Agenda item

Y DIWEDDARAF AM Y FLAENRAGLEN WAITH

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2017-18 i’w chymeradwyo. Rhoddodd fanylion yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2017 a gofynnodd i’r Aelodau gadarnhau’r wybodaeth yr oedd ei hangen erbyn y cyfarfod nesaf ar 25 Ionawr 2018. Yn ogystal â hynny, cyflwynodd y Swyddog Craffu restr o ymatebion i’r sylwadau, yr argymhellion a’r ceisiadau am ragor o wybodaeth a ddeilliai o’r cyfarfod blaenorol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys rhestr o eitemau posib eraill ar gyfer y Flaenraglen Waith i’w blaenoriaethu a’u dyrannu’n ffurfiol i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc.

 

Esboniodd y Swyddog Craffu ei bod yn annhebygol y byddai Adroddiad Perfformiad Ariannol Hanner Blwyddyn 2017-2018 ac Adroddiad Perfformiad Cynllun Corfforaethol Hanner Blwyddyn 2017-2018, y bwriadwyd eu trafod ar 14 Rhagfyr 2017, yn barod erbyn y cyfarfod hwnnw. Efallai y byddai’n rhaid eu hystyried mewn cyfarfod hwyrach o ganlyniad i’r dull o gofnodi data a phryd y byddai’r data hwnnw ar gael. Byddai’r Fargen Ddinesig, y bwriadwyd ei hystyried ar 21 Chwefror 2018, yn barod erbyn y cyfarfod y mis Ionawr, felly gellid delio â’r eitem hon yn gynharach.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithas a Lles wedi gofyn i'r ddau adroddiad, “Llety i Bobl H?n” a “Ffioedd Prifysgol i Blant sy’n Derbyn Gofal”, na chafwyd penderfyniad yn eu cylch, gael eu hystyried. Byddai’r rhain yn disodli’r adroddiadau “Cartrefi Gwag” ar 8 Ionawr 2018 a “Ffyniant Economaidd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr” ar 7 Chwefror 2018.  Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am bob cais i weld a oedd modd eu trafod ar ôl delio â’r eitemau a oedd eisoes wedi’u cynnwys yn y rhaglen waith. Roeddent yn gyndyn o oedi â’r eitem “Cartrefi Gwag” yn arbennig am fod cymaint o ddiddordeb ynddi.

 

Tynnodd un Aelod sylw’r Pwyllgor at yr eitem am y Cynllun Corfforaethol y bwriadwyd ei drafod ym mis Ionawr 2018. Awgrymodd y dylid cynnwys yn yr adroddiad adolygiad o’r modd y cyflawnwyd y cynllun yn 2016-17, gan gynnwys y canlyniadau, fel y gallai’r Aelodau weld pa mor effeithiol y bu a’i effaith ar y flwyddyn ganlynol.

 

Crybwyllodd Aelod arall yr eitem am y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i’w hystyried ym mis Mawrth 2018. Awgrymodd y dylai hyn fod yn gyfle i roi sylw i ddiogelu. Pen-y-bont oedd yn y pedwerydd safle o’r brig yng Nghymru o ran nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal a chafwyd dau Adolygiad Ymarfer Plant. Cododd bryder hefyd ynghylch y modd yr ymdriniwyd â’r materion hyn. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch camfanteisio ar oedolion agored i niwed yn rhan o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Esboniodd y Swyddog Craffu nad oedd gan yr Awdurdod Swyddog Diogelwch Cymunedol ers oddeutu 12 i 18 mis. Roedd Pwyllgorau Craffu eraill hefyd yn ystyried y mater hwn ac roedd yn bwysig osgoi dyblygu gwaith. Awgrymodd Aelod y dylid cynnwys y mater hwn ar y gofrestr risg.

 

ARGYMHELLWYD:    

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau i’w cynnwys yn ei Flaenraglen Waith ei hun yn y cyfarfodydd nesaf a chytunwyd mai dim ond ar 14 Rhagfyr y byddai’r Adroddiad Ariannol yn cael ei drafod am nad oedd y Pwyllgor wedi cymryd rhan eto yn y gweithdy a oedd yn ymwneud â chraffu ar Adroddiadau Perfformiad. Gwnaeth y Pwyllgor gais i’r Prif Weithredwr gael ei wahodd i’r eitem am y Cynllun Corfforaethol. 

O ran yr eitem ynghylch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, gofynnodd yr Aelodau am gael canolbwyntio ar ddiogelu, yn enwedig yng nghyd-destun oedolion agored i niwed mewn cymunedau.

 

O ran Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc, cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau i’w trafod rhwng Rhagfyr a Chwefror a thrafodwyd y gwelliannau arfaethedig a gyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol drwy’r Swyddog Craffu. Roedd y Pwyllgor am wybod rhagor am ddiben y ddau adroddiad hyn a sut y gallai’r broses Graffu ychwanegu gwerth, a hynny am nad oedd cyfiawnhad go iawn ar hyn o bryd dros roi blaenoriaeth i’r eitemau hyn dros y rhai a oedd eisoes wedi’u hamserlennu.   

       

Dogfennau ategol: