osod mewn gofal.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion a oedd ymwybyddiaeth ddigonol yn cael ei rhannu, yngl?n â'r arwyddion i wylio amdanynt ar gyfer nodi'n gynnar y plant ifanc sy'n dangos arwyddion o broblemau, h.y. drwy gysylltu ag Ysgolion, dosbarthiadau Meithrin a Chylchoedd Chwarae ac ati, er mwyn atal a/neu ymyrryd yn gynnar i ddigwydd gyda phlant cythryblus o'r fath ar oedran ifanc.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant wedi'i gyflogi yn y tîm Cymorth Cynnar, a sicrhaodd fod cysylltu digonol â chyrff a sefydliadau a oedd yn cefnogi plant o oedran ifanc, er mwyn sicrhau bod arwyddion cynnar bod plentyn mewn trallod posibl yn cael eu nodi'n gynnar a gweithredu arnynt. Roedd llawer o gyfeirio, ychwanegodd, a thystiolaeth ar gael i ategu hyn.

 

Gofynnodd Aelod gwestiwn dilynol ynghylch sut roedd ysgolion yn rhyngweithio â'r timau Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol, os oeddent yn sylwi bod plentyn yn dangos unrhyw arwyddion o broblemau ymddygiadol ar oedran ifanc, h.y. sut roeddent yn mynd i'r afael â hyn i ddechrau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod gan yr holl ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol athro/athrawes a oedd yn arbenigo mewn materion Amddiffyn Plant, ac os neu pryd roedd yr arwyddion uchod yn cael eu nodi fel rhai amlwg mewn unrhyw blentyn, yna cysylltir â'r Cyngor er mwyn pennu graddau'r broblem, ac a oedd Atgyfeiriad yn ofynnol i'w wneud drwy'r sianelau priodol. Ychwanegodd fod hyfforddiant diogelu ar gael mewn ysgolion hefyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a allai CBSP ac asiantaethau partner ym maes Iechyd, Addysg a'r trydydd sector gael mwy o hygyrchedd i rannu gwybodaeth o natur a oedd yn gyffredin i'r holl gyrff statudol hyn, drwy system gronfa ddata gydnaws, heb dorri'r cyfreithiau diogelu data.  Byddai system o’r fath hefyd yn lleihau ymholiadau, er enghraifft, os oedd plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cymhwysiad o'r enw MyApp, a oedd yn gymhwysiad rhannu gwybodaeth y gallai Ysgolion ac asiantaethau cysylltiedig ei ddefnyddio heb dorri rheolau a rheoliadau diogelu data.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod system sy'n cael ei hadnabod fel System Gwybodaeth Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru a oedd yn galluogi rhannu gwybodaeth gydnaws rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, ond nid oedd hyn yn ymestyn i'r Adran Addysg ar hyn o bryd. Roedd nifer o awdurdodau lleol wedi ymrwymo i'r system hon ac roedd bwriad i ehangu hyn ymhellach yn y dyfodol i gynnwys PABM. Ychwanegodd pan fyddai MASH yn gweithredu'n llawn, byddai hyn yn galluogi gwella'r modd roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng sefydliadau fel Heddlu De Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yn awyddus i bwysleisio wrth Aelodau er bod rhagor o waith i'w wneud o hyd, roedd camau mawr wedi'u cymryd yn y pum mlynedd diwethaf mewn perthynas â rhannu gwybodaeth rhwng cyrff perthnasol sy'n prosesu gwaith drwy drefniadau cydweithredol neu weithio ar y cyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn ymwybodol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Bwrdd Iechyd Morgannwg Ganol wedi rhannu rhwydwaith am gryn amser, a gofynnodd a oedd unrhyw fwriad yn y dyfodol i CBSP gydweithio â RhCT, a fyddai'n cynorthwyo wrth ehangu arferion cydweithio o'r fath.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod trafodaethau yngl?n ag unrhyw drefniadau cydweithio ar gam cynnar iawn gydag RhCT, er bod rhywfaint o waith pennu cwmpasu wedi'i gwblhau. Er bod ganddynt MASH, roedd yr un yn CBSP wedi'i chynllunio'n wahanol o dan nawdd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Gofynnodd Aelod faint o blant a oedd yn cael eu haddysgu gartref, a sut roedd y plant hyn yn cael eu monitro o ran eu hiechyd a'u llesiant.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar fod swydd yn y tîm Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd a oedd yn monitro plant sy'n cael eu haddysgu gartref, o ran a oedd angen diogelu neu gymorth cysylltiedig arall arnynt. Er bod 91 o blant a oedd yn cael eu haddysgu gartref yn y Fwrdeistref Sirol, dyma oedd y swm a oedd wedi'i gofrestru fel y cyfryw, ac roedd Swyddogion yn ymwybodol bod y cyfanswm cywir yn uwch na hyn.

 

Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.24 o'r adroddiad lle y cyfeiriwyd at nifer o newidiadau i rai arferion gwaith o ganlyniad i gyflwyno Canolfannau Cymorth Cynnar mewn ardaloedd gwahanol o'r Fwrdeistref Sirol. Cyfeiriodd y rhan gyntaf o'r paragraff hwn at y manteision a sicrhawyd gan hyn, yn ogystal â'r gwaith a oedd i'w wneud o hyd o ran rheoli'r effaith a gafodd y newidiadau ar y gwasanaeth. Nododd o ganlyniad i rai o'r newidiadau, bu cynnydd o 180% o ran nifer yr atgyfeiriadau teuluol i gael cymorth cynnar yn y 3 blynedd diwethaf, yn ogystal â chynnydd o 200% yn nifer yr asesiadau teuluol a gwblhawyd ar gyfer yr un cyfnod. Cydnabu fod y cynnydd hwn yn ddramatig, a gofynnodd sut roeddent yn cael eu rheoli, ynghyd â'r ffaith bod gwasanaethau cymorth yn cael eu lleihau ar draws y Cyngor cyfan gan gynnwys yn y Gyfarwyddiaeth Plant ac Addysg. Roedd pryderon parhaus hefyd o ran elfennau o gyllid grant a nododd ymhellach o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod rhai pryderon mewn perthynas â chyllid grant ar gyfer ardaloedd ac Adrannau gwahanol y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ac roedd CMB yn cynnal ymarfer ar hyn o bryd a oedd yn ystyried hyn, a sut roedd cyllid o'r fath yn cynorthwyo 4 prif faes gwasanaeth CBSP a'r modd yr oedd yn cael ei ddyrannu, yn seiliedig ar angen a gofynion grant penodol eraill. Roedd y Prif Weithredwr yn ceisio sicrhau bod yr holl gategorïau gwahanol o grantiau'n cael eu targedu'n briodol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd o ran mentrau Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol, ni fyddai'r Awdurdod yn gallu ymateb i'r heriau i ddod heb adnoddau digonol i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â gweithio i fodloni'r nifer uwch o achosion camu i lawr o ran diogelu, a'r galw cynyddol m wasanaethau cymorth cynnar. Ychwanegodd fod cyfanswm o £6.5m o arian grant yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd, a phe bai unrhyw ran o hyn yn cael ei leihau, yna byddai'n anochel y byddai datblygu'r cynnydd a wnaed hyd yma ymhellach yn cael ei beryglu.

 

Roedd Aelod yn teimlo nad oedd digon o wybodaeth yn yr adroddiad mewn perthynas â'r heriau sydd o'n blaenau a'r atebion a awgrymwyd i'r rhain.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod pob Cyfarwyddwr Corfforaethol yn yr Awdurdod yn wynebu heriau sylweddol ac nid oedd y rhain hyd yma yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Roedd y Cabinet/CMB yn cael trafodaethau parhaus am y rhain a ffyrdd y gellid mynd i'r afael â hwy fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn wasanaethau'n seiliedig ar alw, ac o ystyried y cyfyngiadau cyllideb parhaus, roedd rhaid parhau i drafod cydweithredu/gweithio ar y cyd â phartneriaid er mwyn mynd i'r afael â gofynion gwaith gyda'n gilydd a darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol a mwy arloesol.

 

Aeth yr Aelod ymlaen i ddweud nad oedd meini prawf clir bob amser o ran yr hyn y gallai awdurdodau lleol a sefydliadau eraill wario cyllid grant arno, ac y gallai rhai mathau o gyllid grant gael ei ddefnyddio at ddiben penodol yn unig, yn hytrach na darparu'r hyn roeddech yn ei ddymuno neu'r hyn yr oedd angen i chi ei ddarparu drwy flaenoriaeth. Teimlai fod y telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â rhai categorïau cyllido yn rhy gaeth weithiau.

 

Ailbwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ffrydiau cyllido a sicrhau manteision mwyaf posibl y rhain ar draws yr Awdurdod ac ar gyfer trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hystyried, yn ogystal â natur ac anwadalrwydd y mathau gwahanol o grantiau roedd y Cyngor yn eu cael.

 

Gofynnodd Aelod pam fo'r boblogaeth plant sy'n derbyn gofal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mor uchel, am nad oedd yn credu bod hyn o reidrwydd yn gysylltiedig ag ardaloedd o amddifadedd. Gofynnodd a allai hyn fod yn sgil y ffaith bod asesiadau a gynhaliwyd gennym yn fwy trwyadl na'r rhai a gynhaliwyd mewn awdurdodau cyfagos eraill. Nododd hefyd mai dim ond 12 wythnos a ganiatawyd ar ôl i blentyn gael ei osod yn y System Ofal i'r plentyn gael ei adsefydlu'n llawn, ac nad oedd hyn yn gyfnod digon hir i'r adsefydlu gael ei gwblhau. Gofynnodd hefyd a oedd ailstrwythuro gwasanaethau, trefniadau pontio a newidiadau i'r system atgyfeirio yn cyfrannu at y nifer uchel o'r rhai sy'n ymadael yn gynnar.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod gan CBSP y 4edd boblogaeth uchaf o blant sy'n derbyn gofal ar sail Cymru gyfan o gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru, ond cytunodd y gallai hyn fod yn rhannol o ganlyniad i'r ffaith bod y Cyngor yn effeithiol iawn wrth nodi risg. Fodd bynnag, ychwanegodd fod niferoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi lefelu'n ddiweddar ond roeddent wedi cynyddu mewn rhai awdurdodau eraill. O ran Plant sy'n Derbyn Gofal, cafodd yr asesiadau eu cynnal a'r penderfyniadau dilynol eu gwneud gan y Bwrdd Diogelu a Chymorth Cynnar, ac yn sgil y sylwadau a wnaed gan yr Aelod, teimlai efallai fod angen edrych ymhellach ar y broses dderbyn, gyda'r nod o rywfaint o ddiwygio posibl.

 

Ym mhob achos lle tybiwyd ei bod yn angenrheidiol i blentyn gael ei osod mewn gofal amgen ar gyfer diogelu digonol, ychwanegodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant ei bod yn bwysig iawn hefyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud iddynt ddychwelyd i'w hamgylchedd teuluol naturiol ar ôl adsefydlu. Roedd y Tîm Cymorth i Deuluoedd yn gweithio'n agos gyda theuluoedd yr effeithiwyd arnynt er mwyn cyflawni hyn.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod gwella dulliau o integreiddio a chanlyniadau cymorth i blant, yn arwain at nifer uwch o atgyfeiriadau, felly mewn ffordd roedd yr Awdurdod yn dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun. Dyna pam roedd yn bwysig bod lefel y cyllid grant ar hyd llinellau'r hyn a oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd, yn parhau yn y dyfodol.

  

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod 50 o fabanod heb eu geni a oedd mewn perygl o fod yn fabanod sy'n derbyn gofal ar ôl cael eu geni.  Yna amlygodd Aelod y gwaith datblygu parhaus gyda rhieni rhwng beichiogrwydd lle mae plant wedi eu tynnu o'u gofal, ar dudalen 21 o'r adroddiad, ac y dylai'r gwaith hwn gael ei gynyddu

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant oherwydd bod y Cynllun Gweithredu ar y Cyd Cymorth Cynnar a Sefydlogrwydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd, roedd hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn y cylch monitro nesaf.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Cyngor gysylltu ag awdurdodau lleol cyfagos a chanddynt ardal ddaearyddol a gwledig debyg i Ben-y-bont ar Ogwr lle roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal yn is, i weld a oedd unrhyw weithdrefnau a phrosesau ‘arfer gorau’ y gellid eu mabwysiadu gyda'r bwriad o leihau'r nifer ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft gyda CBS Wrecsam.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod hyn yn cael ei ystyried gyda CBS Casnewydd a oedd yn debyg o ran maint i Ben-y-bont ar Ogwr, ond a oedd yn gyson a nifer y plant sy'n derbyn gofal yn is nag awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r duedd ar hyn o bryd oedd bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn cynyddu ar y cyfan ledled Cymru, ac er bod pob awdurdod lleol yn ceisio lleihau'r rhain o ran nifer, roedd yn rhaid gwneud hyn yn ddiogel.

 

Daeth hyn â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben, a diolchodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion am ddod ac ymateb i gwestiynau, a gadawsant y cyfarfod ar ôl hyn.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr adroddiad, roedd yr Aelodau am wneud y sylwadau a'r argymhellion canlynol:

 

a)        Mae'r Aelodau'n argymell ystyried dichonoldeb cronfa ddata i rannu gwybodaeth ar-lein  Cynigiodd y Pwyllgor y dylai'r gronfa ddata fod yn hygyrch rhwng Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, yr Heddlu ac ysgolion – gyda phob un ohonynt â chyfyngiadau perthnasol i wybodaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Diogelu Data.  Nododd yr Aelodau y byddai'r gronfa ddata hefyd yn lleihau'r baich ar ein hadnoddau o ran ymholiadau i'r Gyfarwyddiaeth ynghylch a oedd plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

b)        Mynegodd yr aelodau bryderon mewn perthynas â Chymorth Cynnar yn cael ei gynorthwyo'n bennaf gan gyllid grant blynyddol ac o ystyried bod gan y Cyngor leoliad statudol ar gyfer atal, mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet/CMB yn mynd ar drywydd hyblygrwydd grant gan Lywodraeth Cymru.

c)        Gan gyfeirio at yr ystadegau a ddarparwyd mewn perthynas â nifer y babanod heb eu geni a ddaw'n Blentyn sy'n Derbyn Gofal ar ôl cael eu geni, mae'r Aelodau'n argymell bod y gwaith sy'n cael ei ddatblygu i nodi gwasanaethau i weithio gyda rhieni rhwng beichiogrwydd yn cael ei gyflymu.

d)        Cododd y Pwyllgor bryderon mewn perthynas â nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn y Fwrdeistref Sirol ac argymhellodd fod adolygiad yn cael ei gynnal i'r rhesymau pam mae ein Hawdurdod Lleol â nifer mor uchel o gymharu ag awdurdodau lleol eraill â lefelau tebyg o amddifadedd.

 

Gwaith yn y dyfodol

 

Gofynnodd y Pwyllgor i'r Pwyllgor Craffu ailedrych ar bwnc Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol a bod yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

  • Y ffigurau diweddaraf yn cyflwyno nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal fesul awdurdod lleol;
  • Dadansoddiad o ffigurau atgyfeirio, i gynnwys ystadegau o feithrinfeydd cyn ysgol lleol;
  • Canlyniad yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus;
  • Pa wasanaethau sy'n cael eu darparu ar ôl 16 oed, o ystyried bod ymchwil yn dangos bod plant sydd wedi derbyn gofal â thebygolrwydd uwch y bydd eu plant yn y system gofal yn y pen draw hefyd;
  • Canlyniadau o'r ffrydiau gwaith prosiect Ailfodelu Preswyl canlynol:
    • Ar gyfer symud lleoliadau y tu allan i'r sir i rai yn y sir
    • Uwchsgilio tri gofalwr maeth mewnol i ddarparu lleoliadau camu i lawr dwys, therapiwtig. 

Adolygu'r strategaeth marchnata a recriwtio gofalwyr maeth        

 

 

Dogfennau ategol: