Agenda item

Cytundeb Gwastraff Newydd y Cyngor

Invitees:

 

Mark Shephard – Corporate Director Communities

Zak Shell – Head of Neighbourhood Services

Joanne Norman – Finance Manager

Cllr Hywel Williams – Deputy Leader

Cllr Richard Young – Cabinet Member Communities

Maz Akhtar- Regional Manager Kier

Julian Tranter – Manager Director Kier

Claire Pring – Contract Manager Kier

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa bresennol o ran y Contract Gwastraff newydd.  Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gofyn cwestiynau i’r gwahoddedigion yn seiliedig ar y themâu yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn ceisio ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch y Contract Gwastraff, a oedd wedi bod trwy raglen newid sylweddol.  Am gyfnod byr ym mis Mehefin 2017, yn ôl y Cyfarwyddwr, ar ôl gweithredu’r contract newydd, roedd y cleient (y Cyngor) a’r contractwr, Kier, wedi wynebu problemau perfformiad wrth gyflawni gwasanaethau.  Ers hynny bu gwelliant yn narpariaeth y gwasanaeth a byddai angen parhau â’r gwelliant hwn yn y dyfodol.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Zak Shell, Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth a Maz Akhtar, Rheolwr Rhanbarthol Kier ar y gwasanaeth casglu gwastraff.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod y contract gwastraff ar ei drydedd ffurf erbyn hyn, a’r hyn a oedd yn sbarduno’r newid oedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru sy’n cynyddu drwy’r amser. Mae gwaith wedi’i wneud gyda WRAP Cymru (Rhaglen Weithredu ar Wastraff ac Adnoddau) i gyfyngu ar y gwastraff gweddilliol gan aelwydydd a’i gwneud yn ofynnol i ddidoli eitemau y gellid eu hailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (atal dadleoli), a sicrhau cymaint â phosibl o ailgylchu gan fusnesau masnachol.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn cymryd camau i gyfyngu ar wastraff gweddilliol.  Amlinellodd y camau allweddol a gymerwyd a arweiniodd at ddechrau’r contract newydd ar 1 Ebrill 2017, a gweithredwyd y contract yn llawn ar 5 Mehefin 2017. 

 

Amlygodd yr heriau ers gweithredu’r contract a arweiniodd at gynnydd yn nifer y ceisiadau am gadi bwyd. Ni ragwelwyd hyn ac roedd wedi achosi baich ychwanegol i Kier. Cafwyd problemau dro ar ôl tro yn y Felin Wyllt a oedd yn benodol i’r lleoliad hwnnw.  Tynnodd sylw hefyd at y llwyddiannau, sef cydymffurfio â’r rheol 2 fag, diwygio’r casgliadau gwastraff gardd, derbyn y newid i Ganolfannau Ailgylchu Cymunedol, a chyfradd o 0.2% yn y casgliadau a fethwyd ar hyn o bryd.  Roedd y perfformiad ailgylchu yng Nghwarter 1 a 2 yn 2017 yn 63.81% a 73.45%.  Nododd mai’r heriau nesaf oedd parhau i wella lefelau gwasanaeth; casgliadau’r Nadolig / y Flwyddyn Newydd; cerbydau newydd ac addasu rowndiau, rheol gadarn 2 fag, gan osod sticer a’i adael a darparu sachau a bagiau bio ar sail dreigl. 

 

Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Kier wrth y Pwyllgor am y cynlluniau o ran gwella staff sef bod Claire Pring ar hyn o bryd yn Rheolwr Busnes Dros Dro penodedig.  Nododd fod y gwaith o recriwtio Rheolwr Busnes wedi dod i ben ac apwyntiad wedi’i wneud.  Roedd y gwaith o recriwtio Goruchwyliwr wedi dod i ben a’r gwaith o recriwtio staff rheng flaen yn parhau. Roedd staff yn cael eu hyfforddi ar y defnydd o gynorthwywyr digidol personol a lleoli cynwysyddion ailgylchu, ac ym mis Ionawr cynhelir hyfforddiant sefydlu llawn ar gyfer yr holl staff ailgylchu.  Amlinellodd gynlluniau eraill i wella gwasanaethau a byddai cerbydau ailgylchu capasiti uchel newydd yn cyrraedd o fis Tachwedd ymlaen. Roedd hyn wedi golygu buddsoddiad o £2 miliwn gan Kier ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn unig. Bydd y cerbydau newydd yn cynnwys teledu cylch cyfyng er mwyn gallu monitro’r gwasanaeth o bell.  Darparwyd dyfeisiau cynorthwywyr digidol personol yn y cab ar gyfer pob gwasanaeth drwy fuddsoddiad o £105,000 gan Kier. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd am y cynnig i gynyddu gwastraff gardd o 4 diwrnod, fel y mae ar hyn o bryd, i 5 diwrnod yr wythnos a gwneud y casgliadau hyn ar yr un diwrnodau ag y cesglir y gwastraff gweddilliol.  Nodwyd bod hyn yn digwydd oherwydd bod y defnydd o’r gwasanaeth gwastraff gardd yn uwch na’r disgwyl. 

 

Dywedodd bod Kier yn gweithio ar ateb i gasglu gwastraff cymunedol yn y Felin Wyllt ar yr un diwrnodau ag y cesglir gwastraff nad yw’n gymunedol er mwyn datrys y broblem o golli casgliadau.  Roedd capasiti ailgylchu ychwanegol yn cael ei ystyried. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd am gynlluniau gwella i wasanaethau eraill a fyddai’n mynd i’r afael â chasgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol. Byddai staff penodedig ar gyfer hyn, a byddai’r dewis terfynol o gerbyd yn cael ei wneud pan fyddai’r sylfaen cwsmeriaid yn sefydledig a byddai sachau ychwanegol ar gael.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd am newidiadau sydd i’w gwneud wrth ddarparu sachau o fis Ionawr 2018 ymlaen er mwyn lleihau nifer y cwynion ac achosion pan na chawsant eu darparu.  Dywedodd y byddai dyfeisiau cynorthwywyr digidol personol yn cael eu defnyddio i gadarnhau pan fo strydoedd wedi eu cwblhau.  Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor hefyd am gynlluniau i wella gwasanaethau mewn safleoedd ailgylchu cymunedol, a hynny yn sgil y problemau ciwio, a bod gwe-gamera wedi ei ddefnyddio i helpu trigolion i benderfynu ar yr amser gorau i ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu Gymunedol.  Dywedodd bod peiriant bwndelu polystyren wedi ei gyflwyno er mwyn tynnu polystyren o’r gwastraff gweddilliol a’i werthu.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y mesurau hyn wedi eu gweithredu yn ychwanegol at y tendr.  Dywedodd mai’r her sy’n wynebu Kier yw’r gwaith o aildrefnu rowndiau a weithredir ym mis Chwefror 2018. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod Kier wedi sefydliadu dolenni ar wefan y Cyngor lle mae modd trefnu i gasglu gwastraff swmpus a gwneud taliadau ar-lein.  Dywedodd fod Kier wedi buddsoddi yn y Ganolfan yn Nhondu drwy ddatblygu gweithdy newydd ac roedd cynlluniau ar waith i osod peiriant bwndelu newydd.   

 

Diolchodd Julian Tranter, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier, i’r Pwyllgor am y gwahoddiad i gymryd rhan yn y cyfarfod.  Dywedodd fod ei gwmni’n falch iawn bod y contract gwastraff wedi’i ddyfarnu iddo a bod y dull y dewisodd yr awdurdod yn arweiniol yn y diwydiant.  Dywedodd wrth y Pwyllgor y bu heriau i weithrediad cyntaf y contract, ond roedd wedi bod mewn trafodaeth barhaus gyda’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau yn ystod y cyfnod hwn.  Dywedodd y byddai Kier yn adolygu’r gwersi i’w dysgu o weithredu’r contract ac fe wnaeth longyfarch yr awdurdod ar ei fentergarwch a’i berfformiad. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder am ansawdd y sachau ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol gan fod angen i’r gwasanaeth fod yn ofalus nad yw’r sachau’n dryloyw.  Mynegwyd pryder hefyd y gallai rhai trigolion gael anhawster wrth wahaniaethu rhwng y sachau ar gyfer casgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol sy’n lliw porffor a’r sachau ar gyfer gwastraff gweddilliol sy’n las.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi achub ar y cyfle i gyflwyno casgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol yn rhan o’r contract newydd.  Dywedodd fod y Cyngor yn ystyried materion sy’n ymwneud ag urddas yn bwysig iawn a byddai’n gweithio gyda thrigolion i wella’r gwasanaeth.  Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau am heriau cyflwyno gwasanaeth newydd, sef bod nifer y ceisiadau am wasanaeth wedi cynyddu a’r rowndiau’n newid yn gyson.  Dywedodd mai ychydig iawn o broblemau a gafwyd gan drigolion â phlant ifanc a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth cynhyrchion hylendid amsugnol.  Roedd trigolion h?n a oedd yn profi anawsterau â chasgliadau cynhyrchion hylendid personol yn cael eu hasesu er mwyn gallu cael casgliadau â chymorth o’r tu mewn i ffiniau eu heiddo, a hynny er mwyn parchu eu hurddas. Nid oedd y Rheolwr Rhanbarthol yn gallu rhoi manylion nifer yr aelwydydd a oedd yn cael casgliadau cynhyrchion hylendid personol, ond yr amser ymateb ar gyfer derbyn y gwasanaeth oedd pythefnos.  Dywedodd fod nifer y trigolion sy’n aros am asesiad yn isel.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod 11 o asesiadau, ar ddydd Llun yr wythnos hon, yn aros i gael eu gwneud ar gyfer casgliadau â chymorth.  Nid oedd unrhyw drigolion yn aros am asesiadau ar gyfer casgliadau cynhyrchion hylendid amsugnol. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd Kier yn ymwybodol o nifer y trigolion a oedd yn aros i gael eu hasesu.  Roedd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod trigolion yn gorfod gwneud cais i gael bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol dro ar ôl tro, a hynny ar ôl mwy na 10 diwrnod.  Mynegodd yr Aelodau bryder hefyd am lefelau perfformiad Kier gan ddweud y dylent fod wedi bod yn barod i weithredu’r contract pan ddyfarnwyd y contract. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol wrth y Pwyllgor eu bod wedi cael anhawster o ran darparu’r bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol; roedd aelwydydd wedi cael cyflenwad blwyddyn o fagiau, ond roedd yn ymwybodol bod rhai cwsmeriaid newydd wedi gorfod aros am y bagiau. Dywedodd mai’r amserlen ar gyfer darparu’r bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol yw 10 diwrnod. Bydd y criw casglu yn dosbarthu’r bagiau ac yna bydd y gwasanaeth yn dechrau. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder am y diffyg cydgysylltu rhwng dosbarthu’r bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol a’u casglu wedi hynny ac roeddent yn cwestiynu sut y cysylltir â’r gweithredwyr i’w casglu.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol y byddai’r ganolfan gyswllt yn derbyn galwad, a fyddai’n creu tocyn a fyddai’n cael ei drosglwyddo i ddyfais cynorthwywyr digidol personol y criw.  Dywedodd Aelod o’r Pwyllgor fod y gwasanaeth casglu bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol wedi gwella ers ei weithredu, ond roedd yn dal yn broblem fod aelwydydd yn gorfod aros mwy na 10 diwrnod i gael y bagiau.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod 351 o geisiadau wedi bod am sachau, ac roedd 100 o’r ceisiadau hynny y tu allan i’r targed o 10 diwrnod. Dywedodd fod y deunydd yn cael ei ailgylchu a’i droi’n gynnyrch ffibr.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y cafwyd problem â’r bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol ym mis Mehefin / Gorffennaf ond bod perfformiad wedi gwella ers mis Medi.  Dywedodd ei fod yn ymwybodol o’r problemau gyda dosbarthu’r bagiau ar gyfer gwastraff gweddilliol a’i fod wedi mynd y tu hwnt i’r targed o 10 diwrnod. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder fod fan paneli yn cael ei defnyddio i gasglu’r bagiau cynhyrchion hylendid amsugnol gan nad oedd yn caniatáu i’r cynhyrchion gael eu cywasgu, a holwyd a fyddai Kier yn ystyried defnyddio gwahanol fath o gerbyd.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod Kier yn ystyried defnyddio dull newydd ond bod y fan paneli bresennol yn effeithiol gan fod yn rhaid gwneud trip o 80 milltir a 3 awr o hyd i waredu’r bagiau. Byddai Kier yn asesu’r math o gerbyd i’w ddefnyddio ar ôl edrych ar faint o dunelli a gasglwyd. Dywedodd aelod o’r Pwyllgor fod defnyddio fan paneli yn llai amlwg ac y byddai’n fwy addas ar gyfer gwneud y rowndiau dosbarthu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth nad yw’r math o gerbyd a ddefnyddir yn bwysig cyhyd â’i fod yn ddibynadwy ac yn cydymffurfio o ran diogelwch.       

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch ansawdd y bagiau a ddefnyddir. Mae modd i anifeiliaid gwyllt eu rhwygo, a gofynnwyd a oedd cynlluniau i wella eu hansawdd.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y gallai trigolion roi dau fag o amgylch y gwastraff ar gyfer y casgliad cynhyrchion hylendid amsugnol.  Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw gynlluniau i newid y math o fag a ddefnyddir ac mai’r unig broblem a gafwyd oedd trigolion yn rhoi gwastraff bwyd mewn bagiau gwastraff gweddilliol yn hytrach na’r cynwysyddion bwyd, ac y byddai hynny’n denu sylw anifeiliaid gwyllt. 

 

Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn bwysig canolbwyntio ar berfformiad yn y dyfodol. Ond roedd yn rhaid cydnabod problemau’r casgliadau a fethwyd yn y Felin Wyllt pan oedd rhai ardaloedd yn rhan o drefniadau casglu cymunedol a oedd wedi golygu nad oedd digon o le i’r holl wastraff yn y biniau. Byddai newid i’r diwrnodau casglu wedi arwain at lai o ailgylchu. Gofynnodd y Pwyllgor pa gamau y gellid eu cymryd i wella capasiti a lleihau gwastraff gweddilliol ganfod gan y Fwrdeistref Sirol y nifer uchaf o gasgliadau a fethwyd.  Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Kier y byddai angen adolygu casgliadau mewn ardaloedd cymunedol. 

 

Dywedodd aelod o’r Pwyllgor bod aelodau o Ward y Felin Wyllt yn gweithio gyda Kier ar atebion a fyddai’n gwella casgliadau mewn ardaloedd cymunedol y gellid eu cyflwyno ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod capasiti’r biniau cymunedol yn cael ei ystyried ac y gallai’r trefniadau hynny gael eu gweithredu ar draws y Fwrdeistref Sirol.  Nododd y Pwyllgor fod angen i’r broses rheoli datblygiadau ystyried gwastraff gweddilliol ac ailgylchu mewn ardaloedd cymunedol a bod angen addysgu’r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd ailgylchu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth bod swyddogion yn ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd ailgylchu ac roedd hynny wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.  Anogodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yr Aelodau sydd ag etholwyr sy’n cael problemau â cholli casgliadau i ddilyn y gweithdrefnau cywir er mwyn osgoi anfon cwynion i wahanol gyfrifon e-bost, a dywedodd y byddai’r broses adrodd am gwynion yn cael ei symleiddio maes o law. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd Kier wedi ymateb i gwynion ac ymholiadau gan etholwyr, yn fwyaf nodedig y cyfnod o 10 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb i broblemau/cwynion a’u datrys.  Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd ynghylch yr effaith yr oedd y nifer sylweddol o gwynion wedi ei chael ar amser swyddogion, a hynny’n amharu ar waith arall, ynghyd â’r gost ar adeg pan fo adnoddau yn lleihau.  Nododd y Pwyllgor yr hoffai weld proses lle byddai atgyfeiriadau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at Kier. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod angen adennill ffydd y cyhoedd yn y gwasanaeth gwastraff ac y byddai gweithdrefn newydd ar gyfer adrodd am gwynion yn cael ei chyflwyno.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod nifer y galwadau a dderbyniwyd yn gyson â nifer arferol y galwadau i’r ganolfan gyswllt.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cyngor wedi ymdrin â chwynion dros y ffôn yn y gorffennol ond Kier fyddai’n ymdrin â nhw dan y contract newydd.  Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi defnyddio adnoddau ychwanegol, ond bod hyn wedi rhoi pwysau ar yr adnoddau presennol.  Dywedodd hefyd fod perfformiad y ganolfan alwadau yn unol â disgwyliadau’r contract.  Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd canolfan alwadau Kier yn ymdrin â’r galwadau ac yn eu hateb, er bod arwyddion o welliant,  ond nid i’r safonau disgwyliedig.  Gofynnodd y Rheolwr Rhanbarthol am restr o’r cwynion a’r problemau o ran perfformiad er mwyn i Kier allu ymateb iddynt.  Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod angen darparu manylion penodol y cwynion ynghylch casgliadau a fethwyd er mwyn gallu datrys y problemau hynny.         

 

Nododd y Pwyllgor y byddai angen i ganolfan alwadau Kier yn Torbay ymdrin â’r cwynion ac roeddent yn cwestiynu a fyddai modd i’r ganolfan yn Nhondu ateb galwadau gan fod y ganolfan honno eisoes yn ateb galwadau gan siaradwyr Cymraeg. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r cyhoedd am yr ymdrechion i sicrhau gwelliant yn y targedau ailgylchu.  Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau hefyd i’r cyhoedd a’r Aelodau am eu rhan wrth wneud gwelliannau i ailgylchu, a oedd yn cymharu’n ffafriol â gweddill Cymru. Dywedodd fod meysydd yr oedd angen eu gwella ac y byddai Kier yn datblygu cynllun gweithredu.  Mynegodd y Pwyllgor bryder fod problemau perfformiad Kier yn adlewyrchu’n wael ar y Cyngor, nid ar Kier.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at nifer y casgliadau a fethwyd, gan holi sut yr oedd y perfformiad hwn yn cymharu â’r contract blaenorol ac yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau wrth y Pwyllgor fod y perfformiad presennol yn debyg i’r perfformiad a gafwyd dan y contract blaenorol a’i fod yn cymharu’n ffafriol â pherfformiad awdurdodau lleol eraill.  Fodd bynnag, nid oedd perfformiad Kier ym mis Mehefin yn cymharu’n ffafriol â pherfformiad dan y contract blaenorol. 

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylai Kier ystyried y cyfle i adleoli’r ganolfan alwadau neu gyfeirio galwadau gan drigolion i’r ganolfan yn Nhondu er mwyn sicrhau cyfathrebu gwell.  Gofynnodd y Pwyllgor beth fyddai’n digwydd pan fyddai’r weithdrefn 2 fag a sticer yn cael ei chyflwyno.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau wrth y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol yn ddelfrydol i fod â chanolfan gyswllt leol a fyddai’n meddu ar wybodaeth leol ac a  fyddai’n gallu helpu trigolion yn well wrth ddatrys cwynion ac ymholiadau.  Dywedodd fod gorfod glynu at y protocol 2 fag a sticer wedi ei ohirio er mwyn rhoi amser i’r contract newydd sefydlu ei hun. Fodd bynnag, byddai’n cael ei orfodi ar ôl y Nadolig a byddai sticer yn cael ei roi ar fagiau os nad oedd aelwydydd wedi glynu at y rheol 2 fag.  Yna, byddai’n ddyletswydd ar yr aelwydydd hynny i waredu’r bagiau hynny.  Dywedodd y gallai trigolion wynebu camau gorfodi pe byddent yn fwriadol yn gwrthod glynu at y rheol 2 fag.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod lefel dda o gydymffurfio wedi bod ers cyflwyno’r rheol 2 fag, ac roedd y canlyniadau ailgylchu yn dda. Gofynnodd y Pwyllgor beth fyddai’n digwydd i’r casgliadau ar ôl y Nadolig.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y gellir ailgylchu caniau a photeli; byddai gwastraff bwyd yn mynd i’r cadi bwyd; a gallai trigolion fynd â phapur lapio i’r Canolfannau Ailgylchu Cymunedol i’w gwaredu.  Dywedodd hefyd y byddai sticer yn cael ei osod ar fagiau gwastraff gweddilliol yn achos unrhyw ddiffyg cydymffurfio.  Byddai swyddog addysg yn ymweld â’r aelwydydd hynny. 

 

Dywedodd y Pwyllgor mai’r gwasanaeth gwastraff yw’r un mwyaf amlwg o wasanaethau’r Cyngor ac mai’r aelwydydd ddylai benderfynu faint o fagiau gweddilliol i’w defnyddio o’r nifer a neilltuwyd iddynt.  Gofynnodd y Pwyllgor hefyd a fyddai criwiau yn ymwybodol o aelwydydd nad ydynt yn gosod bagiau allan i’w casglu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod y Cyngor eisiau cynnal y targedau ailgylchu ac oni bai am y rheol 2 fag byddai hynny’n gwneud gorfodi yn anodd.  Dywedodd fod y rheol 2 fag yn gweithio’n dda i’r rhan fwyaf o aelwydydd.  Dywedodd y Rheolwr Busnes Dros Dro wrth y Pwyllgor fod gan y criwiau ddyfeisiau yn y cab i adrodd am broblemau diffyg cydymffurfio ar Gynorthwywyr Digidol Personol.  Dywedodd fod y criwiau wedi dod i drefn yn dda a bod cefnogaeth i’r criwiau hefyd ar lawr gwlad. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth fyddai’n digwydd i fagiau â sticer arnynt pan fyddai bagiau o sawl aelwyd wedi eu pentyrru y tu allan i un cartref, a phwy fyddai’n gyfrifol am eu gwaredu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod angen fframwaith er mwyn i’r contractau weithio ac y byddai’n anodd gorfodi pan fo bagiau o sawl aelwyd wedi eu gosod y tu allan i un cartref.  Byddai angen gwneud penderfyniad ar sail yr achos penodol hwnnw pan fyddai hynny’n digwydd. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa hyfforddiant oedd gan y gweithredwyr gan nad yw rhai o’r blychau yn cael eu gwagio yn llawn yn aml a bod blychau yn cael eu taflu i erddi ac nad ydynt yn cael eu pentyrru yn gywir ar ôl eu gwagio.  Mynegodd y Pwyllgor bryder nad yw’r criwiau yn codi unrhyw ollyngiadau.  Dywedodd y Rheolwr Busnes Dros Dro wrth y Pwyllgor fod y criwiau’n cael eu hyfforddi a’u bod hefyd yn monitro i sicrhau cydymffurfiaeth a gwelliant mewn perfformiad.  Dywedodd hefyd fod gan Kier systemau ar waith pan nad yw criwiau’n cyrraedd y safonau perfformiad gofynnol.  Dywedodd y Rheolwr Busnes Dros Dro y byddai angen iddi ymchwilio i broblemau gollyngiadau penodol a blychau heb eu pentyrru yn gywir ar ôl eu gwagio.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol y byddai unrhyw ollyngiadau a achoswyd gan y criwiau yn cael eu codi.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth nad cyfrifoldeb Kier oedd clirio sbwriel a adawyd ar strydoedd, ac y cafwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwynion am berfformiad y criwiau i ddechrau ond bod y rhain wedi gostwng yn sylweddol erbyn hyn.

                                 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd i’r criwiau osgoi casglu ar strydoedd lle ceir ysgolion pan fyddant yn agor yn y bore er mwyn osgoi tagfeydd traffig.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y dylai’r holl griwiau fod yn ymwybodol o’r angen i osgoi casglu ar strydoedd lle ceir ysgolion yn ystod amser eu hagor yn y bore. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd beth oedd wedi digwydd i’r gweithredwyr blaenorol. Dywedodd y Rheolwr Busnes Dros Dro wrth y Pwyllgor fod y gweithredwyr presennol yn dal i gael eu cyflogi gan Kier, ond gan fod newidiadau yn cael eu cyflwyno i wasanaethau roedd rhai criwiau wedi eu hailbennu.    

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd i’r gwasanaeth gwastraff gardd gael ei ymestyn i fod yn wasanaeth trwy gydol y flwyddyn. Byddai hynny’n helpu i gynyddu’r cyfraddau ailgylchu a lleihau draeniau rhag cael eu blocio gan ddail.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod ymestyn y gwasanaeth gwastraff gardd yn cael ei ystyried.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y byddai Kier yn ystyried adolygu’r gwasanaeth gwastraff gardd drwy roi cymhelliant i bobl wneud hynny.    

 

Gofynnodd y Pwyllgor i Kier ystyried adolygu’r llwybrau presennol wrth i’r cerbydau newydd gael eu cyflwyno er mwyn osgoi achosion o fethu casgliadau.  Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y byddai’r llwybrau presennol yn cael eu hadolygu ac y byddai newidiadau’n cael eu gwneud i’r llwybrau ym mis Chwefror a fyddai’n cael eu gweithredu bob yn dipyn. Byddai llythyron yn cael eu hanfon at bob aelwyd i roi gwybod iddynt am y newidiadau bythefnos cyn eu gweithredu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai gan y cerbydau newydd fwy o gapasiti. Byddai’r Cabinet yn cael gwybod am y newidiadau i’r llwybrau hefyd. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion nifer o eiddo lle'r oedd cyfyngiadau ar y mynediad atynt ac y byddai angen defnyddio cerbyd arbenigol.  Gofynnodd y Pwyllgor hefyd pwy fyddai’n gwneud penderfyniad ynghylch rhoi cyfarwyddyd i’r aelwydydd hynny osod eu gwastraff mewn un man.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth fod cerbyd penodol ar gael i’w ddefnyddio mewn mannau cul.  Dywedodd y byddai’r penderfyniad ynghylch gofyn i aelwydydd adael eu gwastraff mewn un man yn un a fyddai’n cael ei wneud ar y cyd a byddai’n digwydd fesul achos.  Cadarnhaodd fod mannau yn y Fwrdeistref lle ceir heriau i gyrraedd rhai cartrefi.  Roedd aelod o’r Pwyllgor yn ymwybodol bod y Cyngor wedi cytuno gyda thrigolion y gallai bagiau gael eu gosod mewn un man i’w casglu pan fo cyfyngiadau ar fynediad. Ond gan fod hyn yn cael ei adolygu erbyn hyn, sut fyddai’n effeithio ar drigolion gan fod llawer ohonynt yn oedrannus.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai’n ystyried casgliadau o gartrefi lle ceir cyfyngiadau ar fynediad. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod angen dod i gytundeb am gasgliadau o fannau lle ceir cyfyngiadau ar fynediad gan nad yw’n ddiogel ar hyn o bryd i weithredwyr a cherbydau. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r gwahoddedigion am eu cyfraniadau.              

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael gweld copi heb ei adolygu o’r contract gwastraff i alluogi’r Pwyllgor i graffu yn effeithiol ar berfformiad y contract ac i sicrhau bod Kier yn cyflawni telerau’r contract.  Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol wrth y Pwyllgor nad oedd yn arferol rhyddhau dogfennau contract.  Dywedodd, pe cyflwynid cais, y byddai angen ei adolygu ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau a Kier gan fod problemau cyfrinachedd masnachol, nad oedd modd eu datgelu.                                 

                        

Daeth y Pwyllgor i’r casgliadau canlynol:

 

Roedd yr Aelodau yn parhau i bryderu bod y contract Gwasanaethau Gwastraff wedi bodoli ers 5 mis bellach ond er eu bod yn derbyn bod y gwasanaethau wedi gwella ers dechrau’r contract, nid oeddent wedi cyrraedd y lefel dderbyniol ar gyfer trigolion y Fwrdeistref.  Dywedodd yr Aelodau fod trigolion yn parhau i gysylltu â nhw i ddweud nad oeddent wedi derbyn deunyddiau ailgylchu ac i ddweud bod  casgliadau’n cael eu methu dro ar ôl tro, er bod y ffigyrau yn dangos yn wahanol. 

 

Roedd yr Aelodau yn parhau i bryderu nad oedd y cyfathrebu gan Kier wedi gwella a bod yn rhaid i drigolion ffonio sawl gwaith i ddatrys cwyn/ymholiad. 

 

Gwybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani

  • Faint o aelwydydd oedd yn dal i aros am fagiau cynhyrchion hylendid amsugnol a pha mor hir yr oeddent wedi bod yn aros. Nid oedd yr Aelodau’n hyderus eu bod yn eu derbyn o fewn y 10 diwrnod gofynnol, a’u bod yn gorfod ffonio sawl gwaith i ofyn amdanynt.  
  • Sut bydd y casgliadau yn gweithio yn y dyfodol pan gaiff y lorïau newydd eu cyflwyno?
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gael gweld copi heb ei adolygu o’r contract Gwasanaethau Gwastraff rhwng Kier a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn iddynt graffu’n effeithiol wrth fwrw ymlaen a sicrhau bod Kier yn cyflawni’r cytundeb fel y’i nodir yn y contract.
  • Gofynnodd yr Aelodau sut y byddai cyflwyno cerbydau newydd yn effeithio ar niferoedd y staff. A fyddai nifer y staff yr oedd Kier yn eu cyflogi yn lleihau o ganlyniad i hynny?
  • Gofynnodd yr Aelodau, pan fo cartrefi ac ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu, sut y caiff Kier wybod am hyn a sut yr addesir y llwybrau. Mae llawer o drigolion sy’n symud i mewn i gartrefi newydd yn gorfod aros am fisoedd cyn cael eu deunyddiau ailgylchu ac nid oedd casgliadau yn eu strydoedd.

 

Argymhellion

 

  • Argymhellodd yr Aelodau y dylai Kier fod yn gyfrifol am y camgymeriadau ar ddechrau’r contract a chyflwyno ymddiheuriad i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y tarfu a achoswyd.  
  • Argymhellodd yr Aelodau y dylid cynnal adolygiad llawn o’r gwasanaeth casglu cynhyrchion hylendid amsugnol er mwyn ystyried ffordd symlach i aelodau’r cyhoedd wneud cais am y gwasanaeth, gofyn am fagiau, adrodd am broblem/ casgliadau a fethwyd, a’u bod yn cael gwybod y diweddaraf ynghylch sut a phryd y bydd hyn yn cael ei ddatrys. 
  • Argymhellodd yr Aelodau y dylid cynnal adolygiad ar wahân o ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid Kier a’r modd y maent yn ymateb i ymholiadau gan Aelodau ac etholwyr, yn bennaf y 10 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb i broblemau/cwynion a’u datrys. Nid yw’r Aelodau o’r farn ei bod yn dderbyniol i drigolion aros cylch casglu cyfan cyn datrys y broblem. Argymhellodd yr Aelodau y dylid cyflwyno gweithdrefn newydd fel bod modd cysylltu â Kier yn uniongyrchol i nodi problem, ac yna ei gopïo i’w atgyfeirio ar yr Aelodau, neu swyddog priodol arall o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w fonitro a gwneud gwaith dilynol os nad oes ymateb o fewn yr amserlen y cytunir arni.
  • Argymhellodd yr Aelodau fod Kier yn ystyried ail-leoli’r ganolfan alwadau neu ddargyfeirio galwadau gan drigolion Pen-y-bont ar Ogwr i’r ganolfan yn Nhondu er mwyn sicrhau cyfathrebu gwell.
  • Argymhellodd yr Aelodau y dylai Kier gyfathrebu’n well gyda thrigolion ynghylch ymholiadau/ cwynion sy’n cael eu cofnodi, dosbarthu deunyddiau ailgylchu, newidiadau i ddyddiau/mannau casglu ar gyfer ardaloedd cymunedol ac asesiadau ar gyfer casgliadau â chymorth.   Dywedodd yr Aelodau pe byddai Kier yn ymateb i’r cysylltiad cyntaf ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut a phryd y bydd y problemau’n cael eu datrys, yna byddai hyn yn golygu na fyddai angen i’r trigolion ddefnyddio sawl dull o gyfathrebu a byddai’n sicrhau perchnogaeth o’r g?yn.
  • Argymhellodd yr Aelod y dylid cynnal adolygiad llawn o’r casgliadau mewn ardaloedd cymunedol gan nad oeddent yn addas at ei diben.  Nid oedd digon o finiau ailgylchu a gwastraff gweddilliol ar gael ar gyfer nifer y trigolion sy’n eu defnyddio. Felly, roedd yn rhaid i drigolion orfod defnyddio biniau ailgylchu fel biniau ar gyfer y deunydd dros ben gan olygu nad oeddent yn cael eu casglu gan eu bod wedi halogi’r deunydd ailgylchu a gwaethygu’r broblem.
  • Argymhellodd yr Aelodau y dylai Kier gynnal ymarferion tebyg i’r cwsmer cudd er mwyn sicrhau bod gwastraff ac ailgylchu yn cael ei gasglu a deunyddiau yn cael eu dychwelyd yn ddigonol.  Byddai hyn yn helpu i nodi a fyddai angen rhagor o hyfforddiant neu a oes angen gweithredu unrhyw welliannau i’r gwasanaeth er mwyn sicrhau casgliadau mwy effeithlon.
  • Argymhellodd yr Aelodau y dylid ystyried y cyfleoedd i ymestyn y gwasanaeth casglu gwastraff gardd i’r flwyddyn gyfan gan fod y trigolion yn parhau i gynhyrchu gwastraff gardd trwy fisoedd y gaeaf a byddai hynny yn cyfrannu at gynnydd ychwanegol yn y cyfraddau ailgylchu ym mhob rhan o’r Fwrdeistref.
  • Argymhellodd yr Aelodau y dylid cynnal adolygiad o’r llwybrau presennol, yn enwedig o amgylch ysgolion a sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig i’r llwybr ym mis Chwefror yn cael eu cynllunio a’u hystyried yn ofalus i leihau unrhyw darfu ar drigolion cymaint â phosibl, a bod yr Aelodau a’r trigolion yn cael gwybod am y newidiadau cyn iddynt gael eu gweithredu.
  • Argymhellodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r eitem hon aros ar y Flaenraglen Waith a’u bod yn ailedrych ar hyn ymhen 6 mis. Dylai Bwrdeistref Sirol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Kier fod mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y canlynol yn yr adroddiad: 

 

  • Effaith yr uwch-reolwyr a’r staff rheng flaen a benodwyd yn ddiweddar
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf i’r canolfannau ailgylchu cymunedol gan gynnwys gosod peiriant bwndelu polystyren a gwe-gamera fel y gall y trigolion fonitro llif y traffig i’r safle.
  • Newid dyddiau’r casgliadau cymunedol
  • Effaith y cerbydau casglu newydd
  • Adolygiad o weithgarwch gorfodi mewnol gwasanaethau stryd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – bydd ateb ar waith ym mis Ebrill 2018
  • Tueddiad hirdymor tipio’n anghyfreithlon

Rhoi hyfforddiant sefydlu llawn i staff ailgylchu – disgwylir i hyn ddigwydd ym mis Ionawr 2018

Dogfennau ategol: