Agenda item

Diweddariad Rhaglen Gwaith

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yn nodi’r eitemau a gafodd eu blaenoriaethu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r Pwyllgor hwn. Hefyd cyflwynodd i’r Pwyllgor restr o eitemau posib ar gyfer sylwadau a blaenoriaethu a gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach ar gyfer eu hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf. Hefyd gofynnwyd i’r Aelodau gymeradwyo’r adborth o’r cyfarfodydd blaenorol a’r rhestr o ymatebion, gan gynnwys unrhyw rai’n weddill.

 

Roedd elfen o waith ar droed ar gyfer “Ailfodelu Llety Pobl H?n” a chytunodd yr Aelodau y dylid ei gadw ar y rhaglen waith ar gyfer ei adolygu yn y dyfodol. Mynegodd un Aelod bryderon am y strwythur staffio a nifer y Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.                             

 

Gofynnodd yr Aelodau am wahodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a chynrychiolwyr ABM a Chwm Taf i ystyried yr eitem Atal a Llesiant a Chydlynu Cymunedol Lleol. 

 

Gofynnodd Aelod am gynnwys gwir gost Carchar y Parc (gan gynnwys beth oedd Carchar y Parc a’r trydydd sector yn ei gyfrannu) yn yr adroddiad ar “Effeithiau Cyllidebol Carchar y Parc”. Hefyd dylid gwahodd cynrychiolwyr o’r gwasanaeth prawf a’r adran tai.                                   

 

Gofynnodd Aelod am i’r adroddiad ar Ddiwygio ALN gynnwys cost rhoi asesiadau gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer DOLS allan ar gontract.

 

PENDERFYNWYD:

 

Diweddariad y Flaenraglen Waith

 

1         Penderfynodd yr Aelodau’r canlynol mewn perthynas â’r adborth a gafwyd o gyfarfodydd dilynol:

 

1.1       Atodiad A – 12 12 2017

           Gan gyfeirio at yr ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Ieuenctid, nododd yr Aelodau bod y rhan fwyaf o’r ymatebion yn cynnwys elfen o waith ar droed a gofynnwyd am gadw’r eitem ar y Flaenraglen Waith ar gyfer ei hadolygu yn y dyfodol.                      

 

1.2       Atodiad A – 08 01 18

Mewn perthynas â’r strwythur staffio presennol ar gyfer T? Cwm Ogwr a dderbyniwyd fel gwybodaeth ychwanegol, gofynnodd yr Aelodau am esboniad pellach o rôl yr 11 gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn y sefydliad.                      

 

2         Yn dilyn trafodaethau’r Pwyllgor, penderfynodd yr Aelodau ar y canlynol mewn perthynas â’r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu:               

 

2.1      O ran Atal a Llesiant a Chydlynu Cymunedol Lleol, gofynnodd yr Aelodau am wahodd y gynrychiolaeth ganlynol i’r cyfarfod ar 7 Mawrth 2018:

            Cynrychiolaeth o’r 3ydd Sector;

            Cynrychiolaeth o ABM / Cwm Taf.

 

2.2      O ran Effeithiau Cyllidebol Carchar y Parc, gofynnodd yr Aelodau am gynnwys y wybodaeth ganlynol yng nghais yr adroddiad:                           

          Pa Wasanaethau Cymunedol mae Carchar y Parc yn eu darparu? Beth mae Carchar y Parc yn ei roi’n ôl i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

            Pa wasanaethau 3ydd Sector sy’n cael eu darparu yn y Parc;

            Manylion effaith Carchar y Parc ar dai;              

          Pa fewnbwn sydd gan y Gwasanaeth Prawf wrth weithio gyda’r Awdurdod a gydag adsefydlu carcharorion.                

 

A hefyd gwahodd y gynrychiolaeth ganlynol i’r cyfarfod:             

            Cynrychiolaeth Darparwr Gwasanaeth Iechyd;

          Cynrychiolaeth o’r 3ydd Sector – Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol er enghraifft;              

            Cynrychiolaeth o’r Gwasanaeth Prawf;

            Cynrychiolaeth o’r adran tai.            

 

2.3      O ran yr eitem Ddiogelu, gofynnodd yr Aelodau am gynnwys y wybodaeth ganlynol yng nghais yr adroddiad:                   

            Costau cysylltiedig ag asesiadau sy’n cael eu rhoi allan ar gontract.

             

Tynnwyd sylw at yr eitem isod gan y Pwyllgor fel blaenoriaeth i’w chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol:

 

Gwasanaethau Cymunedol

 

Dogfennau ategol: