Agenda item

Adroddiad Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad, a hysbysodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei gwneud ar gael i'w Aelodau ar gyfer blwyddyn 2018/19 y Cyngor.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir, a gwybodaeth am Reoliadau'r Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 a ddarparwyd i sefydlu'r IRWP, a sut roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ymestyn cyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau (o dan Adran 142) i benderfynu ar daliadau i Aelodau o awdurdodau lleol.

 

Yna esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod cynrychiolwyr yr IRWP yn cynnal ymweliadau â'r holl brif Gynghorau yn 2017, i drafod y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol, a sut roedd yn cael ei weithredu ym mhob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ychwanegodd fod 52 o benderfyniadau arfaethedig Adroddiad Blynyddol yr IRWP 2018/19 wedi'[u dangos yn Atodiad 1 i'r adroddiad a'u rhannu yn adrannau priodol er eglurder rolau/taliadau a awgrymir ac ati.

 

Yna aeth y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ymlaen i amlinellu cynigion CBSP o ran sut roedd yn dymuno penderfynu lwfansau i'r holl Aelodau, gan gynnwys y rhai ar gyfer uwch-gyflogau, y Weithrediaeth, Cadeiryddion Pwyllgorau, Arweinwyr Gr?p yr wrthblaid, uchafswm nifer yr uwch gyflogau ac, yn olaf, ar gyfer cyflogau Dinesig. Amlinellodd gweddill yr adroddiad rywfaint o wybodaeth arall yn ymwneud ag Aelodau lleol fel y cynhwysir ym mhenderfyniadau'r IRWP ar gyfer 2018/19, a rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd grynodeb o bob un o'r rhain er budd y Pwyllgor.

 

Yna eglurodd i'r Aelodau'r farn gan bob Aelod o'r Awdurdod a gafodd ar benderfyniad yr IRWP, ac roedd y rhain yn gyffredinol fel a ganlyn, ynghyd â'r farn a fynegwyd gan Aelodau'r Pwyllgor eu hunain:-

 

1.       Cyffredinol

Derbyniodd grwpiau Llafur a Phlaid Cymru ynghyd â rhai o'r aelodau annibynnol benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

2.    Ymweliad gan y Panel

Mae'r Cyngor o'r farn bod ymweliad y Panel â phob Awdurdod Lleol yn gyfle amhrisiadwy i amrywiaeth o Aelodau Etholedig unigol drafod rhai o'u problemau'n ymwneud â'r gydnabyddiaeth yn uniongyrchol ag Aelodau'r Panel.  Ystyriwyd ei bod yn fuddiol i'r arfer hwn barhau o leiaf unwaith yn ystod tymor y swydd.

 

3.    Cyflog Sylfaenol

Mynegodd y Pwyllgor ei bryderon bod y cynnydd yn y Cyflog Sylfaenol yn fwy na'r cap cyflog o un y cant yn y sector cyhoeddus a'i fod yn trin Aelodau Etholedig yn wahanol i gyflogeion yr Awdurdod Lleol.  Deallwyd y gallai Aelodau Etholedig ddewis ymwrthod â rhywfaint o'u cyflog er mwyn cysoni eu cynnydd cyflog â'r cap cyflog sector cyhoeddus ond ystyriwyd bod y gwahaniaeth mewn cynnydd cyflog yn anfon y neges anghywir am nad oedd y sector cyhoeddus mewn sefyllfa i dderbyn cynnydd uwch mewn cyflog ac yna dewis ymwrthod â rhywfaint o'u cyflog wedyn. 

 

4.    Rhannu Swydd

Roedd y Pwyllgor o'r farn er y gall rhannu swydd fod yn fuddiol i rai unigolion, gallai'r trefniadau rhannu swydd greu anawsterau o ran llywodraethu ac atebolrwydd.  Pe bai trefniadau rhannu swydd yn cael eu rhannu yn ystod wythnos h.y. 2.5 diwrnod fel aelod o'r cabinet a 2.5 diwrnod fel aelod ward, byddai hyn yn creu dryswch o ran pwy oedd yn gwneud y penderfyniadau a phryd. Awgrymwyd bod rhagor o fanylion yn cael eu darparu i egluro pa rolau fyddai'n cael eu hystyried fel rhai sy'n addas ar gyfer rhannu swydd a sut y byddai'r rhai sy'n rhannu swydd yn cynnal llywodraethu ac atebolrwydd effeithiol.

 

5.    Ad-dalu costau Gofal

Cafodd y newidiadau i Ad-dalu Costau Gofal eu croesawu ac roedd y Pwyllgor o'r farn bod y newidiadau hyn yn debygol o annog mwy o ddefnydd o'r cyfleuster hwn.  Roedd Aelodau'r Pwyllgor hefyd o'r farn bod unrhyw anghenion gofal arbenigol fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol cael ymrwymiad hirdymor gan yr Aelod Etholedig i'r darparwr gofal na fyddai'n caniatáu llawer o hyblygrwydd.   Byddai hyn fel arfer yn atal unrhyw anghenion gofal penodol rhag cael eu darparu ar fyr rybudd gan arwain at yr Aelod Etholedig yn methu cyflawni ei rôl yn effeithiol.

 

6.    Cynorthwyo gwaith Aelodau Etholedig yr Awdurdod Lleol

Codwyd amrywiaeth o opsiynau y gellid eu harchwilio er mwyn ymestyn y cymorth presennol a ddarperir i Aelodau Etholedig.  Penderfynodd y Pwyllgor y dylid ailsefydlu'r Fforwm TGCh Aelodau Etholedig er mwyn adolygu'r cymorth sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd i'r Aelodau Etholedig ac adolygu effeithiolrwydd y ddarpariaeth TGCh.  Rhagwelwyd y byddai'r adolygiad yn cael ei gynnwys fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb a oedd yn digwydd ar hyn o bryd.  Y gobaith oedd y byddai unrhyw ganlyniadau o'r adolygiad yn cael eu gweithredu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach ar yr eitem hon, ychwanegodd Aelodau o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y sylwadau canlynol:-

 

Cyffredinol

 

·         Lleihau nifer Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol?

·         Llai o gyflogau uwch-swyddogion. Mae 18 o 54 o Gynghorwyr yn ormod.

·         Llai o aelodau'r Cabinet?

·         Rwyf wedi darllen adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cymru ac nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud heblaw fy mod yn derbyn ei argymhellion.

·         Derbyniodd y Gr?p Llafur benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Cyflog Sylfaenol

 

·         Aelodau nad oes ganddynt incwm heblaw am eu cyflog cynghorydd (yn enwedig aelodau iau) – fel gyda myfyrwyr sy'n mynd i'r Brifysgol, efallai y dylid ystyried profion modd.

·         Dylai cynghorwyr gael eu talu am ei bod bendant yn rôl fwy heriol nag a ddychmygwyd gan Aelodau newydd. Gobeithiwyd nad oedd y rhan fwyaf o Gynghorwyr yn arfer eu rôl fel aelod lleol am y lwfans yn unig.

·         Oherwydd bod cyfyngiad 5 mlynedd ar dymor Cynghorydd tan etholiad arall, teimlwyd mai ychydig iawn fyddai'n rhoi'r gorau i'w "gwaith bob dydd" i fod yn Gynghorydd am ychydig dros £13,000 y flwyddyn. Felly, nid yw'n denu pobl alluog, ifanc a dynamig i'r rôl fel y dylai wneud. Mae'r rhai sy'n dod yn Gynghorwyr yn gorfod cyflawni'r rôl hon gyda'u cyflogaeth barhaol a daw rheoli amser yn broblem.

 

Uwch Gyflog

·         Gormod o gynnydd ariannol o gyflog Sylfaenol i Uwch Gyflog.

 

Cynorthwyo gwaith Aelodau Etholedig Awdurdod Lleol

 

·         Efallai na fydd gan rai aelodau fynediad i'r rhyngrwyd a/neu'n methu argraffu gartref felly rhaid talu am y costau o'u “cyflog” ac felly'n lleihau fforddiadwyedd mynd i gyfarfodydd y cyngor/cynnal dyletswyddau cynghorydd.

 

Ad-dalu Costau Teithio a Chynhaliaeth ar Fusnes Swyddogol

 

·         Os nad yw aelodau'n gallu defnyddio'u trafnidiaeth eu hunain mae hyn yn arwain at yr angen i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os ydynt yn byw mewn ardal lle nad oes llwybrau bysiau neu ddim bysiau o gwbl yna mae angen teithio mewn tacsi.

·         Lleihau costau teithio gan wneud mwy o ddefnydd o alwadau cynadleddau a Skype/Facetime

 

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

 

·         Mae'r cynllun pensiwn yn rhy hael o lawer

 

Taliadau i Aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref

 

·           Y £500 i Gynghorwyr Tref (rydym ni fel Cyngor Tref wedi dewis ymwrthod â'r taliad hwn) fel ar gyfer y £150 a awgrymwyd ar gyfer y ffôn a manion bethau.  Gobeithio nad oes unrhyw Gynghorydd Tref yn manteisio ar y taliad hwn sy'n rhy hael.

 

PENDERFYNWYD:(1) Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac amrywiaeth y gydnabyddiaeth y mae'n rhaid i'r Awdurdod sicrhau ei bod ar gael i'w Aelodau ar gyfer blwyddyn 2018/19 y Cyngor, a darparodd y sylwadau uchod fel rhan o ymateb yr Awdurdod, i Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/19.

 

                             (2)   Bod yr Aelodau Pwyllgor canlynol yn cael eu henwebu i eistedd ar y Fforwm TGCh Aelodau Etholedig wedi ei ailsefydlu, ac aros am dri enwebiad arall, gyda'r enwebiadau hyn yn cael eu ceisio gan bob gr?p gwleidyddol arall sy'n ffurfio'r Cyngor:-

 

                                    Y Cynghorydd Bridie Sedgebeer

                                    Y Cynghorydd Gary Thomas

                                    Y Cynghorydd Sadie Vidal

 

Dogfennau ategol: