Agenda item

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

 

Invitees:

 

Cllr Phil White, Cabinet Member – Social Services and Early Help;

Susan Cooper, Corporate Director – Social Services and Wellbeing;
Lindsay Harvey, Corporate Director -  Education and Family Support (Interim);
Laura Kinsey, Head of Children’s Social Care;
Nicola Echanis,  Head of Education and Family Support;
Jo Abbott-Davies,
Assistant Director of Strategy & Partnerships – ABMU Health Board;

Andrew Davies, Chair of AMBU Health Board;
Mark Wilkinson, Group Manager - Social Services & Wellbeing;
Suzanne Sarjeant, Head of Pencoed Primary;
Kaye King, Wellbeing Officer, Pencoed Primary;
Jeremy Evans, Head of Heronsbridge;
Dr Sylvia Fowler, Heronsbridge;
Lorraine Silver, ALN Casework Manager.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor ynghylch:

 

·         hyfforddiant a wneir gan weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr i adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl;

·         y cymorth gan CAMHS sydd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc (GTI);

·         cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl trosiannol i oedolion; a

·         gwybodaeth a data ar wasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol a ddarperir mewn ysgolion.

 

Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor am y ddarpariaeth i CAMHS gan y Gwasanaeth Cynhwysiant.  Dywedodd fod y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc (YOS)  ar hyn o bryd heb aelod staff (sydd ei angen yn statudol) sy'n cael ei enwebu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.  Dywedodd hefyd fod y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc ar hyn o bryd yn rheoli 108 o bobl ifanc, ac mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd meddwl.  Mae Dull Gwell o Reoli Achosion (gydag Iechyd fel partner allweddol) yn cael ei dreialu.  Roedd y Gwasanaeth Cynhwysiant yn sicrhau bod ‘y bobl iawn yn darparu’r gefnogaeth iawn i’r bobl iawn ar yr adeg iawn’.  Nododd fod ymgynghoriadau misol yn cael eu cynnal gyda seiciatrydd plant ymgynghorol.  Roedd llwybrau cyfeirio hefyd at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol. 

 

Tynnodd sylw at gysylltiadau â chymorth iechyd meddwl i oedolion, lle mae cynllunio pontio ar gyfer pob person ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl wedi’u nodi.  Amlygodd hefyd y gefnogaeth a ddarperir i CAMHS gan y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd.  Hysbysodd y Pwyllgor am y gefnogaeth iechyd meddwl a lles emosiynol a ddarperir i ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd fod iechyd yn gyfrifol am ddarpariaeth CAMHS ac mae cyllid yn cael ei ddatganoli'n uniongyrchol i ABMU a Chwm Taf.  Mae pob ysgol yn cyflawni llawer iawn o waith yn cefnogi lles ac iechyd
 meddwl disgyblion, gyda'r ddarpariaeth yn dod o gyllidebau craidd. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc a holodd a yw'r ddarpariaeth yn y Fwrdeistref yn well neu'n waeth o'i gymharu â'r darlun cenedlaethol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau fod yna broblem sylweddol o ran recriwtio i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ledled y DU.  Mae cyllid mewn gwahanol rannau o Gymru wedi arwain at staff yn symud o gwmpas, gan greu prinder mewn rhannau eraill o Gymru.  Dywedodd fod gan bob darparwr CAMHS broblemau o ran cadw at dargedau Llywodraeth Cymru, gyda'r ddarpariaeth i bobl ifanc ar benwythnosau yn achosi problemau.  Ar hyn o bryd, roedd yna gyflenwad llawn o staff yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ond nid oedd digon o le i gynnig yr holl wasanaethau.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor fod y targed o 26 wythnos ar gyfer asesu yn cael ei gyflawni ac nad oedd darparu gwasanaethau yn lleol yn sylweddol waeth, ond roedd angen i wasanaethau wella.  Cyfeiriodd y Pwyllgor at y prinder lle a holwyd a ellid darparu gwasanaethau mewn ysgolion.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yna le dros ben o fewn ysgolion, ond roedd angen i'r lleoliadau fod yn ddetholus a bodloni anghenion pobl ifanc.  Hysbysodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Teuluol y Pwyllgor fod y defnydd o ganolfannau diogelu yn cael ei ystyried ar gyfer darparu gwasanaethau.

 

Holodd y Pwyllgor sut y dyrannwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi CAMHS.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor fod cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer CAMHS yn cael ei ddyrannu i wasanaeth penodol.  Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn hysbysu ABMU bod cyllid pellach ar gael i gefnogi CAMHS yn ystod y flwyddyn; roedd y dull hwn yn creu problemau gan ei fod yn effeithio ar recriwtio. 

 

Holodd y Pwyllgor am yr amseroedd aros i bobl ifanc allu cael gafael ar wasanaethau a'r gefnogaeth a gynigir i bobl ifanc yn ystod y cyfnod interim.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor fod amseroedd aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig yn hirach ac nad yw 50% o atgyfeiriadau yn bodloni'r meini prawf ar gyfer CAMHS.  Yr amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i gael y gefnogaeth yw 12.5 wythnos.  Erbyn hyn, roedd cyllid yn bodoli ar gyfer swyddog cyswllt.  Hwn fyddai'r pwynt cyswllt cyntaf a byddai'n penderfynu ynghylch y lle gorau i gyfeirio plant a phobl ifanc am gymorth.  Mae gwasanaeth hefyd yn bodoli lle mae mesurau ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc mewn ysgolion fel pont i CAMHS. 

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y gwaith a wneir gan ysgolion wrth sefydlu mesurau i bontio'r bwlch rhwng plant a phobl ifanc sy'n aros am asesiad gan CAMHS neu nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cyfeirio.  Mynegodd y Pwyllgor bryder bod darparu'r gwasanaeth yn dibynnu ar gyllid grant.  Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar yr angen i ddisgyblion allu gwybod ble i fynd i gael mynediad at wasanaethau.  Dywedodd y Pwyllgor hefyd fod ysgolion yn darparu sefydlogrwydd a holwyd am y mecanweithiau sydd ar waith pan fydd pobl ifanc yn cael eu cyfeirio at CAMHS.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor mai'r her yw sicrhau parhad.  Mae yna system rheoli achosion sydd ar waith am 7 wythnos ac mae'r gwasanaeth eisoes yn gweld y manteision lle mae gan unigolion bellach ystod ehangach o opsiynau ar gael iddynt.  Fe'i gwnaed yn glir i Gwm Taf nad yw Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i staffio'n llawn, ac roedden nhw bellach yn ceisio sefydlogi'r sefyllfa trwy recriwtio staff iau.  Holodd y Pwyllgor beth sy'n digwydd ar ôl i'r cyfnod 7 wythnos fynd heibio.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau fod y model 7 wythnos yn un cenedlaethol, yn seiliedig ar ganlyniadau ac yn seiliedig ar yr hyn y mae'r person ifanc yn dymuno ei gael allan o'r gwasanaeth, yn hytrach na'r nifer o weithiau y maent yn cael eu gweld. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a yw CAMHS yn atal pobl ifanc rhag cael cefnogaeth trwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau ei fod yn ymwneud ag ymyrraeth gynnar.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod yna ddarlun cymhleth, lle mae gan rai plant anghenion cymhleth iawn.  Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gysylltiadau ag iechyd i sicrhau bod bylchau yn y ddarpariaeth yn cael eu lleihau. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at drosiant uchel y staff a holwyd a oes unrhyw fonitro yn digwydd pan na fydd pobl ifanc sydd wedi ennill ymddiriedaeth y staff wedyn yn peidio â dychwelyd ar ôl i'r ymgynghorydd a ddyrannwyd iddynt adael ei swydd.  Nododd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau fod monitro'n digwydd, er nad o reidrwydd pan fydd staff yn gadael.  Rhoddodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Teulu wybod i'r Pwyllgor am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y gr?p cynllunio lle roedd yn ystyried pam fod plant yn cael eu cyfeirio a lle maen nhw'n mynd pan nad ydyn nhw’n bodloni meini prawf CAMHS.  Hysbysodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y Pwyllgor yr edrychir ar daith y plentyn a lle maen nhw'n derbyn cefnogaeth.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod trosiant mawr ymhlith gweithwyr cymdeithasol plant, ond gwnaed ymdrech galed i recriwtio staff ac mae nifer o fentrau yn cael eu datblygu gyda'r nod o gadw staff.  Holodd y Pwyllgor a yw staff gwaith cymdeithasol yn cael cyfweliadau wrth ymadael.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod cyfweliadau ymadael yn cael eu cynnal gyda'r staff, a oedd wedi dangos amrywiaeth o resymau dros y ffaith eu bod yn gadael.  Dywedodd fod gwasanaethau cymdeithasol plant wedi cael eu harolygu ac mae cynllun gweithredu ar waith.  Soniodd am bwysigrwydd sicrhau bod uwch reolwyr yn weladwy a bod gan y Gyfarwyddiaeth 21 o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yr oedd hi wedi’u cyfarfod ac yr oedd yn eu cymeradwyo am eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad.  Dywedodd fod gan staff sydd newydd gymhwyso fentor, baich achosion llai, cynllun hyfforddi a phortffolio ymarfer proffesiynol.  Dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai'n cyfarfod â'r recriwtiaid newydd ymhen 6 mis a chadarnhaodd nad oedd swyddi gwag ar hyn o bryd.              

 

Gofynnodd y Pwyllgor a ellid cysylltu ysgolion a'r heddlu â system gyfrifiadurol WCCIS.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor am y cynnydd a wneir gyda WCCIS, a fyddai'n gweld systemau'n cael eu hintegreiddio.  Hyd yn hyn, roedd 11 awdurdod lleol ac 1 bwrdd iechyd wedi ymuno â WCCIS.  Hefyd, dywedodd wrth y Pwyllgor fod timau ar y cyd yn cael eu cydleoli a bod y Ganolfan Diogelu Amlasiantaeth wedi'i sefydlu ar ffurf rithwir ar hyn o bryd.  Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod cydraddoldeb ar draws ysgolion, gyda chefnogaeth gref i ysgolion gan y Gwasanaeth Cynhwysiant a'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg.  Mae yna hefyd ethos 'Tîm Pen-y-bont ar Ogwr' a chysylltiadau cryf â Chonsortiwm Canolbarth y De, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer G?yl Ddysgu.  Canmolodd Cadeirydd ABMU waith BCBC am fraenaru’r tir wrth gyflwyno WCCIS ar draws rhanbarth Bae’r Gorllewin a dywedodd y dylai cyflymder y broses gael ei chyflymu.  Roedd hefyd yn croesawu'r ymagwedd a gymerwyd gan y Pwyllgor hwn o ran dymuno craffu ar CAMHS.  Roedd yn falch god ymagwedd system gyfan ac arloesol yn cael ei chymryd gan  yr holl asiantaethau.  Diolchodd hefyd i'r swyddogion am drefnu ystod eang o wahoddedigion a oedd wedi cymryd rhan yn y cyfarfod.    

 

Holodd y Pwyllgor pa fath o gymorth cynghori sydd ar gael i bobl ifanc.  Hysbysodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Teulu y Pwyllgor fod llawer iawn o waith cynghori yn cael ei ddarparu gan y trydydd sector hefyd.  Dywedodd hefyd fod gr?p cynllunio CAMHS yn llunio cyfeiriadur o wasanaethau.  Yn absenoldeb swyddog lles penodedig yn y swydd, cafwyd cefnogaeth gan ardal Bae’r Gorllewin ac roedd rhywfaint o gefnogaeth gyfyngedig ar gael gan y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc (GTI).  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y byddai cefnogaeth bellach gan y GTI yn wrthgynhyrchiol gan y byddai'r staff yn colli sgiliau.  Roedd yn bwysig fod y gefnogaeth gywir yn cael ei haddo gan nad oedd unrhyw gapasiti sbâr yn y GTI pan fydd staff yn sâl. 

 

Holodd y Pwyllgor a yw athrawon wedi'u hyfforddi mewn cynghori ac a yw pob ysgol gynradd yn y Fwrdeistref yn cael cymorth.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chymorth Teuluol y Pwyllgor fod nifer o athrawon wedi'u hyfforddi fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus.  Hysbysodd y Rheolwr Gwaith Achos ADY y Pwyllgor bod llawer iawn o hyfforddiant emosiynol a lles yn cael ei ddarparu i staff, ac roedd ysgolion yn y Fwrdeistref wedi bod ymhlith y rhai cyntaf yng Nghymru i gael hyfforddiant ELSA, sydd wedi'i gynllunio i feithrin gallu mewn ysgolion i gefnogi anghenion emosiynol disgyblion.  Mae gan holl ysgolion y Fwrdeistref o leiaf un aelod staff sydd wedi'i hyfforddi yn nulliau ELSA.  Nid yw ELSA yn ddibynnol ar arian grant ac mae'n gynaliadwy, ac mae cadernid yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â modelau ataliol eraill i gefnogi anghenion iechyd meddwl.  Cyflwynwyd hyfforddiant mewn Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod ac fe'i treialir mewn 3 ysgol yn y Fwrdeistref, lle bydd holl staff yr ysgolion yn cael hyfforddiant mewn anghenion emosiynol. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y cynnig i drosglwyddo gwasanaethau o Gwm Taf i ABMU a holodd am effaith hyn ar amseroedd aros CAMHS.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor na fyddai ABMU yn cymryd holl wasanaethau CAMHS, ond byddai'n cymryd gwasanaethau CAMHS gofal sylfaenol yn ôl.  Dywedodd fod y staff yn trosglwyddo o dan drefniadau TUPE.  Nid oedd ABMU yn dymuno chwalu trefniadau oherwydd y cynigion i newid ffiniau byrddau iechyd sy'n effeithio ar Ben-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd fod cynnydd mawr wedi bod mewn atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau rhan 1 a byddai swydd gyswllt yn cael ei chreu er mwyn cynorthwyo i ddod â nifer yr atgyfeiriadau i lawr. 

 

Holodd y Pwyllgor am yr hyfforddiant a'r cwnsela a roddir i ‘Worry Warriors’.  Dywedodd Swyddog Lles Ysgol Gynradd Pencoed fod nifer o blant yn pryderu wrth fynd at athrawon yn uniongyrchol a bod camau wedi'u rhoi ar waith fel y gallant gysylltu â'u cyfoedion gyda'u pryderon a fydd wedyn yn mynd at y Swyddog Lles ac yn trosglwyddo'r pryderon hynny. Cyflwynwyd blwch pryderon hefyd lle bydd disgyblion yn nodi eu pryderon ar ddarn o bapur a fyddai wedyn yn cael sylw gan y Swyddog Lles.  Roedd camau ar waith i fynd i'r afael â phroblemau yn gyflym gydag athrawon a disgyblion.  Hysbysodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge y Pwyllgor am yr anhawster a gafwyd mewn ysgolion arbennig wrth wahaniaethu rhwng bwlio a dehongli a rhyngweithio negyddol. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y pwysau ar ysgolion yn gorfod prynu gwasanaethau i mewn, a gofynnodd a ellid rhoi cefnogaeth i bobl ifanc gan seicolegwyr addysg yn gynharach er mwyn osgoi atgyfeiriad i CAMHS.  Hysbysodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Teuluol y Pwyllgor am y gefnogaeth ragorol a roddir i bobl ifanc gan seicolegwyr addysg a bod yna gyfres o ymyrraeth ddatblygedig ar gael.  Dywedodd Rheolwr Gwaith Achos ADY bod angen mwy o seicolegwyr addysg bob amser a phwysleisiodd pa mor bwysig yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi gan y rhai sy'n eu hadnabod orau.  Cefnogir ysgolion trwy ELSA a gwasanaethau galw heibio ac mae yna ymateb graddedig i alluogi ysgolion i brynu gwasanaethau lle bo angen.  Holodd y Pwyllgor a oedd cydweithio â seicolegwyr addysg Cyngor Bro Morgannwg wedi ei ystyried.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd y cynnig hwn yn cael ei ddatblygu gan na fyddai unrhyw fudd i'r naill ochr na’r ochr gyda'r trefniant hwn. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y ffaith fod cyllidebau ysgolion yn dynn a holwyd sut y caiff yr adnoddau ychwanegol eu hariannu.  Dywedodd Rheolwr Gwaith Achos ADY, pe bai ysgolion angen adnodd ychwanegol, y byddent yn cael y cyfle i’w cael. 

 

Holodd y Pwyllgor a oedd dadansoddiad o batrwm galw wedi'i wneud er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r problemau a'r angen am gymorth i bobl ifanc ac i gynorthwyo gyda gwaith cynnar ac ataliol parhaus yn y maes hwn.  Ystyriodd y Pwyllgor fod angen gwneud cysylltiadau â strategaethau fel y Cynllun Corfforaethol a'r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn cynllunio a dylunio gwasanaethau.  Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim dros Addysg a Chymorth Teuluol sylw ar bwysigrwydd dadansoddi a byddai hyn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y gr?p cynllunio.  Dywedodd Aelod y Cabinet ar faterion Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fod trafodaethau hefyd yn digwydd gyda'r heddlu ar y mater hwn.       

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael data meincnodi o Fyrddau Iechyd AMBU, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf mewn perthynas â'u perfformiad ar gyfer eu trigolion mewn perthynas â CAMHS. 

 

Holodd y Pwyllgor pam fod rhai ysgolion yn derbyn gwasanaethau cefnogi a bod eraill ddim.  Nododd y Pennaeth Addysg a Chymorth Teuluol fod ymagwedd benodol yn Ysgol Heronsbridge, ond mae'r Gyfadran yn darparu cefnogaeth i bob ysgol trwy'r gwasanaethau a ddarperir gan y tîm dan arweiniad y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod gan 400 o bobl ifanc wasanaeth cwnsela mewn ysgolion.  Mae dwy ysgol yn derbyn cyllid ar gyfer cwnsela trwy grant a rheolir 7 o gwnselwyr yn yr ysgol gan y ganolfan.  Hysbysodd Swyddog Lles Ysgol Gynradd Pencoed y Pwyllgor fod y Pennaeth yn frwd o blaid rhoi cefnogaeth i'r disgyblion ac mae'n rhaid i anghenion y plentyn ddod yn gyntaf.  Dywedodd Pennaeth Heronsbridge mai rôl y Pennaeth oedd adnabod eu disgyblion a'u teuluoedd.  Roedd angen sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnal a bod arian yn cael ei ddargyfeirio i ddiwallu'r angen. 

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau y Pwyllgor y byddai model newydd  CAMHS yn wahanol gan y byddai Cwm Taf yn ddarparwr ac yn gomisiynydd. 

        

Casgliadau   

 

Nododd y Pwyllgor y problemau yn ABMU ynghylch diffyg lle a chyfleusterau i ymgymryd ag ymgynghori â phlant a phobl ifanc ac felly mae'r Aelodau'n argymell bod AMBU yn chwilio am le addas yn ysgolion y Fwrdeistref neu o fewn y canolfannau diogelu, y mae dwy ohonynt wedi'u lleoli yn y cymunedau sy'n eu gwneud yn hygyrch iawn i'r cyhoedd.      

 

Canmolodd yr aelodau yr ysgolion am y gwaith y maent yn ei wneud i bontio'r bwlch rhwng y plant a'r bobl ifanc sydd naill ai'n aros am asesiad gan CAMHS neu nad ydynt yn bodloni meini prawf atgyfeirio CAMHS, er bod y Pwyllgor yn argymell y dylid darparu gwasanaethau cyson ar draws pob ysgol.            

 

Gan gyfeirio at yr ymchwil barhaus i ble mae plant a phobl ifanc yn mynd pan na fyddant yn bodloni’r meini prawf ar gyfer CAMHS a’r cyfeiriadur cynhwysfawr o wasanaethau sydd ar gael i'r plant hynny sydd ar fin cael ei gyhoeddi, mae'r Aelodau yn gofyn am gael gwybod pryd y bydd y wybodaeth ar gael.  Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod y cyfeiriadur yn cael ei ddosbarthu i ysgolion, yr heddlu a'r rhieni.

 

Mae'r Pwyllgor yn deall bod y Cyngor ar hyn o bryd yn derbyn Datrysiadau Gwybodaeth Gofal Cymunedol (CCIS) - datrysiad meddalwedd sy'n galluogi gwaith iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n well gyda'i gilydd - a fydd hefyd yn cael ei dderbyn gan AMBU yn 2018.  Mae'r Aelodau'n argymell y dylai'r gronfa ddata hefyd gynnwys mynediad a mewnbwn gan Ysgolion a'r Heddlu.

 

Argymhellodd yr aelodau fod y gr?p cynllunio yn ystyried cyflawni dadansoddiad o batrwm galw - yn rhoi manylion am grwpiau oedran, demograffeg ac ati - i geisio penderfynu pam fod plant a phobl ifanc yn y fwrdeistref yn cael eu hatgyfeirio at CAMHS ac i gynorthwyo gyda gwaith cynnar ac ataliol parhaus yn y maes hwn.  Mae'r Pwyllgor yn argymell ymhellach, pan gynhelir y cyfarfod hwn i drafod y cynnig hwn ymhellach, bod yr Heddlu hefyd yn cael gwahoddiad i gymryd rhan.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ychwanegol ganlynol:

 

O ran trosiant uchel staff o fewn AMBU, mae’r Aelodau wedi gofyn am dderbyn nifer y plant a oedd yn cael triniaeth nad oeddent wedi dychwelyd ar ôl i'r ymgynghorydd a ddyrannwyd iddyn nhw adael y swydd.

 

Mae’r aelodau wedi gofyn am dderbyn data meincnodi a gasglwyd yn ddiweddar o Fyrddau Iechyd AMBU, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf ynghylch eu perfformiad ar gyfer eu trigolion mewn perthynas â CAMHS.

Dogfennau ategol: