Agenda item

Budd-daliadau Tai – Archwilio Sampl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 adroddiad ar ganlyniad y gwaith ychwanegol a wnaed i ddod o hyd i gamgymeriadau ym maes budd-daliadau tai, yn dilyn gwaith gan Swyddfa Archwilio Cymru. I wneud hynny, defnyddiwyd sampl o 45 o achosion budd-dal tai.  Cafwyd hyd i gamgymeriadau mewn 11 achos a, drwy ddefnyddio dulliau archwilio arferol i gyfrifyddu, daethpwyd i’r casgliad y byddai’r camgymeriadau damcaniaethol yn cyfateb i oddeutu £1.9 miliwn.  Dywedodd fod y Pwyllgor wedi clywed yn y cyfarfod blaenorol mai unig ddiben y gwaith hwn oedd gweld i ba raddau y byddai mater penodol yn effeithio ar gyfrifon y Cyngor. Dywedodd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi penderfynu y byddai’n cael cryn effaith, ond nid oedd yn fater o bwys yn natganiadau ariannol y Cyngor ar gyfer 2016-17.       

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 fod swyddogion wedi ymgymryd â rhagor o waith i benderfynu a oedd hon yn broblem sylfaenol ehangach. Am bob un o’r tri math o gamgymeriad a arweiniodd at addasiadau ariannol, roedd 40 achos arall wedi’u harchwilio, gan roi cyfanswm o 120 o achosion. Cyflwynodd grynodeb o ganlyniadau’r archwiliadau ychwanegol; cafwyd hyd i 3 chamgymeriad ac roedd angen gwneud addasiadau ariannol yn achos 2 o’r rhain. Yn y naill achos, gwnaed tandaliad o £7.51 gan fod pensiwn gwaith/galwedigaethol wedi’i gyfrifo’n anghywir. Yn yr achos arall, gwnaed gordaliad o £29.06 gan fod enillion wedi’u cymhwyso’n anghywir. Roedd yn ofynnol, meddai, i Swyddfa Archwilio Cymru archwilio’r sampl o 120 o achosion ymhellach. Byddai hynny’n golygu archwilio sampl o 10% o bob math o achos, yn ogystal â’r 3 chamgymeriad a nodwyd. 

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio gwariant ar ad-dalu rhent o’r Cyfrif Refeniw nad yw’n ymwneud â Thai. Roedd y gwaith archwilio hwn, meddai, yn angenrheidiol fel rhan o archwiliadau arferol Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â gwariant blynyddol y Cyngor ar fudd-dal tai.  Dywedodd fod nifer o gamgymeriadau wedi dod i’r amlwg a bod pob asesiad gwely a brecwast, sef 68 i gyd, wedi’u harchwilio. Roedd yr un camgymeriad wedi codi ym mhob achos, ac roedd costau tanwydd anghymwys wedi’u gorddatgan, gwerth £1.93 yr wythnos, gan arwain at dandaliad. Roedd pob achos wedi’i gywiro, meddai, ac roedd y tandaliadau’n amrywio o rhwng £0.28 a £25.09, ond roedd un cymaint â £61.20.  Dywedodd hefyd mai £347.28, at ei gilydd, oedd gwerth y camgymeriad, a chyfanswm y gwariant oedd oddeutu £37,000.  Nododd fod yr holl achosion wedi’u cywiro a bod y taliadau cywir wedi’u gwneud. Roedd y camgymeriad i’w briodoli i wahaniaeth hanesyddol rhwng cyfraddau gwely a brecwast a didyniadau statudol a oedd wedi newid dros amser. Byddai hyn yn cael ei wirio fel rhan o’r archwiliad blynyddol rhag i’r camgymeriad godi eto. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod o hyd i un camgymeriad arall yn y sampl ac roedd hyn wedi effeithio ar y cais am gymhorthdal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ( £0.72).  Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor ei bod yn bwysig nodi bod yr elfen hon o’r Budd-dal Tai yn cael ei dalu i Adran Dai’r Cyngor ac nad oedd y symiau a adlewyrchir uchod wedi effeithio ar unigolion mewn llety dros dro ac mai’r effaith ar y cymhorthdal roedd y Cyngor yn ei hawlio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau oedd £61.20.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 hefyd fod 20 o achosion nad oeddent yn gysylltiedig â llety gwely a brecwast wedi’u harchwilio, a chafwyd hyn i un camgymeriad yn ymwneud â chyfrifo cyfartaledd misol ar gyfer incwm pensiwn galwedigaethol; o ganlyniad, gwnaed tandaliad o £0.10. Dywedodd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gofyn am archwiliadau ychwanegol o achosion yn ymwneud ag incwm pensiwn galwedigaethol a bod y rhan fwyaf yn y categori hwn yn cael budd-daliadau a ‘basbortiwyd’. Roedd Rheolwr y Tîm Budd-daliadau wedi archwilio pob un achos yng Nghell 11 ac ni ddaeth unrhyw gamgymeriadau eraill i’r amlwg o ran oedran pensiwn neu incwm pensiwn galwedigaethol. Byddai Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn adolygu’r achosion hyn, ac roedd hefyd wedi dechrau archwilio ‘cynlluniau a addaswyd’ (cynlluniau rhyfel fel arfer) ac roedd y gwaith hwn yn parhau.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor fod gwerth y camgymeriadau a ddaeth i’r amlwg yn llawer llai na’r hyn y cafodd y Pwyllgor wybod amdanynt yn flaenorol ac a gyhoeddwyd ar y cyfryngau.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Archwilio Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru fod y gwaith o archwilio achosion yn mynd rhagod ac y byddai’r Pwyllgor yn cael gwybod am y canlyniadau mewn cyfarfod yn y dyfodol fel rhan o’r adroddiad ar Ardystio Grantiau ac Enillion.  Cadarnhaodd hefyd fod 120 o achosion wedi’u harchwilio a bod sampl o 10% o achosion wedi’u dewis, a bod 3 chamgymeriad wedi dod i’r amlwg, ac y bu’n rhaid gwneud addasiadau ariannol yn achos dau o’r rhain. Cynhaliwyd archwiliad ychwanegol o’r sampl o 120 o achosion gan ddewis 12 ohonynt. O’r rhain, nid oedd camgymeriad mewn 7 achos, ac roedd ymholiadau’n parhau yn achos y gweddill a byddai’r rhain yn cael eu cwblhau’r wythnos nesaf. Roedd angen archwilio tri achos arall yn ymwneud â’r Cyfrif Refeniw nad oedd yn ymwneud â Thai.  Dywedodd fod Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn archwilio ceisiadau nad oeddent yn ymwneud â grantiau ac, yn ystod y flwyddyn diwethaf, roedd amodau ynghlwm wrth nifer o’r achosion hynny. Hyd yma, ni nodwyd unrhyw amodau eleni. Roedd y sefyllfa o ran achosion Budd-daliadau nad oeddent yn ymwneud â Thai yn amlwg wedi gwella.

 

Gofynnodd y Pwyllgor pryd y byddai swyddogion yn gallu cadarnhau a oedd problem sylfaenol ehangach yn bod ai peidio. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor fod Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio dull archwilio ac roedd yn hyderus nad oedd y camgymeriadau cyn waethed â’r hyn a gyhoeddwyd ar y cyfryngau. Roedd swyddogion wedi archwilio rhagor o achosion ac roedd yn bosibl rhoi rhagor o sicrwydd nad oedd camgymeriadau ynghlwm wrthynt. Dywedodd hefyd fod angen i Swyddfa Archwilio Cymru adolygu gwaith y swyddogion yn y cyswllt hwn. Dywedodd nad oedd unrhyw wendidau sylfaenol o ran rheoli ac roedd angen sicrhau cydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau am fudd-dal tai’n gyflym a sicrhau cywirdeb, ond tanlinellodd fod pob achos yn wahanol. Nododd hefyd ei bod yn bwysig prosesu ceisiadau’n gyflym ond nid ar draul cywirdeb. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod yr holl gamgymeriadau a ddaeth i’r amlwg i’w priodoli i gamgymeriad gan staff. Roedd y rheolwyr yn gwirio’r gwaith yn amlach yn awr a’r nod oedd sicrhau nad oedd unrhyw gamgymeriadau’n codi.

 

PENDERFYNWYD:           Nodi’r adroddiad.                           

                       

Dogfennau ategol: