Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Dywedodd y Maer wrth y Cyngor am yr achlysuron roedd hi wedi’u bod yn bresennol ynddynt yn ystod y mis diwethaf, gan gynnwys taith o gwmpas Ysgol Heronsbridge, mynd i’r Dyfarniadau Rhagoriaeth mewn Adeiladu a dathliadau pen blwydd 100 oed 3 preswylydd yn y Cyngor Bwrdeistref.  Roedd y Maer hefyd wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ac roeddent wedi bod mewn parti cinio ar gyfer Penaethiaid Dinesig a gynhaliwyd gan Arglwydd Faer Abertawe.  Roedd y Maer hefyd yn falch o fod wedi cyflwyno dyfarniadau i unigolion a grwpiau yn y Dyfarniadau Dinasyddiaeth Blynyddol ac roedd hefyd wedi bod yn bresennol yng Ngwasanaeth Coffa Sul y Blodau yn Amlosgfa Margam.  Hefyd bu’r Maer yn bresennol mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Ganolfan Cynghori ar Bopeth ynghyd â’r Arweinydd, Aelodau Cabinet a Huw Irranca Davies AC. 

 

Dirprwy Arweinydd        

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth y Cyngor am y trefniadau diwygiedig ar gyfer casgliadau ailgylchu a gwastraff dros benwythnos y Pasg i ddod.  Hefyd dywedodd wrth yr Aelodau am rai o’r canlyniadau o gyfarfod diweddar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, hynny y byddai adolygiad o'r system atgyfeirio Aelodau.  Yn ogystal, tynnodd sylw’r Aelodau at y gofyniad iddynt gwblhau modiwlau E-ddysgu erbyn 1 Mehefin ac am yr hyfforddiant i ddod gyda'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau; sesiynau Datblygu Aelodau a briffiadau cyn y Cyngor. 

 

Aelod Cabinet Cymunedau       

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod wedi bod yn bresennol yn y Dyfarniad Rhagoriaeth mewn Adeiladu diweddar a drefnwyd gan y Tîm Rheoli Adeiladu.  Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau y byddai’r Cyngor yn recriwtio cyn bo hir i nifer o swyddi ar gyfer Patrolau Croesi Ysgolion lle y mae swyddi gwag. 

 

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y cyngor wedi dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd trwy wahodd pobl i ddysgu rhagor am y rôl y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei chwarae yn y gymuned.  Hefyd gosodwyd arddangosfa yng nghyntedd y Swyddfeydd Dinesig a rhannodd rai o linellau cerdd a ysgrifennwyd yn ddienw gan weithiwr cymdeithasol. 

 

Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth y Cyngor ei bod yn falch o weld bod Gemma Hartnoll yn derbyn Dyfarniad Dinasyddiaeth y Maer am ei menter WINGS Cymru, oedd yn treialu cynnig cynhyrchion mislif ar draws 14 ysgol yn y Bwrdeistref Sirol. 

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio   

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y Cyngor wedi ymuno â'r gr?p CF31 BID er mwyn sicrhau y byddai parcio ceir am ddim yn parhau yn y Rhiw a gâi ei adolygu eto ym mis Ionawr 2019.  Yn ogystal, rhannodd gyda’r Aelodau gyflawniadau diweddar Leanne Rees Sheppard o Ysgol Gynradd Tremains wrth gyrraedd rownd derfynol Cogydd Ysgol y Flwyddyn 2018 ac Ysgolion Cyfun Porthcawl a Bryntirion lle roedd mwy na 100 o ddisgyblion chweched dosbarth wedi gwneud rhoddion i Wasanaeth Gwaed Cymru.  Dywedodd wrth Aelodau fod Ysgol Gynradd Litchard wedi derbyn sgôr ‘da’ drwyddi draw gan Estyn ym mhob un o’r pum maes arolygu allweddol.  Cyhoeddodd hefyd fod Ysgol Heronsbridge wedi ennill achrediad aur gan y cynllun Buddsoddwyr mewn Pobl.       

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Corfforol dros Wasanaethau Cymdeithasol ar ran y Prif Weithredwr y paratoadau sy’n cael eu gwneud gan y Cyngor ar gyfer cyflwyno Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a fydd yn dod i rym ar 25 Mai 2018.  Bydd y RhDDC yn cymryd lle y Deddf Diogelu Data er mwyn cymryd i ystyriaeth symudiadau ymlaen o ran technoleg a goruchwylio sut y bydd sefydliadau’n prosesu gwybodaeth bersonol yn y dyfodol.  Dywedodd wrth Aelodau fod polisïau’r Cyngor yn cael eu diweddaru er mwyn cymryd i ystyriaeth gweithdrefnau hysbysu am doriadau, polisïau prosesu teg, diweddariadau diogelu data, mynediad at bynciau a rhagor.        

 

Swyddog Monitro           

 

Atgoffodd Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol yr Aelodau o’r angen iddynt gwblhau a datgan yn ffurfiol unrhyw Drafodion Partïon Perthynol erbyn 13 Ebrill 2018 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.