Agenda item

Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol adroddiad ar berfformiad a chynnydd  Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad Dangosyddion Perfformiad Rhanbarthol  2016/17. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod mabwysiadu yn dal i dderbyn llawer o sylw gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru  a bod creu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn un o brif feysydd polisi Llywodraeth Cymru fel y’i deddfwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ddeddf hon yn rhoi grym i awdurdodau lleol gydweithredu mewn cysylltiad â gwasanaethau mabwysiadu.  Esboniodd y Rheolwr Mabwysiadau Rhanbarthol i’r Pwyllgor fod gwasanaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin yn cael ei gynnal a’i reoli gan Gyngor Abertawe ac yn rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Tynnodd sylw at drefniadau rheoli a goruchwylio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, y mae Cyngor Caerdydd yn ei gynnal ac yn awdurdod arweiniol iddo. 

 

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadau Rhanbarthol fod Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin wedi dod yn llwyr weithredol ym mis Ebrill 2015 a’i fod yn darparu ystod o wasanaethau ac ymyraethau ar draws pum prif faes. Tynnodd sylw at brif gyflawniadau’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol, a oedd wedi gweld mwy o blant yn cael eu lleoli o fewn y gwasanaeth nag o fewn y rhyngasiantaethau (IA). Cafodd 13 o blant eu lleoli ym Mhen-y-bont drwy’r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol ac 11 drwy’r IA. Roedd yr amser yr oedd yn ei gymryd i gynnig lleoliad i blentyn a oedd yn derbyn gofal wedi gostwng o 19.5 mis i 15.3 mis. Ni lwyddwyd i gyrraedd y meincnod cenedlaethol o 13 mis. 

 

Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol fod yr amser a gymerir ar gyfartaledd i blant sy’n aros am fwy na chwe mis o’r penderfyniad y dylid eu lleoli i’r adeg y cânt eu lleoli  wedi cynyddu o 9.25 mis i 10 mis.  Nododd y cafwyd llawer o ddatrysiadau llwyddiannus gyda nifer o blant yn cael eu lleoli mewn cyfnod byr iawn o amser. Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor fod mwy o gydweithredu’n digwydd rhwng Family Finding a’r Adoption Support i roi pecynnau cymorth ynghyd ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth neu pan fo angen cymorth ychwanegol ar leoliadau.        

 

Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod y cyfnod cyfartalog i gymeradwyo mabwysiadwyr o’r cam ymholi i’r cam penderfyniad gan yr Asiantaeth  wedi gostwng o 10.1 mis y llynedd i 9.7 mis. Nododd fod cynnydd bach yn nifer y plant sydd wedi eu cyflwyno i’r panel gyda thystiolaeth o Ffeithiau Profiadau Bywyd. Llwyddwyd i gynnal lefel y perfformiad o ran nifer y rhieni biolegol sydd wedi eu hatgyfeirio ac sydd wedi cael cynnig gwasanaeth. Amlygodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol yr heriau/datblygiadau  y bydd angen i’r gwasanaeth ymgymryd â nhw yn y flwyddyn i ddod.   

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd patrymau neu dueddiadau wedi dod i’r amlwg lle gwelwyd ymholiadau’n cael eu gwneud gan ddarpar fabwysiadwyr ond nad aethant ymlaen i fabwysiadu. Nododd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol  nad oedd tystiolaeth benodol pam nad oedd darpar fabwysiadwyr yn mynd ymlaen i fabwysiadu. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y cynigion newydd am gydweithredu lle byddai’r Cyngor hwn yn paru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a chwestiynwyd perfformiad eu gwasanaeth mabwysiadu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wrth y Pwyllgor nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ar gydweithredu yn y dyfodol nac ar ffiniau’r byrddau iechyd. Ond cynhaliwyd ymarfer cwmpasu o’r holl wasanaethau a ddarperir a chafodd swyddogion gyfarfodydd cychwynnol gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.  Nododd fod swyddogion yn falch iawn o’r hyn a lwyddwyd i’w gyflawni hyd yn hyn gan gydweithrediad Bae’r Gorllewin. Nododd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol  fod cydweithredu ar fabwysiadu rhanbarthol wedi ei orfodi gan ddeddfwriaeth a byddai’n ofynnol newid y ddeddfwriaeth pe byddai newid i ffiniau’r byrddau iechyd. 

 

Holodd y Pwyllgor a oes cysylltiad rhwng y trydydd sector a chynorthwyo rhieni biolegol. Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod gwasanaethau'r trydydd sector ar gael i gynorthwyo rhieni biolegol a mabwysiadwyr a bod y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol yn cynnal gr?p rhieni biolegol ond nad oedd wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn.  Nododd y byddai pwyslais ar helpu rhieni i ysgrifennu’r llythyr blynyddol at y plentyn a gafodd ei fabwysiadu. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant wrth y Pwyllgor fod cynrychiolaeth gan y trydydd sector ar Fwrdd Rheoli Bae’r Gorllewin. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gostyngiad yn nifer y mabwysiadwyr yn genedlaethol a gofyn a oedd camau’n cael eu cymryd i annog pobl i fabwysiadu. Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod gormod o fabwysiadwyr ym mlwyddyn gyntaf y gwasanaeth rhanbarthol, ond erbyn hyn mae’r duedd wedi’i gwrthdroi gan fod mwy o blant na darpar fabwysiadwyr. Nododd fod angen targedu’r broses o recriwtio mabwysiadwyr gan fod diffyg cydbwysedd yn bodoli yn lleol ac yn genedlaethol a bod nifer yr ymholiadau a gafwyd wedi gostwng. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y rhan fwyaf o’r ymholiadau yn dod oddi wrth bobl nad oes ganddyn nhw blant eu hunain ac a oedd eisiau mabwysiadu babanod. Nododd hefyd fod llawer o blant yn rhan o grwpiau o frodyr a chwiorydd ac mae’n anoddach eu lleoli i gael eu mabwysiadu. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor o ran sut y cymharir perfformiad y gwasanaeth mabwysiadau rhanbarthol  â rhanbarthau eraill yng Nghymru a faint o blant sy’n derbyn gofal a gafodd eu mabwysiadu, nododd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y byddai’n cyflwyno data perfformiad i’r Pwyllgor. Nododd fod y plant yn derbyn gofal nes y caniateir eu mabwysiadu a’r nod yw sicrhau bod plant yn cael eu symud allan o ofal a’u rhoi i’w mabwysiadu ar y cyfle cyntaf posibl ac mae’r Tîm Sefydlogrwydd yn dilyn sefyllfa’r plant yn fwy cadarn.  Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod 69 o orchmynion mabwysiadu wedi eu rhoi eleni, a chafwyd 12 o brosesau mabwysiadu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod Chwarter 2. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oes gan y gwasanaeth mabwysiadu gysylltiad â gwasanaethau mabwysiadu eraill. Nododd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol fod dau wasanaeth mabwysiadu arall yng Nghymru, sef  Dewi Sant a Barnardos a bod y gwasanaeth rhanbarthol yn gweithio gyda nhw. Fodd bynnag, mae ganddyn nhw niferoedd mabwysiadu is na’r gwasanaeth rhanbarthol. Roedd y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol yn edrych ar bosibilrwydd datblygu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer plant y mae’n fwy anodd eu lleoli.

 

Holodd y Pwyllgor am lefel y gefnogaeth sydd ar gael i ddarpar fabwysiadwyr gael cyfarfod y tu allan i oriau gwaith gan efallai nad yw rhai cyflogwyr yn gydymdeimladol ac nad ydynt yn caniatáu i’w staff gael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynd i gyfarfodydd a hyfforddiant yn ymwneud â mabwysiadu, a hefyd efallai nad yw’r ysgolion yn cydymdeimlo â mabwysiadwyr. Cadarnhaodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol  fod y gwasanaeth yn gweithio o gwmpas yr ymrwymiadau gwaith sydd gan y mabwysiadwyr drwy gynnal cyfarfodydd ac ymweliadau fin nos. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant wrth y Pwyllgor fod canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar sut mae’r gwasanaeth mabwysiadu yn gweithio gydag ysgolion. Rhoddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol hefyd wybod i’r Pwyllgor fod y gwasanaeth rhanbarthol yn cynnal cyfarfodydd â Chydgysylltwyr Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal yn y tri awdurdod lleol ym Mae’r Gorllewin a bod grant amddifadedd disgyblion hefyd ar gael i blant sydd wedi eu mabwysiadu. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gydag ysgolion ac athrawon i godi ymwybyddiaeth a chefnogi plant sydd wedi eu mabwysiadu. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am gyllid ychwanegol sydd ar gael ar gyfer cymorth wrth fabwysiadu a holodd pa fath o gymorth ychwanegol y gellir ei gynnig. Nododd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol  ei bod yn rhy gynnar i benderfynu ar yr hyn y defnyddir y cyllid ychwanegol ar ei gyfer. 

 

Holodd y Pwyllgor am y pwerau sydd ar gael i’r awdurdod allu atgyfeirio plant sy’n mynd drwy’r broses fabwysiadu i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Nododd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn nes caiff y gorchymyn mabwysiadu ei gymeradwyo. Nododd y byddai’r meddyg teulu yn arfer atgyfeirio’r plentyn i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ond mewn achosion cymhleth byddai’r awdurdod lleol yn gwneud yr atgyfeiriad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Lles wrth y Pwyllgor fod angen i’r awdurdod roi blaenoriaeth i anghenion y plentyn a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’n parhau i weithio gyda’r plentyn.

 

PENDERFYNWYD:     Nododd Pwyllgor y Cabinet dros Rianta Corfforaethol berfformiad y gwasanaeth mabwysiadu a’r adroddiad arno, yn ogystal â’i allu i ddiwallu anghenion y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y broses fabwysiadu yn y rhanbarth.                                      

 

Dogfennau ategol: