Agenda item

Rhaglen Trawsnewid ar gyfer Plant Anabl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad arm y diweddaraf o waith a wnaed ar fodel newydd o ddarpariaeth arbenigol 52 wythnos ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Gofynnodd hefyd i’r Datganiad o Ddiben a ddatblygwyd ar gyfer y ddarpariaeth newydd, a gafodd gymeradwyaeth gan y Cabinet ym mis Mehefin 2017, gael ei nodi.

 

Adroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant hefyd fod tîm y prosiect wedi rhoi cynlluniau ar waith, yn dilyn cymeradwyaeth i ddatblygu darpariaeth arbenigol 52 wythnos, i symud y prosiect ymlaen gan adrodd ar y cynnydd i Fwrdd y Rhaglen Plant  Anabl. Nododd y gofynnwyd i blant a phobl ifanc sy’n mynd i Ysgol Heronsbridge  roi awgrymiadau ar gyfer y cyfleuster newydd a chynigiwyd yr enw ‘Harwood House’, sef enw’r gofalwr presennol ac sy’n unol ag enwau’r adeiladau eraill. 

 

Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant wybodaeth i’r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed yn y meysydd gwaith canlynol:

 

·         Caffael ac Adeiladu

·         Cynllunio Lleoliadau/Cyfnod Pontio

·         Cofrestru (gan gynnwys strwythur aelodau staff a rota)

 

Gwnaeth y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant grynodeb o’r pwyntiau allweddol sydd wedi eu cynnwys yn y Datganiad o Ddiben ac o’r broses gofrestru a ddechreuodd gydag AGGCC ym mis Mehefin 2017 a bwriedir ei chwblhau  erbyn mis Medi/Hydref 2017, pan fyddai’r garfan gyntaf o unigolion wedi ei chynnwys yn y ddarpariaeth yn ôl y cynllun. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant  fod y prosiect i ddatblygu darpariaeth arbenigol 52 wythnos yn Ysgol Heronsbridge wedi ei roi ar waith  ochr yn ochr â’r gwaith ailwampio yn Bakers Way, a oedd yn cynnig gwyliau byr i blant anabl.

 

Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol A Lles ar bwysigrwydd y prosiect am ddarpariaeth arbenigol  52 wythnos, a ddylai sicrhau llai o ddibynadwyedd ar leoliadau y tu hwnt i’r sir sydd â chost uchel. Dywedodd y byddai’n rhannu manylion agoriad swyddogol y cyfleuster â’r Aelodau ar ôl cwblhau’r trefniadau. Diolchodd y Pwyllgor i dîm y prosiect am eu gwaith yn cyflawni’r prosiect. Mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei ddiolch i Gail Summerhayes, y Rheolwr Preswyl,  am ei rhan yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei wireddu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oes modd gwneud rhywbeth i roi arwyddion i ddargyfeirio myfyrwyr sy’n mynd i Goleg Pen-y-bont i ffwrdd o’r cyfleuster arbenigol newydd, a hefyd gofynnodd a fyddai lleoedd parcio’n cael eu neilltuo. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y byddai’n edrych ar y mater arwyddion ac y byddai maes parcio penodedig ar gyfer T? Harwood. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddent hefyd yn edrych ar yr hyn y mae’r eiddo drws nesaf, sef T? Heron sy’n gyfleuster ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, yn ei wneud i ymdrin â phroblemau parcio.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor faint o’r lleoliadau sydd y tu allan i’r sir ar hyn o bryd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wrth y Pwyllgor fod 11 o leoliadau y tu allan i’r sir ar hyn o bryd gan na wnaethant fodloni’r meini prawf i gael eu lleoli yn Nh? Harwood. Nododd y byddai’r maen prawf cofrestru yn cael ei fodloni pan fyddai ail blentyn yn symud i’r cyfleuster.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai’r bobl ifanc sy’n preswylio yn Nh? Harwood yn cael eu cofrestru gyda meddygon teulu lleol. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant wrth y Pwyllgor y cynhelir trafodaethau â theuluoedd y bobl ifanc ac y byddent yn cael eu hannog i gofrestru gyda meddygon teulu lleol. 

 

Cwestiynodd y Pwyllgor y broses ar gyfer neilltuo darpariaeth i bobl ifanc yn Nh? Harwood i bobl ifanc. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod 2 blentyn wedi eu nodi i gael eu lleoli yn Nh? Harwood a bod trydydd plentyn yn cael ei asesu ar hyn o bryd, ac na fyddai o bosib angen darpariaeth 52 wythnos arno.

 

PENDERFYNWYD:   bod Pwyllgor y Cabinet dros Rianta Corfforaethol:

 

(1)  Yn nodi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Gorffennaf;

 

(2)  Yn nodi bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r Datganiad o Ddiben am y ddarpariaeth 52 wythnos newydd i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ym mis Gorffennaf 2017. 

    

Dogfennau ategol: