Agenda item

Cyllideb 2018-19

This item will be accompanied by a Presentation from the Head of Finance and Section 151 Officer.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb y Cyngor (hy y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS)).

 

Wrth roi’r cefndir, dywedodd fod gan y Cyngor MTFS pedair blynedd sy’n cynnwys cyllideb blwyddyn. Roedd hon yn cael ei diweddaru bob blwyddyn drwy gyfrwng y broses Graffu a phroses y Cabinet cyn i’r Cyngor ei chymeradwyo – ac ar 1 Mawrth 2017 a y digwyddodd hynny ddiwethaf. Yn y Strategaeth, nodir yr adnoddau sydd eu hangen i roi’r blaenoriaethau gwella ar waith, yn ogystal â’r adnoddau sydd eu hangen i ymgymryd â ‘busnes arferol’ y Cyngor.  Roedd angen i bawb gofio bod yr MTFS yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 2018-19 a 2021-22.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel pob awdurdod arall, wedi wynebu her ariannol fwy difrifol nag erioed o’r blaen dros y pedair blynedd diwethaf. Dros y cyfnod hwn, mae’r Cyngor wedi gorfod sicrhau arbedion o oddeutu  £36m mewn cyllidebau cylchol.

 

O ran y sefyllfa’n fwy diweddar, a’r sefyllfa yn y dyfodol, mae’r Cyngor yn rhagweld diffygion ariannol o oddeutu £35m rhwng 2018-19 a 2021-22.

 

Ar ben y gostyngiad yn y setliad ariannol roedd y Cyngor yn ei gael gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, byddai’r Cyngor, meddai’r Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151, yn wynebu pwysau ariannol cynyddol yn ystod y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i:- 

 

  • Unrhyw bwysau deddfwriaethol heb eu hariannu yn y dyfodol
  • Cynnydd yn y gost o gyflogi staff wrth i’r mesurau i ffrwyno cyflogau gael eu llacio
  • Materion yn ymwneud â’r strwythur cyflogau er mwyn cydymffurfio â’r cyflog byw cenedlaethol
  • Chwyddiant prisiau sy’n effeithio ar gytundebau cyflenwi allanol

 

Er i awdurdodau lleol gael eu setliad drafft gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 na fyddai effaith lawn y newidiadau posibl yn dod yn gwbl glir am gryn amser, a nes daw’r wybodaeth am grantiau penodol i’r amlwg.

 

Yna, byddai’r cynigion ar gyfer yr MTFS yn cael eu cyflwyno a byddai modd llywio a rhannu’r Gyllideb â phwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Cyngor, cyn i’r Pwyllgor Gweithredol (hy y Cabinet) ei chymeradwyo.

 

Yna, ym mharagraff 4.5 o’r adroddiad nodwyd bod MTFS y Cyngor yn tybio y bydd cynnydd o 4.2% yn y Dreth Gyngor yn 2018-19, a 4.5% bob blwyddyn wedyn. Yn y rhan hon o’r adroddiad hefyd cafwyd manylion amserlen ehangach y gyllideb, a dyddiadau penodol yn ymwneud â’r Dreth Gyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 fod yr MTFS yn dyrannu adnoddau i roi Cynllun Corfforaethol yr Awdurdod ar waith. Y Cynllun hwn sy’n llywio gwasanaethau’r Cyngor yn gyffredinol. Bwriedir i gynigion terfynol y Gyllideb ymdrin ag amrywiaeth eang o wasanaethau, ac roedd yn anochel y bydd y gostyngiadau angenrheidiol yn y gyllideb wrth ddatblygu’r cynigion hyn yn effeithio ar y boblogaeth leol mewn gwahanol ffyrdd.

 

Yn olaf, cyfeiriodd ar oblygiadau ariannol yr adroddiad a oedd yn cadarnhau bod MTFS y Cyngor yn ategu ei flaenoriaethau a’i Gynllun Corfforaethol yn ddigonol. Roedd yr MTFS ar gyfer 2018-2022 yn cael ei datblygu a’r bwriad oedd cynnal cydymgynghoriad cyhoeddus yn ystod mis Hydref - Tachwedd 2017 ynghylch y blaenoriaethau ariannol a’r cynigion a oedd yn dod i’r amlwg o ran yr MTFS.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 gyflwyniad Power Point a oedd yn cyd-fynd â’i adroddiad, yn amlinellu hanes yr MTFS gan ganolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:-

 

1.    Gostyngiad yn y cyllid a geir gan Lywodraeth Cymru;

2.    Pwysau ar y gyllideb (gan gynnwys diogelu ysgolion);

3.    Cyflogau, prisiau a chwyddiant;

4.    Trosglwyddo cyfrifoldebau/cyfrifoldebau newydd

 

Yr her ariannol o ganlyniad i’r uchod.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 hefyd at y gostyngiad yn incwm y Dreth Gyngor a’r Gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf, a’r modd y gellid lliniaru’r pwysau hyn.

 

Aeth rhagddo i egluro bod y setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2017-18 wedi gostwng -0.5% ar gyfartaledd i awdurdodau lleol Cymru (0.6% i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), er nad oedd manylion y grantiau ar gael eto.

 

Gan symud ymlaen i 2019 ac wedyn, dywedodd fod y Cyngor yn wynebu setliad dangosol o -1.5% ar gyfer 2019-20, ac y byddai’r risgiau a nodwyd eisoes yn parhau o ran rhoi’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar waith.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 y byddai’r Cyngor yn parhau i ymgysylltu â’r Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch y meysydd hynny lle y gellid cydweithredu  a/neu’r meysydd y gallent eu hariannu’u hunain drwy godi’r praesept. Gallai’r rhain, er enghraifft, gynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleihau gwariant ar lanhau strydoedd, trosglwyddo canolfannau cymuned (i gyrff gwirfoddol) a lleihau’r cymhorthdal ar gyfer teithio ar fws etc. 

 

Wrth gloi, cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151  at rai amserlenni a dyddiadau allweddol o ran Strategaeth y Gyllideb, sef rhoi gwybod i Gynghorau Tref a Chymuned am y sylfaen drethu (diwedd mis Tachwedd); cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ar bennu’r sylfaen drethu’n ffurfiol (28 Tachwedd), Cynghorau Tref a Chymuned i bennu’r praesept (dechrau mis Ionawr) a chyflwyno adroddiad i’r Cyngor i gymeradwyo’r Dreth Gyngor a’r praeseptau (2 Chwefror).

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd modd sicrhau’r arbedion, sef £49m at ei gilydd, heb leihau’r gweithlu a chrebachu gwasanaethau ymhellach, gan ei bod yn amhosibl parhau i sicrhau arbedion drwy geisio gweithio’n fwy effeithlon yn unig.  Byddai’r Cyngor yn parhau â’r gwaith da, meddai, drwy ddefnyddio dulliau mwy arloesol o weithio’n effeithlon a drwy gydweithio â darparwyr eraill i ddarparu gwasanaethau ar y cyd os oedd modd. Byddai’r Cyngor hefyd yn ceisio lleihau costau rheoli a gweinyddu pan fo hynny’n bosibl, ac yn sicrhau arbedion sylweddol drwy wella dulliau o atal ac ymyrryd yn gynnar yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

 

Gofynnodd un Aelod a oedd dyddiadau wedi’u pennu eto ar gyfer ymgynghori ag etholwyr y Cyngor Bwrdeistref - yn y cymunedau lleol a drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 fod yr ymgynghoriad ynghylch yr MTFS ar agor ar hyn o bryd, er mai dydd Mercher nesaf y byddai’n cael ei lansio’n ffurfiol. Byddai elfennau gwahanol o’r broses ymgynghori’n agored ac yn dryloyw, a byddai’r Cyngor yn ceisio sylwadau’r cyhoedd ynghylch sut y dylid gwario’r Gyllideb, yn hytrach nag ynghylch y ffyrdd mwyaf ymarferol o arbed arian.  Byddai’r ymgynghoriad yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd am dynnu sylw at y ffaith mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn cael y gyfradd fwyaf o ymatebion o’r holl awdurdodau lleol a oedd yn ymgysylltu ddwy ffordd â’r cyhoedd yngl?n â’r Gyllideb.

 

Roedd yr Aelod yn gobeithio y byddai’r system ‘Cyfrifo Ar-lein’ yn cael ei ddefnyddio eto eleni, gan ei fod yn dangos i’r etholwyr faint roedd y Cyngor yn gorfod ei arbed. Teimlai nad oedd canran uchel ohonynt yn sylweddoli faint o arbedion yr oedd angen eu sicrhau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 y byddai’r system Cyfrifo Ar-lein yn cael ei defnyddio eto fel rhan o’r broses ymgynghori ynghylch y Gyllideb.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosibl gwneud mwy i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc yn yr ymgynghoriad eleni, gan gynnwys annog aelodau o’r Cyngor Ieuenctid i gyfrannu, yn ogystal â chysylltu mwy ag ysgolion a’r genhedlaeth iau drwy grwpiau cymunedol lleol. Gofynnodd i’r Aelodau hynny a oedd hefyd yn Llywodraethwyr Ysgolion i gysylltu â’u hysgolion a’u grwpiau cymuned lleol yn y cyswllt hwn er mwyn ehangu’r broses ymgynghori.

 

Soniodd un Aelod am yr adroddiad a oedd yn cyfeirio at adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet fis Gorffennaf 2017, a oedd yn tybio y byddai cynnydd o 4.2% yn y Dreth Gyngor yn 2018-19, a 4.5% bob blwyddyn wedyn. Gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys praesept y Cynghorau Tref a Chymuned, ac atebodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 nad dyna’r achos.

 

Nododd Aelod arall fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi wynebu toriadau sylweddol ers y dirwasgiad, ac roedd yn holi a fyddai unrhyw fudd cyfuno’r Gyfarwyddiaeth hon ag un arall.


Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 fod y Gyfarwyddiaeth hon yn dal yn cynnwys maes gwasanaeth eang, a oedd yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i’r cyhoedd yn uniongyrchol. Ychwanegodd fod gan y Cyngor gyllid o £258m o hyd, er y byddai gostyngiad o £6m yn ystod y flwyddyn nesaf. Roedd y Cyngor, fel corff cyhoeddus, yn parhau i ddarparu gwasanaethau, ond roedd y gwasanaethau hyn wedi lleihau’n unol â’r toriadau yn y gyllideb gylchol a oedd yn cael eu gorfodi ar y Cyngor.

 

Gofynnodd un Aelod faint o incwm fyddai’n cael ei gynhyrchu ar sail cyfradd Dreth Gyngor o 4.2%.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 y byddai hyn yn cyfateb i oddeutu £3m.

 

Dywedodd un Aelod fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn parhau i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau i’r cyhoedd ac roedd yn teimlo y gallai rhai Cynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo i ddarparu’r rhain, neu eu darparu eu hunain.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yn rhaid i’r Cyngor ddarparu llawer o wasanaethau costus ee £40m yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yn rhaid i’r Cyngor hefyd ddarparu cryn dipyn o adnoddau nad oedd y cyhoedd yn ymwybodol ohonynt , ee cost Plant sy’n Derbyn Gofal a lleoliadau’r Tu Allan i’r Sir. Mae dros 380 o blant sy’n derbyn gofal a dros 750 o deuluoedd y mae’n rhaid i’r Cyngor eu hariannu i raddau er nad ydynt o dan ei ofal yn uniongyrchol. Hefyd, roedd nifer o bobl h?n yn cael gofal mewn Cartref Gofal ac, os nad oedd gan yr unigolion hyn asedau,  yna byddai’r Cyngor yn talu’n llawn am y gofal hwnnw, sef £450 yr un yr wythnos. Roedd yr enghreifftiau hyn yn bwysau ariannol a oedd yn codi o’r naill flwyddyn i’r llall.

 

Teimlai un Aelod y dylid defnyddio proses ymgynghori’r MTFS i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaethau hanfodol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu darparu, fel y gwasanaethau y cyfeirir atynt uchod, a oedd y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod i raddau ac a oedd yn dreth gyson ar ei adnoddau ariannol. Dylai’r cyhoedd hefyd fod yn ymwybodol o’r meysydd hynny y mae’r Cyngor yn bwriadu lleihau gwariant arnynt (yn hytrach na meysydd eraill) a’r rhesymau dros hynny.

 

Cytunodd y Cadeirydd â hyn, gan ychwanegu y byddai rhannu gwybodaeth fel hyn yn helpu’r etholwyr i ddeall sut y mae’n rhaid i’r Cyngor reoli’i gyllideb yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gellid, meddai, gynnwys swm y gyllideb a ddyrennir i bob un o feysydd gwasanaeth y Cyfarwyddiaethau, a chynnwys meysydd lle y bwriedir arbed arian, a’r meysydd hynny y mae angen eu diogelu. 

 

Teimlai un Aelod y dylai holl awdurdodau lleol Cymru ymuno â’i gilydd i lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan os oedd angen, er mwyn sicrhau mwy o arian i ddarparu gwasanaethau digonol i’r cyhoedd neu, pe bai hynny’n methu, a dyna, yn ei dyb ef, oedd yn debygol o ddigwydd, dylid gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu fel yr Awdurdod sy’n gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Os nad oedd Cynghorau Tref/Cymuned ar gael i gynorthwyo awdurdodau lleol ar ryw lefel, yna gallai’r sefyllfa fod yn waeth fyth.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Prif Weinidog Cymru wedi ymweld â’r Cyngor ddydd Gwener diwethaf, a’i fod wedi’i holi ynghylch yr uchod. Roedd y Cyngor hefyd yn Aelod o’r CLlLC ac roedd cynrychiolwyr y corff hwn yn cyfarfod yn rheolaidd â’r Ysgrifennydd Cyllid dros Lywodraeth Leol. Un o’r pynciau a drafodwyd yn gyson oedd y toriadau parhaus roedd awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Nid oedd y sefyllfa ariannol yn gwella fawr ddim naill ai oherwydd bod grantiau’n gostwng neu oherwydd bod gormod o gyfyngiadau ynghlwm wrthynt.

 

Tynnwyd sylw’r Fforwm at gynnig a dderbyniwyd gan y Cyngor mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar, i lobïo Llywodraeth Cymru i ddyrannu rhagor o arian i awdurdodau lleol.

 

Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy  gadarnhau y caiff Gweithdy ei gynnal ar 26 Hydref er mwyn ystyried cynigion y gyllideb arfaethedig, cyn iddynt gael eu datblygu ymhellach.   

 

PENDERFYNWYD:                Nodi’r adroddiad.   

 

    

Dogfennau ategol: