Agenda item

Symleiddio'r Ystad: Defnyddio Adnoddau'n Ddoethach

Invitees:

 

Mark Shephard – Corporate Director Communities

Cllr Hywel Williams – Deputy Leader

Cllr Charles Smith – Cabinet Member Education and Regeneration

Satwant Pryce – Head of Regeneration Development and Property Services

Fiona Blick – Group Manager Property Services

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar symleiddio ystâd y Cyngor sy’n brosiect allweddol yn ymwneud â’r flaenoriaeth gorfforaethol, Defnydd Doethach o Adnoddau.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor mai bwriad yr adroddiad yw dangos maint portffolio rheoli asedau’r Cyngor, y cyfeiriad teithio strategol, y cynnydd a wnaed o ran Trosglwyddo Asedau Cymunedol a phrosiectau mawr eraill. 

 

Holodd y Pwyllgor pa gynnydd a wnaed mewn caffael eiddo ar gyfer buddsoddi.  Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo fod gan y Cyngor gymysgedd detholiadol o eiddo masnachol o fewn ei bortffolio. Nid yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd hyn yn cael eu cadw i ddibenion buddsoddi yn unig. Ceir enghreifftiau o’r eiddo yma yn y Ganolfan Arloesi yn y Parc Gwyddoniaeth i ddarparu lleoedd i fusnesau sy’n cychwyn. Mae eiddo hefyd wedi ei gaffael yn Waterton Cross, yn benodol fel buddsoddiad ac i gynhyrchu incwm drwy osod y safle. Dywedodd hi fod gan y gwasanaeth gyllideb o £0.5 miliwn i gaffael eiddo ychwanegol ar gyfer buddsoddi ond nad oedd dim addas wedi cael ei ganfod o fewn y Cyngor Bwrdeistref. Roedd cynnig wedi cael ei wneud am arian cyfalaf ychwanegol, yn dilyn cyngor gan Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifyddiaeth Cyhoeddus (CIPFA) ac Alder King, ond aflwyddiannus oedd y cynnig ar y pryd. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau pe câi mwy o arian ei roi ar gael i fuddsoddi mewn eiddo masnachol fod yna bosibilrwydd y gallai’r Cyngor gynhyrchu mwy o incwm. Hysbysodd y Pwyllgor hefyd fod llawer o awdurdodau lleol wedi dilyn llwybrau gwahanol o fuddsoddi mewn datblygiadau masnachol er mwyn cynhyrchu ffrydiau incwm newydd. Fodd bynnag, roedd yn amlwg hefyd bod rhai peryglon yn gysylltiedig â’r dull hwn.

 

Holodd y Pwyllgor beth oedd y rheswm pam yr oedd 126 o adeiladau, nad oeddent yn cael eu defnyddio, yn cael eu cadw. Hysbysodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor fod yr eiddo yn amrywio o unedau cychwynnol i adeiladau yn y Ganolfan Arloesi a’r Parc Gwyddoniaeth a garejys bychain. Dywedodd fod rhai adeiladau anweithredol yn rhai masnachol; mae gan rai adeiladau swyddogaeth gymdeithasol-economaidd tra mae eiddo arall ond wedi cael ei etifeddu.

 

Gwnaeth y Pwyllgor y sylw bod angen clirio llawer o safleoedd mewn cymunedau yn y cymoedd, oedd yn cael eu hystyried yn ddiangen, gan nad oedd y safleoedd yn fasnachol hyfyw a holai a ellid mabwysiadu dull cymunedol i benderfynu ynghylch dyfodol y safle. Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo fod y dull hwn wedi cael ei ddilyn eisoes pan oedd yn briodol, er enghraifft, yng Nghwm Ogwr; fodd bynnag, canfuwyd bod hyn yn aml wedi bod yn ormod o dasg i’r gymuned ac felly nad oedd

modd trosglwyddo’r ased i’r gymuned a bod y safle wedi cael ei werthu ar y farchnad agored. Hysbysodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor fod y datrysiadau mwyaf llwyddiannus wedi digwydd pan oedd y safleoedd wedi cael eu trosglwyddo i Gynghorau Tref a Chymuned. 

 

Gwnaeth y Pwyllgor y sylw fod yna nifer o safleoedd oedd wedi eu gadael mewn cyflwr gwael ar ôl i’r adeilad gael ei ddymchwel ond y safle heb gael ei werthu. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Tasglu’r Cymoedd, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi ystyried safleoedd yr oedd malltod wedi effeithio arnynt, gan fod hwn yn fater oedd yn effeithio ar lawer o Dde Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd yn y cymoedd lle nad oedd gwerth tir yn uchel bob amser, a bod yna achos cryf dros ymyriad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wella ymddangosiad esthetig y safleoedd ar ôl i adeiladau gael eu dymchwel. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gyllideb o £890 mil oedd ar gael ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol a holai a fyddai galwadau yn cystadlu am gyllid ar ôl i’r gyllideb gael ei defnyddio pe câi’r holl geisiadau am drosglwyddo asedau eu cymeradwyo. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y cyllid yn benodol ar gyfer gwella parciau a phafiliynau fel rhan o broses CAT, a bod unrhyw gyllid yn y dyfodol yn ddibynnol ar lwyddiant gwario’r gyllideb bresennol o £890 mil. Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd y sylw y byddai’n rhaid tynnu’r cyllid o £890 mil i lawr yn gyntaf cyn y gellid dyrannu cyllideb bellach i drosglwyddo asedau cymunedol.                               

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yna gyfleoedd i gadw treftadaeth safleoedd, megis y gwaith cerrig o ysgolion oedd i gael eu dymchwel. Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo pe bai gan gymunedau ddiddordeb mewn cadw treftadaeth  safleoedd oedd i gael eu dymchwel, y byddai gan Swyddogion ddiddordeb mewn edrych ar y cynigion hynny. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor fod cynsail wedi cael ei osod gan fod placiau wedi cael eu cadw’n lleol o hen Ganolfan y Berwyn. Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd y sylw na allai ef weld problemau gyda chadw treftadaeth safleoedd mewn cymunedau. 

 

Holodd y Pwyllgor a oedd ymgynghoriad yn digwydd gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r trydydd sector ynghylch safleoedd yr oedd y Cyngor yn bwriadu eu dymchwel. Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo fod Swyddogion yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch gwerthu safleoedd ysgolion a safleoedd eraill er mwyn ystyried sut y gellid o bosibl eu hailddatblygu. Dywedodd fod rhai safleoedd yn cael eu gwerthu ar bris y farchnad tra roedd safleoedd eraill yn cael eu gwerthu am bris enwol. 

 

Holai’r Pwyllgor a ellid sicrhau cyfleoedd prentisiaeth fel rhan o ailddatblygu safleoedd a phrosiectau. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor fod yna bosibiliadau ar gyfer cyfleoedd prentisiaeth ond bod yna bwysau i gynyddu derbyniadau cyfalaf i’r eithaf wrth werthu tir. Dywedodd y gellid edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu cyfleoedd prentisiaeth fel rhan o waith caffael prosiectau lle bo’n briodol. Hysbysodd y Pwyllgor fod y Cyngor eisoes yn mynnu bod prentisiaethau’n cael eu sicrhau fel rhan o raglen adeiladu moderneiddio ysgolion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r gwahoddedigion am eu cyfraniad.         

 

Casgliadau:

 

Daeth y Pwyllgor i’r casgliadau canlynol:

 

  1. Argymhellodd yr aelodau fod yr Awdurdod yn ymgysylltu â’r gymuned leol, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, cyn dymchwel adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor, a chaniatáu cyfle i gadw treftadaeth y Gymuned. Argymhellodd yr Aelodau lunio cynllun ysgrifenedig ymhell ymlaen llaw gyda therfynau amser eglur ar gyfer y cyfnod ymgynghori fel bod yr holl ymgyngoreion yn glir ar yr amseroedd sy’n gysylltiedig â’r broses.

 

  1. Roedd Aelodau yn bryderus fod yna lawer o dir yn y Fwrdeistref oedd wedi cael ei adael mewn cyflwr gweladwy gwael ar ôl i adeilad gael ei ddymchwel ond nid ei werthu. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi dymuniad y Gyfarwyddiaeth i Lywodraeth Cymru ymyrryd i gynorthwyo i wneud cymunedau yn fwy dymunol eu hymddangosiad pan fydd adeiladau wedi cael eu dymchwel.

 

  1. Argymhellodd yr Aelodau edrych i mewn i’r cyfle o gynhyrchu cyfleoedd prentisiaeth yn ystod y broses gaffael. Argymhellai’r Aelodau y gellid gwneud hyn yn rhan o’r contract pan fyddai cwmnïau yn cynnig am adeiladau/tir.

Dogfennau ategol: