Agenda item

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacnai

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i gymeradwyo trwydded ar gyfer Cerbyd Hacnai.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau fod cais yn cael ei wneud gan Paul Brain t/a Peyton Travel Ltd, i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru FG15 XBP, yn Gerbyd Hacnai ar gyfer 4 o bobl. Cerbyd ail law oedd hwn a gafodd ei gofrestru gyntaf yn y DVLA ar 17 Ebrill 2015.

 

Nid yw’r cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid yw’r cerbyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Serch hyn, ceir canllawiau polisi penodol sy’n berthnasol i drefniadau trwyddedu cychwynnol ar gyfer Cerbydau Hacnai nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi, ac mae manylion hyn ym mharagraff 4.4 y adroddiad.

 

Yna, aeth yr Aelodau i archwilio’r cerbyd a oedd wedi’i leoli yn y maes parcio o dan y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Is-bwyllgor fod 24,380 milltir ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd.

 

Yna, gofynnodd i Mr Griffiths, a oedd yn y cyfarfod ar ran Mr Brain, am rywfaint o hanes y cerbyd er mwyn yr Aelodau.

 

Dywedodd fod Mr Brain wedi prynu’r cerbyd yn breifat ac mai un perchennog blaenorol oedd ganddo. Cadarnhaodd fod nifer y milltiroedd ar gloc y cerbyd yn isel a’i fod wedi prynu’r cerbyd am bris cystadleuol, ac mai ei fwriad wedyn oedd newid y cerbyd yn fuan, a phrynu cerbyd mwy diweddar yn ei le. Ni fyddai’r dull hwn o brynu/gwerthu yn arwain at gymaint o ymrwymiad ariannol o ran gwariant ar y cerbyd, gan gynnwys y golled yn sgil ei ailwerthu.

 

Gofynnodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ymhle’r oedd y cerbyd wedi bod yn ystod y 6 mis diwethaf, h.y. rhwng dyddiad ei brynu a dyddiad y cais.

 

Dywedodd Mr Griffiths fod mam Mr Brain wedi bod yn defnyddio’r cerbyd yn y cyfnod hwn.

 

Nododd Aelod fod difrod ar flaen y cerbyd.

 

Dywedodd Mr Griffiths nad oedd y cerbyd wedi bod mewn damwain a bod gan y math hwn o fodel baneli â bolltau ar ei ochrau blaen, a gallai hynny roi’r argraff weithiau nad yw’r ddwy ochr mewn llinell union â’i gilydd. Roedd hyn oherwydd sut cafodd y car ei weithgynhyrchu/ei adeiladu.

 

Gofynnodd i Mr Griffiths a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ffaith bod y polisi’n datgan bod trwyddedu cychwynnol Cerbydau Hacnai fel arfer ar gyfer cerbydau newydd ac nid cerbydau ail law.

 

Cadarnhaodd Mr Griffiths nad oedd yn gwybod a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ddarpariaeth hon yn y polisi ai peidio.

 

Nododd un Aelod, ar ôl archwilio’r cerbyd, nad oedd bonet y cerbyd mewn llinell union a bod yr ochr wedi’i chwistrelli â phaent.

 

Dywedodd Mr Griffiths eto fod Mr Brain wedi archwilio’r cerbyd ar adeg yr arwerthiant, a bod hyn wedi datgelu na fu difrod sylweddol i’r cerbyd yn flaenorol, er enghraifft mewn damwain ffordd.

 

Aeth yr Aelodau i ffwrdd wedyn i ystyried y cais, ac ar ôl dychwelyd

 

PENDERFYNWYD:          Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Mr Brain i drwyddedu’r cerbyd, rhif cofrestru FG15 XBP, yn Gerbyd Hacnai. Gan fod hwn yn gais am drwyddedu cychwynnol y cerbyd, nododd yr Is-bwyllgor fod yn rhaid i’r cais am drwydded gychwynnol gael ei gyflwyno o fewn 14 diwrnod i’w gofrestru ac â llai na 500 milltir ar y cloc. Roedd oedran a nifer y milltiroedd ar gyfer y cerbyd hwn yn llawer uwch.

 

                                         O dan baragraff 2.2 o’r Polisi Trwyddedu, bydd ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r polisi yn cael eu gwrthod fel rheol, ac mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yr ystyrir llacio’r polisi. Mae canllawiau ar gyfer yr eithriadau hyn ar gael ym mharagraff 2.2.1 o’r polisi, ac mae llacio’r polisi ar gyfer cerbydau hacnai yn debygol o ddigwydd dim ond pan fo oedi o ran y dystiolaeth ym mhroses gofrestru y DVLA, neu fân amrywiadau yn y milltiroedd cludo.

 

                                          Clywodd yr Is-bwyllgor hefyd yr esboniad ar gyfer y cerbyd a bod Mr Griffiths wedi dweud wrth yr Is-bwyllgor nad oedd y difrod i’r car wedi’i achosi ers i Mr Brain fod yn berchennog arno.

 

                                         Fodd bynnag, roedd yr Is-bwyllgor yn pryderu am y difrod i’r cerbyd ac am oedran y cerbyd a nifer y milltiroedd ar y cloc. Hefyd, nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y sefyllfa yn bodloni’r eithriadau a ganiateir ym mharagraff 2.2.1 o’r polisi sy’n nodi’r canllawiau ar gyfer llacio. Felly, ni all yr Is-bwyllgor lacio’i bolisi yn yr achos presennol, felly gwrthodwyd y cais am drwydded.   

Dogfennau ategol: