Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau am yr ymateb diweddar a gafodd gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am bryderon y Cyngor ynghylch effaith bosibl y newid ffiniau.  Dywedodd eu bod wedi cynnig sawl sicrwydd pe bai’r newidiadau'n mynd yn eu blaen, gan gynnwys:

 

·Maent yn ymrwymedig i gynnal a gwella gwasanaethau iechyd i bobl leol a chanlyniad Rhaglen De Cymru.

·           

·  Mae’r ymgynghoriad sydd ar ddod yn ymwneud yn llwyr â’r ffin sefydliadol.

·           Byddai angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân ar unrhyw newidiadau yn unol â fframweithiau rheoliadol.

·  Mae amseroedd aros ysbyty Cwm Taf yn is nag yn ardal ABMU ar hyn o bryd. Pe bai Tywysog Cymru yn dod yn rhan o BIP Cwm Taf, bydd y ffocws ar ddod ag amseroedd aros Tywysog Cymru yn unol â hyn.

·           

·  Nid oes unrhyw gwtogi wedi’i drefnu ar gyfer Tywysog Cymru.

 

·  Roedd Cwm Taf yn bwriadu gweithio gyda AMBU i sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaeth ar draws pob safle.

·           

·Bydd mynediad traws-ffiniol i driniaeth a gwasanaethau rhyng-ranbarthol yn parhau.

·           

·Er y gellir adolygu llwybrau cleifion yn ddiweddarach, bydd hyn ond yn digwydd os yw’n gwella hygyrchedd ac ansawdd gofal ac yn arddangos y manteision yn glir i gleifion.

·           

·O ran Ysbyty Cymunedol Maesteg, roedd yr ymateb yn cyfaddef nad yw Cwm Taf yn gyfarwydd â’r safle a'r gwasanaethau ar hyn o bryd, ond pwysleisiwyd mai’r bwriad yw i ddeall seilwaith cyfan y gymuned dros yr wythnosau nesaf.

·           

·  Er na allent roi sylwadau penodol ar yr ysbyty, mae gan Gwm Taf hanes o fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a sefydlu ysbytai cymunedol fel hybiau clwstwr sy'n dod â gwasanaethau sylfaenol, eilaidd a gofal cymdeithasol ynghyd. Mae hyn yn rhywbeth y byddent yn edrych arno yn lleol.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau fod y llythyr yn dod i’r casgliad fod Cwm Taf yn ystyried newidiadau arfaethedig i'r ffin yn gyfle i wella gwasanaethau ar draws y tair ardal awdurdod lleol, i rannu arbenigedd ac adnoddau ac i wella profiad y claf a mynediad i wasanaethau.  Dywedodd fod y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd hefyd wedi pwysleisio y byddant yn hapus i ddod i gwrdd ag Aelodau i ateb cwestiynau a thrafod unrhyw bryderon yn uniongyrchol, ac y byddai’n cyflwyno rhagor o fanylion am hyn wrth i’r peth ddatblygu.

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd wrth yr Aelodau am lythyr a gafodd gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y rhaglen Credyd Cynhwysol yn rhoi gwybod i’r awdurdod y caiff pedwar prif newid eu gwneud i’r system pan fydd deddfwriaeth briodol wedi’i chymeradwyo.  Dywedodd y byddai’r newid cyntaf yn galluogi arhosiadau byr mewn llety dros dro i gael eu talu drwy'r Budd-dal Tai, ac mai’r bwriad yw lleddfu pryderon ariannol a fynegwyd gan awdurdodau lleol.  Mae’r holl newidiadau eraill yn ymwneud â’r cyfnod asesu cyntaf.

 

Roedd y llythyr hefyd yn dweud y diddymir y cyfnod aros presennol o 7 diwrnod. Y cyfnod pontio i unrhyw un sy'n trosglwyddo o'r Budd-dal Tai fydd 2 wythnos, a chaiff y cyfnod ad-dalu ar gyfer blaendaliadau newydd ei ymestyn i 12 mis i alluogi hawlwyr i gael hyd at 100 y cant o'u hawliad.  Diben y newidiadau yw cefnogi hawlwyr yn ystod y cyfnod asesu cyntaf yn dilyn lobïo gan gynghorau ymysg cwynion fod pobl wedi’u gadael heb daliadau yn ystod y prosesu. 

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y broses o gyflwyno amserlen y system a bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cysylltu â chynghorau yr effeithir arnynt â rhagor o fanylion. Gobeithir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn fuan.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod y Cadeirydd Dr Ruth Hussey a’r Athro Keith Moultrie, wrth roi tystiolaeth i’r Comisiwn Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn glir bod model integredig y Cyngor o ofal cymunedol canolradd i bobl h?n yn enghraifft o arfer gorau, nid yn unig yng Nghymru ond y DU gyfan.  Dywedodd, pe bai newid, y sicrheir bod y gwasanaethau cymunedol hanfodol hyn yn parhau i gael eu datblygu.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd, fel rhan o Ein Cymoedd Ein Dyfodol, ei fod yn blês iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, wedi cyhoeddi seithfed canolfan strategol, sef gogledd Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd y Cyngor wedi gweithio’n galed i sicrhau bod Garw, Llynfi ac Ogwr yn ffocws ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus, gyda’r nod o sicrhau bod y canolfannau’n denu buddsoddiad sector preifat, gan greu swyddi a chyfleoedd.  Dywedodd fod y broses o ddatblygu cynigion ar gyfer y ganolfan strategol, yn seiliedig ar y themâu cychwynnol yng nghynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru, bellach yn mynd rhagddi.  Dywedodd hefyd y bydd y gweithgor a phob un o’r saith awdurdod lleol yn cynnal seminar canolfan strategol i gefnogi datblygiad glasbrint buddsoddi ar gyfer pob ardal dros y 15 mlynedd nesaf.  Nodir y projectau penodol i’w hariannu dros dymor y Cynulliad erbyn Ebrill 2018. Yn ogystal â’r canolfannau strategol, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried parc Tirwedd y Cymoedd i achub ar gyfleoedd hamdden a thwristiaeth yn y dirwedd naturiol a’r dreftadaeth gyfoethog. 

 

Cyhoeddodd hefyd fod Heathrow wedi cyhoeddi rhestr hir o 65 o leoliadau Canolfan Logisteg; canolfannau oddi ar y safle ar gyfer adeiladu a gweithgynhyrchu a fydd yn helpu'r maes awyr i gyflawni ei gynllun ehangu.  Dywedodd y bydd y Canolfannau Logisteg yn adeiladu’r drydedd rhedfa oddi ar y safle, gan ddod â swyddi i bob cwr o’r DU. Mae safle ym Mrocastell ymysg y safleoedd ar y rhestr fer.  Roedd y maes awyr hefyd wedi datgelu 10 lleoliad Uwchgynhadledd Busnes, gan gynnwys un yng Nghaerdydd, gan sicrhau bod pob ardal o’r DU yn cael budd o gyfleoedd cadwyn gyflenwi drwy’r ehangiad. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor am y cynnydd sy’n cael ei wneud yn adeiladu Ysgol Gynradd Betws ac Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw a fydd yn rhannu’r un safle o Ionawr 2018. Bydd Ysgol Gynradd newydd Brynmenyn yn barod yn Chwefror ac roedd y gwaith o adeiladu Ysgol Gynradd newydd Pencoed yn parhau a byddai’n barod ym Medi 2018. Dywedodd y byddai cyflwyniad Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses o osod cyllideb.