Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2012-22

 

Invitees:

 

Cllr Phil White, Cabinet Member – Social Services and Early Help;

Susan Cooper, Corporate Director – Social Services and Wellbeing;
Jackie Davies, Head of Adult Social Care;
Laura Kinsey, Head of Children's Social Care

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad at ddibenion cyflwyno'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) 2018-19 i 2021-22, sy'n nodi blaenoriaethau gwariant y Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol.  Roedd hefyd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2018-22 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2018-2019. Gofynnodd y Pwyllgor pam na nodwyd unrhyw arbedion effeithlonrwydd yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Pwyllgor fod £330k o arbedion effeithlonrwydd wedi'u nodi mewn 2 faes yn y Gyfarwyddiaeth ond roedd gan y Gyfarwyddiaeth bwysau cyllideb ychwanegol o £2.2m a ddygwyd ymlaen o 2017-2018 ac felly dyna pam na chyflwynwyd unrhyw arbedion pellach ar gyfer 2018-2019.  Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y cynigion am arbedion o £2m na chafwyd eu gwireddu a gofynnwyd am y rhesymau dros hyn.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod arbedion yn ymwneud ag atal, lles a gofal preswyl plant wedi cael eu cynnig, ond roedd yr arbedion hyn wedi bod yn anodd iawn eu gwireddu.  Mae gwasanaethau atal a lles yn ymwneud â gwasanaethau cydlynu, cyngor a chymorth  a theleofal o fewn yr ardal leol, lle bu'n anodd cyflawni arbedion.  Yn lle hynny, llwyddwyd i osgoi costau lle bu lleihad yn y galw am y gwasanaethau hyn.  Roedd  £414k o arbedion a gyflawnwyd mewn gofal preswyl plant wedi digwydd o ganlyniad i ailfodelu 2 gartref plant yn y Fwrdeistref a datblygu gwasanaethau therapiwtig.  Dywedodd fod y cynigion wedi bod yn destun ymgynghori helaeth a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror 2018 a fyddai hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer datblygu'r gwasanaeth gofal maeth. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor yngl?n ag effaith newidiadau yn y modd y cyflenwir gwasanaethau Anableddau Dysgu i ddefnyddwyr gwasanaeth a’r effaith ar y gyllideb.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Pwyllgor fod y newidiadau i'r gwasanaethau Anabledd Dysgu wedi bod yn llwyddiannus, a oedd wedi gweld defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu dwyn i mewn i dai wedi’u staffio.  Roedd y model dilyniant a gafodd ei sefydlu wedi gweld defnyddwyr gwasanaeth yn symud i lefel uwch o annibyniaeth gyda chymorth staff.  Bu'r Pwyllgor hefyd yn cwestiynu effaith ariannol y model newydd o ddarparu gwasanaeth yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu.  Hysbysodd y Rheolwr Cyllid y Pwyllgor y cyflawnwyd arbedion o dros £200,000 yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. 

 

Holodd y Pwyllgor a oedd hyblygrwydd yn y ffioedd a godir ac a oes cap ar y cynllun gofal ychwanegol.  Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Pwyllgor fod pobl sy'n byw mewn gofal ychwanegol yn gymwys i hawlio budd-dal, a bod y rhai sy'n derbyn gofal yn y cartref yn ddarostyngedig i gap o £70 yr wythnos sy’n cael ei osod gan Lywodraeth Cymru.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor hefyd fod cyfanswm y cyfalaf y gall unigolyn ei ddal cyn y codir tâl arnynt yn mynd i gynyddu. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y pwysau cyllidebol ar y Gyfarwyddiaeth Cymunedau sydd wedi gorfod gwneud arbedion ar gynnal y rhwydwaith priffyrdd a'r palmentydd, a holodd yngl?n â’r effaith ar y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, lle mae ar unigolion sy'n cael anafiadau o ganlyniad i'r toriadau i’r gwasanaethau hynny angen gofal iechyd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn darparu gwasanaethau gweladwy ac fel aelod o'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol mae'n rhaid iddi ystyried materion yn gorfforaethol.  Dywedodd fod gan ei Chyfarwyddiaeth hi raglen yn ymwneud ag atal cwympiadau ac mae'n darparu asesiadau i atal pobl rhag cwympo.  Dywedodd hefyd fod model o gefnogaeth yn y gymuned i oedolion er mwyn eu cryfhau.  Mae canolfan gwybodaeth wedi cael ei datblygu lle gall pobl gael gafael ar wybodaeth i gael cefnogaeth.  Dywedodd nad oes angen cefnogaeth bellach ar 60% o'r bobl sy'n mynd trwy ail-alluogi.  Roedd y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda'r Adran Dai ar ddatblygu modelau gwasanaeth newydd hefyd. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor yngl?n â’r hyn y gellid ei wneud er mwyn rhannu'r baich ac i leihau pwysau cyllidebol.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid y gallai Llywodraeth Cymru gynyddu'r cap er mwyn cynyddu incwm.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, na allai'r Cyngor godi rhagor o dâl, er gwaetha’r ffaith y gallai rhai defnyddwyr gwasanaeth fod mewn sefyllfa i dalu mwy na’r cap o £70 yr wythnos.  Roedd yr awdurdod wedi ceisio gwerthu lleoedd gofal preswyl i awdurdodau cyfagos, ond bu diffyg galw mewn sefydliadau fel Glyn Cynffig.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod pob un maes yn y gwasanaeth yn cael ei ystyried, er mwyn archwilio'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaethau'n wahanol.  Roedd rhywfaint o waith eisoes wedi'i wneud ar ddarparu gwasanaethau amgen yng Nglyn Cynffig ac fe'i cyflwynir i’r Cabinet ac i'r Pwyllgor Craffu mewn cyfarfod yn y dyfodol.  Roedd rhai gwasanaethau o dan nawdd y Gyfarwyddiaeth eisoes yn destun modelau cyflenwi eraill, gyda Halo yn rheoli gwasanaethau byw'n iach fel menter gymdeithasol.  Mae Awen sy'n rheoli cyfleusterau celfyddydol a diwylliannol yn awr o dan ymbarél y Gyfarwyddiaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, fod £12m wedi cael ei dynnu allan o gyllideb y Gyfarwyddiaeth yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. 

 

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod gan Halo gefndir masnachol a gofynnodd a allai’r Gyfarwyddiaeth chwarae rôl fwy masnachol, gan barhau i gydnabod gwerthoedd cymdeithasol.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ers ailfodelu'r gwasanaeth gofal cartref bod y sector annibynnol bellach yn darparu 70% o ofal cartref yn y Fwrdeistref. 

 

Holodd y Pwyllgor a oedd Bwrdd Iechyd PABM (ABMU) yn anfon atgyfeiriadau at Glyn Cynffig.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gan nifer o bobl ddiagnosis deuol ac anghenion iechyd meddwl cymhleth.  Dywedodd fod y cyfleusterau yng Nglyn Cynffig erbyn hyn yn hen ffasiwn iawn ac ystyrir ailfodelu'r cyfleuster. 

 

Holodd y Pwyllgor yngl?n â nifer y bobl a oedd wedi cymryd gofal ychwanegol mewn llety preswyl.  Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod nifer o bobl  yn y cartrefi gofal preswyl sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor erbyn hyn yn rhai sydd angen gofal nyrsio.  Ond roedd rhai asesiadau wedi nodi bod nifer fach o bobl a fyddai'n gallu defnyddio’r cyfleuster gofal ychwanegol, tra byddai eraill yn symud i'r ddarpariaeth breswyl o fewn y cynllun gofal ychwanegol.  Dywedodd hefyd y byddai'n rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor yngl?n â nifer y bobl sydd mewn gofal ychwanegol. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor yngl?n â’r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr y lluoedd arfog.  Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod Halo yn cynnig cyfleoedd i nofio am ddim i gyn-filwyr y lluoedd arfog.  Mae'r ARC yn cynnig cyfleoedd i gefnogi preswylwyr a cheir cefnogaeth o ran gwaith cymdeithasol a thai i gyn-filwyr. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor yngl?n â’r cymorth sydd ar gael i gynorthwyo pobl yn eu cymunedau o ganlyniad i wasanaethau bws.  Dywedodd fod y Gyfarwyddiaeth wedi llwyddo i gael arian ICF i brynu 3 cherbyd i gefnogi pobl unig a phobl wedi’u hynysu yn eu cymunedau eu hunain.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor hefyd fod pobl ag anabledd dysgu wedi cael cefnogaeth i deithio ar fws trwy ddefnyddio iPadiau i gynllunio eu teithiau. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr arian ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf a oedd yn dod i ben yn 2018 a holodd am yr effaith y byddai'n ei gael ar y Fwrdeistref Sirol.  Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod y Prif Weithredwr wrthi'n gwneud darn o waith i reoli newidiadau ar draws y Cyngor o ganlyniad i golli arian grantiau. 

 

Holodd y Pwyllgor a oedd lle i gynrychiolaeth Aelodau ar y Gr?p Gorchwyl a Gorffen arfaethedig i ymchwilio i gludiant cymunedol.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'n ystyried hyn.

 

Holodd y Pwyllgor am gost talu am staff asiantaeth a thaliadau goramser i dalu am absenoldeb oherwydd salwch i staff gofal.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod rhaid ymdrin â salwch staff yn y gwasanaeth a bod absenoldeb salwch yn y Gyfarwyddiaeth yn dangos gwelliant parhaus a’i fod 13% yn llai na'r un cyfnod y llynedd.  Hysbysodd y Pwyllgor ei bod hi ynghyd â'r ddau Bennaeth Gwasanaeth yn cwrdd yn rheolaidd ag AD a bod rheolwyr wedi ymdrechu’n galed i gwblhau cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith gyda staff.  Gwnaed rhai costiadau ynghylch cost salwch.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid y gellid gwneud cyfrifiadau i ganfod beth yw cost salwch. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y cynnig lleihau cyllideb SSW2 yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol.  Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y cynigion lleihau cyllideb yn gysylltiedig â Thaliadau Uniongyrchol. Cadarnhaodd hefyd fod y Strategaeth Taliadau Uniongyrchol wedi'i diweddaru.  Dywedodd fod model cyflwyno amgen yn cael ei ystyried.  Roedd y statws yn goch oherwydd ei fod yn cael ei ddatblygu.  Roedd y Ddeddf yn caniatáu prynu gwasanaethau gan yr awdurdod. 

 

Holodd y Pwyllgor pam fod y cynnig lleihau cyllideb arfaethedig ASC 18 a oedd yn ymwneud â datblygu tai gofal ychwanegol o £330k yn ymddangos yn ambr.  Hysbysodd y Rheolwr Cyllid y Pwyllgor fod y cynnig hwn yn dal i gael ei gostio ac na fyddai'n dod i rym tan fis Medi 2018, ond roedd yn disgwyl y byddai’r cynnig i leihau’r gyllideb yn cael ei wneud.  Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod cyfarfodydd wedi'u cynnal gyda staff a theuluoedd preswylwyr mewn perthynas â’r cynigion i ddatblygu cyfleusterau gofal ychwanegol.  Dywedodd mai'r cam nesaf yn y broses yw y bydd AD yn cwrdd â staff i benderfynu ym mha gyfleuster yr hoffent weithio. 

 

Holodd y Pwyllgor y rheswm dros statws ambr HL2 - Adolygiad o Gontract y Bartneriaeth Byw'n Iach.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid y byddai'r cynnig i leihau'r gyllideb yn cael ei wireddu, ond nid oeddent wedi dod o hyd i’r £20k ?eto.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r gwahoddedigion am eu cyfraniad.

 

Casgliadau         

 

Mewn perthynas â’r toriadau arfaethedig i wasanaethau cludiant, mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch yr effaith bosibl y byddai hyn yn ei gael ar annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaethau a nodwyd gwaith parhaus y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol i sicrhau cyllid ar gyfer cerbydau ychwanegol.  Yn dilyn hyn, mae'r Aelodau'n argymell bod gwaith y gr?p gorchwyl a gorffen a grybwyllwyd yn cynnwys Aelodau Uned Drafnidiaeth a Chraffu’r Cyngor.           

 

Mewn perthynas ag ymagwedd y Gyfarwyddiaeth tuag at gynnig gwasanaethau a lleoliadau i awdurdodau lleol eraill a'r sector annibynnol, mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gyfarwyddiaeth yn cymryd agwedd fwy masnachol i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu hasedau a'u hadnoddau.

 

Gan gyfeirio at Absenoldeb oherwydd Salwch, mae'r Aelodau'n argymell y dylid gwneud dadansoddiad corfforaethol o’r costau sy’n gysylltiedig ag absenoldeb, er mwyn darparu ffigur gwirioneddol y gellid ymdrin ag ef fel pwysau cyllidebol, yn benodol yn achos swyddi y mae angen eu llenwi.

 

Oherwydd anawsterau gyda chynhyrchu incwm o ganlyniad i gap Llywodraeth Cymru o £70 yr wythnos am ofal dibreswyl, mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn lobïo Llywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno cap prawf modd sy'n ystyried pobl sy'n gallu fforddio talu arian ychwanegol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am faint o bobl sydd wedi manteisio ar y Cynllun Gofal Ychwanegol.

Dogfennau ategol: