Agenda item

Diweddariadau Gwasanaeth a Pherfformiad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er mwyn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor ar berfformiad gwasanaethau a ddarperir i Aelodau Etholedig.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu'r meysydd gwasanaeth a nodir isod, a gwnaeth y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ymhelaethu ar y rhain yn ogystal â nodi'r pwyntiau amlwg i'w rhannu ag Aelodau, a oedd yn cynnwys canran presenoldeb Aelodau yn y digwyddiadau hyn:-

 

  • Nifer yr Atgyfeiriadau Aelodau (1 Gorffennaf – 30 Medi 2017);
  • Gweithgareddau Sefydlu/Rhaglen Datblygu Aelodau (ers yr etholiadau lleol);
  • Gweithdai Aelodau;
  • Briffio cyn y Cyngor;

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod hyfforddiant TGCh unigol wedi'i ddarparu hefyd i'r Aelodau hynny a oedd wedi gofyn am hyn.

 

Yn atodedig i'r adroddiad yn Atodiad 1, roedd Rhaglen Datblygu Aelodau ddrafft. Nododd hyn y sesiynau Datblygu Aelodau a drefnwyd i'w cyflawni eleni.

 

Yna rhoddodd Paragraff 4.2.6 o'r adroddiad fanylion am bynciau a gynlluniwyd ar gyfer eu cynnwys yn y Rhaglen Datblygu Aelodau, ac roedd paragraff 4.2.7 yn rhestru eitemau posibl i'w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Rhaglen Datblygu Aelodau.

 

O ran y cyntaf, roedd yr Aelodau'n teimlo y dylai'r eitem o ran Hyfforddiant Mentora Aelodau gael ei symud ymlaen o fis Ebrill 2018 i'r mis nesaf neu ddechrau 2018.

 

Mewn perthynas â'r eitemau a awgrymwyd ar gyfer y Rhaglen Datblygu Aelodau, roedd y Pwyllgor o'r farn y gallai'r tair sesiwn yn ymwneud ag Awtistiaeth gael eu huno yn un sesiwn fwy.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y gallai Aelodau flaenoriaethu'r rhain o ran eu trefnu yn ystod y misoedd nesaf, cyn gynted ag y byddent yn cael rhagor o wybodaeth am y pynciau, yn ogystal â phenderfynu pa eitemau y dylid eu cario ymlaen i Ebrill 2018 – Mawrth 2019. Roedd Aelod o'r farn y byddai'n fuddiol pe gallai eitem ‘Cyflwyniad i Fudd-daliadau Lles’ gael ei hychwanegu at y Rhaglen Datblygu Aelodau yn y dyfodol, a chytunodd yr Aelodau i hyn.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y gallai rhai sesiynau hyfforddi/datblygu Aelodau gael eu cynnwys fel rhan o ddigwyddiadau “Gornest Gron”.

 

Roedd rhan nesaf yr adroddiad yn cynnwys pynciau e-ddysgu a awgrymwyd i'w cynnwys yn y Rhaglen Datblygu Aelodau, yn ogystal ag unrhyw bynciau y gellir eu hystyried yn addas ar y wefan Dysgu a Datblygu neu wefan AWA.

 

Yna roedd paragraff 4.2.11 o'r adroddiad yn cynnwys pynciau a gynlluniwyd ar gyfer briffiadau cyn y Cyngor sydd ar y gweill, ac roedd yr Aelodau o'r farn y dylai Aelodau Seneddol gael eu lobïo ar yr eitem mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol, gan fod hwn yn bwnc hynod bwysig a fyddai'n cael effaith sylweddol ar etholwyr. Roedd Aelod o'r farn y dylai eitem gael ei hychwanegu at yr atodlen hon ar bwnc Cymoedd i'r Arfordir, er mwyn gallu gwahodd Prif Weithredwr newydd y sefydliad hwn a'i gyflwyno i'r Aelodau.

 

Yna amlygodd Paragraff 4.2.13 o'r adroddiad feysydd Cynllunio lle byddai hyfforddiant i Aelodau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu, ond nodwyd y gallai'r holl Aelodau fynd i'r sesiynau hyfforddi hyn pe baent yn dymuno hynny.

 

Rhoddodd adran nesaf yr adroddiad fanylion am weddarlledu cyfarfodydd Pwyllgor, a chadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mai'r bwriad oedd gweddarlledu tua 10 cyfarfod Pwyllgor y flwyddyn.

 

Rhoddodd gweddill yr adroddiad wybodaeth am bynciau I-Call ac Archwilio Mewnol – Cymorth i Aelodau Newydd.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor Gwasanaeth Democrataidd yn derbyn ac yn nodi'r adroddiad, yn amodol ar ei sylwadau uchod.

Dogfennau ategol: