Agenda item

CANLLAWIAU POLISI OEDRAN CERBYDAU HACNI/CERBYDAU HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad a oedd yn ystyried addasrwydd y polisi oedran presennol o ran cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Gofynnai’r adroddiad hefyd i’r aelodau gymeradwyo ymgynghoriad ynghylch diwygio’r canllawiau a oedd yn ymwneud â pholisi oedran cerbydau.

 

Esboniodd fod y Pwyllgor Trwyddedu, ar 10 Mawrth 2008, wedi cymeradwyo’r polisïau presennol a oedd yn ymwneud â’r oedran y gallai cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat fod er mwyn iddynt gael eu trwydded gyntaf, ac roedd gofyn i gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat fod yn newydd wrth eu cyflwyno i gael eu trwydded gyntaf. Fodd bynnag, roedd darpariaethau a alluogai’r Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried cerbydau hurio preifat h?n ar eu rhagoriaethau eu hunain. Gellid trwyddedu cerbydau a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn hyd at dair oed fel cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat hefyd, ar yr amod y gellid darparu hanes cyflawn o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael a thystysgrif diogelwch.

 

Y bwriad oedd diwygio’r canllawiau’r polisi oedran a chyflwyno dau ddosbarth o gerbydau. Dosbarth un oedd cerbydau aml ddefnydd (MPV), sal?n safonol neu gerbydau a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn heb lifft cadair olwyn wedi’i awtomeiddio. Dosbarth dau oedd cerbydau a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn â lifft cadair olwyn wedi’i awtomeiddio.

 

Byddai cerbydau dosbarth un, wrth eu cyflwyno i gael eu trwydded gyntaf, dan 5 oed a byddai cerbydau dosbarth dau, wrth eu cyflwyno i gael eu trwydded gyntaf, dan 10 oed. Y nod oedd cydnabod y gost afresymol o uchel o brynu cerbyd dosbarth dau a natur y gwaith yr oedd y cerbyd hwnnw’n ei wneud, am ei fod yn llai tebygol o achosi traul ar y cerbyd.

 

Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod y fasnach leol wedi gofyn i’r Cyngor adolygu’r hyn a ystyriai’n faich. Golygai boch yn rhaid i berchnogion cerbydau brynu cerbydau newydd sbon er mwyn cael eu trwydded gyntaf. Mynegwyd y byddai’r polisi arfaethedig yn caniatáu i berchnogion newid eu cerbydau’n amlach a, phan oeddent yn newid eu cerbydau, byddent yn gallu prynu cerbyd o safon uwch i siwtio’u poced nhw. Byddai hyn, yn ei dro, yn gwella ansawdd gyffredinol y cerbydau a drwyddedwyd yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod grwpiau anableddau wedi sôn wrth yr Adran Drwyddedu eu bod yn cael anhawster mynd i mewn i gerbydau a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Ar hyn o bryd, nid oedd gan yr Adran ddealltwriaeth glir o anghenion teithwyr anabl, felly cytunwyd i gynnwys cwestiynau yn yr ymgynghoriad ynghylch y ffyrdd posib o wella’r ddarpariaeth i deithwyr anabl.

 

Byddai’r canllawiau arfaethedig o ran y polisi oedran yn sicrhau cydnawsedd rhwng polisi Pen-y-bont ar Ogwr a pholisi Bro Morgannwg, a oedd yn rhan o’r Cydwasaneth Rheoleiddio. Pe’i cymeradwyid, byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal a byddai holl berchnogion cerbydau’n cael llythyr yn eu gwahodd i gynnig sylwadau.

 

Dywedodd un aelod bod croeso mawr i’r adroddiad ac y byddai’n caniatáu i’r Is-bwyllgor roi trwyddedau i gerbydau mewn cyflwr eithriadol o dda, a fyddai, dan y polisi presennol, yn cael eu gwrthod.

 

Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y byddai’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac y byddai’r Cyngor hefyd yn cysylltu â pherchnogion cerbydau a grwpiau anableddau.

                       

PENDERFYNIAD:   Rhoddodd y Pwyllgor Trwyddedu ei sêl bendith i gynnal ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd a chyda’r fasnach dacsis leol ynghylch y cynigion i ddiwygio’r polisi oedran o ran cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Dogfennau ategol: