Agenda item

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacnai

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i gymeradwyo trwydded ar gyfer Cerbyd Hacnai.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Aelodau fod cais yn cael ei wneud gan Paul Brain t/a Peyton Travel Ltd, i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru GC15 OLA, yn Gerbyd Hacnai ar gyfer 4 o bobl. Cerbyd ail law oedd hwn a gafodd ei gofrestru gyntaf yn y DVLA ar 21 Gorffennaf 2015.

 

Nid yw’r cais yn cydymffurfio â’r Polisi Cerbydau Hacnai a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid yw’r cerbyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Serch hyn, ceir canllawiau polisi penodol sy’n berthnasol i drefniadau trwyddedu cychwynnol ar gyfer Cerbydau Hacnai nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau polisi, ac mae manylion hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Yna, aeth yr Aelodau i archwilio’r cerbyd a oedd wedi’i leoli yn y maes parcio o dan y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth yr Is-bwyllgor fod 47,848 milltir ar gloc y cerbyd ar hyn o bryd.

 

Yna, gofynnodd i Mr Griffiths, a oedd yn y cyfarfod ar ran Mr Brain, am rywfaint o hanes y cerbyd er mwyn yr Aelodau.

 

Dywedodd fod Mr Brain wedi prynu’r cerbyd yn breifat ac mai un perchennog blaenorol oedd ganddo. Cadarnhaodd fod nifer y milltiroedd ar gloc y cerbyd yn isel a’i fod wedi prynu’r cerbyd am bris cystadleuol, ac mai ei fwriad wedyn oedd newid y cerbyd yn fuan, a phrynu cerbyd mwy diweddar yn ei le. Ni fyddai’r dull hwn o brynu/gwerthu yn arwain at gymaint o ymrwymiad ariannol o ran gwariant ar y cerbyd, ynghyd â’r lefel leiaf bosibl o ddibrisio yn sgil ei ailwerthu.

 

Gofynnodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ymhle’r oedd y cerbyd wedi bod yn ystod y 6 mis diwethaf, h.y. rhwng dyddiad ei brynu a dyddiad y cais.

 

Dywedodd Mr Griffiths ei fod wedi’i ddefnyddio’n breifat yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth Mr Griffiths y dylai’r cerbyd fod yn newydd, fel rheol, ar gyfer ei drwyddedu’n gychwynnol fel Cerbyd Hacnai. Ychwanegodd fod y cerbyd, yn debyg i’r un blaenorol a ystyriwyd o dan Eitem 7 yr Agenda, yn dangos arwyddion o draul.

 

Dywedodd Mr Griffiths unwaith eto nad oedd y cerbyd (yn debyg i’r un diwethaf) wedi bod mewn damwain, ac y byddai Mr Brain wedi sicrhau hyn beth bynnag cyn prynu’r cerbyd.

 

Gofynnodd i Mr Griffiths a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ffaith bod y polisi’n datgan bod trwyddedu cychwynnol Cerbydau Hacnai fel arfer ar gyfer cerbydau newydd ac nid cerbydau ail law.

 

Cadarnhaodd Mr Griffiths nad oedd yn gwybod a oedd Mr Brain yn ymwybodol o’r ddarpariaeth hon yn y polisi ai peidio.

 

Nododd un Aelod, ar ôl archwilio’r cerbyd, nad oedd bonet y cerbyd mewn llinell union a bod yr ochr wedi’i chwistrellu â phaent.

 

Dywedodd Mr Griffiths eto fod Mr Brain wedi archwilio’r cerbyd ar adeg yr arwerthiant, a bod hyn wedi datgelu na fu difrod sylweddol i’r cerbyd yn flaenorol, er enghraifft mewn damwain ffordd.

 

Aeth yr Aelodau i ffwrdd wedyn i ystyried y cais, ac ar ôl dychwelyd

 

PENDERFYNWYD:         Ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais a wnaed gan Mr Brain i drwyddedu cerbyd, rhif cofrestru GC15 OLA, yn Gerbyd Hacnai. Gan fod hwn yn gais am drwyddedu cychwynnol y cerbyd, nododd yr Aelodau nad yw’n cydymffurfio â’r Polisi Trwyddedu ym Mharagraff 2.1, sy’n nodi bod yn rhaid i’r cais am drwydded cychwynnol gael ei gyflwyno o fewn 14 diwrnod i’w gofrestru ac â llai na 500 milltir ar y cloc. Roedd oedran a nifer y milltiroedd ar gyfer cerbyd Mr Brain yn llawer uwch na’r cyfyngiad hwn.

 

                                         O dan baragraff 2.2 o’r Polisi Trwyddedu, bydd ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r polisi yn cael eu gwrthod fel rheol, ac mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yr ystyrir llacio’r polisi. Mae canllawiau ar gyfer yr eithriadau hyn ar gael ym mharagraff 2.2.1 o’r polisi, ac mae llacio’r polisi ar gyfer Cerbydau Hacnai yn debygol o ddigwydd dim ond pan fo oedi o ran y dystiolaeth ym mhroses gofrestru y DVLA, neu fân amrywiadau yn y milltiroedd cludo.

 

                                          Mae’r Is-bwyllgor wedi clywed eich esboniad am y cerbyd ac nad oedd y difrod i’r car wedi’i achosi ers i’r ymgeisydd fod yn berchennog arno.

 

                                         Fodd bynnag, roedd yr Is-bwyllgor yn pryderu am y difrod i’r cerbyd ac am oedran y cerbyd a nifer y milltiroedd ar ei gloc. Nid yw’r Is-bwyllgor yn ystyried bod y sefyllfa yn bodloni’r eithriadau a ganiateir ym mharagraff 2.2.1 o’r polisi sy’n nodi’r canllawiau ar gyfer llacio. Felly, ni all yr Is-bwyllgor lacio’i bolisi yn yr achos presennol, felly gwrthodwyd y cais Mr Brain am drwydded.

Dogfennau ategol: