Agenda item

Strategaeth y Gymraeg: Adroddiad ar y Diweddariad Blynyddol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu adroddiad a oedd yn diweddaru'r Aelodau ar y gwaith a gyflawnwyd i fodloni'r amcanion o fewn Strategaeth Pum Mlynedd y Gymraeg (2016 i 2021), yn ystod blwyddyn gyntaf ei gweithredu.

 

Eglurodd fod hysbysiad cydymffurfio terfynol y Cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg yn cynnwys dwy safon (145 a 146), oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor gynhyrchu a chyhoeddi'r Strategaeth uchod erbyn 30 Medi 2016. Er mwyn olrhain cynnydd yn effeithiol, datblygu ar y gwersi a ddysgwyd ac adnabod arferion gorau, penderfynodd y cyngor adrodd ar hyn yn flynyddol. Roedd y Strategaeth sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi sut y bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn hwyluso ei defnydd yn y Fwrdeistref Sirol am y cyfnod a gwmpesir gan y Strategaeth. Amlinellodd yr adran hon o'r adroddiad beth oedd y Strategaeth yn ei gynnwys, ac roedd paragraff nesaf yr adroddiad yn cadarnhau'r hyn oedd yn ddyletswydd ar y Cyngor, bum mlynedd ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, fod Adran 1 y Strategaeth Pum Mlynedd, yn canolbwyntio'n fewnol ar gynnal nifer y gweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn y cyngor, gyda'r adran yn amlinellu:

 

·         Proffil ieithyddol gweithlu'r cyngor;

·         Sut y gallai’r cyngor gefnogi ei weithwyr i wella eu sgiliau Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth ynghylch hyn yn y gweithle;

·         Recriwtio a dethol.

 

O fewn hyn, esboniodd fod tri Amcan fel a ganlyn: -

 

  1. Amcan 1: Nodi'r gallu mewn meysydd gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg;
  2. Amcan 2: Darparu atebion dysgu a datblygu priodol ar wahanol lefelau i ddiwallu anghenion a nodwyd o fewn dyraniad y gyllideb;
  3. Amcan 3: Sefydlu trefniadau wrth recriwtio i swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol.

 

Rhoddwyd mwy o wybodaeth ynghylch yr Amcanion hyn yn rhan hon yr adroddiad.

 

Yna eglurodd fod Adran 2 y Strategaeth yn canolbwyntio'n allanol ar gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol ehangach.  Roedd yr Adran hon hefyd yn cynnwys tri Amcan fel a ganlyn: -

 

a)      Amcan 1: Codi proffil yr iaith, diwylliant a gweithgareddau a digwyddiadau lleol Cymraeg a drefnir gan y Cyngor a'i bartneriaid mewn ffordd strwythuredig;

b)      Amcan 2: Cynyddu’r gwaith o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ynghylch Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor (WESP);

c)      Amcan 3: Archwilio (a gweithredu lle bo modd), unrhyw weithgareddau newydd a fydd yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach o fewn y Fwrdeistref Sirol, gan hyrwyddo'r rhain yn unol â hynny.

 

Roedd manylion pellach mewn perthynas â phob un o'r Amcanion hyn yn yr adroddiad.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmer, y Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu fod y Cyngor wedi gweithio gyda Menter Bro Ogwr (MBO) i archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd, a dynodir y rhain fel a ganlyn: -

 

·          CBSP i weithio gyda MBO i hysbysebu swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ar eu gwefan a'u tudalen Facebook;

·          MBO i barhau i weithio gydag Halo ac Ymddiriedolaeth  Awen, i ddarparu cyrsiau hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg i oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr;

·          CBSP i hyrwyddo sesiynau Siop Siarad cyhoeddus ymhlith staff drwy'r Fewnrwyd.

 

PENDERFYNWYD:     Bod Pwyllgor Cydraddoldebau’r Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ategol: