Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2017-18 – Risgiau yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaethau gyflwyniad i’r Pwyllgor ar y disgwyliadau ar y rhwydwaith priffyrdd yn y tymor hir a’r tymor byr. Amlinellodd faint yr her; roedd ased cerbytffordd 780km o hyd, gwerth £888 miliwn gan yr awdurdod.  Dywedodd fod yr awdurdod yn gwario cyfanswm o £500,000 ar y gwaith o roi wyneb newydd ar y gerbytffordd, sy’n cyfateb i lai na 0.1% o werth y rhwydwaith. Gwariant cyfatebol awdurdodau cyfagos yw £2.5 miliwn yn Rhondda Cynon Taf, £886 yng Nghastell-nedd Port Talbot ac £800,000 ym Mro Morgannwg.  

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod dyletswydd ar yr awdurdod priffyrdd i gynnal a chadw priffyrdd y gellir eu cynnal a’u cadw ar bwrs y wlad ac mae dyletswydd arno hefyd i ddiogelu hawl y cyhoedd i ddefnyddio’r priffyrdd. Tynnodd sylw at y meini prawf ymyrryd lle mae’r awdurdod yn cynnal archwiliadau ac yn ymgymryd â gwaith trwsio os yw’r diffygion yn waeth na’r Meini Prawf Diffygion Diogelwch.  Mae’r meini prawf wedi’u seilio ar arfer da ac, yn gyffredinol, mae’r llysoedd yn eu derbyn fel lefelau rhesymol ac maent yn debyg ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac, yn gyffredinol, yn y DU.  Ystyrir hefyd ffactorau fel atal sgidio a systemau draenio / ffosydd i atal d?r rhag cronni ar y gerbytffordd, mesurau i ymdrin â phantiau i atal pyllau o dd?r, monitro gwaith cyfleustodau a chynnal a chadw adeileddau. 

 

  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor mai £100/m2 oedd y gost o lenwi tyllau yn y ffordd a £10/m2 oedd y gost o roi wyneb newydd arni. Ar ôl llenwi tyllau am 25 o flynyddoedd (neu cyn hynny hyd yn oed), byddai angen ailadeiladu’r ffordd yn ei chyfanrwydd a 25 o flynyddoedd ar ôl cael wyneb newydd, byddai’r briffordd mewn cyflwr cyffredinol dda a dim ond mân waith trwsio fyddai ei angen. Nododd fod hawliadau’n gyffredinol yn amrywio o £200 i drwsio teiars i hyd at £30,000 am Anaf Personol. Dywedodd fod y rhain yn ymwneud yn bennaf â thyllau yn y ffordd, ond bod atal sgidio hefyd yn agwedd dyngedfennol o gynnal a chadw’r gerbytffordd. Yn y cyswllt hwn, gallai diffygion arwain at anafiadau a allai newid bywydau a/neu farwolaeth ac y gellid dwyn achos o Ddynladdiad Corfforaethol yn erbyn yr awdurdod.

 

Dangosodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth graff yn dadansoddi cyflwr y ffyrdd. Oherwydd pwysau cynyddol ar y gyllideb refeniw, bydd nifer y ffyrdd sydd mewn cyflwr da yn gostwng ac amcangyfrifwyd y byddai angen cynnydd o £1 miliwn yn y gyllideb refeniw. Dangosodd graff arall yn dangos y bydd problemau ar dros 60% o’r rhwydwaith. Os buddsoddir £2 miliwn bob blwyddyn, bydd problemau ar 30% o’r rhwydwaith ac, ar ôl ugain mlynedd, bydd angen gwariant cyfalaf ychwanegol o £40 miliwn. Yn ogystal â’r pwysau cynyddol ar y gyllideb refeniw, ar ôl ugain mlynedd, meddai, byddai’n costio rhyw £48 miliwn i sicrhau bod cyflwr y rhwydwaith cystal ag ydyw heddiw. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhai ffyrdd wedi cyrraedd diwedd eu hoes ymarferol a’r unig ddewis oedd rhoi wyneb newydd arnynt.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod £2 miliwn wedi’i fuddsoddi bob blwyddyn, dros gyfnod o dair blynedd, drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Cymru, ac roeddparhau i lenwi tyllau ar y rhwydwaith o hyd ac y byddai angen trwsio’r rhain eto ymhen rhai blynyddoedd. Bydd cost hawliadau trydydd person yn codi, ac nid yw prinder adnoddau’n amddiffyniad. Ni fydd buddf canfyddiad ymhlith y cyhoedd nad yw’r Cyngor yn gwario digon ar drwsio ffyrdd a bydd hynny’n gwaethygu. Dywedodd wrth y Pwyllgor y gellir osgoi costau drwy atal problemau/ymyrryd yn gynnar ac, yn y pen draw, daw amser pan na fydd modd parhau i lenwi tyllau. Mae dogfennau cenedlaethol yn awgrymu y gellir sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei ddiogelu drwy gynyddu gwaith cynnal a chadw ataliol, a bod angen gwneud penderfyniadau anodd yn fuan ynghylch cau ffyrdd.   

 

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y ffaith nad oedd y risgiau a oedd ynghlwm wrth ostwng cyllideb y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi’u disgrifio’n ddigonol ac roedd yn teimlo bod angen eu cryfhau. Cyfeiriodd y Pwyllgor at y posibilrwydd y gallai’r awdurdod wynebu achos o ddynladdiad corfforaethol gan ofyn a fyddai modd cofnodi hynny fel risg. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y gellid cynnwys dynladdiad corfforaethol yn y gofrestr risgiau yn y dyfodol. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod gan yr Adran gynllun archwilio cadarn ac, os bydd yn parhau i gynnal archwiliadau'r gyson, ac yn parhau i gynnal a chadw’r rhwydwaith i drwsio diffygion, bydd yr Adran wedi gwneud popeth rhesymol i leihau’r risg. Ystyrir bod y risg o wynebu achos o ddynladdiad corfforaethol yn isel, ond wrth i adnoddau’r Cyngor brinhau o hyd, byddai’r posibilrwydd i hynny fod yn risg yn cynyddu. Dywedodd fod y Cyngor yn amddiffyn 70% o’r hawliadau a gyflwynwyd yn ei erbyn.  

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn ei bod yn ddefnyddiol i’r Gyfarwyddiaeth fod â Chofrestr Risg ond roedd yn teimlo nad oedd y risgiau a gofnodwyd wedi’u cwblhau’n ddigonol ac roedd angen iddynt adlewyrchu’r mesurau risg yn well a chynnwys amserlenni. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor eu bod yn modelu’r modd y defnyddiwyd y priffyrdd ac y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys yn y gofrestr risg nesaf. Nododd nad oedd y Cyngor yn buddsoddi cymaint ag awdurdodau cyfagos yn y rhwydwaith priffyrdd a bod angen gwario £2.5 miliwn bob blwyddyn ar wyneb newydd. Cytunodd y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151 fod awdurdodau cyfagos yn buddsoddi mwy ac nad oedd ffynonellau ariannol allanol blaenorol ar gael yn awr ar gyfer y rhwydwaith.   

 

Dywedodd y Pwyllgor fod safon y gwaith trwsio’n dda ond bod angen dangos yn y gofrestr risg bod y rhwydwaith priffyrdd yn wynebu risgiau a bod yr adnoddau’n lleihau o’r naill flwyddyn i’r llall, gan fod y cyhoedd yn sylwi pan fydd gwaith cynnal a chadw yn lleihau. Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd cael arian o ffynonellau eraill. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth nad oedd ffynonellau allanol ar gael ar hyn o bryd a bod cynllun buddsoddi 5 mlynedd wedi’i gyflwyno i fuddsoddi £10 miliwn yn y rhaglen gyfalaf i wella’r rhwydwaith priffyrdd. 

 

Dywedodd y Pwyllgor y gellid crynhoi’r risgiau’n well i danlinellu’r effaith ac i sicrhau bod yr ystyr yn glir. 

 

Dywedodd aelod o’r Pwyllgor nad oedd y Gofrestr Risg yn cynnwys ffyrdd heb eu mabwysiadu, yn enwedig gan fod un o’r ffyrdd hyn ym Mhencoed yn hanfodol i’r rhai sy’n teithio i’r dref ac yn bwysig at ddibenion cyflogaeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth ei bod yn ofynnol i ddatblygwyr adeiladu ffyrdd a oedd yn cyrraedd safon ffyrdd y gellir eu mabwysiadu. Dywedodd fod achosion pan oedd y datblygwr wedi mynd i’r wal ac roedd bondiau ar waith i alluogi’r Cyngor i godi safon y ffordd er mwyn ei mabwysiadu. Ychydig o adnoddau oedd ar gael, meddai, i fabwysiadu ffyrdd. Byddai’n cysylltu â Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i drafod y ffordd heb ei mabwysiadu ym Mhencoed.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor ynghylch cost hawliadau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai’n rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y gost flynyddol ar gyfartaledd, ond roedd y Cyngor yn gwrthod 70% o’r hawliadau a gyflwynir. 

 

Holodd y Pwyllgor ynghylch yr achosion hynny pan nad oedd yr awdurdod yn cyflawni ei ddyletswydd i drwsio’r rhwydwaith priffyrdd. Bryd hynny, gallai’r awdurdod wynebu hawliadau, ac roedd hynny’n bryder os oedd y rhwydwaith priffyrdd yn dirywio.

 

Holodd y Pwyllgor ynghylch effaith llifogydd, a’r costau ychwanegol a oedd ynghlwm wrth ddigwyddiadau o’r fath. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y gallai tywydd oer effeithio ar y gyllideb oherwydd yr angen i raeanu, ond gallai tywydd mwyn arwain at lifogydd yr adeg yma o’r flwyddyn. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn ôl Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth roedd yr awdurdod yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio ag awdurdodau cyfagos i gynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd fod yr awdurdod wedi lleihau costau cynnal a chadw dros y gaeaf drwy leihau nifer y cerbydau graeanu yn y Cyngor Bwrdeistref. Dywedodd hefyd fod angen cynyddu gwariant fesul cilometr ar y rhwydwaith.

 

Soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo wrth y Pwyllgor am y risgiau sy’n dod i’r amlwg oherwydd yr hinsawdd ariannol a bod economi De Cymru a’r Fwrdeistref Sirol yn dibynnu’n drwm ar y sector cyhoeddus. Dywedodd fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu ansicrwydd a bod yr Undeb yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau seilwaith. Er ei bod yn anodd lleihau’r risgiau, meddai, roedd angen lleihau eu heffaith. Dywedodd hefyd fod ei Hadran yn rhoi cymorth i fusnesau bach drwy’r Fforwm Busnes; mae’n helpu pobl i gael gwaith ac yn hybu twristiaeth a phrosiectau datblygu gwledig.   

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo fod ei Hadran yn buddsoddi’n sylweddol mewn prosiectau adfywio trefi drwy gynnig safleoedd i’r hailddatblygu, fel y ganolfan chwaraeon d?r yn Rest Bay a’r prosiect i ailddatblygu Marchnad Maesteg. Roedd y gallu i fuddsoddi mewn gwaith datblygu’n dibynnu’n drwm ar yr awdurdod lleol ac am bob £1 a wariwyd, byddai £500,000 yn cael ei fuddsoddi ac am bob £1 na fuddsoddwyd, byddai £10 yn cael ei golli. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd y byddai awdurdodau lleol yn helpu economïau llai ffyniannus drwy ddefnyddio arian cyhoeddus. 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo fod y diwydiant adeiladu lleol yn ffyniannus iawn; mae’r awdurdod, fodd bynnag, yn cael trafferth recriwtio staff proffesiynol penodol fel peirianwyr a syrfewyr, a hynny oherwydd cyfyngiadau’r broses gwerthuso swyddi. Anawsterau recriwtio staff oedd y risg fwyaf i allu’r awdurdod i roi prosiectau ar waith.   

 

Gofynnodd y Pwyllgor pam nad oedd strategaeth adfywio ar gyfer Pencoed a pham nad oedd wedi’i gynnwys yn Gofrestr Risg fel rhai o drefi eraill y Fwrdeistref Sirol, yn enwedig gan fod y cynllun i drydaneiddio’r rheilffordd wedi’i ddileu a bod y gwaith o greu ffordd ddeuol ar bont Penprysg wedi’i ganslo. Hefyd, roedd moratoriwm yn y Cynllun Datblygu Lleol ar waith datblygu ym Mhencoed. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo fod hyn i’w briodoli i’r ffaith nad oedd gan y dref ganolfan siopa debyg i’r hyn a oedd ar gael mewn trefi eraill yn y Fwrdeistref Sirol.   

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y posibilrwydd y byddai prosiect y Saith Bae ym Mhorthcawl yn esgor ar dderbyniad cyfalaf sylweddol a holodd a oedd swyddogion yn fodlon ar lefel y risg. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo y byddai’n cynyddu lefel y risg ar gyfer Prosiect y Saith Bae.

 

Ystyriodd y Pwyllgor a oedd angen newid y risgiau a chanolbwyntio llai ar ganol trefi a mwy ar ganolfannau siopa. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo fod gan ganol trefi fel Porthcawl a Maesteg gyfleusterau rhesymol a mas critigol.

 

Holodd y Pwyllgor am hynt y cynlluniau i drosglwyddo Asedau Cymunedol gan ofyn a oedd prinder adnoddau yn llesteirio’r broses o roi blaenoriaethau corfforaethol ar waith; ac a yw’n risg sylweddol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo fod hyn yn risg sylweddol gan fod gan yr awdurdod 3 syrfëwr yn rheoli’r ystâd. Mae’r awdurdod hefyd, meddai, wedi cael trafferth recriwtio peirianwyr adeileddol ac roedd y gweithlu’n heneiddio.      

 

Diolchodd y Pwyllgor i Bennaeth y Gwasanaethau Adfywio, Datblygu ac Eiddo a Phennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth am eu sylwadau ac am egluro’r risgiau. 

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor wedi trafod y risgiau a nodwyd yn y Gofrestr Risg Corfforaethol ac y byddai’r Pwyllgor yn eu hadolygu eto yn y cyfarfod fis Ionawr. Gofynnodd i’r risgiau gael eu crynhoi ac i’r mesurau lleihau risg gael eu hystyried er mwyn deall sgôr y risgiau’n well a’u rheoli’n fwy effeithiol.         

               

Dogfennau ategol: