Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 hyd 2021-22

Invitees

 

Lindsay Harvey, Corporate Director - Education and Family Support

Cllr Charles Smith, Cabinet Member - Education and Generation

Nicola Echanis, Head of Education and Family Support

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 hyd 2021-22 i’w hystyried a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried y wybodaeth a phenderfynu a oedd am gyflwyno unrhyw sylwadau neu argymhellion i’w cynnwys yn yr adroddiad i’r Cabinet ynghylch y cynigion ar gyfer y gyllideb drafft.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyniad ynghylch prif benawdau’r gyllideb Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Roedd y Cyngor wedi cytuno ar arbediad effeithlonrwydd o 1% ar draws y Cyngor ar gyfer 2017/18. Nid oedd dim cyllid ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllidebau ysgolion ac roedd gan 13 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd ddiffyg yn eu cyllideb.  

Y gyllideb Addysg a Chymorth i Deuluoedd arfaethedig ar gyfer 2018/19 oedd oddeutu £108 miliwn ac roedd £88 miliwn wedi’u dirprwyo i ysgolion. Roedd hyn fymryn yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Cymru. O ran y gwasanaethau a ddarparwyd yn ganolog, roedd cyfartaledd Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru.

 

Esboniodd fod gofyn i bob ysgol gael cynllun busnes â diffyg o 5% neu £10,000 a rhaid oedd cyflwyno cynllun adfer diffyg ffurfiol a oedd yn cael ei fonitro’n fanwl bob mis.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd mewn rhagor o fanylder bob arbediad a nodwyd ar gyfer 2018/19. Cyfanswm yr arbediadau oedd £630,000. Esboniodd fod pwysau sylweddol ar y gwasanaeth cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, ar leoliadau y tu allan i’r sir, ar y ddarpariaeth ADY ac o ganlyniad i’r sefyllfa anwadal o ran grantiau. Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion ag awtistiaeth a chafwyd cynnydd yn nifer y rhai ag anawsterau ymddygiad, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.  

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofyn i bob ysgol gael polisi codi tâl er nad oedd ysgolion yn gallu codi tâl am weithgareddau a gynhelid yn ystod oriau ysgol. 

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi’n datblygu gwasanaeth cyfreithiol newydd ar gyfer cytundebau lefel gwasanaeth i ysgolion. Byddai’n rhaid i ysgolion ac Awdurdodau Lleol fodloni nifer o ofynion newydd o ganlyniad i weithredu’r Bil Diwygio ADY.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr Awdurdod yn cael ei herio’n aml oherwydd lefel y cyllid i ysgolion. Fodd bynnag, nid oedd modd cymharu’r ffigwr am nifer o resymau. Roedd cyflogau Penaethiaid wedi’u cynnwys yn ogystal â chyllid “prynu yn ôl i mewn”. Defnyddiwyd dulliau cyfrifo gwahanol hefyd. Pwysleisiodd bwysigrwydd rheoli lleoedd gwag. 

 

Diolchodd Aelod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd am y trosolwg defnyddiol ond mynegodd bryder ynghylch yr arbediad effeithlonrwydd o 1%. Yn draddodiadol, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi llai o gyllid i ysgolion ac o ran y cyllid i ysgolion cynradd, roedd yn yr 21ain safle o blith 22 o Awdurdodau. Roedd ysgolion uwchradd yn y pumed safle o’r gwaelod ac roedd y waelodlin i ysgolion eisoes yn isel iawn. Ei argraff ef oedd bod yr arbediad effeithlonrwydd o 1% wedi’i ddiddymu ac y gallai beri anawsterau ariannol dybryd i ysgolion.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod yr arbedion effeithlonrwydd o 1% wedi’u tynnu allan o’r gyllideb ddrafft ar gyfer eleni. Fodd bynnag, nid oedd modd addo dim ar ôl eleni am nad oeddent yn gwybod beth fyddai’r setliad. Cydnabuwyd y byddai’n arbennig o heriol i ysgolion cynradd. Ychwanegodd nad oedd yn gywir dweud bod diffyg yng nghyllidebau ysgolion Cymru o’u cymharu ag ysgolion Lloegr.

 

Cododd Aelod bryder ynghylch nifer yr athrawon y rhagwelwyd y byddent yn colli’u swyddi pe bwrid ymlaen â’r toriad o 1%. Roedd hefyd yn pryderu am y lleihad yn nifer y rhai a fyddai’n cael prydau bwyd petai’r pris yn codi. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am elw a cholled yng nghyd-destun prydau bwyd mewn ysgolion.

 

Holodd un Aelod am y berthynas rhwng Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Cynllun Datblygu Lleol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ei staff yn gweithio’n agos â datblygwyr a’r Adran Gynllunio er bod amseru’n broblem. Roedd rhaglen 5 i 7 mlynedd ar waith ar hyn o bryd a oedd yn nodi’r gwahanol wasgfeydd. Yn eu plith roedd materion traffig.

 

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth ynghylch y dyheadau o ran cyllid Band B y rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Cafodd wybod bod cronfa gydfuddiannol 25 mlynedd ar gael i weithio â datblygwyr. Roedd oddeutu  £70 miliwn ar gael i ysgolion Band B yng ngorllewin y Sir. Byddai’r gwaith yn cychwyn yn 2019 ac ni fyddai’r adeiladau’n cael eu llenwi tan o leiaf 2020.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod swyddogion medrus wedi ystyried cynlluniau i osgoi sefyllfa lle na fyddai teuluoedd yn gallu anfon eu plant i ysgolion lleol pan luniwyd y Cynllun Datblygu Lleol. Roedd hwn yn waith anodd am fod lleoedd ar gael mewn ysgolion ond nid o anghenraid yn y llefydd iawn bob tro. Roeddent ar drugaredd adeiladwyr tai a byddai Cynllun Datblygu Lleol cadarn yn ei gwneud yn haws i’r Awdurdod ddelio â hyn. 

 

Gofynnodd Aelod a oedd ffyrdd o arbed arian, e.e. paneli solar yn cael eu hystyried yn ogystal â ffyrdd o greu incwm. Esboniodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod newydd gomisiynu archwiliad ynni a oedd yn cynnwys trosolwg o’r ffyrdd y gellid lleihau defnydd ynni mewn adeiladau.

 

Cododd Aelod bryder na fyddai disgyblion yn cael eu haddysgu am fwyta’n iach. Esboniodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Gwasanaeth Arlwyo mewn Ysgolion wedi ennill gwobrau yn y maes hwn yn y gorffennol. Roedd y gwasanaeth yn gwneud elw ac ychwanegodd y cafwyd toriadau yn y gorffennol ond nad oeddent yn angenrheidiol ar hyn o bryd. Roedd hithau, fel Aelodau’r Pwyllgor, yn rhoi pwys mawr ar fodloni safonau uchel.

 

Gofynnodd Aelod pa ganran o’r bwyd a ddefnyddiwyd oedd yn dod o’r ardal leol. Cytunodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd i ddod o hyd i’r wybodaeth a’i rhannu â’r Aelodau. 

 

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth am y cynnydd yng nghostau Teithio i Ddysgwyr o ganlyniad i ymarfer ail-dendro. Esboniodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod un darparwr wedi colli’i drwydded felly rhaid oedd cynnal ail ymarfer tendro. Roedd hwn yn ddrutach na’r tendr gwreiddiol. Fodd bynnag, atgoffodd yr Aelodau fod £750,000 eisoes wedi’u harbed.

 

Holodd Aelod a gafwyd cytundeb ynghylch y toriadau i Gonsortiwm Addysg Canolbarth y De, gan gynnwys rhagor o doriadau mewn blynyddoedd i ddod. Gofynnodd a oedd hyn wedi peri anawsterau i Awdurdodau eraill. Holodd hefyd ynghylch y weledigaeth i’r dyfodol a rhannu arfer dda a’r modd y byddai toriadau yn y dyfodol yn effeithio ar hyn. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod ganddo gyfarfod drannoeth a dywedodd y byddai ganddo well syniad wedi hynny o’r sefyllfa mewn Awdurdodau eraill. Roedd yn pryderu am werth am arian ond gwelai werth mewn rhannu arfer orau a dywedodd mai hyn oedd y peth gorau i’w wneud er budd y proffesiwn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd dirprwyo trefniadau cludiant i ysgolion arbennig yn newid yn y ffordd o weithio. Dywedwyd wrth yr Aelod fod hyn yn wir yn newid a’u bod yn cydweithio â’r ysgolion i sicrhau bod y newidiadau’n cael eu gweithredu mewn modd diogel ac er budd y disgyblion.

 

Gofynnodd Aelod pa mor realistig oedd y targed o arbed £50,000 yn y gyllideb ADY o gofio’r gofynion a ddaw yn sgil y Bil ADY newydd. Esboniodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn a wnelo’n benodol ag un trefniant â’r gwasanaethau cymorth synhwyraidd ar draws y consortia. Byddai hyn yn arwain at well gwasanaeth a fyddai’n cael ei ariannu drwy’r arbedion a wneid drwy beidio â phenodi pobl i swyddi gwag.

 

Cyfeiriodd Aelod ar natur tymor byr y grantiau cymorth cynnar i blant a theuluoedd, ynghyd â’r problemau o ran denu a chadw staff. Gofynnodd a oedd modd codi’r mater hwn â Llywodraeth Cymru. Esboniodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod grantiau fel rheol ynghlwm wrth raglen bum mlynedd ond cafwyd problemau eleni am fod y pum mlynedd yn dod i ben. Roeddent wedi cael ffigwr dangosol ond ni allent gymeradwyo contractau hyd nes eu bod yn cael cadarnhad. Roedd trafodaethau ar droed ynghylch hyblygrwydd cyllid a’r angen i ystyried pobl yn hytrach na chodau post.   

 

Gofynnodd Aelod a oedd cynllun yn barod i’w roi ar waith ar ôl Brexit. Esboniodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y cyllid wedi’i sicrhau hyd at ddiwedd 2019 a bod cynllun yn cael ei ddatblygu i ystyried pa arian fyddai ar gael i’r gwasanaethau hyn ar ôl hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr “?yl Dysgu” a gofynnodd a ellid defnyddio £65,000 mewn gwell ffyrdd. Dywedodd y dylai ysgolion arloesi fod yn hyrwyddo arfer orau, felly holodd a oedd gwir angen am rywbeth fel hyn. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai’n ddiwrnod llawn gweithgareddau ac y gallai gyflawni rhagor na Chonsortiwm Canolbarth y De neu’r Ysgolion Arloesi. Byddai pob ysgol yn rhan o’r diwrnod, gan gynnwys yr holl staff a disgyblion. Ceid amrywiaeth o weithdai, gwybodaeth am gyfleoedd datblygu ôl-16 yn ogystal ag astudiaethau achos ar-lein i’w rhannu ag Awdurdodau eraill. Petai’r diwrnod yn llwyddiant, gallai osod seiliau ar gyfer creu incwm yn y dyfodol. O ran canlyniadau’r digwyddiad, byddai’n gyfle i hyd at 1,000 o athrawon ddysgu, cynhelid astudiaeth achos ar-lein, byddai modd ymgysylltu â rhagor o ddysgwyr a byddai lles yn cael sylw. 

 

Ategodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr hyn a fynegwyd a soniodd fod Arolygwyr Ei Mawrhydi wedi mynegi diddordeb yn y fenter. Dywedodd y byddai’n sicrhau gwerth am arian ac y byddai’n gyfle i athrawon uwchradd gwrdd a rhannu cyfrinachau.

 

Holodd Aelod a oedd y paratoadau wedi cychwyn a mynegodd bryder mai dim ond 0.6% o ddysgwyr fyddai’n rhan o’r digwyddiad a bod y cynlluniau ar droed er nad oedd y gyllideb i’r digwyddiad wedi’i chytuno eto. Dywedwyd wrthi mai’r dyddiad cau i bobl anfon eu cyfraniadau oedd y 29ain o Fawrth a bod sylwadau pobl hyd yma wedi bod yn gadarnhaol, a hynny am fod ysgolion yn gweld gwerth ynddo. Roeddent eisoes yn ymgysylltu â disgyblion ar bob lefel a rhaid oedd i’r gwaith cynllunio gychwyn yn fuan iawn. Os na fyddai cyllid ar gael, gellid cynnal digwyddiad llai. Gofynnodd yr Aelodau am sylwadau ar ôl y digwyddiad i weld beth fyddai’r canlyniadau ac awgrymwyd newid y teitl ar gyfer dogfennaeth gorfforaethol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y cynlluniau adfer a baratôdd ysgolion â diffyg yn eu cyllideb yn cynnwys torri nifer y staff fel un datrysiad posib. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid fod rhai ysgolion wedi cynnwys toriadau staff, ailstrwythuro, newid gweithgareddau a pheidio â phenodi i swyddi ar ôl i staff adael. Fodd bynnag, dywedodd nad oedd y rhain yn gynlluniau arwyddocaol ar hyn o bryd. 

 

ARGYMHELLION

1.         Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb ddrafft y Gyfarwyddiaeth Addysg, penderfynodd yr Aelodau gyflwyno’r argymhellion canlynol i’r Cabinet:

 

2.         Argymhellodd y Pwyllgor y dylid penderfynu ar amcanion a chanlyniadau clir er mwyn i’r Aelodau gefnogi’r bwriad i gynyddu cyllideb yr ?yl Dysgu, a hynny er mwyn gweld beth fydd y buddsoddiad unigol hwn yn gallu ei gyflawni.

 

3.         Argymhellodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn lobïo Llywodraeth Cymru i ystyried cynllunio cyllidebol tymor hirach, a hynny er mwyn i Awdurdodau Lleol allu cynllunio’n well i’r dyfodol a chael sicrwydd ariannol er mwyn cynnal prosiectau a phennu blaenoriaethau.

 

4.         Argymhellodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn creu cysylltiadau cryf rhwng buddsoddiad i ysgolion yn y dyfodol a’r Cynllun Datblygu Lleol, heddiw ac yn y dyfodol. Awgrymwyd meithrin perthynas waith agosach â phawb a oedd ynghlwm wrth hyn. Mae hyn yn cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) o ran y modd y dylid ystyried effaith y penderfyniadau a wneir heddiw ar genedlaethau’r dyfodol yn y tymor hirach.

 

5.         Awgrymodd y Pwyllgor y dylid ystyried o ddifri y cynigion a oedd yn ymwneud â’r arbediad effeithlonrwydd o 1% yn y gyllideb Addysg ar ôl 2019-20, a hynny ar fyrder. Yn rhan o hyn, dylid darparu tystiolaeth o effaith bosib yr arbediad hwn a dylid ystyried sut y gall ysgolion a’r Awdurdod Lleol gynllunio er mwyn lleihau’r effaith ar ysgolion, ar staff ac, yn bwysicach oll, ar berfformiad disgyblion.

 

Gwybodaeth ychwanegol

           Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am y wybodaeth ychwanegol hon:

 

           Y ffigyrau arlwyo alldro yn nodi elw a cholled dros y 3 blynedd ddiwethaf, gan gynnwys gwybodaeth a fyddai’n dweud a oedd y cynnydd bob blwyddyn mewn prisiau yn gorbwyso’r golled o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y rhai a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth.

 

           Manylion y cyllid wedi’i ddirprwyo a heb ei ddirprwyo i bob disgybl, er mwyn gweld cymariaethau ac i ddod o ddeall y ffaith mai safle’r Awdurdod hwn oedd 17 o blith 22 o Awdurdodau o ran y cyllid i ysgolion uwchradd a safle 21 o blith 22 o ran y cyllid i ysgolion cynradd.

 

           A oedd y gwasanaeth arlwyo mewn ysgolion yn defnyddio cynnyrch lleol.

 

           Eglurhad ynghylch nifer y disgyblion ag Angen Dysgu Ychwanegol ac sy’n cael cymorth drwy’r Grant Datblygu Disgyblion.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor i’r sylwadau a wneir yn y Fforwm Cyllidebau Ysgolion, yn dilyn ei gyfarfod yr wythnos nesaf, gael eu cyflwyno i’r Panel Gwerthuso ac Ymchwil Cyllidebau ac i’r Pwyllgor Craffu i’w hystyried wrth iddynt ddatblygu’u hargymhellion.

Dogfennau ategol: