Invitees:
Mark Shephard – Corporate Director Communities
Zak Shell – Head of Streetscene
Satwant Pryce – Head of Regeneration, Development and Property Services
Cllr Richard Young – Cabinet Members Communities
Cllr Charles Smith – Cabinet Member Education and Regeneration
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad, gyda’r nod o gyflwyno’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft ar gyfer 2018-19 i 2021-22, a oedd yn nodi blaenoriaethau gwariant y Cyngor, ei brif amcanion buddsoddi a meysydd y gyllideb sydd wedi’u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd hefyd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2018-19.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) y cyd-destun ar gyfer cynigion y gyllideb, a oedd wedi’i osod yn erbyn cefndir o saith mlynedd yn olynol o fesurau caledu a llai a llai o adnoddau. Dywedodd fod cyllidebau wedi cael eu torri 35% - 40% mewn rhai gwasanaethau.
Dywedodd y Pwyllgor nad oedd proses gyllidebu’r Cyngor yn gyson, yn ôl pob golwg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) fod y Cyngor yn gweithredu’n gyson ac mai uchelgais y Bwrdd Rheoli Corfforaethol yw dod o hyd i arbedion drwy’r awdurdod cyfan, nad ydynt yn effeithio’n uniongyrchol ar y cyhoedd. Cafwyd trafodaethau gyda’r Cabinet ynghylch torri’r gyllideb ar sail y blaenoriaethau corfforaethol y cytunwyd arnynt leiaf.
Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o ganran y toriadau yn y gyllideb yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau o gymharu â’r Cyfarwyddiaethau eraill. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet (Cymunedau) fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi gorfod torri ei chyllideb 6.4% o gymharu â’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd sydd wedi torri 1% yr un o’u cyllidebau. Dywedodd fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi gorfod torri ei chyllideb dros y saith mlynedd diwethaf a bod hyn yn anghymesur o gymharu â’r Cyfarwyddiaethau eraill. Dywedodd hefyd nad oedd torri’r gyllideb byth yn dderbyniol gan fod llawer o’r toriadau yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn amlwg. Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor fod meysydd penodol wedi cael eu clustnodi ar gyfer toriadau yn y gyllideb a bod gan y Gyfarwyddiaeth Cymunedau feysydd nad oeddent yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth, o safbwynt corfforaethol. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod cyfanswm o 37% o doriadau wedi’u gwneud i’r gyllideb Adfywio a Datblygu Economaidd.
Dywedodd y Pwyllgor fod y gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn amlwg i’r cyhoedd a bod angen i wasanaethau eraill yn yr awdurdod wneud eu cyfran nhw o doriadau yn eu cyllideb. Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn pryderu bod toriadau’n cael eu gwneud i ddatblygiad economaidd ar adeg pan ddylai mewnfuddsoddiad gael ei annog er mwyn cynhyrchu refeniw. Roedd y Pwyllgor hefyd yn credu y dylai’r Cyngor ystyried cynyddu taliadau er mwyn creu refeniw drwy fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu ac nid drwy werthu asedau. Dywedodd y Pwyllgor fod gan y Cyngor flaenoriaeth gorfforaethol i gefnogi’r economi leol ac y gallai torri cyllideb y Gyfarwyddiaeth Cymunedau annog pobl i beidio â buddsoddi yn yr ardal.
Aeth y Pwyllgor ati i longyfarch y Gyfarwyddiaeth am greu swydd newydd, sef Swyddog Eiddo Gwag, fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Cyfarwyddiaethau eraill yn gorfod mynd ati i dorri eu cyllidebau ar yr un raddfa â'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau a dywedodd mai Aelodau fydd yn gallu penderfynu ar y gyllideb, yn y pen draw. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet (Cymunedau) ei bod hi’n anodd iawn darparu gwasanaethau o ganlyniad i’r toriadau yn y gyllideb, ond roedd yn falch o nodi bod y Pwyllgor yn bryderus am hyn ac yn cefnogi’r Gyfarwyddiaeth o ganlyniad i'r gwasanaethau amlwg a ddarperir ganddi. Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor y byddai awdurdodau lleol gwahanol yn gwneud penderfyniadau gwahanol ynghylch pa wasanaethau i’w diogelu a pha rai i’w torri, ac felly, dros amser, byddai mwy o wahaniaethau rhwng ardaloedd awdurdodau lleol.
Credai’r Pwyllgor fod yn rhaid bod modd i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gyfarwyddiaeth Addysg wneud toriadau yn eu cyllideb / arbedion effeithlonrwydd gan mai nhw sydd â’r ddwy gyllideb fwyaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) pe na bai'r toriadau yn y gyllideb a glustnodwyd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn cael eu gwneud, y byddai’n rhaid iddynt gael eu torri o faes arall yn yr awdurdod. Cydnabu’r Pwyllgor y byddai toriadau yng nghyllideb yr awdurdod yn cael sgil-effaith ar Gynghorau Tref a Chymuned gan y byddai’n rhaid iddynt gynyddu eu harchebiant yn sgil eu cyfrifoldeb am wasanaethau blaenorol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y Pwyllgor yn poeni am y pwysau cyllidebol o £500k ar gyfer benthyca digymorth sy’n anfantais i’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau ac na ddylai’r awdurdod fenthyca er mwyn ariannu gwasanaethau. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet (Cymunedau) mai dim ond toriadau i wasanaethau amlwg y byddai’r cyhoedd yn eu gweld. Cytunodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo fod yr hyn y mae pobl yn ei weld o’u cwmpas yn dylanwadu’n anochel ar ffydd a hyder y cyhoedd yn y Cyngor cyfan.
Cyfeiriodd y Pwyllgor at y ffigur twf yn y contract gwastraff ar gyfer bagiau cynnyrch hylendid amsugnol (AHP) a bod nifer y bobl a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth hwn yn fwy na’r nifer a ragfynegwyd. Holodd pam nad oedd hyn wedi’i gynnwys yn y contract newydd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod Kier wedi cynnig pris yn seiliedig ar y nifer a oedd wedi tanysgrifio i gael casgliadau AHP. Roedd mwy o bobl wedi cofrestru i gael y gwasanaeth hwn ar unwaith na’r disgwyl ac felly roedd angen cynyddu’r gyllideb. Rhagwelwyd y byddai 4,000 o gwsmeriaid yn cofrestru i gael y gwasanaeth, ond cofrestrodd 8,000 o gwsmeriaid i gael y gwasanaeth AHP yn y 6 mis cyntaf. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y nifer a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth yn golygu nad oedd angen y gwasanaeth ar bobl mwyach. Dywedodd y Pwyllgor Gwasanaethau Cymdogaeth fod cwsmeriaid yn cofrestru’n flynyddol ac os nad oeddent yn cofrestru’n flynyddol, na fyddent yn cael y gwasanaeth mwyach. Gofynnodd y Pwyllgor beth fyddai’n digwydd pe bai’r gwasanaeth hwn yn dod i ben. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod gwasanaeth AHP yn un drud ac y gallai’r contract amrywio, ond y byddai hyn yn effeithio ar y targedau ailgylchu. Yn ei farn ef, byddai’n foesegol anghywir terfynu’r gwasanaeth hwn o gofio hefyd y rheol dau fag sydd wedi cael ei chyflwyno ar gyfer gwastraff gweddilliol.
Roedd y Pwyllgor o’r farn y gallai terfynu’r gwasanaeth AHP ryddhau arian i alluogi toiledau cyhoeddus i barhau ar agor. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet (Cymunedau) fod cyflwyno gwasanaeth casglu AHP wedi bod yn newid sylweddol yn sgil cyflwyno’r rheol dau fag. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor y byddai terfynu’r gwasanaeth AHP yn gam yn ôl.
Mynegodd y Pwyllgor bryder bod diddymu’r cymhorthdal a gaiff gwasanaethau bysiau yn effeithio ar ddatblygiad economaidd a’i fod yn bwysig er mwyn galluogi pobl i gyrraedd y gwaith. Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion y llwybrau bysiau fydd yn cael eu cwtogi ac a ymgynghorwyd ar y cynigion ai peidio. Dywedodd y Pwyllgor y gallai cwmnïau ddarparu trafnidiaeth gan weithio o amgylch amseroedd ysgol a gofynnodd a fyddai Arriva yn ystyried cynnig mwy o drenau ar adegau prysur. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod y Gyfarwyddiaeth yn cyflawni nifer o swyddogaethau statudol a bod yn rhaid i wasanaethau fel toiledau cyhoeddus a llwybrau bysiau â chymhorthdal gael eu hystyried fel mesurau arbed posibl gan eu bod yn ddarpariaeth anstatudol. Dywedodd fod ymgynghoriad ar y cynigion yn cael ei baratoi a bod y meini prawf ar gyfer dewis llwybrau lle gellir diddymu’r cymhorthdal yn seiliedig ar ddefnydd ac a oes darparwyr amgen ar gael. Dywedodd wrth y Pwyllgor, mewn achosion blaenorol lle cafodd y cymhorthdal ar lwybrau ei ddiddymu, fod cwmnïau, o bryd i’w gilydd, wedi parhau i weithio ar y llwybr.
Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor fod £200k o arbedion arfaethedig yn cael eu gwneud o strwythurau rheoli yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau. Nododd y Pwyllgor nad oedd hyn yn wir mewn Cyfarwyddiaethau eraill.
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet (Cymunedau) wrth y Pwyllgor y byddai angen rhoi cynlluniau seilwaith cadarn ar waith ar gyfer y prosiect metro sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r Fargen Ddinesig. Roedd angen adolygu hefyd a oedd trafnidiaeth yn cael ei darparu ar lwybrau er mwyn ateb y galw.
Roedd y Pwyllgor o’r farn bod angen i'r toriadau yn y gyllideb gael eu rhannu ar draws y Cyngor cyfan a bod angen i’r arbedion rheoli a gyflwynwyd o fewn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau gael eu hadlewyrchu mewn Cyfarwyddiaethau eraill. Nid oedd y Pwyllgor yn teimlo y dylid cwtogi’r llwybrau bysiau hyd nes bod dealltwriaeth well o’r llwybrau yr oedd y cwmnïau yn bwriadu eu cwtogi. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor y byddai defnydd pobl o’r llwybrau bysiau yn cael ei ystyried cyn diddymu’r cymhorthdal. Byddai’r ymgynghoriad cyhoeddus ar lwybrau bysiau yn dechrau yn dilyn ymgynghoriad ar y cynigion am doiledau cyhoeddus. Ymrwymodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth i roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y meini prawf sgorio ar gyfer cymorthdaliadau ar lwybrau bysiau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) wrth y Pwyllgor na fyddai’n gweithio, o reidrwydd, i gwmnïau gyflogi gyrwyr ar adegau prysur yn unig gan y byddai’n rhaid iddynt gyflogi gyrwyr am ddiwrnod cyfan. Gofynnodd y Pwyllgor a ellid rhoi’r llwybrau bysiau y bwriedid tynnu’r cymhorthdal oddi wrthynt allan ar dendr. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod y llwybrau wedi bod yn rhan o broses dendro gystadleuol a chadarnhaodd fod swyddogion yn adolygu’r llwybrau sy’n destun cymhorthdal. Gofynnodd y Pwyllgor am gyfle i graffu ar y cynigion ar gyfer diddymu’r cymhorthdal yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad a chyn i’r Cabinet benderfynu ar y mater.
Roedd y Pwyllgor o’r farn na allai gefnogi’r cynnig am dwf gwerth £65,000 ar gyfer yr ?yl Ddysgu ac y gellid defnyddio'r arian yn well i gefnogi swyddogaethau’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor, mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor, fod y gwariant ar yr ?yl Ddysgu yn gyfwerth â threfnu cerbyd grutio ychwanegol.
Cwestiynodd y Pwyllgor effaith y toriad o £40k ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol o ran hwyluso’r broses o drosglwyddo asedau. Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor fod y toriad o £40k yn gyfuniad o nifer o gyllidebau.
Gofynnodd y Pwyllgor sut y gellid trosglwyddo’r toiledau cyhoeddus ym Maesteg i’r Cyngor Tref pan fo Awen yn gyfrifol am reoli Neuadd y Dref. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn talu costau cynnal a chadw’r cyfleusterau ac nad Awen sy’n
gyfrifol am hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) wrth y Pwyllgor fod y cynigion ailddatblygu ar gyfer Neuadd y Dref Maesteg yn cynnwys darparu cyfleusterau newydd. Dywedodd y Pennaeth Adfywio. Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor na fyddai’r toiledau presennol ar gael tra bo’r gwaith ailddatblygu’n mynd rhagddo. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch y posibilrwydd o gau’r toiledau cyhoeddus. Nododd fod potensial i ddarpariaeth gael ei gwneud drwy’r cynllun cyfforddusrwydd (comfort scheme) fel dewis amgen i drosglwyddo cyfleusterau i Gynghorau Tref a Chymuned. Mynegodd y Pwyllgor bryder fod diddymu £40k yn groes i’r syniad bod y Gyfarwyddiaeth yn annog trosglwyddo asedau. Roedd yn bryderus hefyd y byddai’n rhaid i Gynghorau Tref a Chymuned gynyddu eu harchebiant er mwyn hwyluso’r gwaith o drosglwyddo cyfleusterau. At hyn, ni fyddai gan Gynghorau Tref a Chymuned y staff na’r arbenigedd i ddelio â gwasanaethau gan y Cyngor a byddai hyn felly yn niweidiol i hynt achosion o Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) y gallai roi baich posibl ar Gynghorau Tref a Chymuned, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweld bod gan Gynghorau Cymuned rôl ehangach i’w chwarae, yn sgil rhanbartholi gwasanaethau. Mynegwyd pryder y byddai trosglwyddo cyfleusterau i Gynghorau Tref a Chymuned yn arwain at nifer lai o bobl yn talu am gynnal a chadw cyfleusterau.
Roedd y Pwyllgor yn poeni bod Cyfarwyddiaethau eraill yn cael arian cyfalaf y mae’r swm yn anghymesur fwy na’r hyn a gaiff y Gyfarwyddiaeth Cymunedau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) wrth y Pwyllgor ei bod hi’n costio £168k y flwyddyn i gynnal a chadw toiledau cyhoeddus allan o gyfanswm o £250m o gyllideb y Cyngor. Dywedodd fod gofyniad yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i arbed £100k ar doiledau cyhoeddus sef y rheswm am yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Cwestiynodd y Pwyllgor y swm o £2m a drosglwyddwyd i’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau ar gyfer y swyddogaeth Landlordiaid Corfforaethol, pan ddangoswyd ef fel toriad o £0.5m yn y gyllideb refeniw. Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor fod y swyddogaeth Landlordiaid Corfforaethol wedi’i throsglwyddo i’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau a bod y gyllideb yn adlewyrchu’r newid hwnnw ac nad yw’n faes twf. Dywedodd fod y £0.5m yn cynrychioli’r swm y mae’n rhaid i’r swyddogaeth Landlordiaid Corfforaethol ei arbed a bod ei statws yn ambr ar hyn o bryd. Dywedodd wrth y Pwyllgor am y symud tuag at gynnal a chadw mwy cylchol yn hytrach na chynnal a chadw adweithiol. Soniodd hefyd fod cryn amser wedi bod ers i’r gwasanaeth gael ei adolygu ddiwethaf.
Cyfeiriodd y Pwyllgor at y buddsoddiad mawr o £20m sydd ei angen yn y rhwydwaith priffyrdd dros y 10 mlynedd nesaf i gynnal y safonau presennol pan oedd y Cyngor yn cynnig hefyd y dylid buddsoddi swm tebyg o’r gyllideb mewn gwasanaethau TGCh. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymunedau) fod £2m o arian y flwyddyn ar gyfer cynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd wedi cael ei gynnwys dros dro yn y rhaglen gyfalaf. Cwestiynodd y Pwyllgor hefyd y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig o £10m ar gyfer cyflwyno rhagor o oleuadau stryd LED. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth wrth y Pwyllgor mai’r bwriad oedd defnyddio goleuadau LED drwy’r Fwrdeistref Sirol gyfan. Byddai’n costio £55k i sicrhau bod y cyflenwad trydan yn cydymffurfio ac yn ddiogel o ganlyniad i’r drefn arolygu a phrofi sydd ar waith. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod gan 20,000 o golofnau goleuadau oleuadau LED yn barod, a bod 8,000 o golofnau goleuadau i’w gwneud o hyd. Ni fyddai LEDs newydd yn cael eu cyflwyno hyd nes byddai arian allanol wedi cael ei sicrhau, pan fyddai rhaglen adnewyddu colofnau goleuadau yn cael ei hystyried.
Gofynnodd y Pwyllgor am y diweddaraf ar ad-drefnu Raven’s Court. Dywedodd y Pennaeth Adfywio, Datblygu a Gwasanaethau Eiddo wrth y Pwyllgor mai’r bwriad oedd ildio cymaint o’r adeilad â phosibl. Serch hyn, gellid dod â gwasanaethau eraill i mewn i’r adeilad o fannau eraill yn y Cyngor, sy’n golygu na fyddai angen gwagio’r adeilad gan arbed costau prydlesu/rhentu mewn man arall. Byddai’n bosibl prydlesu un adain o’r adeilad o hyd neu ei defnyddio fel lleoliad posibl y Ganolfan Diogelu Amlasiantaeth (MASH) arfaethedig.
Diolchodd y Pwyllgor i’r gwahoddedigion am eu cyfraniadau.
Casgliadau
a) Cyn unrhyw benderfyniad ar y llwybrau sy’n cael eu cwtogi, dylai’r Cabinet hefyd gael gwybodaeth am ba lwybrau y mae cwmnïau bysiau eu hunain yn eu cwtogi er mwyn deall effaith gyfan yr holl lwybrau fydd yn cael eu colli;
b) Na fydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y toriadau arfaethedig yng nghyllideb y gwasanaeth hyd nes bydd ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gwblhau;
c) Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am i’r swyddogaeth Graffu gael cyfle i dderbyn eitem sy’n gysylltiedig â’r cynigion a chanlyniad yr Ymgynghoriad ar gyfer terfynu gwasanaethau bysiau â chymhorthdal fel eitem cyn penderfyniad, cyn mynd i’r Cabinet.
Sylwadau eraill
Roedd y Pwyllgor yn poeni am gost ragweledig cynnal a chadw’r Priffyrdd dros y degawd nesaf i’w safonau presennol, sef £20m, ac o ble fyddai’r arian hwn yn dod. Yn ogystal â hyn, cwestiynodd y Pwyllgor y swm tebyg o £10-£20m ar gyfer TGCh yn y degawd nesaf. Gofynnodd aelodau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol holi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth ynghylch cost ragweledig TGCh o gymharu â chyd-destun pwysau cyllidebol arall yn y dyfodol fel y pwysau a wynebir gan yr adran Priffyrdd.
Craffu yn y Dyfodol
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r swyddogaeth Graffu ystyried eitem yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â’r hyn y mae Awdurdodau Lleol eraill yn ei wneud i ymateb i’r bwlch mewn darpariaeth ym maes Gwasanaethau Cymunedol.
Gofynnodd y Pwyllgor am i adolygiad o’r bagiau AHP gael ei ystyried pan fydd y swyddogaeth Graffu yn ailystyried ‘Gwastraff’ ymhen rhyw 12 mis i gynnwys yr effaith ariannol o gymharu â’r effaith amgylcheddol. gainst environmental impact.
Dogfennau ategol: