(i) Mayor (or person presiding)
(ii) Members of the Cabinet
(iii) Chief Executive
(iv) Monitoring Officer
Cofnodion:
Y Maer
Cyhoeddodd y Maer â thristwch fod ?yr y Cynghorydd Pucella, Luca, wedi marw yn ddiweddar. Dywedodd ei bod wedi anfon llythyr cydymdeimlo at y Cynghorydd Pucella a’i deulu.
Cyhoeddodd y Maer ei bod hi a’i Chonsort wedi cael y pleser o agor cartref gofal preswyl newydd yng Ngogledd Cornelly yn ddiweddar o’r enw Morgana Court & Lodge. Aeth hi a’i Chonsort ar daith gan ryfeddu at y syniadau oedd wedi’u hymgorffori yn y safle i ysgogi cleientiaid sydd â Demensia. Dywedodd fod cerddoriaeth yn cael ei chwarae mewn bar oedd yn edrych fel tafarn leol, safle bws â mainc yn y coridor, a blwch ffôn a blwch post. Roedd hefyd ystafell â theledu yn dangos cefn gwlad yn symud a phobl yn chwifio o'r caeau. Roedd yr ystafell fel bod ar drên, oedd yn ffordd wych o annog atgofion ac annog i’r preswylwyr gofio.
Dywedodd y Maer wrth y Cyngor ei bod wedi cael yr anrhydedd o fynychu Gwobrau Cyflawnwyr Ifanc Bridge FM yn ddiweddar. Roedd y digwyddiad nodedig hwn yn dathlu pobl ifanc o bob rhan o’r sir ac yn cydnabod eu cyflawniadau mewn busnes, hyfforddiant, addysg, celf, cerddoriaeth a gwirfoddoli. Dywedodd ei bod yn galonogol cwrdd â chymaint o bobl ifanc sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at ein cymunedau.
Cyhoeddodd y Maer fod y wlad yn cofio’r sawl a gollwyd mewn rhyfeloedd i ddiogelu ein rhyddid ym mis Tachwedd. Roedd wedi cynrychioli’r Awdurdod mewn digwyddiad Sul Coffa ym Mhen-y-bont lle gorymdeithiodd y Maer a’r Consort a gosod torch ar ran y Cyngor a’i breswylwyr. Roeddent hefyd wedi mynychu digwyddiadau yn cefnogi’r lluoedd arfog, gan gynnwys cyngerdd Help for Heroes gyda Chorau a Bandiau gwych a Chyngerdd y Llynges Brydeinig Frenhinol yn Neuadd y Dref Maesteg, a oedd yn hyfryd.
Cyhoeddodd y Maer hefyd ei bod wedi cael y pleser o fynychu dau ddigwyddiadau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd y cyntaf ym Mhencadlys y Frigâd Dân yn Llantrisant ar gyfer cyflwyno medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da i bersonél sydd wedi gwasanaethu am rhwng 20 a 42 mlynedd. Cawsant hefyd y pleser o gwrdd â’r staff a’r Swyddogion ymroddedig sy’n gweithio fel Swyddogion Tân yng Ngorsaf Dân Porthcawl a ddangosodd eu hoffer tân cyn hefyd ddynwared gwrthdrawiad traffig. Dywedodd ei bod yn amlwg eu bod yn gweithio fel tîm ac yn falch iawn o’r Gwasanaeth Tân.
Cyhoeddodd y Maer hefyd ei bod hi a’i Chonsort wedi cael eu gwahodd i Brifysgol Abertawe i ddathlu bywyd y diweddar Rhodri Morgan. Disgrifiodd ei frawd y Rhodri ‘go iawn’ gydag ACau ac eraill mewn academia gan rannu straeon o pan roeddent yn gweithio gyda'i gilydd. Roedd yn ysbrydoledig ac yn dangos yr oedd yn Ddyngarwr a Gwladweinydd gwych.
Dywedodd y Maer wrth y Cyngor ei bod hi a’r Consort wedi mynychu Maes Dangos Sioe Frenhinol Cymru ddoe a lansio Project Bwyd Argora a ddaeth â sefydliadau ac unigolion tebyg eu meddylfryd ynghyd o bob rhan o Gymru i drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector cynnyrch. Bydd y project yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont mewn partneriaeth â saith Gr?p Gweithredu Lleol y Cynllun Datblygu Gwledig. Bydd y fenter 3 blynedd hon yn canolbwyntio ar greu cadwyni cyflenwi cadarn fel y gall busnesau gwledig bach gydweithio i fodloni galwadau busnesau manwerthu a thwristiaeth ar gyfer nwyddau lleol.
Cyhoeddodd y Maer, gan fod Rhagfyr bron yma, ei bod yn edrych ymlaen at fod yn brysur dros gyfnod y Nadolig ac y bydd yn ymweld â nifer o sefydliadau gofal i ddymuno Nadolig llawen i breswylwyr a defnyddwyr.
Cyhoeddodd y Maer hefyd fod pob Aelod wedi derbyn e-bost yn dweud bod yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Blynyddol y Maer ar agor. Mae’r gwobrau ar agor i bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol yn ogystal â busnesau a grwpiau lleol. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Maer lle gellir lawrlwytho ffurflen enwebu. Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw Dydd Gwener 26 Ionawr ac anrhydeddir yr enillwyr mewn digwyddiad ym mis Mawrth.
Dirprwy Arweinydd
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth Aelodau y bydd y rownd nesaf o friffiau cyn Cyngor yn digwydd ar 20 Rhagfyr. Y pwnc fydd Trawsnewid Digidol. Ar 31 Ionawr, bydd cyfarfod cyn Cyngor ar weithredu Credyd Cynhwysol ac ar 28 Chwefror cyflwynir y Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd y cynhelir y sesiwn hyfforddi olaf ar y Cod Ymddygiad ar 13 Rhagfyr am 2pm. Roedd hon wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer yr Aelodau hynny nad ydynt wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn yn ystod y tymor presennol. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai’r holl Aelodau yn gallu mynychu briff gan y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol am 4pm ar 9 Ionawr 2018 a fydd yn gweld y Comisiwn yn amlinellu’r' gwaith y bydd yn ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y bydd Aelodau wedi gweld y sylw yn y wasg am yr ystadegau ailgylchu calonogol. Mae’r rhain yn dangos bod ailgylchu cyffredinol rhwng Gorffennaf a Medi wedi codi o 57 y cant yn 2016 i bron 74 y cant ar gyfer yr un cyfnod yn 2017.
Mae’r canolfannau ailgylchu cymunedol wedi cofnodi 254 tunnell o gynnydd mewn ailgylchu rhwng Gorffennaf ac Awst a lleihaodd y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn ystod yr un gyfnod o 957 tunnell. Mae 7,720 o gartrefi ychwanegol wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth AHP gyda chyfartaledd o 100 o geisiadau ychwanegol yn cael eu derbyn bob wythnos. Hyd yma, mae 278 tunnell o gewynnau a gwastraff AHP wedi’i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi. Dywedodd wrth y Cyngor fod y canlyniadau hyn yn bwysig iawn o ystyried y materion a’r pryderon amlwg sydd wedi’u codi am gyflwyno’r cynllun newydd. Dywedodd, er nad yw’r cynllun yn berffaith eto a bod angen gwneud rhywfaint o waith gyda Kier i gael y cynllun lle hoffai’r Cyngor iddo fod, fod y canlyniadau yn dangos bod y gweithdrefnau newydd yn gallu cyflawni’r targedau cenedlaethol llym newydd.
Roedd yn edrych ymlaen gyda diddordeb i weld sut caiff perfformiad Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ei raddio o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru.
Aelod Cabinet Cymunedau
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau, fel pencampwr Cam-drin Domestig y Cyngor, ei fod yn blês gweld ymateb cryf i’r Ymgyrch Rhuban Gwyn eleni. Roedd nifer o ddigwyddiadau lleol wedi’u trefnu, y mae rhai ohonynt yn mynd o hyd, a’r neges eleni oedd ‘torri’r cylch’.
I gefnogi hyn, aeth staff o Calan CVS, PCSOs a Gwirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu â sioe deithiol i wahanol rannau o’r fwrdeistref sirol i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod llawer o help a chymorth ar gael i unrhyw un sy’n dioddef o gam-drin domestig neu sy’n amau ei fod yn digwydd gyda chymydog, perthynas neu ffrind. Dywedodd wrth y Cyngor y bydd y sioe deithiol yn ymweld â’r Ganolfan ym Mhorthcawl ddydd Iau 30 Tachwedd rhwng 9.30am a 12.30pm, y Co-operative ym Mhorthcawl ddydd Llun 4 Rhagfyr rhwng 10am a hanner dydd ac Asda ym Mhen-y-bont ddydd Iau 7 Rhagfyr rhwng 10am a hanner dydd. Roedd yn gobeithio y byddai’r Aelodau’n dangos cefnogaeth a diolchodd i’r Cynghorydd David White am ei ymdrechion fel pencampwr Rhuban Gwyn. Ceir rhagor o wybodaeth am Ymgyrch y Rhuban Gwyn ar y wefan www.whiteribboncampaign.co.uk
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau ei fod wrth ei fodd o weld bod yr awdurdod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Porthcawl a bod 15 o finiau newydd wedi’u gosod ar hyd y prom ym Mhorthcawl. Dywedodd fod yr holl finiau newydd wedi’u hariannu gan Gyngor Tref Porthcawl ac y byddant yn cael eu gwasanaethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd fod traean yn fwy o finiau nawr mewn lle ac nad oes esgus i berchnogion c?n ac ymwelwyr i beidio â chodi baw eu hanifeiliaid anwes. Diolchodd i’r Cyngor Tref am weithio gyda’r Cyngor, sy’n dangos sut gall partneriaethau o’r fath weithredu er budd trigolion lleol. Roedd yn gobeithio gweld mwy o hyn.
Atgoffodd yr Aelod Cabinet Cymunedau yr Aelodau ei fod wedi cyhoeddi grant o £2,500 i Broject Dwr Mwynglawdd Caerau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, sydd â’r nod o greu rhwydwaith gwres ar gyfer cartrefi lleol gan ddefnyddio d?r sydd wedi casglu mewn hen fwyngloddiau. Ymhellach i’r cyhoeddiad hwnnw, mae nawr yn falch o gyhoeddi bod y project wedi denu mwy o gyllid grant, gyda’r Cyngor yn derbyn cynnig grant ffurfiol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ychydig dan £6.5m ar gyfer datblygiad pellach y cynllun, yn amodol ar rywfaint o arian cyfatebol. Mae Project Caerau yn un o ddim ond tri phroject o’r fath yn y DU, ac mae’r swm a ddyfarnwyr yn adlewyrchu proffil a budd y Project ac yn cynrychioli 100% o’r arian grant y cynigiwyd amdano. Ni chaiff unrhyw arian grant ei dynnu i lawr tan ar ôl i’r arian cyfatebol fod mewn lle, ond unwaith ei fod mewn lle bydd y grant yn galluogi’r project i ddatblygu ymhellach. Gwnaeth longyfarch pawb sy’n rhan o’r project hwn a byddai’n rhoi rhagor o wybodaeth i Aelodau wrth i’r project cyffrous ddatblygu.
Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, gyda 45 o unedau Gofal Ychwanegol yn cael eu hadeiladu yn Ynysawdre, ei fod yn gofyn i'r Aelodau ledaenu'r gair am gystadleuaeth sy'n cael ei chynnal gan y Jehu Group a Linc Cymru. Gofynnir i bobl leol helpu i enwi’r datblygiad newydd a’r stryd sy’n rhedeg drwyddo. Dywedodd y bydd yr awgrymiadau buddugol yn ennill tocynnau rhodd £50 ac y gall pobl gymryd rhan drwy ebostio eu hawgrymiadau i sian.bridge@jehu.co.uk. Y dyddiad cau yw 1 Rhagfyr. Dywedodd wrth Aelodau hefyd, gydag ail gyfleuster Gofal Ychwanegol yn cael ei adeiladu ym Maesteg, fod hyn yn syniad da ac yn un a fydd yn helpu’r gymuned leol i fod yn rhan o‘r datblygiad gwych.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar am help i godi ymwybyddiaeth bod diogelu oedolion a phlant sy'n agored i niwed yn fusnes i bawb. Dywedodd y gall pawb helpu i atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy fod yn fwy ymwybodol o'r arwyddion, nid yn unig anafiadau corfforol amlwg ond hefyd newidiadau mewn ymddygiad pobl. Dywedodd wrth Aelodau y gall camdriniaeth ddigwydd mewn sawl ffordd ac y ceir rhagor o fanylion ar wefan Bwrdd Diogelu Bae’r Gorllewin, www.WBSB.co.uk.
Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol
Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol, yn dilyn cynnydd mewn cwynion i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS), efallai yr hoffai Aelodau ddweud wrth eu hetholwyr i fod yn ymwybodol o ‘gynigion rhoi cynnig am ddim’ a allai arwain at symiau misol am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt eu heisiau. Amcangyfrifwyd bod 2m o bobl ledled y DU yn cael anawsterau yn ceisio canslo taliadau misol, y mae llawer ohonynt yn deillio o alwadau digroeso a sgamiau. Ar ôl cyfnod cychwynnol o 14 diwrnod, mae rhai cwsmeriaid ond yn sylwi fisoedd wedyn eu bod wedi cael eu gosod ar gyfer taliadau parhaus o'u cyfrifon banc. Dywedodd fod y rhybudd o SRS yn dod yn ystod Wythnos Genedlaethol y Defnyddwyr, sy'n dweud y dylai unrhyw sy'n meddwl ei fod wedi dioddef yn sgil sgám neu sydd am gael rhagor o wybodaeth gysylltu a Gwasanaeth Defnyddwyr y Ganolfan Cyngor ar Bopeth ar-lein neu drwy ffonio 03454 040506.
Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio
Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio y byddai Aelodau eisoes yn ymwybodol bod y Cyngor hwn wedi bod yn allweddol o'r gwaith o ailddechrau defnyddio'r hen d?r gwylio ym Mhorthcawl drwy weithio ochr yn ochr â Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau. Roedd wrth ei fodd o gael ebost diweddar gan reolwr yr orsaf Phil Styles yn rhoi gwybod bod yr orsaf bellach wedi'i chydnabod yn swyddogol fel sefydliad chwilio ac achub gan y Ganolfan Cydlynu Achub Arfordirol yn Aberdaugleddau. Dywedodd fod hyn yn haeddiannol gan mai’r orsaf yw’r un brysuraf yn y DU namyn un. Gyda chriw o 43 o wirfoddolwyr, maent wedi logio mwy na 5000 awr, cofnodi 4500 o symudiadau llong, wedi cyfrannu’n uniongyrchol at 36 o ddigwyddiadau a helpu i fonitro 46 arall. Gwnaeth longyfarch y gwirfoddolwyr am eu llwyddiant.
Roedd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio wrth ei fodd o fynychu lansiad rhwydwaith SEREN newydd y fwrdeistref sirol. Wedi’i ddylunio gefnogi meddyliau ifanc gorau’r ardal, mae’r rhwydwaith yn darparu digwyddiadau a gweithdai arbennig drwy gydol y flwyddyn sy’n eu helpu i dargedu lleoedd mewn prifysgolion da. Dywedodd fod tua 150 o'r myfyrwyr Lefel A gorau wedi dod ynghyd ar gyfer y lansiad yng Ngholeg Pen-y-bont lle gwnaethant gwrdd â chynrychiolwyr o brifysgolion fel Rhydychen a Chaerfaddon. Hefyd yn bresennol roedd The Brilliant Club, elusen sy'n cefnogi plant o gymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli ddigon i gael mynediad i sefydliadau gorau'r wlad. Dywedodd ei fod wedi’i sefydlu mewn partneriaeth â chweched dosbarthiadau, Coleg Pen-y-bont a Llywodraeth Cymru a bod y rhwydwaith yn ffurfio rhan o ganolfan ranbarthol ehangach a’i fod yn si?r o fod o fudd mawr i bobl ifanc leol dalentog.
Hefyd, cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio lansiad diweddar arall, sef rhaglen Prentisiaeth Ifanc gyntaf y fwrdeistref sirol sy’n cynnig cyrsiau galwedigaethol mewn gwallt a harddwch, gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu neu ddylunio gerddi. Mae hyn yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor, ysgolion a Choleg Pen-y-bont ac yn cefnogi 45 o bobl yn eu harddegau sy’n astudio yn y coleg wrth weithio tuag at TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Dywedodd fod hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 i gael profiad ymarferol, ac mae gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr gysylltiadau helaeth â chyflogwyr lleol i roi help llaw iddynt.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod Aelodau yn si?r wedi gweld y newyddion lleol am gynllun gwella busnes newydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr. Lluniwyd hwn ochr yn ochr â Phartneriaeth Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr i greu stondinau newydd, denu mwy o ymwelwyr a gwella’r profiad siopa cyffredinol yn y farchnad. Dywedodd fod y masnachwyr wrthi’n ystyried y cynigion ac yr arhosir am eu hadborth. Mae’r cynigion wedi’u llunio i gyflawni rhai pethau penodol iawn. Ymysg y cynigion mae polisi rhent ailstrwythuredig, ad-daliad rhent 15 y cant yn ystod cyfnod tawel y Nadolig, penodi asiantau masnachol i hyrwyddo a gosod stondinau, sefydlu Cymdeithas y Farchnad a chynllun gwella a chyfathrebu, cronfa gwella’r farchnad a mwy. Dywedodd wrth y Cyngor fod hwn yn ddarn o waith cyffrous ac uchelgeisiol sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor ac a allai fod yn allweddol ar gyfer gwella dyfodol y farchnad dan do. Gwnaeth gydnabod a diolch i Bartneriaeth Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr am eu holl ymdrechion a chymorth ystod datblygiad y cynllun.
Prif Weithredwr
Cyhoeddodd y Prif Weithredwr y bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn dod i ben y penwythnos hwn ddydd Sul 3 Rhagfyr a diweddarodd yr Aelodau ar sut roedd pethau’n mynd a gofyn i'r Aelodau annog eu hetholwyr i sicrhau eu bod yn dweud eu dweud cyn i'r dyddiad cau basio. Dywedodd wrth Aelodau fod yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn gofyn i drigolion helpu i nodi pa feysydd y dylid eu blaenoriaethu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. I helpu i gyflawni hyn, mae’r Cyngor wedi cynnal amrywiaeth o hysbysebu ar draws y cyfryngau cymdeithasol, ar-lein ac mewn papurau newydd lleol fel y Glamorgan Gazette a Glamorgan Gem. Dywedodd fod cyfres o ddatganiadau i’r wasg wedi’u cyhoeddi, yr aeth yr olaf ohonynt allan yn gynharach wythnos yma i helpu i atgoffa pobl am y terfyn amser sydd ar ddod.
Dywedodd wrth y Cyngor ei fod ef a’r Dirprwy Arweinydd hefyd wedi cymryd rhan mewn sgwrs fyw ar Facebook a Twitter lle gwahoddwyd cwestiynau a barn ar faterion yn ymwneud â’r gyllideb.
Hefyd, dywedodd wrth Aelodau fod y Cyngor wedi cwrdd â grwpiau lleol fel Bridgend Shout, Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, gr?p 50+ ym Maesteg, Shedquarter ac aelodau o Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn casglu barn ac adborth. Mae fersiwn symlach o arolwg yr ymgynghoriad wedi’i llunio ar gyfer trigolion iau, a hyd yma mae 100 o ymatebion wedi’u derbyn. Dywedodd fod cyfres o weithdai lleol wedi’u cynnal mewn lleoliadau gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol ac y disgwylir i’r olaf o’r rhain gael ei gynnal nos Iau yng Nghanolfan Valley Life Aberogwr rhwng 4pm a 6pm. Hyd yma, mae 1,572 o holiaduron cyflawni wedi’u derbyn ac mae ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r Panel Dinasyddion. Cafodd y rhan fwyaf eu llenwi ar-lein ond mae’r arolwg hefyd wedi bod ar gael ar gopi caled mewn llyfrgelloedd lleol. Gyda’r dyddiad cau yn nesáu, roedd yn gobeithio y byddai Aelodau’n annog cymaint o bobl â phosibl i ddweud eu dweud a helpu i benderfynu sut caiff yr heriau hyn eu hwynebu.
Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor am ganlyniad profion gwallau pellach a gynhaliwyd ar hawliadau Budd-dal Tai yn dilyn y gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru lle profwyd sampl o 45. Roedd y sampl yn cynnwys 11 o achosion â gwallau – byddai'r rhain yn wall damcaniaethol o tua £1.9m. Mae gwaith manwl pellach wedi’i gynnal ar 120 o achosion, a ddatgelodd 2 wall gyda swm o £97 mas o gyfanswm o £500k. Yn dilyn archwiliad o'r hawliad DWP, daethpwyd o hyd i wallau gwerth cyfanswm o £350 mas o gyfanswm hawliadau o £50m. Dywedodd fod y DWP yn ystyried amrywiaeth rhesymol i fod yn £200k. Yn gryno, dywedodd na ddaethpwyd o hyd i unrhyw wendidau rheoli sylweddol.
Swyddog Monitro
Cyhoeddodd y Swyddog Monitro y newidiadau canlynol i gylch y Pwyllgor:
Dywedodd wrth y Cyngor yr ymgynghorwyd â Chadeiryddion pob Pwyllgor a’u bod i gyd yn cytuno â’r cynigion.