Agenda item

POLISI PROFI CERBYDAU HACNI/CERBYDAU HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) adroddiad a ofynnai i’r pwyllgor ystyried y perygl i’r cyhoedd yn sgil y gyfundrefn brofi bresennol ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Gofynnai’r adroddiad hefyd am gymeradwyaeth yr aelodau i ymgynghori â’r fasnach dacsis leol a’r cyhoedd er mwyn diwygio’r polisi profi cerbydau.

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) mai’r Cyngor oedd awdurdod trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat ac ychwanegodd mai’r awdurdod oedd yn gosod amodau trwyddedu y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cael trwydded. Un o’r amodau hyn oedd oedran cerbyd i’w gyflwyno i cael trwydded am y tro cyntaf ac, ar ôl ei drwyddedu, pa mor aml y dylid ei gyflwyno i’w brofi. Gellid cynnal profion rheolaidd hyd at 3 gwaith y flwyddyn. Roedd defnyddio cerbyd heb dystysgrif MOT ar ffordd gyhoeddus yn drosedd dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Fodd bynnag, rhoddwyd caniatâd i gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gael eu heithrio o’r gyfundrefn profion MOT. Y rhesymeg dros hyn oedd bod gan yr Awdurdod Trwyddedu reolaeth uniongyrchol dros gyflwr ei fflyd a, chan hynny, gallai orfodi’i gyfundrefn brofi ei hun a chyflwyno tystysgrifau eithrio rhag profion MOT.

 

Esboniodd mai’r polisi presennol oedd profi cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yng nghyfleuster profi’r Cyngor yn Isadran y Gwasanaethau Fflyd, Newlands Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd cerbydau’n cael eu profi ar hyn o bryd yn unol â gofynion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac roeddent yn derbyn Tystysgrif Prawf Eithrio. Nid oedd safon y prawf hwn ddim is na safon y prawf MOT ac roedd yn cynnwys elfennau ychwanegol a oedd yn ymwneud yn benodol â cherbydau trwyddedig, e.e. sut yr oedd cloeon drws cerbyd yn gweithio.

 

Ar hyn o bryd, roedd amlder y prawf yn dibynnu ar oedran y cerbyd. Roedd cerbydau dan 5 oed (o ddyddiad y cofrestriad cyntaf) yn cael eu profi ddwywaith y flwyddyn ac roedd cerbydau dros 5 oed yn cael eu profi deirgwaith y flwyddyn.

 

Y cynnig oedd y byddai cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn cael eu profi yn unol â’r gyfundrefn MOT a weinyddir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVSA).

 

Esboniodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) y byddai gofyn i gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gael prawf cydymffurfio ychwanegol, ochr yn ochr â’r prawf MOT. Roedd hwn yn brawf manylach a oedd yn cydymffurfio â Safonau Archwilio Cenedlaethol Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, a grëwyd gan Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau. Roedd nifer o awdurdodau drwy’r Deyrnas Gyfunol yn defnyddio’r safonau hyn. Roedd copi drafft o’r prawf cydymffurfio arfaethedig i’w weld yn Atodiad B.

 

Y bwriad oedd profi pob cerbyd dan 10 oed ddwywaith y flwyddyn. Byddai cerbydau dros 10 oed yn cael eu profi deirgwaith y flwyddyn.

 

Petai’r polisi’n cael ei weithredu, byddai’r polisi profi presennol yn dod i ben a byddai cerbydau’n derbyn Tystysgrif Prawf Eithrio rhag MOT. Dan y gyfundrefn newydd, byddai cerbydau’n cael tystysgrif MOT a chopi o ganlyniadau’r prawf cydymffurfio a wnaethant. 

 

Yn ôl yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol), rhagwelwyd y byddai’r gyfundrefn brofi arfaethedig yn fanteisiol am y rhesymau hyn:

 

       Byddai’n arwain at drefn gwyno gadarn, wedi’i gweinyddu gan y DVSA, pe bai cerbyd yn methu prawf;

       Byddai gan y DVSA rym i ddiddymu hawl gorsafoedd profi i gynnal profion MOT;

       Roedd canlyniadau pob prawf MOT yn cael eu cyhoeddi ar-lein, felly roedd gan yr Adran Drwyddedu gofnod digidol hawdd mynd ato. 

       Roedd cerbydau trwyddedig yn llai tebygol o gael eu stopio gan yr heddlu am beidio â chael MOT dilys a gorfod dangos eu tystysgrif eithrio. 

 

Yn ôl yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol), gofynnwyd am wybodaeth oddi wrth Adrannau Trwyddedu Awdurdodau Lleol Cymru. Holwyd a oeddent yn gofyn am brawf MOT ar hyn o bryd, Os oeddent, a oedd y Cyngor yn cynnal y prawf yn fewnol yn ei orsaf brofi ei hun. Daeth data i law oddi wrth 15 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Roedd 12 o’r 15 Awdurdod ar hyn o bryd yn gofyn i gerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat gael tystysgrif MOT. Manylwyd ar yr ymatebion a gafwyd yn yr adroddiad.

 

Pe’i cymeradwyid, byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal a byddai holl berchnogion cerbydau’n cael llythyr yn eu gwahodd i gynnig sylwadau.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch profi ddwywaith a theirgwaith y flwyddyn. Esboniodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) y byddai cerbydau dros 10 oed yn cael eu profi deirgwaith y flwyddyn ac y byddai cerbydau dan 10 oed yn cael eu profi ddwywaith y flwyddyn. Byddai hyn yn gam tuag at sicrhau cydnawsedd â pholisïau Bro Morgannwg.

 

Cododd un aelod bryder y gallai profi deirgwaith y flwyddyn fod yn ormodol, yn arbennig os mai dim ond un neu ddwy daith yr oedd cerbyd h?n yn ei gwneud. Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn llai beichus na’r system bresennol. Ategodd y dylai’r ymatebion gadarnhau a oedd y fasnach yn ystyried bod hyn yn rhy feichus.

 

Roedd yr aelodau’n gytûn bod cael system brofi gadarn ar ôl deng mlynedd yn bwysig ac yn hanfodol o ran diogelwch y cyhoedd. Dywedodd yr aelodau ei bod yn braf clywed bod arogl cerbyd wedi i yrwyr tacsis fod yn ysmygu ynddo yn un o’r gwiriadau ychwanegol a oedd yn cael eu cynnig.      

           

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) bod cerbydau, yn ei phrofiad hi, fel arfer yn gadael fflyd wrth iddynt heneiddio, a hynny am fod yr archwiliadau’n llymach. Roedd cerbydau eraill yn cael eu cynnal a’u cadw at safon uchel iawn ac nid oeddent yn cael eu defnyddio’n aml, felly roedd yn bwysig taro’r cydbwysedd iawn.

 

PENDERFYNIAD:           Rhoddodd y Pwyllgor Trwyddedu ei sêl bendith i ymgynghori â’r cyhoedd a chyda’r fasnach dacsis leol ynghylch y cynigion i ddiwygio’r gofynion profi o ran cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Dogfennau ategol: