Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol i’r Cabinet

 

(a)          Question from Councillor A Hussain to the Cabinet Member Wellbeing and Future Generations

Data from the British Pest Control Association (BPCA), identified that in 2015-16 Bridgend County Borough Council dealt with more rat problems per head than any other authority in Britain.  Last year Bridgend had a 4% reduction in the pest call out levels compared to other Authorities across the UK, which appears to be a step in the right direction.  However in recent weeks the number of rats seen across the County Borough appears to be increasing including in my own ward of Pen-y-fai.  Although many of these rat sightings are of dead rats, can the Cabinet Member explain what is being done to minimise the rat population across the County Borough and what steps are being taken to ensure that the health and wellbeing of the residents is not adversely impacted by the rat population.

(b)          Question from Councillor J Radcliffe to the Cabinet Member Social Services and Early Help 

 

“What assessment has the authority – either alone or as part of regional collaboration – made  (or intends to make) of the implications of the recent British Medical Journal research (http://bmjopen.bmj.com/content/7/11/e017722  ) on the link between social care cuts and mortality rates in care homes in England, and how will the authority use this research to inform budget planning and service design?”

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

 “Nododd data Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain (BPCA), yn 2015-16, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi delio â mwy o broblemau llygod y pen nag unrhyw awdurdod arall ym Mhrydain.   Y llynedd bu gostyngiad o 4% ym Mhen-y-bont yn y galwadau plâu o gymharu ag Awdurdodau eraill ledled y DU, sy'n ymddangos fel cam yn y cyfeiriad cywir.  Fodd bynnag, dros yr wythnosau diwethaf mae nifer y llygod mawr ar draws y Fwrdeistref Sirol i'w weld yn cynyddu, gan gynnwys yn fy ward i, Pen-y-fai.  Er bod llawer o’r llygod mawr sy’n cael eu gweld yn rhai marw, a all yr Aelod Cabinet esbonio beth sy'n cael ei wneud i leihau’r boblogaeth llygod mawr ar draws y Fwrdeistref Sirol a pha gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod iechyd a lles y preswylwyr ddim yn cael ei effeithio gan y llygod mawr hyn?”

Ymateb gan yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

Mae’r cyfle i ddarparu rhagor o wybodaeth am safbwynt Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi delio â mwy o broblemau llygod mawr y pen nag unrhyw awdurdod arall ym Mhrydain yn 2015-2016 yn rhywbeth rwy’n si?r y bydd aelodau am ei weld. 

Dylid nodi fod arolwg BPCA yn cydnabod cyfyngiadau o ran cymharu gweithgarwch Rheoli Plâu awdurdodau lleol gwahanol. Yn wahanol i 92% o awdurdodau yn y DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth am ddim ar gyfer plâu o bwys iechyd y cyhoedd, gan gynnwys llygod mawr. Mae’n wybodaeth gyffredin fod taliadau rheoli plâu mewn awdurdod lleol yn lleihau nifer y triniaethau mae’r Cyngor yn eu cynnal.   Mae ffigurau BCPA felly yn debygol o fod yn adlewyrchiad o'r polisi prisio mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ei weithredu yn hytrach na chymhariaeth go iawn o faint y problemau llygod mawr yn Awdurdodau Lleol y DU.

Dylid nodi hefyd nad yw nifer fawr o Awdurdodau Lleol y DU yn darparu Gwasanaethau Rheoli Plâu mwyach ac felly nid yw arolwg BPCA yn cynnwys unrhyw wybodaeth o'r ardaloedd hynny na chan gwmnïau Rheoli Plâu preifat.

O ystyried hyn, a’r ffaith fod BPCA wedi nodi nad oedd eu ffigurau’n gyflawn, mae’n annheg dweud bod gan Ben-y-bont broblem benodol.  Mae barn Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain yn tynnu sylw at waith da Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn delio gyda phlâu yn ogystal â’r ffaith, yn wahanol i’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol eraill, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwasanaeth am ddim o hyd y mae preswylwyr yn ei ddefnyddio.  Mae cadw’r gwasanaeth am ddim hwn, yn wyneb cefndir o doriadau ariannol, yn gam cadarnhaol sy’n diogelu iechyd a lles preswylwyr yr effeithir arnynt yn negyddol gan y boblogaeth llygod mawr.

Cyfeirir yr holl alwadau sy’n ymwneud â phlâu mewn aneddiadau preswyl at Mitie Pest Control, sef darparwr gwasanaeth dan gontract y Cyngor.  Yn ystod cyfnodau cymharol dros y 4 blynedd ddiwethaf, mae nifer y galwadau sy’n ymwneud â phlâu wedi aros ar lefel gyson, felly ni allaf ddweud beth mae awdurdodau lleol eraill wedi’i wneud i gynyddu eu cyfraddau galw, ond mae ein ffigurau’n dangos bod preswylwyr yn ymgysylltu â’n gwasanaeth ar yr un gyfradd ag yn 2015-16.

Mewn perthynas â’r gwasanaeth Rheoli Plâu, mae’r contractwr yn cysylltu â swyddogion yn y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir i dynnu sylw at feysydd o bryder. Bydd swyddogion wedyn yn ymchwilio i broblemau gydag eiddo mewn cyflwr gwael, sy’n rhoi mynediad i lygod mawr, neu hefyd gasgliadau o sbwriel sy’n cynnig ffynhonnell fwyd. Mae gan swyddogion y pwerau i gyflwyno hysbysiadau ac erlyn am ddiffyg cydymffurfiaeth neu gyflawni gwaith lle bydd y gost yn cael ei godi ar y person a dderbyniodd yr hysbysiad; naill ai perchennog neu feddiannwr yr eiddo.

Mewn perthynas â galwadau, mae pob pryder a ch?yn yn cael eu logio'n uniongyrchol gan ein canolfan alwadau, sydd wedi arwain at swyddogion yn cymryd camau anffurfiol a ffurfiol yn gofyn i bobl drefnu i gael gwared ar sbwriel yn briodol sy'n dileu ffynonellau bwyd i lygod mawr gan helpu i reoli'r boblogaeth.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn rheoli’r Contract Abwyd Carthffosydd ar ran D?r Cymru, a gall swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ofyn i hyn gael ei gyflawni mewn ardaloedd penodol lle mae adroddiadau neu alwadau wedi’u derbyn mewn perthynas â gweithgarwch llygod mawr.  Mae hyn eto yn tynnu sylw at y camau cadarnhaol y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn eu cymryd a barn uchel sefydliadau eraill ar y Gwasanaeth Rheoli Plâu.

Rydym yn falch o fod yn un o'r cynghorau prin sydd o hyd yn darparu'r gwasanaeth hwn am ddim, a byddwn yn parhau i ymateb yn brydlon i bob galwad sy'n ymwneud â rheoli plâu.

Cwestiynodd y Cynghorydd Hussain, drwy gwestiwn ategol, a oes cynlluniau i wella ansawdd bagiau er mwyn atal plâu rhag torri i mewn iddynt a ph’un a fyddai'r gwasanaeth rheoli plâu yn parhau i gael ei ddarparu am ddim.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd cynlluniau i newid y bagiau ac na fyddai plâu yn cael eu denu at fagiau pe bai trigolion yn eu rhoi mewn bagiau bwyd yn y cadis bwyd.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y gwasanaeth rheoli plâu yn cael ei ddarparu am ddim ac nad oedd cynlluniau yn y broses gyllidebol i newid hynny.

Cwestiwn gan y Cynghorydd J Radcliffe i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 “Pa asesiad y mae’r awdurdod – naill ai’n annibynnol neu fel rhan o gydweithredu rhanbarthol – wedi’i gynnal (neu’n bwriadu ei gynnal) o oblygiadau ymchwil diweddar y British Medical Journal (http://bmjopen.bmj.com/content/7/11/e017722) ar y cysylltiad rhwng toriadau gofal cymdeithasol a chyfraddau marwolaeth mewn cartrefi gofal yn Lloegr, a sut bydd yr awdurdod yn defnyddio’r ymchwil hwn i gynllunio cyllideb a dylunio gwasanaeth?”

Ymateb gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, J Radcliffe

Dylid nodi bod yr ymchwil hwn yn ymwneud â chartrefi gofal yn Lloegr, yn hytrach na Chymru, a bod yr erthygl ei hun yn cyfeirio at gyfyngiadau a bod angen ymdrin â’r mater yn ofalus ar lefel boblogaeth is.  Felly:

  • Gallai fod amrywiadau ar lefel leol na nodwyd gan yr astudiaeth (h.y. nid yw’n anochel bod y patrwm hwn yn cael ei ailadrodd mewn unrhyw ALl neu yn wir yng Nghymru o gymharu â Lloegr)
  • Gallai fod ffactorau eraill y tu hwnt i’r rhai a ystyrir yn y dadansoddiad hwn (h.y. gallai llawer o ffactorau yn ogystal ag amodau macro-economaidd gael dylanwad, gan gynnwys, nodweddion go iawn y boblogaeth gan gynnwys yr oedran mae pobl yn dechrau defnyddio cartrefi gofal a chartrefi nyrsio, y gymysgedd gwryw/benyw, Anabledd Dysgu ac ati).

Mae yna esboniad symlach i’r canfyddiad a nodwyd gan y Cynghorydd Radcliffe: mae pobl h?n yn mynd i ofal preswyl yn hwyrach yn eu bywydau ac maent yn aros yna am gyfnod byrrach.

Mae pwysau o ganlyniad i ofal cymdeithasol yn parhau i fod yn risg i gynaliadwyedd ariannol y Cyngor yn y tymor canolig i’r hirdymor. Mae’r heriau ehangach sy’n wynebu’r maes gofal cymdeithasol yn hysbys; o ganlyniad i newidiadau demograffig mae gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn wynebu galwadau cynyddol a mwy cymhleth. Mae mwy o bobl yn cael eu diagnosio ag un neu fwy o gyflyrau iechyd y gellir eu hatal ac mae pobl h?n fregus yn dioddef o fwy o anghenion cymhleth.  Gellir dadlau bod yr heriau sylweddol hyn y mae gofal cymdeithasol yn eu hwynebu yn golygu bod angen meddwl o'r newydd am gyllid a modelau gwasanaeth newydd.

Mae Strategaeth Gomisiynu'r Bae Gorllewinol (a ddatblygwyd gyda’r Awdurdod Lleol rhanbarthol a phartneriaid iechyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriaeth iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol, y Sefydliad Gofal Cyhoeddus) yn canolbwyntio ar newid mewn gofal o wasanaethau preswyl i gynnydd mewn gwasanaethau yn y gymuned gyda chyflwyno Gofal Canolraddol ac ati.

Mae hyn yn unol â deddfwriaeth yng Nghymru, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym yn Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a thrawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru; mae Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn egwyddor allweddol o hyn – gan gynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i leihau anghenion critigol.

Felly, mae mwy o bobl yn mynd i ofal preswyl/gofal nyrsio yn hytrach am gyfnodau byrrach gydag anghenion mwy cymhleth. Ffocws y newid yw canlyniadau gwell i bobl h?n a'u galluogi i fod yn fwy annibynnol yn hirach, ond yn y mwyafrif helaeth o achosion mae gofal a chymorth gartref hefyd yn rhatach na gofal preswyl. Ni allwn barhau â’r ‘hen fodelau’ oherwydd nid ydynt yn gynaliadwy yn ariannol, felly erbyn hyn mae mwy o wasanaethau ar gael i’r gymuned.  Mae hyn yn well i unigolion hefyd yn gyffredinol.  Fodd bynnag, os asesir bod angen lleoliad cartref gofal ar unigolyn, bydd yr ALl neu’r BI yn trefnu’r lleoliad angenrheidiol ac yn talu amdano.

Gofynnodd y Cynghorydd Radcliffe, o ystyried yr ansicrwydd i’r Cyngor o ran cydweithredu â’r maes iechyd, a oedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gyllidebau wedi’u cronni ar gyfer nyrsys cymdeithasol cofrestredig.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y bydd y pwysau’n parhau i gael ei roi ar Lywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg yn uchel ar ei hagenda am fwy o gyllid.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wrth y Cyngor fod gan y Cyngor Reolwyr Integredig sy’n gweithio gyda nyrsys; fodd bynnag, mae diffyg nyrsys cofrestredig yn gweithio mewn cartrefi cofrestredig.  Cadarnhaodd fod gwaith yn mynd rhagddo i alinio cyllidebau y mae angen iddynt fod yn eu lle erbyn Ebrill 2018.      

Dogfennau ategol: