Agenda item

Adroddiad Monitro Blynyddol 2017 ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr 2006 - 2021

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gr?p Datblygu ar ganfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) 2017 y Cynllun Datblygu Lleol a cheisiwyd cymeradwyaeth y byddai'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cymryd rôl y Gr?p Llywio CDLl. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu wrth Aelodau mai’r adroddiad yw’r 3ydd adroddiad o’r fath sydd wedi’i gyhoeddi ers i’r CDLl gael ei fabwysiadu yn 2013. Dywedodd mai’r CDLl yw un o’r strategaethau lefel uchel y mae’n rhaid iddi gael ei pharatoi gan y Cyngor sy’n nodi blaenoriaethau’r Cyngor mewn termau defnydd tir ond rhaid iddi hefyd gydymffurfio â pholisi a rheoliadau cenedlaethol.  Mae’r cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cynnwys ymgynghori a chraffu annibynnol sylweddol.  Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i adolygu’r holl faterion y disgwylir iddynt effeithio ar ddatblygiad yn ei ardal ac mae Adran 76 o Dfeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r materion hyn gael eu mynegi ar ffurf Adroddiad Monitro Blynyddol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Dywedodd wrth y Cyngor fod yr AMR yn ei hanfod yn ‘Wiriad Iechyd’ ar gyfer y CDLl, sy'n penderfynu pa mor effeithiol y mae wedi bod o ran bodloni amcanion y cynllun a ph'un a yw'r strategaeth ddatblygu sy'n sail i'r cynllun parhau'n ddilys.  Mae’r AMR hefyd yn ystyried sut gallai newidiadau cyd-destunol, fel cyflwr yr economi a dylanwadau cenedlaethol a rhanbarthol a newidiadau i ddeddfwriaeth, hefyd ddylanwadu ar lwyddiant neu ddilysrwydd y Cynllun.  Tynnodd sylw at rai o’r ‘canfyddiadau allweddol’ o ddadansoddiad data 2017 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017:

 

Mae 4978 o aneddiadau newydd wedi’u cwblhau yn ystod y cyfnod hyd at 2017 – gyda 1150 yn fforddiadwy.

 

Mae gan y Cyngor gyflenwad tir sydd ar gael ar gyfer tai a asesir yn erbyn y gofyniad tai yn y CDLl o 4.0 blynedd, sydd yn is na’r gofyniad isaf o 5 mlynedd.

 

Yn ystod y cyfnod monitro datblygwyd 1.4 hectar o dir cyflogaeth gwag, sy’n is o lawer na gofyniad y CDLl o 6.3 hectar y flwyddyn.

 

Wrth benderfynu pa mor llwyddiannus mae strategaeth Datblygiad Gofodol a Arweinir Adfywio y CDLl wedi bod, mae’r CDLl wedi nodi 4 ardal Twf Strategol ym Mhen-y-bont, Porth y Cymoedd, Maesteg a Phorthcawl. Mae gwaith monitro gweithrediad dyraniadau tai a chyflogaeth yn dangos bod ardaloedd strategol Pen-y-bont a Phorth y Cymoedd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran darpariaeth ond mae Ardaloedd Twf Maesteg a Phorthcawl wedi tanberfformio.  Priodolir y tanberfformiad hwn yn bennaf i faterion hyfywedd ym Maesteg a materion perchnogaeth tir ym Mhorthcawl lle mae Ardal Adfywio Glannau Porthcawl wedi methu â darparu'r lefelau twf disgwyliedig. 

 

Mae Cyfraddau Adeiladau Gwag canol ein trefi yn 17.7% ym Mhen-y-bont, 4.9% ym Mhorthcawl a 6.0% ym Maesteg.  Yn y cyd-destun hwn mae Cyfradd Adeiladau Gwag Canol Trefn Pen-y-bont ar Ogwr yn uwch na tharged y CDLl o 15%.

 

O ran monitro’r angen i ddarparu Safle Sipsiwn a Theithwyr parhaol neu symudol, penderfynwyd ar hyn drwy ddiweddaru tystiolaeth yn yr Arolwg Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddar.  Mae’r arolwg yn dangos nad oes gofyniad hyd at 2021 a gofyniad am 1 llain ychwanegol hyd at 2031.

 

Mae’r Fwrdeistref Sirol yn gwneud cyfraniad sylweddol at y targedau ynni adnewyddadwy cenedlaethol.  Mae’r capasiti cynhyrchu yn a gerllaw’r SSA newydd (i’r gogledd o Evanstown a Bro Ogwr) yn 65MW, sy’n uwch o lawer na’r capasiti disgwyliedig o 31MW.

 

Tynnodd Rheolwr y Gr?p sylw at gasgliadau allweddol yr Adroddiad Monitro Blynyddol eleni, sef bod polisïau’r cynllun yn cael eu bodloni’n gyffredinol gyda’r Cynllun yn symud tuag at ei dargedau a bod Strategaeth Ddatblygu’r CDLl yn parhau’n gadarn.  Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn cydnabod bod rhaid iddo symud ymlaen ag Adolygiad o ystyried bod rhwymedigaeth statudol arno i gynnal adolygiad llawn 4 blynedd ar ôl mabwysiadu a gorchymyn i fynd i’r afael â’r diffyg yn y cyflenwad tir sydd ar gael ar gyfer tai.

 

Dywedodd mai argymhellion yr AMR yw bod Awdurdod Cynllunio Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau Adolygiad statudol o’r CDLl ar ddechrau 2018 ac er mwyn hwyluso’r adolygiad, bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cymryd rôl Gr?p Llywio’r CDLl. Ei swyddogaeth fydd craffu ar gamau allweddol paratoi'r cynllun a chasglu tystiolaeth a gwneud argymhellion yn y dyfodol i'r Cyngor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gr?p Datblygu bod cam nesaf adolygiad y Cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i baratoi ‘Adroddiad Adolygu’ manwl a fydd yn adrodd i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a’r Cyngor.  Bydd Adroddiad yr Adolygiad yn nodi’n glir yr hyn sydd wedi’i ystyried, pa randdeiliaid allweddol yr ymgysylltwyd â hwy a, lle bo angen newidiadau, beth sydd angen ei newid a pham.

  

Adroddodd y Rheolwr Gr?p Datblygu ar gynnig i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu gymryd rôl y Gr?p Llywio CDLl i oruchwylio’r adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol o’r dechrau i’r diwedd.

 

Cwestiynodd Aelod o’r Cyngor effaith canolfan gyflogaeth y gogledd ar y CDLl.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu yr ystyrir datblygiad y ganolfan fel rhan o’r dystiolaeth, a fydd yn llywio’r CDLl.

 

Cwestiynodd aelodau o’r Cyngor pam nad oedd eiddo masnachol gwag yng nghanolfan tref Pencoed ymysg canfyddiadau allweddol yr AMR.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu wrth y Cyngor fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i chynnwys yn yr AMR at ddibenion monitro gan ei bod yn ‘ganolfan is-ranbarthol’ a bod Maesteg a Phorthcawl wedi’u dosbarthu fel ‘canol trefi’. Nid yw Pencoed yn y categori hwn gan ei bod yn ‘ganolfan dosbarth’ heb fod yn amodol i’r un lefel o fonitro.  Mynegodd yr Aelodau bryder fod y cyfraddau eiddo masnachol gwag yn uwch na’r targed ym Mhen-y-bont er bod canol trefi Maesteg a Phorthcawl yn rhagori ar y targed.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu ei bod yn siomedig nad yw’r targedau adeiladau gwag ym Mhen-y-bont wedi’u cyrraedd. Er bod y cyfraddau ond ychydig yn is na’r targed, roedd arwyddion o welliant bach dros y flwyddyn ddiwethaf.  Dywedodd y gallai cwmpas adolygiad y CDLl gael ei ehangu i edrych ar ffiniau canol tref a chael targedau mwy realistig ar gyfer eiddo masnachol gwag. 

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd i’r adolygiad edrych yn fanwl ar safleoedd diwydiannol cyfredol.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu y bydd proses y CDLl yn gweld llawer o ymgysylltu ac y byddai ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod safleoedd diwydiannol yn cael eu meddiannu. 

 

Cyfeiriodd Aelod o’r Cyngor at iselhau’r ganran i ddarparu tai fforddiadwy yn y CDLl presennol a gofynnodd a fyddai hyn yn cael ei gynyddu fel rhan o‘r adolygiad.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu fod hyn eto yn seiliedig ar dystiolaeth a bod yn rhaid i’r CDLl fod yn realistig.  Dywedodd fod adeiladwyr tai masnachol yn cael cyfrannu at yr Astudiaeth Argaeledd Tir Tai ar y Cyd a bod gan y Fwrdeistref Sirol ofyniad tai o 4 blynedd yn y CDLl presennol, sydd wedi gostwng islaw 5 mlynedd yn ddiweddar.  Ymgynghorir â’r adeiladwyr tai hefyd fel rhan o adolygiad y CDLl. Dywedodd hefyd y gallai’r gofyniad tai fforddiadwy effeithio ar ba mor realistig mae rhai safleoedd.  Bydd unrhyw CDLl newydd yn amodol ar archwiliad allanol a gynhelir gan Arolygydd Cynllunio annibynnol a byddai angen i’r cynllun brofi ei fod yn realistig cyn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  Mynegodd Aelodau bryder am y diffyg eiddo 1 ystafell wely yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Soniodd Aelod o’r Cyngor am yr angen i ymgysylltu â darparwyr Gofal Iechyd Sylfaenol er mwyn gwella cyfleusterau iechyd cymunedol fel rhan o’r thema o gynnydd cymdeithasol sy’n cydnabod anghenion pawb.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Datblygu yr ymgynghorir â darparwyr Gofal Iechyd Sylfaenol a fydd yn elfen allweddol o ran cynllunio’r cynllun newydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio y byddai hefyd angen i leoedd ysgol gael eu hadolygu fel rhan o’r broses.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Datblygu y byddai’n rhaid adolygu’r cyflenwad o leoedd ysgol yn ogystal â datblygiadau tai.  Tynnodd sylw at bwysigrwydd darparu’r seilwaith cywir er mwyn cefnogi datblygiadau tai newydd. 

 

Soniodd Aelod o’r Cyngor am bwysigrwydd cael canol trefi bywiog ac amrywiol ac ymddengys fod Pencoed wedi'i cholli o'r broses adolygu.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Datblygu wrth y Cyngor nad yw Pencoed wedi’i cholli o’r broses a’i bod wedi’i chynnwys yn y CDLl fel Canolfan Dosbarth ynghyd ag ardaloedd eraill gan gynnwys Mynyddcynffig, Abercynffig a’r Pîl.  Dywedodd wrth y Cyngor hefyd y bydd pob rhan o’r Cyngor yn rhan o'r broses adolygu CDLl.     

 

PENDERFYNWYD:                 Y byddai’r Cyngor yn:

 

(1)  Nodi cynnwys yr AMR;

 

  Cytuno y byddai'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cymryd rôl y Gr?p Llywio CDLl i helpu i gynhyrchu a disodli Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.   

Dogfennau ategol: